Treth pan fyddwch yn gwerthu cyfranddaliadau
Yr hyn rydych yn talu'r doll arno
Efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os gwnewch chi elw (‘ennill’) pan fyddwch yn gwerthu (neu’n ‘) cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau eraill.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae cyfranddaliadau a buddsoddiadau y gall fod angen i chi dalu treth arnynt yn cynnwys:
- cyfranddaliadau nad ydynt mewn ISA neu BEP
- unedau mewn ymddiriedolaeth unedol
- rhai bondiau (heb gynnwys Bondiau Premiwm a Bondiau Corfforaethol Cymwys)
Bydd angen i chi gyfrifo’ch enillion er mwyn cael gwybod a fydd angen i chi dalu treth. Bydd hyn yn dibynnu a yw cyfanswm eich enillion yn uwch na’ch Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer y flwyddyn dreth.
Os ydych yn gwerthu cyfranddaliadau sy’n perthyn i ystâd rhywun sydd wedi marw, bydd angen i chi gynnwys y wybodaeth hon wrth roi gwybod i CThEF am yr ystâd.
Pryd na fyddwch yn ei thalu
Fel arfer, nid oes angen i chi dalu treth os byddwch yn rhoi cyfranddaliadau roddion (yn agor tudalen Saesneg) i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu elusen.
Nid oes rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf chwaith pan fyddwch yn gwaredu:
- cyfranddaliadau rydych wedi’u rhoi mewn ISA neu BEP
- cyfranddaliadau mewn Cynllun Cymell Cyfranddaliadau (yn agor tudalen Saesneg) (SIPs)
- giltiau llywodraeth y DU (gan gynnwys Bondiau Premiwm)
- Bondiau Corfforaethol Cymwys
- Cynllun cyfranddaliadau ar gyfer cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) - yn dibynnu ar bryd y cawsoch chi nhw