Llog ar TAW wedi’i thandalu neu ei gordalu

Gall Cyllid a Thollau EM (CThEM) godi llog arnoch os nad ydych yn rhoi gwybod am y swm cywir o TAW a’i thalu. Os ydych yn talu gormod o TAW oherwydd bod CThEM wedi gwneud camgymeriad, gallwch hawlio llog.

Pan godir llog

Mae’n bosibl y codir llog os ydych yn gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybod am lai o TAW na’r hyn a godoch, neu adhawlio mwy na’r hyn rydych yn ei thalu
  • talu asesiad y gwnaeth CThEM ganfod yn hwyrach i fod yn rhy isel
  • rhoi gwybod i CThEM bod arnoch TAW oherwydd camgymeriad ar eich Ffurflen TAW

Faint o log a godir

Codir 3.25% o log arnoch.

Mae cyfradd llog gwahanol ar gyfer treth a dandalwyd cyn 5 Ebrill 2022.

Defnyddiwch eich cyfrif TAW ar-lein i wirio’r swm sydd arnoch.

Bydd CThEM hefyd yn anfon hysbysiad atoch yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch a sut y caiff ei gyfrifo.

Os nad ydych yn talu cyn pen 30 diwrnod, codir llog pellach ar y TAW sy’n ddyledus o ddyddiad yr hysbysiad. Codir llog arnoch am yr holl amser nad ydych yn talu, hyd at uchafswm o 2 flynedd.

Ni allwch ddidynnu’r llog y mae CThEM yn codi arnoch wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.

Hawlio llog

Mae’n bosibl y gallwch hawlio llog os yw camgymeriad CThEM yn golygu’r canlynol:

  • rydych yn talu gormod o TAW
  • nid ydych yn adhawlio digon o TAW
  • cafodd eich taliad gan CThEM ei oedi

Fel arfer, ni fydd CThEM yn ad-dalu llog os ydych wedi talu gormod o TAW o ganlyniad i gamgymeriad a wnaethoch.

Faint o log gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio llog o 0.5%. Fel arfer, caiff hwn ei dalu am y cyfnod llawn, o’r cyfnod pan ordalwyd neu adhawliwyd y TAW hyd at y dyddiad y caiff yr ad-daliad ei awdurdodi.

Mae cyfradd llog gwahanol ar gyfer treth a ordalwyd cyn 29 Medi 2009.

Os gwnaethoch achosi oedi i unrhyw daliadau (er enghraifft, drwy beidio â hawlio ar unwaith), efallai y bydd CThEM yn hepgor yr amser hwn.

Mae’n rhaid i chi hawlio’r llog ar wahân i’r ad-daliad ei hunan.

Ysgrifennwch at CThEM gyda manylion yr ad-daliad, gan egluro pam fod llog yn ddyledus i chi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 4 blynedd o ddyddiad awdurdodi’r ad-daliad. Defnyddiwch y cyfeiriad post ar yr ohebiaeth TAW a gewch gan CThEM.

Mae unrhyw log a gewch gan CThEM yn cyfrif fel incwm trethadwy.

Talu llog i’ch cwsmeriaid

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw log a gewch (yn ogystal â’r TAW) i’ch cwsmeriaid os yw camgymeriad CThEM yn golygu eu bod wedi talu gormod o TAW.

Cysylltwch â’r person yn CThEM a ddeliodd gyda’ch hawliad os oes angen i chi gael gwybod sut cafodd y llog ei gyfrifo. Gall hyn eich helpu i gyfrifo faint sydd angen i chi ad-dalu pob cwsmer. Mae’n rhaid i chi roi’r arian yn ôl i CThEM cyn pen 14 diwrnod os na allwch gysylltu â chwsmer i’w ad-dalu.

Cyfraddau llog

Mae CThEM ond yn codi neu’n talu llog syml (llog ar y swm gwreiddiol, nid llog ar log).

Herio penderfyniad CThEM

Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad i godi llog arnoch ond gallwch herio’r swm gwirioneddol.