Skip to main content
Aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Alison Austin

Bywgraffiad

Mae gan Alison lu o brofiad fel cyfarwyddwr anweithredol yn y sector cyhoeddus ac fel sylfaenydd ymgynghoriaeth cynaliadwyedd annibynnol. Mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau i ddatblygu strategaethau sy’n cwmpasu materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Treuliodd 25 mlynedd yn gweithio i Sainsbury’s Supermarkets Ltd. mewn rolau yn amrywio o Farchnata i Dechneg Bwyd a Chynaliadwyedd. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd ddealltwriaeth gref o anghenion defnyddwyr yn y sector bwyd.

Ers gadael Sainsbury’s 16 mlynedd yn ôl, mae hi wedi parhau i ystyried buddiannau cydgysylltiedig defnyddwyr a chynaliadwyedd o fewn cwmnïau a sefydliadau’r sector cyhoeddus. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (corff statudol sy’n darparu llais a chyngor i ddefnyddwyr mewn marchnad reoleiddiedig), Aelod Annibynnol o Fwrdd Seafish, lle roedd hi’n cynrychioli Gogledd Iwerddon am chwe blynedd, ac Ymddiriedolwr i WRAP (Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) ar strategaethau gwastraff bwyd a phecynnu. Mae hi wedi gweithio gydag SGS UK Ltd a Chymdeithas y Pridd ar lywodraethu archwilwyr ar gyfer ardystio safonau ac achredu.

Cafodd ei phenodi i Bwyllgor Ymgynghori’r ASB ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) rhwng mis Mehefin 2021 a mis Tachwedd 2025 i gynrychioli anghenion defnyddwyr, er mwyn sicrhau bod eu buddiannau wrth wraidd trafodaethau’r Pwyllgor.

Mae Alison yn gyn-Ymddiriedolwr y Gynghrair Werdd (ers naw mlynedd) ac, ar hyn o bryd, yn Gyfarwyddwr cwmni cydweithredol gwres adnewyddadwy, sy’n darparu system wresogi ardal ar gyfer cyfadeilad cartref gofal. Mae hefyd yn aelod gweithredol o nifer o gynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol eraill yn ei hardal leol.

Cafodd OBE am ei gwasanaethau i gynaliadwyedd yn 2000.

Aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Asiantaeth Safonau Bwyd