Casgliad

Cadw gwartheg, buail a byfflos yng Nghymru a Lloegr

Y rheolau a’r prosesau mae’n rhaid i geidwaid gwartheg eu dilyn er mwyn sicrhau bod modd olrhain gwartheg drwy'r amser.

Ceidwad gwartheg yw unrhyw un sy’n gyfrifol am wartheg, buail neu fyfflos naill ai dros dro neu’n barhaol.

Gall hyn gynnwys:

  • ffermwyr
  • pobl sy’n rhedeg marchnadoedd da byw, meysydd sioeau a chanolfannau crynhoi lloi
  • cludwyr
  • y rhai sy’n prynu a gwerthu gwartheg
  • pobl sy’n rhedeg lladd-dai a gwalfeydd

Rhaid i geidwaid gwartheg yng Nghymru neu Loegr ddilyn y rheolau a’r prosesau hyn i sicrhau bod modd olrhain gwartheg, buail neu fyfflos drwy’r amser.

Mae’r rhain yn ofynion cyfreithiol i helpu i atal clefydau a chyfyngu clefydau. Os na fyddwch yn eu dilyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai, neu gallech gael eich erlyn.

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer:

I gael cyngor, cysylltwch â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Gallwch weld y tudalen hwn yn Saesneg hefyd (webpage in English).

Sicrhau rhif daliad

Rhaid ichi gofrestru yn gyntaf ble byddwch chi’n cadw gwartheg gyda’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA). Byddwch yn cael rhif daliad y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer tasgau fel archebu tagiau clust a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.

Sicrhau cysylltiad tir dros dro (TLA) neu rif daliad dros dro

Efallai y bydd angen ichi gael rhif cysylltiad tir dros dro (TLA) neu rif daliad dros dro er mwyn cysylltu’r tir neu’r adeiladau lle byddwch chi’n cadw gwartheg gyda’ch rhif daliad. Mae’n rhaid ichi wneud hyn:   - os yw’ch rhif daliad wedi’i gofrestru i’ch cyfeiriad cartref (er enghraifft, am nad ydych chi’n berchen ar unrhyw dir lle byddwch chi’n cadw gwartheg) os ydych chi’n defnyddio tir ychwanegol dros dro i gadw gwartheg (er enghraifft, eich bod yn rhentu cae neu adeilad ychwanegol am lai na blwyddyn)

Cofrestru fel ceidwad gwartheg

Ar ôl ichi gofrestru’ch tir, rhaid ichi gael marc buches. Rhaid hefyd ichi gofrestru fel ceidwad gwartheg gyda GSGP er mwyn ichi allu cofrestru genedigaethau gwartheg a rhoi gwybod iddyn nhw am symudiadau a marwolaethau.

Cadwch eich manylion cofrestredig yn gyfredol

Rhaid ichi gysylltu â’r RPA, APHA a GSGP os bydd eich manylion yn newid ar ôl ichi gofrestru gyda nhw. Mynnwch ragor o wybodaeth ynghylch pryd a gysylltu â nhw a sut.

Tagio clustiau: cael tagiau clust newydd neu amnewid tagiau

Sut i gael tagiau clust swyddogol newydd neu dagiau amnewid gan gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo. Mae hefyd yn cynnwys sut i roi adborth ar dagiau clust, bandiau pigwrn neu folysau.

Cadw cofrestr daliad

Rhaid ichi gofnodi genedigaethau, symudiadau a marwolaethau gwartheg mewn cofrestr daliad (sydd hefyd yn cael ei galw’n gofrestr buches). Rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn a phryd i’w diweddaru.

Genedigaethau gwartheg: beth i’w wneud ar ôl i lo gael ei eni

Yr hyn mae’n rhaid ichi ei wneud pan fydd lloi’n cael eu geni, gan gynnwys y codau brid swyddogol gwartheg i’w defnyddio wrth gofrestru genedigaeth.

Cael pasbort gwartheg

Sut i gael pasbort gwartheg newydd neu drwydded symud ar gyfer gwartheg y gwrthodwyd pasbort iddyn nhw. Mae hefyd yn cynnwys sut i gael taflenni parhad ar gyfer pasbortau llawn a labeli cod bar i adnabod eich daliad.

Beth i'w wneud pan fyddwch chi’n symud gwartheg

Yr hyn mae angen ichi ei wybod er mwyn symud gwartheg yn ôl ac ymlaen i ddaliad, naill ai dros dro neu’n barhaol. Mae hyn yn cynnwys anfon gwartheg i farchnad neu i gael eu lladd.

Gwartheg wedi'u mewnforio neu wartheg sy’n cael eu symud i Gymru a Lloegr

Yr hyn mae angen ichi ei wneud ar ôl i chi fewnforio neu symud gwartheg i Gymru neu Loegr, gan gynnwys pasbortau a’r rheolau ynghylch tagio clustiau.

Allforio gwartheg neu symud gwartheg allan o Gymru neu Loegr

Yr hyn mae angen ichi ei wneud wrth allforio neu symud gwartheg allan o Gymru neu Loegr, gan gynnwys pasbort a’r rheolau ynghylch tagio clustiau.

Marwolaethau gwartheg: beth i'w wneud pan fydd gwartheg yn marw ar eich daliad neu’n cael eu lladd

Yr hyn mae angen ichi ei wneud pan fydd gwartheg yn marw ar eich daliad a phan fyddwch chi’n anfon gwartheg i gael eu lladd. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn mae’n rhaid i weithredwyr lladd-dai ei gofnodi a rhoi gwybod amdano wrth ladd anifeiliaid.

Defnyddio System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein a Gwasanaethau Gwe SOG

Defnyddiwch SOG Ar-lein i gofrestru genedigaethau gwartheg a rhoi gwybod am symudiadau a marwolaethau i GSGP. Mae rhoi gwybod am y digwyddiadau hyn yn ofyniad cyfreithiol. Gallwch hefyd ddefnyddio meddalwedd fferm gydnaws i roi gwybod am symudiadau gwartheg ac i gofrestru genedigaethau a marwolaethau i GSGP drwy ddefnyddio Gwasanaethau Gwe SOG.

Cyhoeddwyd ar 8 November 2022