Gordaliadau a chosbau

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn cofnodi ‘diffygdaliad’ os:

  • nad yw’ch Ffurflen TAW yn dod i law erbyn y dyddiad cau
  • nad yw’ch taliad llawn ar gyfer y TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen TAW wedi cyrraedd ei gyfrif erbyn y dyddiad cau

Gordaliadau

Gallwch nodi ‘cyfnod gordal’ o 12 mis os ydych yn diffygdalu. Os ydych yn diffygdalu eto yn ystod y cyfnod hwn:

  • caiff y cyfnod gordal ei ymestyn am 12 mis pellach
  • efallai y bydd rhaid i chi dalu swm ychwanegol (‘gordal’) ar ben y TAW sydd arnoch

Os byddwch yn cyflwyno Ffurflen TAW yn hwyr, ni fydd yn rhaid i chi dalu gordal os:

  • ydych yn talu’ch TAW yn llawn erbyn y dyddiad cau
  • nad oes treth gennych i’w thalu
  • oes ad-daliad TAW yn ddyledus i chi

Bydd CThEM yn ysgrifennu atoch yn egluro’r gordaliadau sydd arnoch a’r hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn diffygdalu eto.

Faint rydych yn ei dalu

Mae’ch gordal yn ganran o’r TAW sydd heb ei thalu ar y dyddiad dyledus ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sydd yn ddiffygdaliad. Mae’r gyfradd gordal yn cynyddu bob tro y byddwch yn diffygdalu eto yn ystod cyfnod gordal.

Mae’r tabl hwn yn dangos faint a godir arnoch os byddwch yn diffygdalu yn ystod cyfnod gordal.

Nid ydych yn talu gordal am eich diffygdaliad cyntaf.

Diffygdaliadau cyn pen 12 mis Gordal os yw’r trosiant blynyddol yn llai na £150,000 Gordal os yw’r trosiant blynyddol yn £150,000 neu’n fwy
2il Dim gordal 2% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400)
3ydd 2% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) 5% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400)
4ydd 5% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) 10% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)
5ed 10% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)
6 neu fwy 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)

Cosbau

Gall CThEM godi cosb arnoch o hyd at:

  • 100% o dreth a danddatganwyd neu a orhawliwyd os ydych yn anfon Ffurflen TAW sy’n cynnwys gwall esgeulus neu fwriadol
  • 30% o asesiad os yw CThEM yn anfon un atoch sy’n rhy isel ac nid ydych yn rhoi gwybod iddo ei fod yn anghywir cyn pen 30 diwrnod
  • £400 os ydych yn cyflwyno Ffurflen TAW bapur, oni bai bod CThEM wedi rhoi gwybod eich bod wedi’ch eithrio rhag cyflwyno’ch Ffurflen TAW ar-lein