Ffurflen

Dalen barhau pasbort gwartheg

Gall ceidwaid gwartheg ddefnyddio dalen barhau pan fydd arnyn nhw angen rhagor o le i gofnodi symudiadau mewn pasbort gwartheg.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Dalen barhau pasbort gwartheg

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch Webmaster.RPA@rpa.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Defnyddiwch y ddalen barhau hon i gofnodi symudiadau pan fydd yr adran hanes symudiadau mewn pasbort gwartheg yn llawn.

Rhaid ichi gofnodi’r dyddiad y mae gwartheg, buail neu fyfflos yn symud yn ôl ac ymlaen i’ch daliad ym mhasbort pob anifail. Y rheswm am hyn yw er mwyn i’r gwartheg gael eu holrhain bob amser i atal clefydau a rheoli lledaeniad clefydau.

Fe allwch chi:

  • argraffu a defnyddio’r ddalen barhau hon
  • llungopïo cefn pasbort un tudalen arall, os oes un gennych chi, lle mae’r blychau symudiadau yn wag
  • gofyn am ddalen barhau brintiedig gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP)

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn

Sut i ddefnyddio dalen barhau

Mae’r ddalen barhau yn rhan o’r pasbort gwartheg swyddogol. Rhaid ichi:

  • ysgrifennu rhif tag clust yr anifail ar y brig
  • atodi’r ddalen yn ddiogel i’r pasbort cywir

Rhaid hefyd ichi ddilyn y canllawiau ar sut i gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.

Cyhoeddwyd ar 8 November 2022