Sut i gyflwyno’ch Ffurflen TAW

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar-lein oni bai am y canlynol:

  • mae’ch busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd – os oes gennych Drefniant Gwirfoddol Cwmni neu Drefniant Gwirfoddol Unigol, gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar-lein os dymunwch wneud hynny
  • rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiaduron oherwydd rhesymau crefyddol
  • ni allwch oherwydd eich oedran, anabledd neu ble rydych yn byw, er enghraifft, efallai nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM (CThEM) i gael gwybod sut i gyflwyno’ch Ffurflen TAW os na allwch gyflwyno ar-lein, er enghraifft, cyflwyno ar bapur.

Cyflwyno’ch Ffurflen TAW ar-lein

Mae angen rhif TAW a chyfrif TAW ar-lein arnoch. Gallwch wedyn gyflwyno’ch Ffurflen TAW gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein rhad ac am ddim CThEM neu feddalwedd gyfrifyddu fasnachol.

Ni allwch ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein i anfon eich Ffurflen TAW os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer y cynllun ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW’. Defnyddiwch feddalwedd gyfrifyddu sy’n cydweddu yn lle hynny.

Mynd ar-lein

Os oes angen y canlynol arnoch:

Gwasanaeth ar-lein rhad ac am ddim CThEM

Mewngofnodwch i’ch cyfrif TAW ar-lein a llenwch eich Ffurflen TAW.

Defnyddio meddalwedd cyfrifyddu

Mae’r rhan fwyaf o feddalwedd cyfrifyddu yn gadael i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW yn uniongyrchol i CThEM. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi nodi’ch ffigurau ar wahân yng ngwasanaeth ar-lein CThEM.

Mae gan CThEM restr o feddalwedd y gallwch ei defnyddio i gyflwyno’ch Ffurflen TAW.

Cadwch unrhyw gyfeirnod a gewch fel tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno’ch Ffurflen TAW.

Defnyddio cyfrifwyr neu asiantau

Bydd angen i chi eu hawdurdodi cyn y gallant gyflwyno’ch Ffurflen TAW. Gallwch wneud hyn drwy’ch cyfrif TAW ar-lein.

Dewch o hyd i gyfrifydd neu gyfreithiwr i’ch helpu gyda’ch Ffurflen TAW neu’ch treth.

Cael help

Gallwch gael help gyda’ch Ffurflen TAW neu os nad ydych yn deall rhywbeth ynghylch eich treth.

Help gyda gwasanaethau ar-lein

Cysylltwch â’r Llinell Gymorth TAW os oes angen help arnoch wrth ddefnyddio gwasanaethau TAW ar-lein.