Asesiadau

Os nad ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW ac yn talu unrhyw TAW sy’n ddyledus mewn pryd, cewch ‘Hysbysiad TAW o asesiad treth’ gan Gyllid a Thollau EM (CThEM), yn rhoi gwybod i chi faint y mae’n credu sydd arnoch.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Anfonwch eich Ffurflen TAW ac unrhyw daliad sy’n ddyledus ar unwaith.

Os yw’r asesiad o’r swm TAW yn rhy isel, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM cyn pen 30 diwrnod. Gwnewch hyn drwy anfon Ffurflen TAW gywir a thaliad TAW cywir neu cysylltwch â CThEM. Efallai y codir cosb arnoch os na wnewch hyn.

Os yw’r asesiad yn rhy uchel, ni allwch ei apelio. Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TAW gywir a thaliad TAW cywir.

Cysylltwch â CThEM os na allwch dalu’ch bil treth a chysylltwch â’r Llinell Gymorth TAW os na allwch anfon y Ffurflen TAW.