Datganiad i'r wasg

DVLA yn lansio gwasanaeth ar-lein i newid cyfeiriad ar lyfr log cerbyd (V5CW)

Bydd y gwasanaeth ar-lein newydd yn lleihau’r amser y mae’n cymryd i fodurwyr dderbyn llyfr log newydd, sydd ar hyn o bryd hyd at 6 wythnos i 5 niwrnod gwaith yn unig.

Car with a boot open with moving boxes inside and a V5C document

Wrth i’r farchnad dai agor ar draws y DU ar ôl y cyfyngiadau symud, mae DVLA wedi cyhoeddi heddiw y gall modurwyr sydd angen diweddaru eu manylion cyfeiriad ar eu llyfrau log cerbyd (V5CW) gwneud hynny nawr ar-lein mewn mater o funudau. Bydd hyn yn lleihau’r amser y mae’n cymryd i fodurwyr dderbyn llyfr log newydd, sydd ar hyn o bryd hyd at 6 wythnos i 5 niwrnod gwaith yn unig.

Y llynedd, derbyniodd DVLA tua 1.4 miliwn o geisiadau papur ar gyfer newid cyfeiriad ar gofnod cerbyd. Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth newydd i newid y cyfeiriad ar y llyfr log, caiff y wybodaeth ei ddiweddaru ar unwaith a bydd modurwyr yn derbyn llyfr log newydd o fewn 5 niwrnod gwaith.

Wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n cymryd llai na 2 funud i fodurwyr rhoi gwybod i DVLA eu cyfeiriad newydd. Yr unig bethau sydd arnynt eu hangen yw eu rhif cofrestru cerbyd, cyfeirnod y ddogfen llyfr log a’u cod post.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA, Julie Lennard:

Rydym yn lansio’r gwasanaeth hwn ar adeg y mae gwasanaethau ar-lein yn dod hyd yn oed yn fwy hanfodol i helpu cael pobl yn ôl ar y ffordd. Mae’r gwasanaeth hwn yn gyflymach a haws nag anfon y llyfr log i DVLA felly os ydych newydd symud cartref, rhowch gynnig ar y gwasanaeth a gweld pa mor syml ydyw.

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i DVLA lansio ymgyrch i annog modurwyr i roi tro ar ddefnyddio ei gwasanaethau ar-lein, yn hytrach nag anfon i mewn ceisiadau papur. Mae ymchwil diweddar sydd wedi’i gomisiynu gan DVLA yn dangos, o’r modurwyr hynny a ofynnwyd iddynt, y byddai 97% yn argymell gwasanaethau ar-lein DVLA. Y rheswm fwyaf poblogaidd am fynd ar-lein oedd oherwydd ei fod yn gyfleus (86%) gyda chyflymdra yn dilyn (82%).

Mae holl wasanaethau ar-lein DVLA ar gael ar GOV.UK.

Nodiadau i olygyddion:

Gellir dod o hyd i’r gwasanaeth newid eich cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW) ar-lein.

Unwaith y mae cwsmeriaid wedi defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i newid y cyfeiriad, byddant yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod rhaid iddynt ddinistrio eu hen lyfrau log.

Gall modurwyr diweddaru eu cyfeiriad ar eu cofnod trwydded yrru ar-lein yn barod a bydd y gwasanaeth newydd yn eu galluogi nhw nawr i ddiweddaru eu cofnod cerbyd ar-lein.

Ynghyd â’r system rheoli cerbyd presennol, sy’n galluogi modurwyr i roi gwybod i DVLA eu bod wedi gwerthu cerbyd, bydd y gwasanaeth ar-lein hwn ar gael rhwng 7am a 7pm pob dydd.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 18 June 2020