Professor Ian Young CBE

Bywgraffiad
Mae’r Athro Young yn gweithio i’r ASB ar sail ran-amser, a hynny ochr yn ochr â’i rôl bresennol fel Patholegydd Cemegol Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Belfast ac fel Athro Meddygaeth ym Mhrifysgol Queen’s yn Belfast, lle bu’n gyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd Cyhoeddus gynt.
Mae diddordebau clinigol ac ymchwil yr Athro Young yn ymwneud â biomarcwyr maethol ac effaith maeth ar iechyd pobl, yn enwedig clefyd cardiofasgwlaidd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi canolbwyntio’n bennaf ar dreialon ymyrryd ar faeth ac astudiaethau epidemiolegol. Mae wedi cyhoeddi dros 450 o bapurau ymchwil.
Yn flaenorol, bu Ian yn Gyfarwyddwr yng Nghanolfan Iechyd Cyhoeddus y Brifysgol, yn ogystal â Phrif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon, a Chyfarwyddwr Ymchwil ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gogledd Iwerddon. Bu hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar Faeth o fis Mawrth 2020 i fis Rhagfyr 2025.
Drwy gydol ei yrfa, mae Ian wedi bod yn arweinydd mewn sefydliadau gwyddonol mawr. Mae’n gyn-Lywydd Cymdeithas Biocemeg Glinigol a Meddygaeth Labordy, y DU, ac yn flaenorol, bu’n gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer Olrheiniadwyedd mewn Meddygaeth Labordy ac Adran Wyddonol Ffederasiwn Rhyngwladol Cemeg Glinigol a Meddygaeth Labordy.
Prif Gynghorydd Gwyddonol, Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae’r Prif Gynghorydd Gwyddonol yn gyfrifol am:
- uniondeb y prosesau a ddefnyddir i ddod o hyd i dystiolaeth wyddonol a sicrhau bod cyngor gwyddonol arbenigol ar gael i’r asiantaeth
- cynrychioli’r asiantaeth yng nghymuned Prif Gynghorwyr Gwyddonol a’r gymuned wyddonol ehangach
- hyrwyddo gwyddoniaeth o fewn yr asiantaeth drwy ddatblygu arbenigedd ei gwyddonwyr
Mae gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol gyfrifoldeb cyffredinol am yr holl ddisgyblaethau dadansoddol y mae’r asiantaeth yn tynnu cyngor ohonynt: gwyddorau naturiol a ffisegol, gwyddor gymdeithasol, economeg, ymchwil weithredol ac ystadegau.