Defnyddio eich GOV.UK One Login

Sgipio cynnwys

Profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login

Bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login i ddefnyddio rhai gwasanaethau. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd eich gwybodaeth One Login yn cael ei storio’n awtomatig i’ch GOV.UK One Login.

Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi brofi eich hunaniaeth eto y tro nesaf y bydd angen i wasanaeth wirio pwy ydych chi.

Mae yna 3 ffordd i brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login:

  • gyda’r ap GOV.UK One Login
  • drwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
  • mewn Swyddfa Bost

Bydd y dull a ddefnyddiwch yn dibynnu ar eich dyfais, os oes gennych ID gyda llun a pha fath o ID gyda llun sydd gennych.

Gyda’r ap GOV.UK One Login

Byddwch angen mynediad i ffôn gyda chamera sy’n gweithio.

Os ydych yn defnyddio iPhone, rhaid iddo fod yn:

  • iPhone 8 neu fwy newydd
  • rhedeg iOS 16.7 neu uwch

Ar gyfer ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel), rhaid iddo fod yn rhedeg Android 10 neu uwch.

Byddwch yn cael arweiniad ar sut i lawrlwytho a defnyddio’r ap.

Y mathau o ID gyda llun y gallwch eu ddefnyddio yn yr ap

Byddwch angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:

  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • pasbort y DU
  • pasbort o’r tu allan i’r DU gyda sglodyn biometrig
  • trwydded breswylio biometreg y DU (BRP)
  • cerdyn preswylio biometreg y DU (BRC)
  • trwydded Gweithwyr Ffiniol y DU (FWP)

Os yw’ch ID gyda llun wedi dod i ben

Ni allwch ddefnyddio pasbort sydd wedi dod i ben i brofi eich hunaniaeth gyda’r ap.

Gallwch ddefnyddio trwydded yrru sydd wedi dod i ben os daeth i ben yn y 90 diwrnod diwethaf a cafodd ei chyhoeddi gan DVLA.

Gallwch ddefnyddio BRP, BRC neu FWP sydd wedi dod i ben os yw wedi dod i ben yn ystod y 18 mis diwethaf.

Trwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein

Bydd yn rhaid i chi ateb rhai cwestiynau diogelwch am naill ai:

  • pethau ariannol - fel eich contract ffôn symudol, ac unrhyw gyfrifon banc, cardiau credyd, benthyciadau neu forgeisi a allai fod gennych
  • eich Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), os ydych yn ei gael

Mae angen i chi hefyd roi manylion o un o’r canlynol:

  • pasbort y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • cyfrif cyfredol gyda banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU

Mewn Swyddfa Bost

Gofynir i chi:

Byddwch yn cael e-bost am ganlyniad eich gwiriad hunaniaeth - fel arfer o fewn diwrnod o fynd i Swyddfa Bost.

Byddwch angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:

  • pasbort y DU
  • pasbort o’r tu allan i’r DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun yr Undeb Ewropeaidd (UE)
  • cerdyn llun hunaniaeth genedlaethol o wlad yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein