Gwerthu neu symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE

Mae angen rhif TAW arnoch sy’n dechrau gydag XI i fasnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.

Rydych yn gymwys i weithredu o dan delerau Protocol Gogledd Iwerddon os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch nwyddau wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon ar adeg eu gwerthu
  • rydych yn cael nwyddau yng Ngogledd Iwerddon gan fusnesau yn yr UE sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW at ddibenion busnes
  • rydych yn gwerthu neu’n symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wlad yn yr UE

Gwiriwch a ydych eisoes wedi’ch nodi fel un sy’n masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.

Bydd rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei helpu i nodi eich bod yn masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn golygu’r canlynol:

  • gallwch ddefnyddio symleiddiadau TAW wrth i chi fasnachu â’r UE
  • gall eich cyflenwyr godi tâl ar nwyddau y maent yn eu hanfon atoch o’r UE ar gyfradd sero
  • gall eich masnach â’r UE gael ei rhestru o hyd fel ‘caffaeliadau ac anfoniadau’ ar eich Ffurflen TAW

Rhoi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i roi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys.

Bydd angen arnoch:

  • y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer TAW
  • eich rhif cofrestru TAW
  • enw’ch busnes

Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF

Cewch e-bost gan CThEF i gadarnhau eich bod wedi cael eich cofnodi fel un sy’n gweithredu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.

Ar ôl i chi gael yr e-bost, bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r rhagddodiad XI cyn eich rhif TAW arferol – er enghraifft, XI 123456789 yn lle GB 123456789.

Defnyddio’ch rhif TAW XI

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch rhif TAW XI ar bob dogfen wrth gyfathrebu â chwsmeriaid neu gyflenwyr yn yr UE (er enghraifft, ar anfonebau).

Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE, cwblhewch Restr Gwerthiannau yn y GE (yn agor tudalen Saesneg).

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF neu’n defnyddio rhif TAW XI, gallai olygu eich bod yn talu neu’n codi’r TAW anghywir ar nwyddau.

Os ydych wedi rhoi’r gorau i werthu neu symud nwyddau yng Ngogledd Iwerddon

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF os ydych wedi rhoi’r gorau i werthu neu symud nwyddau yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’n rhaid i chi gwblhau unrhyw ymrwymiadau sydd gennych ar gyfer y cynlluniau canlynol cyn dirymu eich statws fel masnachwr yng Ngogledd Iwerddon:

  • Ffurflenni TAW ar gyfer cynllun undeb y Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW
  • Rhestrau Gwerthiannau yn y GE
  • Ad-daliadau TAW yr UE

Ni fyddwch yn gallu cwblhau unrhyw ymrwymiadau ar gyfer y cynlluniau hyn ar ôl i chi roi gwybod i CThEF eich bod yn dymuno dirymu eich statws.