Dyddiadau cau

Gwiriwch eich Ffurflen TAW a’r dyddiadau cau ar gyfer talu yn eich cyfrif TAW ar-lein.

Mae’ch cyfrif TAW ar-lein yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • pryd y mae’ch Ffurflenni TAW yn ddyledus
  • erbyn pryd y mae’n rhaid i’r taliad glirio yng nghyfrif Cyllid a Thollau EM (CThEM)

Fel arfer, mae angen cyflwyno’r Ffurflen TAW ar-lein a thalu CThEM erbyn yr un dyddiad cau, sef 1 mis calendr a 7 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu. Mae angen i chi ganiatáu digon o amser i’r taliad gyrraedd cyfrif CThEM.

Eithriadau

Mae’r dyddiadau cau yn wahanol os ydych, er enghraifft, yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW.

O ganlyniad i goronafeirws (COVID-19), mae modd gohirio taliadau TAW sy’n ddyledus rhwng 20 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2020. Os dewiswch ohirio taliad TAW, mae’n rhaid iddo gael ei dalu ar neu cyn 31 Mawrth 2021.

Talu’ch bil TAW

Mae’n rhaid i chi dalu TAW i CThEM drwy ddull electronig, er enghraifft, drwy ddebyd uniongyrchol neu fancio ar y rhyngrwyd. Ni chaiff y rhan fwyaf o fusnesau dalu drwy siec.

Cysylltwch â CThEM os na allwch dalu’ch bil TAW.