Treth pan fyddwch yn gwerthu cyfranddaliadau
Cyfrifo’ch enillion
Bydd angen i chi gyfrifo’ch enillion i weld a oes angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Fel arfer, eich enillion yw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a daloch am eich cyfranddaliadau a’r hyn y gwnaethoch eu gwerthu amdanynt.
Gwerth marchnadol
Mewn rhai achosion, dylech ddefnyddio gwerth marchnadol yr cyfranddaliadau wrth gyfrifo’ch enillion. Gwnewch hyn os:
- gwnaethoch ei roi i ffwrdd fel rhodd i rywun arall heblaw am eich priod, partner sifil, neu elusen
- fe’u gwerthwyd am lai na’u gwerth
- gwnaethoch etifeddu’r eiddo ac nid ydych yn gwybod gwerth y Dreth Etifeddiant
- roeddech yn berchen ar yr eiddo cyn mis Ebrill 1982
- fe’u cawsoch drwy rai Cynllun cyfranddaliadau ar gyfer cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg)
Os rhoddwyd neu werthwyd y cyfranddaliadau i chi gan rywun a hawliodd Rhyddhad Daliol ar Roddion (yn agor tudalen Saesneg), dylech ddefnyddio’r swm a dalodd y person hwnnw amdanynt i gyfrifo eich enillion. Os gwnaethoch dalu llai na’u gwerth, defnyddiwch y swm rydych chi wedi’i dalu amdanyn nhw.
Gwerthu o dan amgylchiadau arbennig
Mae rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo cost eich cyfranddaliadau os byddwch yn gwerthu:
- cyfranddaliadau a brynoch ar wahanol adegau ac am brisiau gwahanol mewn un cwmni (yn agor tudalen Saesneg)
- cyfranddaliadau drwy glwb buddsoddi (yn agor tudalen Saesneg)
- cyfranddaliadau ar ôl uno neu gymryd drosodd (yn agor tudalen Saesneg) cwmni
- gynllun cyfranddaliadau gweithiwr (yn agor tudalen Saesneg) cyfranddaliadau
Cyfranddaliadau a buddsoddiadau sy’n eiddo ar y cyd
Os byddwch yn gwerthu cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau sy’n eiddo i chi ar y cyd ag eraill, cyfrifwch yr elw ar gyfer y gyfran sy’n perthyn i chi, yn hytrach na’r gwerth cyfan. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i glybiau buddsoddi (yn agor tudalen Saesneg).
Beth i’w wneud nesaf
Didynnu costau
Gallwch ddidynnu costau penodol o brynu neu werthu eich cyfranddaliadau oddi wrth eich enillion. Mae’r rhain yn cynnwys:
- ffioedd, er enghraifft ffioedd broceriaid stoc
- Treth Wrth Gefn Stamp (SDRT) pan brynoch y cyfranddaliadau (yn agor tudalen Saesneg)
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (yn agor tudalen Saesneg) (CThEF) os nad ydych yn siŵr a allwch ddidynnu cost benodol
Rhoi rhyddhadau ar waith
Efallai y gallwch leihau neu ohirio talu Treth Enillion Cyfalaf os ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfrifo a oes angen i chi dalu
Pan fyddwch yn gwybod beth yw swm eich enillion, mae angen i chi gyfrifo a oes angen i chi rhoi gwybod i ni am hyn a thalu Treth Enillion Cyfalaf.
Efallai y gallwch gyfrifo faint o dreth sydd i’w thalu ar eich cyfranddaliadau.
Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell os gwnaethoch werthu cyfranddaliadau a oedd:
- o’r un math, a gafwyd yn yr un cwmni ar yr un dyddiad
- a werthwyd ar yr un pryd
Ni allwch ddefnyddio’r cyfrifiannell os ydych:
- wedi gwerthu cyfranddaliadau eraill yn y flwyddyn dreth
- wedi gwerthu asedion trethadwy (yn agor tudalen Saesneg) eraill yn y flwyddyn dreth, megis eiddo y gwnaethoch ei osod ar rent
- hawlio unrhyw ryddhad
- ydych yn gwmni, yn asiant, yn ymddiriedolwr, neu’n gynrychiolydd personol
Cyfrifo Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo
Rhoi gwybod am golled
Mae’r rheolau’n wahanol os oes angen i chi roi gwybod am golled.
Gallwch hawlio colledion ar gyfranddaliadau yr ydych yn berchen arnynt os ydynt yn dod yn ddiwerth neu o ‘werth di-nod’ (er enghraifft, oherwydd bod y cwmni’n mynd i mewn i ddatodiad).
Mae gan CThEF arweiniad ynghylch sut i gyflwyno hawliad am swm pitw (yn agor tudalen Saesneg).