Defnyddio eich GOV.UK One Login
Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda GOV.UK One Login
Ar hyn o bryd gallwch ond ei ddefnyddio i gael mynediad i rai gwasanaethau’r llywodraeth. Yn y dyfodol, gallwch ei ddefnyddio i gael mynediad i bob gwasanaeth ar GOV.UK.
Mae’r gwasanaethau y gallwch gael mynediad iddynt ar hyn o bryd gyda GOV.UK One Login yn cynnwys:
- Cofrestr darparwr prentisiaeth ac asesiad (APAR)
- Cofrestrfa datganiad caethwasiaeth modern
- Cyfrif arbenigwr pwnc Ofqual
- Cysylltu teuluoedd i gymorth
- Darganfod a gwneud cais am grant
- Darganfod Corff Asesu Cydymffurfiaeth Marchnad y DU
- Digolledau anafiadau troseddol
- Dod o hyd a defnyddio API gan yr Adran Addysg
- Gwasanaeth asesu prentisiaeth
- Gwneud cais am drwydded gweithredwr cerbyd
- Gwneud cais am Gerdyn Cyn-filwyr Lluoedd Arfog EF
- Gwneud cais am wiriad DBS sylfaenol
- Gwneud cais i ddod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr
- Hyfforddiant datblygiad plant blynyddoedd cynnar
- Llofnodwch eich gweithred morgais
- Rheoli gwasanaethau a chyfrifon cymorth i deuluoedd
- Rheoli prentisiaethau
- Tanysgrifiadau e-byst GOV.UK
Ar hyn o bryd mae angen i chi ddefnyddio gwahanol gyfrifon i fewngofnodi i wasanaethau eraill y llywodraeth.
Sut i greu eich GOV.UK One Login
Os ydych angen GOV.UK One Login i ddefnyddio gwasanaeth, byddwch yn gallu creu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwnnw am y tro cyntaf.