Skip to main content

John Richards

Bywgraffiad

Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

John Richards yw Arweinydd Cynhyrchwyr a Phroseswyr Hybu Cig Cymru (HCC), sef corff ardoll cig coch Cymru. Mae ganddo radd mewn Economeg Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd Gwledig o Brifysgol Aberystwyth. Yn flaenorol, mae wedi gweithio i Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac mae wedi treulio’r 16 mlynedd diwethaf yn HCC, gan gyflawni amrywiaeth o rolau.

Ar hyn o bryd, mae John yn arwain ar ymgysylltu strategol â sector cig coch Cymru ac yn arwain ar fentrau i wella effeithlonrwydd i gynhyrchwyr a phroseswyr. Yn flaenorol, mae wedi arwain gwaith deallusrwydd am y farchnad, a phrosiectau a rhaglenni Datblygu Gwledig yr UE sy’n cefnogi’r sector cig coch. Mae’n cynrychioli buddiannau Cymru yn aml ar amrywiaeth o bwyllgorau a gweithgorau cenedlaethol mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid a materion o ran y gadwyn gyflenwi.

Yn ei amser hamdden, mae John yn dal i weithio ar fferm y teulu, gan gynhyrchu cig eidion a chig oen yn Sir Gaerfyrddin.