Mewngofnodi i'ch GOV.UK One Login yn

Gallwch ddefnyddio eich GOV.UK One Login i gael mynediad at rai gwasanaethau’r llywodraeth.

Nid yw’n gweithio gyda holl gyfrifon a gwasanaethau’r llywodraeth eto (er enghraifft Credyd Cynhwysol).

Dros amser, bydd GOV.UK One Login yn disodli’r holl ffyrdd eraill o fewngofnodi i wasanaethau ar GOV.UK, gan gynnwys Porth y Llywodraeth.

Gweler y gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda GOV.UK One Login.

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.

Os ydych angen GOV.UK One Login i ddefnyddio gwasanaeth, ac nad oes gennych un yn barod, byddwch yn gallu creu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwnnw am y tro cyntaf.

Mewngofnodwch i:

  • newid eich manylion mewngofnodi (cyfeiriad e-bost, cyfrinair neu sut rydych yn cael codau diogelwch)
  • gweld a chael mynediad at y gwasanaethau rydych wedi’u defnyddio gyda’ch GOV.UK One Login
  • dileu eich GOV.UK One Login

Mewngofnodi

Cael help i ddefnyddio GOV.UK One Login

Gallwch gysylltu â’r tîm GOV.UK One Login i gael help, rhoi gwybod am broblem neu roi adborth.

Gallwch hefyd ofyn i rywun rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt i’ch helpu os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio GOV.UK One Login ar eich pen eich hun. Darganfyddwch beth gall ac na all y person rydych yn gofyn iddynt eich helpu gyda.

Sut mae GOV.UK One Login yn defnyddio’ch gwybodaeth

I gael gwybod sut mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio pan fyddwch yn defnyddio GOV.UK One Login, gweler hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login.