Ffurflen

Cael mynediad at Wasanaethau Gwe SOG

Defnyddiwch y ffurflen hon i gael rhif defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer Gwasanaethau Gwe y System Olrhain Gwartheg (SOG).

Applies to England and Wales

Dogfennau

Cais am rif defnyddiwr a chyfrinair Gwasanaeth Gwe SOG

Manylion

Gallwch ddefnyddio meddalwedd fferm gydnaws (tudalen gwe yn Saesneg) i gofrestru genedigaethau gwartheg ac i roi gwybod am symudiadau a marwolaethau i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).

I wneud hyn, bydd angen ichi ymrestru ar gyfer Gwasanaethau Gwe SOG drwy lenwi’r ffurflen hon.

Mae rhoi gwybod am y digwyddiadau hyn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau.

Sut i lenwi’r ffurflen

  1. Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw.
  2. Llenwch y ffurflen a’i chadw eto.
  3. Anfonwch y ffurflen drwy’r ebost at bcmsenquiries@rpa.gov.uk. Defnyddiwch ‘Cais am rif defnyddiwr a chyfrinair Gwasanaeth Gwe SOG’ fel pennawd eich neges ebost.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd GSGP yn anfon yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen er mwyn defnyddio Gwasanaethau Gwe SOG.

Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae’n rhaid ichi ei gofnodi a rhoi gwybod amdano pan fyddwch chi’n symud gwartheg, buail neu fyfflos a’r terfynau amser.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014