Skip to main content

Dr John Williams

Bywgraffiad

Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Cwblhaodd John ei BSc a’i PhD ym Mhrifysgol Bangor, cyn symud trwy Prifysgolion Aberystwyth, Hanover, Paris a Wrecsam i gyrraedd Prifysgol Caer sawl blwyddyn yn ddiweddarach. Ymddeolodd John o Gaer yn ddiweddar, lle bu’n Bennaeth yr Ysgol Feddygaeth, yn Ddeon Cysylltiol y Gyfadran ac yn dal Cadair mewn Biocemeg Gymhwysol. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Gyngor Llywodraethwyr Bwrdd Ysbyty Addysgu Warrington a Halton. 

Fel Pennaeth yr Ysgol Feddygol, roedd yn gyfrifol am hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy nifer o gyrsiau achrededig ar lefel BSc ac MSc. Mae John hefyd wedi bod yn arholwr allanol ar gyfer amryw brifysgolion yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â rhai rhyngwladol (gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Manceinion, Prifysgol Plymouth, Prifysgol Coleg Llundain a Phrifysgol Aarhus).

Roedd John yn rhedeg labordy ymchwil yng Nghaer ac mae wedi cyhoeddi dros 50 o bapurau gwyddonol, 11 o benodau llyfrau ac wedi traddodi prif ddarlithoedd ledled y byd. Mae ymchwil John wedi ymdrin â meysydd fel dilysu bwyd, ond wedi canolbwyntio’n bennaf ar broteinau straen a deall sut maen nhw’n cael eu rheoleiddio ac yn dylanwadu ar brosesau afiechydon. Mae John wedi goruchwylio dros 30 o fyfyrwyr PhD yn llwyddiannus, ac mae gan lawer ohonynt bellach swyddi academaidd uwch ledled y byd.

Y tu allan i’r gwaith, mae John yn siarad Cymraeg ac yn byw yn Llangwm, ger y Bala. Mae’n briod gyda thri o blant ac mae ganddo dyddyn ychydig dros 20 erw. Roedd yn chwaraewr rygbi brwd, ac yn hyfforddwr cymwys, ond mae bellach wedi’i gyfyngu i ddilyn y gêm yng Nghlwb Rygbi Bala, a phryd bynnag y bo modd, wylio Cymru.