Ffurflen

Cofrestru fel ceidwad gwartheg gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain

Sut i gofrestru neu ail-gofrestru eich daliad gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP), beth sy'n digwydd nesaf a beth i'w wneud os bydd eich manylion yn newid.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Cofrestrwch fel ceidwad gwartheg yng Nghymru neu Loegr

Manylion

Cyn ichi symud gwartheg, buail neu fyfflos i’ch daliad, rhaid i chi gofrestru’ch rhif newydd neu’ch rhif wedi’i ailagor rhif daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg) gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP). Y rheswm am hyn yw er mwyn ichi allu:

O dan y gyfraith mae’n rhaid ichi wneud hyn fel bod modd olrhain gwartheg i atal clefydau a chyfyngu clefydau.

Darllenwch ragor am yr hyn mae’n rhaid ichi ei wneud wrth gadw gwartheg, buail a byfflos.

Sut i gofrestru

Llenwch y ffurflen hon a’i hanfon drwy’r ebost at bcmsenquiries@rpa.gov.uk. Defnyddiwch ‘Cofrestru fel ceidwad gwartheg’ fel pennawd pwnc eich neges.

Gallwch gofrestru dros y ffôn os yw’n well gennych

GSGP Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Yr hyn y bydd GSGP yn ei wneud

Bydd GSGP yn eich cofrestru fel ceidwad gwartheg ac yn anfon y canlynol atoch:

  • llythyr yn cadarnhau bod eich manylion ar gronfa ddata eu System Olrhain Gwartheg (SOG)
  • labeli cod bar i’w defnyddio mewn pasbortau

Fe gewch chi’r canlynol hefyd:

Gallwch ddefnyddio’r rhain i gofrestru genedigaethau gwartheg a rhoi gwybod am symudiadau a marwolaethau ar-lein.

Yr hyn mae angen ei wneud nesaf

Rhaid ichi ddweud wrth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) hefyd eich bod yn bwriadu cadw gwartheg a rhoi eich rhif daliad (tudalen gwe yn Saesneg) iddyn nhw.

Y rheswm am hyn yw er mwyn i APHA anfon nod buches atoch i adnabod y gwartheg sy’n cael eu geni ar eich daliad. Hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu magu lloi, mae’n dal yn angenrheidiol ichi gael nod buches er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith.

Gwybodaeth am sut i gofrestru gydag APHA a chael nod buches.

Os bydd unrhyw beth yn newid

Rhaid ichi roi gwybod i GSGP ac APHA os bydd unrhyw newidiadau yn eich manylion cofrestredig.

Rhaid ichi roi gwybod i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) hefyd am unrhyw newidiadau yn y manylion a roesoch wrth wneud cais am eich rhif daliad.

Gwybodaeth am sut i ddiweddaru manylion eich daliad.

Cyhoeddwyd ar 30 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 December 2022 + show all updates
  1. New version of the form attached

  2. Added translation