Cofrestru ar gyfer TAW yng ngwledydd yr UE

Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu a ydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau ac o ble rydych yn eu gwerthu.

Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i’r UE

Os ydych wedi gwerthu dros gyfanswm o £8,818 mewn nwyddau i gwsmeriaid yn yr UE (y ‘trothwy ar gyfer gwerthu o bell’), mae’n rhaid i chi dalu TAW yn y gwledydd y mae’r nwyddau’n cael eu hanfon iddynt.

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer naill ai:

Gwiriwch sut i roi gwybod am TAW a’i thalu ar nwyddau rydych yn eu gwerthu o bell o Ogledd Iwerddon i’r UE (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn gwerthu nwyddau o’r DU i’r UE

Fel arfer nid oes angen i chi godi TAW ar nwyddau rydych yn eu gwerthu i gwsmeriaid y tu allan i’r DU. Dim ond gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) y mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW. Gallwch godi TAW ar gyfradd sero am y gwerthiannau hyn.

Dysgwch ragor am godi TAW ar nwyddau rydych yn eu hallforio (yn Saesneg).

Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau o’r DU i’r UE

Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau o’r DU i gwsmeriaid yn yr UE, gallwch gofrestru ar gyfer cynllun di-undeb y GUC TAW.

Dysgwch ragor am gynllun di-undeb y GUC TAW ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Dysgwch beth i’w wneud os ydych yn cyflenwi gwasanaethau digidol i gwsmeriaid yn yr UE (yn agor tudalen Saesneg).