Gwirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol

Mae’r gwasanaeth hwn yn cwmpasu’r flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025).

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio’ch cod treth a’ch Lwfans Personol
  • gweld eich incwm amcangyfrifedig o unrhyw swyddi a phensiynau a’r dreth y gallwch ddisgwyl ei thalu ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
  • diweddaru manylion eich incwm o swyddi a phensiynau — mae’n bosibl y byddwch yn talu gormod o dreth neu ddim digon ohoni os nad ydyn nhw’n gyfoes
  • gweld a yw’ch cod treth wedi newid
  • rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am newidiadau sy’n effeithio ar eich cod treth
  • diweddaru manylion eich cyflogwr neu fanylion darparwr eich pensiwn

Ni allwch wirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol os ydych yn talu Treth Incwm drwy Hunanasesiad yn unig.

Cyn i chi ddechrau

I wirio’ch Treth Incwm, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Os nad oes gennych gyfrif treth personol

Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu cyfrif treth personol. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post arnoch, a dau o’r canlynol:

  • pasbort dilys y DU

  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU, a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)

  • slip cyflog o’r tri mis diwethaf neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf

  • manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un

  • manylion o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad (yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf), os cyflwynoch un

  • gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (fel benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)

Gwirio’ch Treth Incwm

Dechrau nawr

Os na allwch greu cyfrif treth personol

Cysylltwch â CThEF am gyngor os na allwch greu cyfrif treth personol.

Gallwch hefyd amcangyfrif faint o Dreth Incwm y dylech ei thalu’r flwyddyn hon (yn Saesneg) heb fewngofnodi.

Gwirio treth ar gyfer blynyddoedd blaenorol

Mae ffordd wahanol o wirio faint o Dreth Incwm a daloch y llynedd (6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024).

Gallwch hefyd amcangyfrif faint y dylech fod wedi’i dalu ar gyfer blwyddyn flaenorol (yn Saesneg) heb fewngofnodi.