Treth pan fyddwch yn gwerthu cyfranddaliadau
Rhyddhad treth
Mae’n bosibl y gallwch leihau neu oedi’r swm o Dreth Enillion Cyfalaf sydd angen i chi dalu os ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth.
| Rhyddhad | Disgrifiad |
|---|---|
| Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) | Talwch lai o Dreth Enillion Cyfalaf os byddwch yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni masnachu rydych yn gweithio iddo ac os oes gennych o leiaf 5% o’r cyfranddaliadau a’r hawliau pleidleisio (a elwir yn ‘gwmni personol’). |
| Rhyddhad Cadw Drosodd ar gyfer Rhoddion (yn agor tudalen Saesneg) | Peidiwch â thalu Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn rhoi cyfranddaliadau i ffwrdd mewn cwmni personol neu gwmni nad yw’n cael ei restru – bydd y person y gwnaethoch eu rhoi iddo’n talu treth pan fydd yn eu gwerthu. |
| Cynllun Buddsoddiad Menter (yn agor tudalen Saesneg) (EIS) | Oedi neu leihau eich Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn defnyddio enillion i brynu cyfranddaliadau heb eu rhestru mewn cwmnïau sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer EIS. |
| Cynllun Buddsoddiad Menter Seed (yn agor tudalen Saesneg) (SEIS) | Peidiwch â thalu Treth Enillion Cyfalaf ar enillion hyd at £100,000 os byddwch yn defnyddio enillion i brynu cyfranddaliadau newydd mewn cwmnïau bach cam cynnar sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer SEIS. |
| Rhyddhad Treigl (yn agor tudalen Saesneg) | Oedi talu Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn gwerthu cyfranddaliadau heb eu rhestru i ymddiriedolwyr Cynllun Cymhelliant Cyfranddaliadau (SIP) ac yn defnyddio’r elw i brynu asedau newydd. |
Mae cyfranddaliadau’n ‘heb eu rhestru’ os ydynt mewn cwmni nad yw wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain nac ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig dramor.