Skip to main content

Clybiau buddsoddi

Caiff eich enillion eu cyfrifo’n wahanol os ydych wedi prynu a gwerthu cyfranddaliadau (yn agor tudalen Saesneg) drwy glwb buddsoddi.

Mae clwb buddsoddi yn grŵp o bobl sy’n prynu ac yn gwerthu cyfranddaliadau gyda’i gilydd ar y farchnad stoc.

Cyfrifo’ch enillion

Byddwch yn cael datganiad ysgrifenedig o’ch enillion a’ch colledion ( ‘tystysgrif clwb buddsoddi (PDF, 212KB)’) ar ddiwedd pob blwyddyn dreth gan y person sy’n rhedeg y clwb, er enghraifft ei drysorydd.

Pan fyddwch yn gwybod beth yw swm eich enillion gyfrifo a oes angen i chi rhoi gwybod i ni am hyn a thalu Treth Enillion Cyfalaf. Pan fyddwch yn gwybod eich enillion colledion.

Ymadael o glwb buddsoddi

Bydd y clwb yn prynu eich cyfranddaliadau yn ôl os byddwch yn gadael, ac mae angen i chi gynnwys unrhyw enillion neu golledion pan fyddwch yn cyfrifo a oes angen i chi dalu treth.

  1. Cymerwch eich cyfran o unrhyw enillion yn ystod eich aelodaeth o’r clwb, a didynnwch eich cyfran o unrhyw golledion.

  2. Ychwanegwch unrhyw incwm o ddifidendau a gawsoch (ar ôl treth).

  3. Ychwanegwch unrhyw arian arall a gawsoch gan y clwb, a didynnwch unrhyw beth a dalwyd gennych iddo (er enghraifft swm misol i fuddsoddi).

  4. Didynnwch y cyfanswm o’r hyn a gawsoch gan y clwb ar gyfer eich cyfranddaliadau.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (yn agor tudalen Saesneg) (CThEF) neu gael help proffesiynol os oes angen cyngor arnoch chi.

Trosglwyddo cyfranddaliadau i’r clwb

Os byddwch yn trosglwyddo cyfranddaliadau yr ydych eisoes yn berchen arnynt i’r clwb, fe’ch trinier fel pe baech wedi’u gwerthu, ac mae angen i chi gyfrifo eich enillion (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn rhedeg clwb buddsoddi

Dylai trysorydd neu ysgrifennydd y clwb buddsoddi:

  • rhannu unrhyw incwm, enillion a cholledion rhwng ei aelodau yn unol â rheolau’r clwb
  • rhoi datganiad ysgrifenedig i bob aelod ar ddiwedd pob blwyddyn dreth – gallwch ddefnyddio tystysgrif clwb buddsoddi CThEF (PDF, 212KB)
  • cadw cofnodion, gan gynnwys incwm ac enillion yr aelodau
  • trefnu i brynu cyfranddaliadau gan aelodau sy’n dymuno gadael y clwb

Os ydych yn dechrau clwb buddsoddi newydd, gwnewch yn siŵr bod ganddo gyfansoddiad a rheolau. Cael cyngor cyfreithiol (yn agor tudalen Saesneg) gan weithiwr proffesiynol os oes angen cymorth arnoch.