Gordaliadau a thandaliadau treth
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod ad-daliad yn ddyledus i chi
Bydd eich llythyr cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn P800) yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch gael eich ad-daliad.
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud y cewch hawlio ar-lein
I wneud hawliad ar-lein, bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.
Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth, gallwch greu un.
I greu cyfrif Porth y Llywodraeth, bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch, neu’ch cod post, a 2 o’r canlynol:
- pasbort dilys y DU
- trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
- slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
- manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
- manylion Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os gwnaethoch un
- gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)
Gallwch hefyd hawlio eich ad-daliad drwy ap CThEF.
Pryd y cewch eich ad-daliad
Anfonir yr arian atoch cyn pen 5 diwrnod gwaith – bydd yn eich cyfrif yn y DU ar ôl i’ch banc brosesu’r taliad.
Os na fyddwch yn hawlio eich ad-daliad ar-lein cyn pen 21 diwrnod, bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn anfon siec atoch. Byddwch yn cael hon cyn pen 6 wythnos i’r dyddiad sydd ar eich llythyr cyfrifiad treth.
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud y cewch siec
Bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud wrthych os bydd CThEF yn anfon siec atoch.
Does dim angen i chi gysylltu â CThEF i wneud hawliad – byddwch yn cael siec drwy’r post yn awtomatig.
Pryd y cewch eich ad-daliad
Byddwch yn cael eich siec cyn pen 14 diwrnod i’r dyddiad sydd ar eich llythyr.
Os oes treth yn ddyledus i chi am fwy nag un flwyddyn, cewch un siec am y cyfanswm.