Skip to main content
Cyfarwyddwr Anweithredol Swyddfa Cymru a Aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Dr Rhian Hayward MBE

Bywgraffiad

Ymunodd Rhian ag AberInnovation fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2017, gan arwain y gwaith o adeiladu’r Campws Arloesedd gwerth £40.5 miliwn a’r mentrau sy’n cefnogi twf busnesau biowyddoniaeth cyfnod cynnar.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae Rhian wedi bod yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y DU, wedi gweithio mewn swyddi cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwasanaethu ar Fwrdd Datblygu Diwydiannol Cymru a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod ac wedi dod yn un o Gymrodorion Sefydliad y Cyfarwyddwr.

Mae ymrwymiad Rhian i wyddoniaeth ac arloesi yn parhau, ar ôl sawl rôl ym maes masnacheiddio technolegau gwyddor bywyd, a hynny yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Ymhlith y rhain, mae Rhian wedi sefydlu busnes ymgynghori i gynorthwyo buddsoddwyr gyda’r gwaith diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â busnesau sy’n seiliedig ar dechnoleg, gweithio mewn rolau marchnata a datblygu busnes mewn cwmnïau biotechnoleg (gan gynnwys Abcam plc) a gweithio mewn rolau trosglwyddo technoleg yn y sector Addysg Uwch.

Mae ganddi DPhil mewn epidemioleg clefydau heintus o Brifysgol Rhydychen a BSc dosbarth cyntaf o Goleg y Brenin Llundain. Derbyniodd Rhian yr MBE am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.

Cyfarwyddwr Anweithredol Swyddfa Cymru

Fel aelod o Fwrdd Adrannol Swyddfa Cymru, y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) a’r Pwyllgor Gweithredu Cynlluniau Cyflawni Canlyniadau (ODP), mae’r Cyfarwyddwr Anweithredol yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Anweithredol Arweiniol i sicrhau bod yr Adran yn cael ei llywodraethu’n effeithiol ac yn llwyddiannus drwy:

  • sicrhau bod y Bwrdd Adrannol ac ARAC yn diffinio gweledigaeth, gwerthoedd, diwylliant a strategaeth y sefydliad ac yn gosod safon uchel ar gyfer moeseg a chynnal busnes cyhoeddus yn gyfrifol
  • sicrhau bod y Bwrdd Adrannol ac ARAC yn cynnal llywodraethiant a rheolaethau mewnol priodol, gan gynnwys sicrhau bod cyfundrefnau cadarn ar waith ar gyfer rheoli cyllid, risg a pherfformiad a bod gan yr Adran y capasiti i’w cyflawni
  • herio’r Bwrdd ar faterion allweddol gan gynnwys y Cynllun Busnes a Risgiau Strategol
  • monitro gwaith yr adran o roi ei Chynllun Cyflawni Canlyniadau ar waith drwy fod yn aelod o Bwyllgor Gweithredu’r Cynllun Cyflawni Canlyniadau
  • sicrhau bod uwch-dîm rheoli’r Adran yn destun her adeiladol mewn perthynas â pherfformiad y sefydliad
  • rhoi cyngor a chymorth i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r tîm gweithredol, gan weithredu fel seinfwrdd a “chyfaill beirniadol” yn ôl yr angen

Swyddfa Cymru

Aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Asiantaeth Safonau Bwyd