Ffurflen

Mewnforio neu symud gwartheg i Gymru neu Loegr: cais am basbortau gwartheg

Gwneud cais am basbort gwartheg os ydych chi’n symud gwartheg i Gymru neu Loegr o'r tu allan i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban).

Applies to England and Wales

Dogfennau

Anifeiliaid sy’n cael eu symud i Gymru a Lloegr: Cais am Basbort Gwartheg

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am basbort gwartheg pan fyddwch yn mewnforio neu’n symud gwartheg i Gymru neu Loegr.

Dim ond drwy’r post y cewch chi wneud cais. Y rheswm am hyn yw bod angen ichi anfon dogfennau papur at Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).

Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen, gallwch ofyn am gopi papur drwy’r canlynol:

  • SOG Ar-lein - defnyddiwch y swyddogaeth cysylltu â GSGP (tudalen gwe yn Saesneg)
  • GSGP - gallwch ffonio neu anfon neges ebost

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn

Anfon eich cais

Anfonwch:

Os ydych chi’n mewnforio anifail o’r UE, bydd angen hefyd ichi anfon pasbort gwreiddiol yr UE a ddaeth gyda’r anifail.

Postiwch eich dogfennau i

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Beth sy’n digwydd nesaf

Fel arfer, byddwch yn cael eich pasbort gwartheg o fewn 14 diwrnod.

Darllenwch y canllawiau ar sut i gael, cywiro neu ddiweddaru pasbort gwartheg os oes problem gyda’ch pasbort, neu os na fydd yn cyrraedd.

Beth arall mae angen ichi ei wneud

Rhagor o wybodaeth am y rheolau ar basbortau a thagiau clust wrth ichi fewnforio neu symud gwartheg i Gymru neu Loegr.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014