Ymweliadau adnabod gwartheg: beth i'w ddisgwyl
Mae'n bosibl y bydd Swyddogion Maes yn ymweld â'ch daliad i gadarnhau eich bod yn dilyn y rheolau ynglŷn ag adnabod gwartheg, buail a byfflos a chadw cofnodion.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
O dan y gyfraith, mae’n rhaid i gyrff rheoleiddio Cymru a Lloegr gynnal gwiriadau adnabod gwartheg. Mae’n bosibl y bydd Swyddogion Maes yn ymweld â’ch daliad i gadarnhau eich bod yn dilyn y rheolau ynglŷn ag adnabod gwartheg, buail a byfflos a chadw cofnodion. Os nad ydych yn gwneud hynny, ac yn methu â datrys unrhyw broblemau a nodwyd ganddynt, efallai y byddwch yn wynebu cyfyngiadau symud.
Gallai ymweliad gynnwys archwilio:
-
y gwartheg ar eich daliad, eu tagiau clust a’u pasbortau
-
cofrestr eich daliad
-
tagiau clust sydd gennych nad ydynt wedi cael eu defnyddio
Mae’n rhaid i’r ymweliad adnabod gwartheg gael ei gynnal o fewn 48 awr i ni gysylltu â chi am yr ymweliad.
Sut y caiff ffermydd eu dewis
Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn cynnal gwiriadau ar 3% o leiaf o ddaliadau bob blwyddyn. Caiff 20% o’r daliadau hynny eu dewis ar hap a chaiff 80% eu dewis ar sail risg. (Mae Swyddogion Maes yn fwy tebygol o ymweld â daliadau lle rydym wedi dod o hyd i broblemau o’r blaen.)
Beth mae angen i chi ei wneud ar gyfer ymweliad
Bydd y Swyddog Maes yn cadarnhau pa wartheg sydd ar eich daliad(au) ar hyn o bryd.
Mae’n rhaid i chi adael i’r Swyddog Mes weld yr holl ddogfennau a chofnodion y bydd yn gofyn amdanynt. Mae’n anghyfreithlon peidio â sicrhau bod dogfennau ar gael i’w harchwilio. Bydd angen y canlynol arnoch:
-
cofrestr eich daliad (ar bapur neu ar gyfrifiadur)
-
pasbortau a dogfennau cofrestru ar gyfer pob anifail
Er mwyn gwneud yn siŵr bod y Swyddog Maes yn gallu archwilio’ch anifeiliaid yn ddiogel, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
-
pobl i gasglu’r gwartheg
-
cyfleusterau trafod addas
Chi fydd yn gyfrifol am les anifeiliaid yn ystod yr archwiliad.
Ar ddiwedd yr ymweliad bydd y Swyddog Maes yn gofyn i chi lofnodi ffurflen (CPP18) i gadarnhau bod yr ymweliad wedi digwydd a bydd yn gadael copi i chi.
Os byddwch yn rhwystro’r Swyddog Maes rhag cynnal yr ymweliad, bydd eich buches gyfan o dan gyfyngiadau. Mae rhwystro yn cynnwys:
-
gwrthod caniatáu i’r ymweliad gael ei gynnal
-
methu â chasglu anifeiliaid i’w harchwilio
-
methu â darparu cyfleusterau trin digonol na llafur
-
methu â chyflwyno cofrestr eich daliad na phasbortau
Mae rhwystro hefyd yn cynnwys ymddygiad difrïol neu ymosodol.
Faint o amser y bydd yr ymweliad yn ei gymryd
Bydd y Swyddog Maes yn anelu at gynnal y gwiriadau mor gyflym ac effeithlon â phosibl, gan darfu arnoch gyn lleied â phosibl. Bydd hyd yr ymweliad yn dibynnu ar faint eich daliad, faint o wartheg sydd dan sylw, a pha mor glir a chywir yw eich cofnodion.
Beth fydd y Swyddog Maes yn ei wirio
Bydd gwiriadau’r Swyddog Maes yn cynnwys:
-
bod cofrestr eich daliad yn dangos pa anifeiliaid sydd ar y daliad neu sydd wedi bod ar y daliad
-
eich bod wedi cofnodi pob genedigaeth, symudiad a marwolaeth yn gywir
-
bod yr holl anifeiliaid wedi’u tagio’n gywir a bod eu tagiau yn cyfateb i’w dogfennau adnabod
-
bod gennych yr holl ddogfennau adnabod a’u bod yn gywir
-
eich bod wedi cydymffurfio â’r terfynau amser ar gyfer adnabod gwartheg a chadw cofnodion
-
eich bod wedi trosglwyddo’r holl ddogfennau adnabod ar gyfer anifeiliaid sydd wedi cael eu symud i’r ceidwad newydd neu anifeiliaid sydd wedi marw i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain.
-
eich bod yn storio’n ddiogel unrhyw dagiau clust nad ydynt yn cael eu defnyddio
Os bydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn dod o hyd i broblemau
Problemau gyda phasbortau gwartheg ac adnabod anifeiliaid
Os bydd y Swyddog Maes yn dod o hyd i broblem gyda phasbort gwartheg (er enghraifft, mae’r rhyw anghywir wedi cael ei gofnodi), bydd yn casglu’r pasbortau hyn oddi wrthych a rhoi derbynneb i chi (CPP18/18a).
Os gall Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain gywiro’r pasbortau, bydd yn gwneud hynny ac yn eu dychwelyd atoch am ddim. Dylech edrych arnynt yn ofalus pan gewch nhw. Os na fyddwch wedi eu cael o fewn 4 wythnos i’r archwiliad, cysylltwch â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain.
Os bydd y Swyddog Maes yn dod o hyd i anifeiliaid nad ydynt wedi’u hadnabod:
-
byddwch yn cael Hysbysiad i gadarnhau manylion adnabod ac olrhain (CPP30). Hyd nes y byddwch yn cadarnhau eu manylion adnabod, ni fydd modd i chi eu symud oddi ar eich daliad.
-
gofynnir i chi osod tagiau rheoli Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain ar yr anifeiliaid
Os na allwch gadarnhau manylion adnabod yr anifail, efallai y cewch Hysbysiad symud i ladd yn orfodol (CPP31). Mae hyn yn golygu y caiff yr anifail ei ddifa. Ni fyddwch yn cael eich digolledu ac mae’n bosibl y bydd Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain yn codi arnoch am y costau.
Problemau gyda llai nag 20% o’ch buches neu’ch cofnodion
Os bydd y Swyddog Maes yn gweld gwahaniaethau rhwng tagiau, pasbortau a chofnodion, neu fethiant i roi gwybod am faterion, sy’n effeithio llai nag 20% o’ch buches, efallai y bydd yn gosod cyfyngiadau symud ar yr anifeiliaid perthnasol.
Bydd y Swyddog Maes naill ai’n mynd â’r pasbortau i’w cywiro neu’n rhoi hysbysiad gwahardd symud (ffurflen CPP27) yn disgrifio’r hyn y bydd angen i chi ei wneud.
Os cewch hysbysiad, mae’n rhaid i chi ddweud wrth Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain cyn gynted ag y byddwch wedi cymryd y cam(au) angenrheidiol. Yna, bydd y gwasanaeth yn cadarnhau a oes modd codi’r cyfyngiad ar symud. Mae’n bosibl y bydd Swyddog Maes yn dychwelyd i archwilio’r anifeiliaid sydd wedi’u hadnabod yn gywir.
Yn y naill achos a’r llall, mae’n drosedd symud yr anifeiliaid oddi ar eich daliad hyd nes y bydd y pasbortau yn cael eu dychwelyd neu hyd nes y caiff y cyfyngiad ei godi.
Problemau gyda mwy nag 20% o’ch buches neu’ch cofnodion
Os bydd y Swyddog Maes yn gweld gwahaniaethau rhwng tagiau, pasbortau a chofnodion, neu fethiannau i roi gwybod am faterion, sy’n effeithio ar fwy nag 20$ o’ch buches, bydd yn rhoi hysbysiad gwahardd symudiad i chi ar gyfer eich buches gyfan (CPP28).
Bydd yr hysbysiad yn:
-
rhestru’r holl anifeiliaid ar eich daliad
-
nodi a yw’r cyfyngiad yn gymwys i symudiadau i’r daliad ac oddi arno neu dim ond i symudiadau oddi arno
-
dweud wrthych am yr hyn y bydd angen i chi ei wneud i unioni pethau
Byddwch hefyd yn cael llythyr gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain yn dweud wrthych am yr hyn y bydd angen i chi ei wneud er mwyn i’r cyfyngiad ar symud gael ei godi.
Mae’n drosedd symud anifeiliaid sydd o dan gyfyngiadau symud.
Pan fydd 80% o’ch gwartheg yn bodloni’r rheoliadau, mae’n rhaid i chi naill ai:
-
cyflwyno ffurflen hysbysiad o gydymffurfiaeth (CPP29)
Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cyrraedd 80%, cysylltwch â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain, a fydd wedyn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau:
-
a yw’r cyfyngiad ar y fuches gyfan wedi cael ei godi
-
a oes unrhyw anifeiliaid ag anghysondebau sy’n destun cyfyngiadau symud ar eich daliad
Mae’n bosibl y bydd Swyddog Maes yn ailymweld â’ch daliad i gadarnhau eich bod wedi cymryd y camau cywir. Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth anwir i godi cyfyngiad symud, mae’n bosibl y bydd camau pellach yn eich erbyn.
Lles anifeiliaid
Os bydd y Swyddog Maes yn canfod nad ydych yn cydymffurfio â safonau lles anifeiliaid, bydd yn hysbysu’r awdurdod lleol, sy’n gyfrifol am orfodi rheolau lles.
Mae’n bosibl eich bod yn torri rheolau eraill hefyd, sy’n golygu risg y bydd unrhyw daliadau a gewch o dan gynlluniau eraill yn cael eu lleihau.
Cosbau
Lleihau taliadau
Os bydd y Swyddog Maes yn canfod problemau, gallech wynebu cosbau ac y gallai unrhyw hawliadau sydd gennych o dan unrhyw gynllun gael eu lleihau.
Erlyn
Gallech wynebu camau cyfreithiol o ganlyniad i broblemau a ganfyddir yn ystod ymweliad. Os bydd y llys yn dyfarnu eich bod yn euog o drosedd, gall roi cosbau llym, gan gynnwys dirwyon o hyd at £5,000 am bob anifail. Yn yr achosion gwaethaf, gall y llys hefyd roi dedfryd o garchar.
Trawsgydymffurfio
Daeth trawsgydymffurfio yn Lloegr i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Os ydych yn ffermio neu’n rheoli tir yn Lloegr, cewch wybod beth mae hyn yn ei olygu i chi.
Mae trawsgydymffurfio yn dal yn gymwys yng Nghymru.
Cysylltu â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
E-bost bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Llinell gymorth 0345 050 1234
Llinell Gymorth ar gyfer Ceidwaid Gwartheg yng Nghymru 0345 050 3456
Oriau agor arferol llinell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain: O ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30 am i 5pm ar gau dros y penwythnos ac ar wyliau banc. Codir y gyfradd leol am bob galwad.
Gallwch hefyd siarad â chynghorydd ar we-sgwrs. Dim ond yn Saesneg mae’r we-sgwrs ar gael yn yr URL canlynol: https://british-cattle-movement-guidance.service.gov.uk
Cysylltu â GSGP
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
BCMS
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
E-bost bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Llinell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain i geidwaid gwartheg yng Nghymru 0345 050 3456
Llinell Saesneg 0345 050 1234
Oriau agor arferol llinell gymorth GSGP: rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gau ar y penwythnosau a gwyliau banc. Codir y gyfradd leol am bob galwad.
Updates to this page
-
'Cattle identification (was inspections, now visits): what to expect' page updated to reflect current language and visits' approach. Content refreshed and links to cross compliance updated.
-
This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.
-
First published.