Datganiad i'r wasg

Lansio gwasanaeth llyfr log dyblyg ar-lein

Mae'r amser y mae'n ei gymryd i fodurwyr dderbyn llyfr log dyblyg (V5CW) wedi'i thorri o 6 wythnos i 5 niwrnod yn unig, o ganlyniad i wasanaeth ar-lein newydd a lansiwyd yr wythnos hon gan DVLA.

Mae’r amser y mae’n ei gymryd i fodurwyr dderbyn llyfr log dyblyg (V5CW) wedi’i thorri o 6 wythnos i 5 niwrnod yn unig, o ganlyniad i wasanaeth ar-lein newydd a lansiwyd yr wythnos hon gan DVLA.

Y gwasanaeth ‘Cael llyfr log cerbyd (V5CW)’ yw gwasanaeth ar-lein DVLA diweddaraf, ac mae wedi’i gynllunio am fodurwyr sydd wedi colli neu ddifrodi eu llyfr log.

Hwn fydd yr ail wasanaeth ar-lein y mae DVLA wedi’i lansio yn ystod y 4 mis diwethaf, yn dilyn y gwasanaeth newid cyfeiriad ar lyfr log cerbyd a lansiwyd ym mis Mehefin ac sydd wedi cael ei ddefnyddio dros 300,000 o weithiau.

Bob blwyddyn, mae DVLA yn cyhoeddi tua 500,000 o lyfrau log dyblyg lle mae modurwyr naill ai wedi colli neu ddifrodi eu dogfen.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr y DVLA:

Mae gwasanaeth ar-lein newydd DVLA i wneud cais am lyfr log dyblyg yn gyflym ac yn hawdd i’w ddefnyddio ac mae’n golygu y bydd cwsmeriaid sydd, yn anffodus naill ai wedi colli neu ddifrodi eu dogfen hwy, yn derbyn eu dogfen newydd o fewn ychydig ddyddiau.

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw llyfr log i fodurwyr felly os ydych chi wedi colli neu ddifrodi eich un chi, y ffordd gyflymaf o gael eich dogfen ddyblyg yw mynd i GOV.UK.

Nodiadau i Olygyddion:

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 30 September 2020