Trosolwg

Rydych fel arfer yn cyflwyno Ffurflen TAW i Gyllid a Thollau EM (CThEM) bob 3 mis. Gelwir y cyfnod hwn eich ‘cyfnod cyfrifyddu’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r Ffurflen TAW yn cofnodi pethau ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, megis:

  • cyfanswm eich gwerthiannau a phryniannau
  • swm y TAW sydd arnoch
  • swm y TAW y gallwch ei adhawlio
  • beth yw’ch ad-daliad TAW gan CThEM

Mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen TAW hyd yn oed os nad oes gennych TAW i’w thalu neu ei hadhawlio.

Ffurflenni TAW terfynol

Mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen TAW derfynol pan fyddwch yn canslo’ch cofrestriad TAW.

Bydd CThEM yn anfon fersiwn bapur atoch i’w llenwi os yw’ch cofrestriad yn cael ei ganslo am eich bod wedi dod yn ansolfent.