Canllawiau

Cadw cofrestr daliad ar gyfer gwartheg i gofnodi genedigaethau, symudiadau a marwolaethau

Yr hyn mae'n rhaid ichi ei gofnodi yng nghofrestr eich daliad (sydd hefyd yn cael ei galw’n gofrestr fuches neu’n gofnodion fferm), pa bryd a beth allwch chi ei ddefnyddio ar gyfer eich cofnodion.

Applies to England and Wales

Os ydych chi’n cadw gwartheg, gan gynnwys buail a byfflos, mae’n rhaid ichi gadw cofrestr daliad (sydd hefyd yn cael ei galw’n gofrestr fuches neu gofnodion fferm) i gofnodi:

Rhaid ichi gadw cofrestr ar wahân ar gyfer pob un o’ch daliadau.

Rhaid ichi gadw’ch cofrestr yn gyfoes a threfnu ei bod ar gael os bydd arolygydd yn gofyn am gael ei gwirio.

Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid ichi gadw cofrestr gywir. Mae cadw’r cofnodion hyn yn diogelu iechyd eich da byw. Mae hefyd yn helpu i olrhain anifeiliaid.

Pryd mae’n rhaid ichi ddiweddaru’ch cofrestr

Rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad o fewn:

  • 36 awr ar ôl symudiad i’r daliad neu oddi arno
  • 7 diwrnod ar ôl genedigaeth anifail llaeth
  • 30 diwrnod ar ôl genedigaeth unrhyw fath arall o wartheg
  • 7 diwrnod ar ôl marwolaeth

Rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad o fewn 36 awr ar ôl tagio anifail gyda rhif tag clust swyddogol newydd ar gyfer gwartheg:

  • sydd wedi’u geni ym Mhrydain Fawr neu wedi’u mewnforio yno cyn 1 Ionawr 1998 os yw rhif y tag clust swyddogol wedi newid
  • sydd wedi’u mewnforio i Brydain Fawr o’r tu allan i’r UE

Yr hyn mae’n rhaid ichi ei gofnodi yng nghofrestr eich daliad

Yn ôl y gyfraith, ar gyfer pob anifail mae’n rhaid i gofrestr eich daliad gynnwys:

  • y rhif tag clust swyddogol
  • y dyddiad geni
  • y rhyw
  • cod brid swyddogol y gwartheg
  • rhif tag clust swyddogol y fam enetig yn achos anifeiliaid a anwyd ar eich daliad
  • rhif tag clust swyddogol y fam fenthyg yn achos anifeiliaid a anwyd ar eich daliad (dim ond os cafodd y llo ei eni i fam fenthyg)
  • dyddiad unrhyw symudiadau i’ch daliad ac oddi arno (gan gynnwys os yw ar goll neu wedi’i ddwyn
  • rhif y daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg) neu enw a chyfeiriad y ceidwad y mae’r anifail wedi symud iddo neu oddi wrtho
  • dyddiad y farwolaeth os bydd yr anifail yn marw ar eich daliad

Mae’n rhaid hefyd ichi gofnodi:

Efallai y byddwch hefyd yn ei chael yn ddefnyddiol:

  • cofnodi rhif tag clust swyddogol y tad
  • ticio’r blwch i gadarnhau eich bod wedi cofrestru’r enedigaeth gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP)

Beth allwch chi ei ddefnyddio fel cofrestr daliad

Cewch ddewis sut i gofnodi’r wybodaeth am eich gwartheg. Er enghraifft, fe allech chi ddefnyddio:

Pa mor hir i gadw cofrestr eich daliad

O 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y gwnaethoch y cofnod olaf, rhaid ichi gadw cofrestr eich daliad:

  • am 10 mlynedd os oes gennych chi fferm
  • am 3 blynedd yn achos maes sioe, marchnad, llad-dy neu ganolfan gasglu

Os nad ydych yn siŵr pa mor hir i gadw cofrestr eich daliad, cysylltwch â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Beth arall mae angen ichi ei wneud

Erbyn y dyddiadau cau, mae’n rhaid ichi roi gwybod i GSGP am y canlynol:

Rhaid i chi hefyd gadw cofnodion o unrhyw feddyginiaethau milfeddygol a ddefnyddir ar eich gwartheg (tudalen gwe yn Saesneg). Cewch ddewis sut i gadw’r cofnodion hyn. Mae adran yn y templed cofrestr daliad y gallwch ei defnyddio.

Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae’n rhaid ichi ei wneud wrth gadw gwartheg, buail a byfflos.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 June 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. Clarified what information you need to record in your holding register and when you need to do this. The template holding register you can use for your records has been put on a separate page.

  3. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  4. Removed references to contacting either BCMS or local authority for copies of herd register.

  5. Format of blank holding register updated to be more screen and printer-friendly (hrb1 replaced with hrb1a.)

  6. Updated herd register added

  7. Updated 'the dam’s ear tag number' text

  8. First published.