Skip to main content

Helen Taylor

Bywgraffiad

Aelod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Mae Helen yn Gyfarwyddwr Technegol profiadol sy’n gweithio o fewn cadwyni cyflenwi bwyd, diod a deunydd pecynnu gan wasanaethu dros 30 mlynedd yn y sector. Rôl Helen yn ZERO2FIVE, Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw arwain y tîm technegol i weithio gyda busnesau bach a chanolig ar draws pob categori cynnyrch yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae hi’n arwain tîm o dechnolegwyr ym mhob agwedd ar drosglwyddo gwybodaeth, rheoleiddio, diogelwch bwyd, effeithlonrwydd, gweithgynhyrchu, lleihau gwastraff, datblygu cynnyrch newydd, maeth, ailfformiwleiddio cynnyrch a chydymffurfiaeth. Yn ei rôl mae Helen yn cydweithredu â chyrff diwydiant, aelodau clwstwr a rhanddeiliaid ledled Cymru, y DU a thu hwnt.

Cyn ei rôl bresennol yn y byd academaidd roedd Helen yn rheolwr Technegol profiadol gyda chwmnïau bwyd byd-eang mawr fel Cargill am dros 15 mlynedd. Mae gan Helen BSc mewn Gwyddorau Biolegol Cymhwysol a Diploma mewn Technoleg Pecynnu, mae’n Wyddonydd Siartredig, yn Rheolwr Diogelwch Bwyd cofrestredig, yn Gymrawd yr IFST, yn Llysgennad STEM ac yn archwilydd trydydd parti ar gyfer SALSA a Diogelwch Bwyd BRCGS.