Ffurflen

Ffurflen: Templed cofrestr daliad i geidwaid gwartheg

Lawrlwytho templed cofrestr daliad (sydd hefyd yn cael ei galw’n gofrestr fuches neu gofnodion fferm) i gadw cofnod o enedigaethau, symudiadau a marwolaethau gwartheg.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Cofrestr buches

Cofrestr buches

Manylion

Gallwch chi ddefnyddio un o’r templedi hyn i gadw cofrestr daliad i gofnodi’r canlynol ynglŷn â gwartheg, buail a byfflos:

Does dim rhaid ichi ddefnyddio’r templedi hyn, ond mae’n ofyniad cyfreithiol i gadw cofrestr daliad sy’n cynnwys yr un wybodaeth. Dysgwch beth mae’n rhaid ichi ei gofnodi yn eich cofrestr daliand.

Mae angen ichi gadw cofrestr ar wahân ar gyfer pob un o’ch daliadau.

Pryd mae’n rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad

Rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad o fewn:

  • 36 awr ar ôl symudiad i’r daliad neu oddi arno
  • 36 awr ar ôl amnewid tag clust, os yw rhif y tag clust wedi newid
  • 7 diwrnod ar ôl genedigaeth anifail llaeth
  • 30 diwrnod ar ôl genedigaeth unrhyw fath arall o wartheg
  • 7 diwrnod ar ôl marwolaeth

Rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad o fewn 36 awr ar ôl tagio anifail gyda rhif tag clust swyddogol newydd ar gyfer gwartheg:

  • sydd wedi’u geni ym Mhrydain Fawr neu wedi’u mewnforio yno cyn 1 Ionawr 1998 os yw rhif y tag clust swyddogol wedi newid
  • sydd wedi’u mewnforio i Brydain Fawr o’r tu allan i’r UE

Sut i ddefnyddio’r templedi

Mae gan y templedi ddalenni gwag ichi eu llenwi. Mae angen ichi allu dangos y daenlen neu’r ddogfen lawn i’w harchwilio pan ofynnir ichi wneud hynny.

Mae’r ddwy ddogfen yn argraffu orau ar faint A3, gyda’r papur ar draws yn lle ar i fyny. Os byddwch yn argraffu maint A4, gallwch eu hargraffu nhw dros ddau dudalen – gofalwch eu rhwymo nhw a’u cadw gyda’i gilydd.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi gael dogfennau gwahanol ar gyfer gwartheg gwryw a benyw.

Bydd angen ichi ddefnyddio bridiau a chodau gwartheg swyddogol. Rhaid i symudiadau’r un anifail yn ôl ac ymlaen i’ch daliad ymddangos ar yr un llinell.

Defnyddio’r daenlen

Lawrlwythwch a chadwch gopi o’r daenlen i’ch cyfrifiadur. Wedyn gallwch chi naill ai:

  • ei llenwi a’i chadw ar eich cyfrifiadur
  • ei hargraffu a’i llenwi â llaw, gan ddefnyddio inc

Os oes arnoch angen rhesi ychwanegol, gallwch chi naill ai:

  • copïo a gludo rhesi gwag i waelod y daenlen
  • lawrlwytho a chadw copi arall o’r daenlen

Defnyddio’r ddogfen

Lawrlwythwch ac argraffwch gopi o’r ddogfen. Wedyn rhaid ichi ei llenwi â llaw gan ddefnyddio inc.

Argraffwch gynifer o gopïau o’r ddogfen ag sydd arnoch eu hangen. Cadwch nhw gyda’i gilydd mewn lle diogel.

Cysylltu â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) Cysylltwch â BCMS i gael help i lenwi’ch cofrestr daliad.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 August 2023 + show all updates
  1. Improved the existing PDF holding register to print fewer pages and clearer instructions on how to use it. Added a spreadsheet holding register template and instructions on how to use it.

  2. Added translation