Llenwi’ch Ffurflen TAW

Llenwch ac anfonwch eich Ffurflen TAW ar-lein.

Ni allwch ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein i anfon eich Ffurflen TAW os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer y cynllun ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW’. Defnyddiwch feddalwedd gyfrifyddu sy’n cydweddu yn lle hynny.

Os oes angen help arnoch, mae arweiniad ynghylch:

Mae’n rhaid i chi gynnwys gwerthiannau yn yr UE ar eich Ffurflen TAW a llenwi Rhestr Gwerthiannau yn y GE.

Cyfrifo’r hyn y gallwch ei hawlio

Os yw’ch busnes yn elusen, rydych yn talu TAW ar gyfradd is ar rai nwyddau a gwasanaethau.

Gall busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW fel arfer adhawlio’r TAW maent wedi’i thalu ar bryniannau a threuliau busnes. Mae’n rhaid i’r cais fod am weithgaredd busnes (mae’n rhaid i chi gyfrifo’r elfen fusnes os oedd defnydd personol iddo hefyd).

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion i ategu’ch cais a dangos bod TAW wedi’i thalu.

Eithriadau

Ni allwch adhawlio TAW ar y canlynol:

Mae rheolau arbennig er mwyn cael gwybod sut i adhawlio TAW ar gyfer:

Ffigurau wedi’u hamcangyfrif

Gofynnwch i Gyllid a Thollau EM (CThEM) am ganiatâd i ddefnyddio ffigurau amcangyfrifedig. Bydd angen rheswm da arnoch pam na allwch roi ffigurau cywir ar eich Ffurflen TAW.

Os oes caniatâd gennych, ni chodir cosb arnoch oni bai eich bod yn methu’r dyddiad cau neu’n gwneud gwall esgeulus neu fwriadol. Fel arfer, bydd angen i chi roi’r ffigurau cywir yn eich Ffurflen TAW nesaf.

Drwgddyledion

Gallwch adhawlio’r TAW rydych wedi’i thalu i CThEM ond heb ei chael gan y cwsmer os yw’n ‘drwgddyled’ (un rydych wedi’i ddileu). Er mwyn bod yn gymwys am y rhyddhad:

  • rhaid i’r ddyled fod rhwng 6 mis oed a 4 blwydd a 6 mis oed
  • rhaid eich bod heb werthu’r ddyled yn ei blaen
  • rhaid eich bod heb godi mwy na’r pris arferol am yr eitem

Dylech eu hadhawlio drwy’ch Ffurflen TAW (adiwch hwy i’ch ffigur Blwch 4), a dylech gadw cofnodion ynghylch y ddyled.

Os caiff y ddyled ei thalu, mae’n rhaid i chi dalu’r rhyddhad yn ôl drwy’ch Ffurflen TAW gan ychwanegu’r swm at eich ffigur ‘Blwch 1’.