Treth pan fyddwch yn gwerthu cyfranddaliadau
Gwerthu cyfranddaliadau yn yr un cwmni
Mae ffordd wahanol o gyfrifo eich cost os ydych wedi gwerthu’r un math o gyfranddaliadau mewn cwmni a brynwyd gennych ar wahanol adegau.
Fel arfer, bydd angen i chi gyfrifo cost gyfartalog eich cyfranddaliadau a didynnu hyn o’r hyn a gawsoch amdanynt i gyfrifo eich enillion (yn agor tudalen Saesneg).
Enghraifft
Rydych yn prynu 100 o gyfranddaliadau am 80c yr un. Y cyfanswm cost yw £80.
Yn nes ymlaen, rydych yn prynu 300 o gyfranddaliadau am £1.20 yr un. Y cyfanswm cost yw £360.
I gyd, mae gennych 400 o gyfranddaliadau sy’n costio £440 – cost gyfartalog pob cyfran yw £1.10.
Os byddwch yn gwerthu 150 o gyfranddaliadau, cost y cyfranddaliadau at ddibenion eich cyfrifiadau treth yw £165 (£1.10 wedi’i luosi â 150). Didynnu oddi wrth yr hyn y gwnaethoch werthu’r cyfranddaliadau amdanynt i gyfrifo eich enillion.
Os gwnaethoch brynu cyfranddaliadau newydd o’r un math yn yr un cwmni o fewn 30 diwrnod i werthu’ch hen rai, mae rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo’r gost (yn agor tudalen Saesneg) i’w defnyddio yn eich cyfrifiadau treth.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) neu gael help treth proffesiynol os oes angen cyngor arnoch.