Canllawiau

Diogelu ac amddiffyn pobl ar gyfer elusennau ac ymddiriedolwyr

Beth i'w wneud i warchod pobl sy'n dod i gysylltiad â'ch elusen trwy ei gwaith rhag cael eu cam-drin neu rhag unrhyw fath o gamdriniaeth.

Applies to England and Wales

Rheoli’r risgiau

Dylai diogelu pobl a chyfrifoldebau diogelu fod yn flaenoriaeth lywodraethu i bob elusen. Mae’n rhan sylfaenol o weithredu fel elusen er budd y cyhoedd.

Fel rhan o gyflawni’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr, boed yn gweithio ar-lein neu wyneb yn wyneb, mae’n rhaid i chi gymrydcamau rhesymol i ddiogelu rhag niwed, y rhai sy’n dod i gyswllt â’ch elusen.

Mae hyn yn cynnwys:

  • pobl sy’n elwa o waith eich elusen

  • staff

  • gwirfoddolwyr

  • pobl eraill sy’n dod i gyswllt â’ch elusen trwy ei gwaith

Bydd y Comisiwn Elusennau yn dwyn ymddiriedolwyr i gyfrif os fydd pethau’n mynd o chwith a bydd yn gwirio bod ymddiriedolwyr wedi dilyn y canllaw hwn yn ogystal a’r gyfraith. Mae disgwyl i ymddiriedolwyr gymryd cyfrifoldeb am unioni pethau.

Bydd y Comisiwn yn cyfeirio pryderon at asiantaethau diogelu perthnasol lle bod angen er mwyn cymryd camau pellach gan nad yw’n gorff enwebedig sydd â’r pŵer i roi deddfwriaeth diogelu ar waith.

Dylai ymddiriedolwyr hyrwyddo diwylliant agored a chadarnhaol a sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig yn teimlo y gallant adrodd am bryderon, yn hyderus y byddent yn cael eu clywed ac yr ymatebir iddynt.

Rydym yn disgwyl i bob ymddiriedolwr sicrhau bod eu helusen:

  • gyda polisïau a gweithdrefnau priodol yn eu lle, sy’n cael eu dilyn gan bob ymddiriedolwr, gwirfoddolwr a buddiolwr

  • yn sicrhau bod pobl yn addas i weithredu yn eu rolau

  • yn gwybod sut i adnabod ac ymdrin â phryderon mewn modd llawn ac agored

  • gyda system glir o atgyfeirio neu adrodd i asiantaethau perthnasol cyn gynted ag y caiff pryderon eu hamau neu eu nodi

  • yn nodi risgiau a sut y byddant yn cael eu rheoli mewn cofrestr risg a adolygir yn rheolaidd

  • yn dilyn canllawiau statudol, canllawiau arfer da a deddfwriaeth sy’n berthnasol i’w helusen: mae’r canllaw hwn yn cysylltu â’r prif ffynonellau gwybodaeth

  • yn gyflym i ymateb i bryderon ac yn cynnal ymchwiliadau priodol

  • ddim yn anwybyddu niwed neu’n bychanu methiannau

  • gyda fwrdd ymddiriedolwyr cytbwys ac nid yw’n gadael i un ymddiriedolwr ddominyddu y gwaith – dylai ymddiriedolwyr gyd-weithio

  • yn sicrhau bod diogelu pobl rhag niwed yn ganolog i’w diwylliant

  • gyda digon o adnoddau, gan gynnwys staff/gwirfoddolwyr/ymddiriedolwyr hyfforddedig ar gyfer diogelu ac amddiffyn pobl

  • yn cynnal adolygiadau cyfnodol o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion diogelu

Darllenwch adnodd diogelu NCVO i gael cyngor ar sut i ddechrau diogelu.

Darllenwch y Cod Llywodraethu Elusennau i gael cyngor arfer gorau gan gynnwys gwybodaeth ar ddiogelu.

Darllenwch ‘Llywodraethu da ar gyfer diogelu’ gan Bond i gael cymorth ar ddatblygu arfer da ar lywodraethu.

Os ydych yn gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg mae mwy o ofynion cyfreithiol diogelu. Mae’n rhaid i chi wirio os yw’r gofynion hyn yn gymwys i’ch elusen. Os ydynt, rhaid i chi weithio y tu fewn iddynt.

Mathau o Risgiau a Niwed

Boed ar-lein neu wyneb yn wyneb, mae niwed a risgiau y mae’n rhaid i chi fod yn wyliadwrus iddynt yn cynnwys:

  • aflonyddu rhywiol, cam-drin a chamfanteisio

  • camfanteisio troseddol

  • diwylliant elusen, a all ganiatáu ymddygiad gwael ac atebolrwydd gwael

  • pobl yn camddefnyddio safle o ymddiriedaeth sydd ganddynt o fewn elusen

  • bwlio neu aflonyddu

  • iechyd a diogelwch

  • ecsbloetio masnachol

  • cam-drin seiber

  • gwahaniaethu ar unrhyw un o’r seiliau yn Neddf Cydraddoldeb 2010

  • pobl yn targedu eich elusen

  • toriadau data, gan gynnwys y rhai o dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

  • triniaeth esgeulus

  • cam-drin domestig

  • hunan-esgeuluso

  • cam-drin corfforol neu emosiynol

  • eithafiaeth a radicaleiddio

  • priodas gorfodol

  • caethwasiaeth fodern

  • masnachu pobl

  • anffurfio organau cenhedlu benywod

Polisïau, gweithdrefnau ac arferion mae angen i chi gael

Dylai polisïau a gweithdrefnau eich elusen ar gyfer amddiffyn pobl a diogelu:

  • gael eu rhoi ar waith

  • fod yn ymatebol i newid

  • gael eu adolygu yn ôl yr angen, bob amser ar ôl digwyddiad difrifol ac o leiaf unwaith y flwyddyn

  • fod ar gael i’r cyhoedd

  • gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, gan nodi y gall hyn amrywio yn dibynnu ar gyda phwy rydych yn gweithio

Sicrhewch bod pob ymddiriedolwr, staff, gwirfoddolwr, partner a buddiolwr yn ymwybodol o’ch polisïau. Mae angen iddynt i gyd wybod sut i’w cymhwyso.

Yn eich polisïau eglurwch sut y byddwch yn:

  • amddiffyn pobl rhag niwed

  • sicrhau bod pobl yn gallu codi pryderon diogelu

  • ymdrin â honiadau neu ddigwyddiadau

  • ymateb, gan gynnwys adrodd i’r awdurdodau perthnasol

Mae maint y manylion yn eich polisïau yn dibynnu ar yr hyn mae eich elusen yn gwneud, ble mae’n gweithredu, ac os yw’n gweithredu’n bersonol neu ar-lein a lefel y risg.

Defnyddiwch ganllawiau i helpu gyda’ch polisïau a’ch gweithdrefnau, gan gynnwys y dolenni i ffynonellau cymorth penodol ar y dudalen hon. Derbynwch gyngor arbenigol neu broffesiynol os oes ei angen arnoch.

Cod ymddygiad

Os oes gennych chi staff neu wirfoddolwyr, mae’n rhaid i chi gael cod ymddygiad clir sy’n nodi:

  • diwylliant a gwerthoedd eich elusen

  • sut y dylai pobl yn eich elusen ymddwyn

Darllenwch y Cod Llywodraethu Elusennau.

Darllenwch Egwyddorion Moesegol Elusennau NCVO i gael cymorth gyda pholisïau ar adnabod a datrys materion moesegol wrth ystyried eich cod ymddygiad.

Polisïau eraill mae angen i chi gael

Hefyd, mae angen i chi sicrhau bod gan eich elusen:

  • drefniadau iechyd a diogelwch addas ar waith

  • bolisïau cymorth cyntaf, diogelwch tân a diogelwch digidol mae pawb yn deall

  • bolisïau lles, disgyblaeth a chwythu’r chwiban ar gyfer staff os oes gennych rai

  • proses gwyno ar gyfer defnyddwyr ac eraill sydd â phryderon

Gwirio polisïau, gweithdrefnau ac arferion eich elusen

Rhaid i ymddiriedolwyr fod yn sicr bod yr holl bolisïau, gweithdrefnau ac arferion yn cael eu gwirio a’u herio er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y dibenion. Rhaid i chi sicrhau bod eich elusen:

  • yn gweithio o fewn yr holl ganllawiau statudol perthnasol

  • yn cadw cofnodion cywir

  • yn parhau i fod yn ymwybodol o faterion cyfoes, tueddiadau a themâu a sut y gall y rhain ddylanwadu ar eich polisïau a’ch arferion

  • yn cydymffurfio â’i pholisïau a’i gweithdrefnau, yn ogystal ag arfer da a deddfwriaeth

  • diweddaru polisïau a gweithdrefnau er mwyn adlewyrchu newidiadau i ofynion statudol, arfer da a materion cyfoes

Dylai fod gan bob ymddiriedolwr trosolwg glir o sut mae diogelu ac amddiffyn pobl rhag niwed yn cael eu rheoli o fewn eu helusen. Mae hyn yn golygu bod angen i chi fonitro eich perfformiad, nid yn unig gan ddefnyddio ystadegau, ond gyda gwybodaeth ategol, fel adroddiadau ansoddol. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall themâu cyffredin, nodi risgiau a bylchau fel y gallwch sicrhau eu bod yn cael sylw.

Os byddwch yn newid y ffordd rydych yn gweithio, megis gweithio mewn maes newydd neu mewn ffordd wahanol, dylech:

  • adolygu eich polisïau presennol a sicrhau eu bod yn addas

  • ystyried os oes angen unrhyw bolisïau ychwanegol er mwyn cwmpasu unrhyw sefyllfaoedd neu risgiau newydd

  • gofnodi’r trafodaethau a’r penderfyniadau hyn fel rhan o’ch gweithdrefnau rheoli risg

Gall ymddiriedolwyr ddefnyddio nifer o bethau er mwyn helpu gyda’u gwirio a’u sicrwydd, gan gynnwys:

  • cofnodi’r risgiau a wynebir gan eich elusen a sut y caiff y rhain eu rheoli

  • siarad â phobl yn eich elusen a buddiolwyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall sut i godi pryderon ac i dderbyn adborth ar brofiadau blaenorol

  • cynnal gwiriadau ar unrhyw safleoedd y gall eich elusen weithio ynddynt a gweld unrhyw waith papur angenrheidiol

  • gweithio gydag asiantaethau statudol a phartneriaid

  • gosod cynlluniau hyfforddi ar gyfer ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr ar ddiogelu ac amddiffyn pobl rhag niwed

  • cofnodi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ar unrhyw lefel

  • cael eitem sefydlog ar yr agenda ar ddiogelu ac amddiffyn pobl rhag niwed mewn cyfarfodydd

  • adolygu sampl o bryderon y gorffennol er mwyn nodi unrhyw wersi i’w dysgu a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn briodol

  • trefnu adolygiadau neu arolygiadau allanol

Cael gwiriadau ar ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr

Rhaid i chi sicrhau bod ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr yn addas ac yn gallu gweithredu yn gyfreithiol yn eu swyddi. Mae hyn yn cynnwys pobl o dramor neu sy’n gweithio dramor.

Efallai y bydd angen i chi dderbyn:

  • gwiriadau cofnodion troseddol

  • geirda a gwiriadau ar fylchau mewn hanes gwaith

  • cadarnhad bod staff yn gallu gweithio yn y DU

  • gwiriadau iechyd

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) – gwiriadau cofnodion troseddol

Dylech ystyried os dylech ddefnyddio gwiriadau DBS fel rhan o’ch ystod eang o wiriadau ar ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr. Dylid eu defnyddio ochr yn ochr â geirdaon a chyfweliadau er mwyn rhoi golwg eang a gwybodus i chi er mwyn rheoli’r risg o gamdriniaeth neu niwed. Dylech adolygu pa wiriadau sydd eu hangen wrth i’ch elusen esblygu neu wrth i rolau unigol newid.

Mae llawer o swyddi’n gymwys ar gyfer gwiriadau DBS lefel safonol neu uwch, fel y rhai sy’n gweithio:

  • gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg o dan rai amgylchiadau

  • mewn cyfrifyddiaeth/cyllid

  • yn y proffesiwn cyfreithiol

  • gydag anifeiliaid, er o fewn amgylchiadau cyfyngedig

Dylai ymddiriedolwyr asesu risg pob rôl gan ystyried yr amgylchedd gwaith er mwyn penderfynu os ydynt yn gymwys i gael gwiriad ac os felly, ar ba lefel.

Sicrhewch wiriad safonol, manylach neu uwch bob amser gyda rhestr waharddedig gan y DBS pan fydd rôl yn gymwys ar gyfer un.

Nid yw pob rôl sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg yn gymwys i gael gwiriad safonol neu uwch. Dylech gael gwiriad sylfaenol os yw eich asesiad risg yn pennu ei fod yn briodol.

Darganfyddwch pa wiriadau sydd ar gael gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Defnyddiwch y DBS gwiriwr cymhwyster a taflenni canllaw er mwyn penderfynu pa wiriadau i’w cynnal.

Os gofynnwch am gofnodion troseddol mae’n rhaid bod gennych bolisi ar waith sy’n nodi sail gyfreithlon ac amod ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon, er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Rhaid i elusen sy’n defnyddio gwybodaeth o’r DBS hefyd gael polisi ar recriwtio cyn-droseddwyr, er mwyn cydymffurfio â Chod Ymarfer y DBS. Mae gan y DBS ganllawiau ar hyn.

Ystyriwch ofyn i ymgeiswyr DBS gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru neu ystyried cynnal gwiriadau DBS pellach yn rheolaidd.

Mae gan NACRO ganllawiau ar ddelio â gwiriadau DBS ac asesiadau risg cofnodion troseddol.

Pobl o dramor

Mae’n broses wahanol i gael gwiriadau ar gyfer ymddiriedolwyr, staff neu wirfoddolwyr o dramor.

Darllenwch y canllawiau ar gael gwiriadau i bobl o dramor.

Gallwch ymuno â’r Cynllun Datgelu Camymddwyn i gael gwiriadau ychwanegol ar staff rhyngwladol.

Anfon gweithwyr dramor

Ble na allwch gael gwiriad DBS ar gyfer rhywun sy’n mynd i weithio dramor, efallai y gallant gael tystysgrif Amddiffyn Plant Rhyngwladol.

Diarddeliad awtomatig

Peidiwch â phenodi unrhyw un sydd wedi cael ei anghymhwyso fel ymddiriedolwr neu i swydd uwch reolwr (ar lefel prif weithredwr neu gyfarwyddwr cyllid).

Canllawiau ar ddiarddeliad a gwiriadau i’w gwneud.

Amddiffyn gwirfoddolwyr a staff

Os oes gan eich elusen wirfoddolwyr neu staff, mae angen i chi eu diogelu rhag niwed.

Rhaid cael polisïau a gweithdrefnau clir ar:

  • fwlio ac aflonyddu a

  • chwythu’r chwiban

Darllenwch adroddiad ACEVO ar fwlio yn y gweithle mewn elusennau. Mae Adran 7 yr adroddiad yn archwilio sut y gellir creu ddiwylliant o fwlio ac mae’n rhoi chwech argymhelliad er mwyn creu systemau mwy diogel i frwydro yn erbyn hyn.

Mae angen i chi gael yswiriant digonol ar gyfer yr unigolion a’r gweithgareddau dan sylw.

Elusennau ac yswiriant.

Diogelu plant neu oedolion sy’n wynebu risg

Os yw’ch elusen yn gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg, naill ai ar-lein neu’n bersonol, dylech:

  • sefydlu polisïau a gweithdrefnau diogelu priodol ble mae’r holl ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr yn eu dilyn, sy’n cyd-fynd â pholisïau a gweithdrefnau partneriaeth diogelu neu fwrdd diogelu plant neu oedolion eich awdurdod lleol

  • sicrhau bod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant rheolaidd ar amddiffyn plant neu weithio gydag oedolion sy’n wynebu risg

  • penodi arweinydd diogelu i weithio gyda phartneriaethau neu fyrddau diogelu eich awdurdod lleol a/neu greu cynllun ar gyfer ymateb i bryderon dramor

  • rheoli pryderon, cwynion, chwythu’r chwiban a honiadau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion sy’n wynebu risg yn effeithiol

  • cael polisïau clir pan fydd angen gwneud gwiriadau DBS, sut rydych yn asesu lefel y gwiriad sydd ei angen a sut rydych yn trin y wybodaeth

Rhaid i chi ddilyn deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol.

Nodwch bartneriaeth neu fwrdd diogelu plant neu oedolion eich awdurdod lleol.

Maent yn:

  • cydlynu diogelu a hyrwyddo lles plant neu oedolion sy’n wynebu risg yn yr ardal

  • cyhoeddi polisïau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu mae’n rhaid i chi ddilyn

Gallwch ddod o hyd i’ch partneriaeth neu fwrdd awdurdod lleol ar-lein.

Diogelu plant

Mae dyletswyddau diogelu plant yn berthnasol i unrhyw elusen sy’n gweithio gydag, neu’n dod i mewn i gysylltiad ag, unrhyw un o dan 18 oed.

Defnyddiwch adnoddau a dilyn safonau gan yr NSPCC ar gyfer diogelu plant. Mae diogelu plant yn golygu:

  • amddiffyn plant rhag camdriniaeth

  • atal niwed i iechyd neu ddatblygiad plant

  • sicrhau bod plant yn tyfu i fyny gyda darpariaeth gofal diogel ac effeithiol

  • cymryd camau i alluogi bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y canlyniadau gorau

Diogelu oedolion sy’n wynebu risg

Mae diogelu oedolion sy’n wynebu risg yn golygu amddiffyn eu hawl i fyw’n ddiogel ac yn rhydd rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Gall fod gan eich elusen ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr, buddiolwyr neu gysylltiadau eraill sy’n cael eu adnabod fel oedolion sy’n wynebu risg.

Mae dyletswyddau diogelu oedolion sy’n wynebu risg yn berthnasol i unrhyw elusen sy’n gweithio gydag unrhyw un 18 oed neu hŷn sydd:

  • ag anghenion gofal a chymorth (pe bai’r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny neu peidio); ac

  • yn profi, neu mewn perygl o dderbyn, camdriniaeth neu esgeulustod; ac

  • o ganlyniad i’r anghenion gofal a chymorth hynny yn methu ag amddiffyn eu hunain rhag y risg o gamdriniaeth neu esgeulustod, neu’r profiad o hynny.

Gall oedolyn sy’n wynebu risg o gael ei gam-drin:

  • gael salwch sy’n effeithio ar iechyd meddwl neu gorfforol

  • fod ag anabledd dysgu

  • ddioddef o broblemau cyffuriau neu alcohol

  • fod yn fregus

Gweithredu ar-lein

Mae gweithredu ar-lein yn cynnwys risgiau diogelu penodol sy’n gysylltiedig ag amddiffyn pobl rhag cam-drin a diogelu gwybodaeth sensitif. Rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu rheoli a’u hadlewyrchu yn eich polisïau a’ch arferion.

  • Cynnwys: oes gan eich elusen reolaeth ddigonol dros ei wefan a’i chyfrifon cyfryngau cymdeithasol? Pwy all bostio gwybodaeth ac a yw’r holl gynnwys yn addas ar gyfer eich elusen?

  • Cysylltiad: sut mae pobl yn siarad â’i gilydd wrth ddefnyddio eich gwasanaethau ar-lein a sut ydych chi’n cadw defnyddwyr yn ddiogel? A oes angen cyfrineiriau ar bobl i gael mynediad at wasanaethau?

  • Ymddygiad: sut ydych chi’n monitro’r hyn y mae pobl yn gwneud, dweud ac yn rhannu wrth ddefnyddio eich gwasanaethau?

Rhaid i chi fod yn fodlon bod eich elusen yn nodi ac yn rheoli risgiau:

  • byddwch yn hyderus bod gwirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr yn deall sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein. Gallwch ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd uchel a rhoi mynediad drwy cyfrinair i gyfarfodydd er mwyn cefnogi hyn

  • sicrhewch fod y gwasanaethau ar-lein a ddarperir gennych yn addas ar gyfer eich defnyddwyr. Er enghraifft, defnyddiwch gyfyngiadau oedran a chynigiwch amddiffyniad cyfrinair er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel

  • sicrhewch eich bod yn gwybod bod y gwasanaethau y mae eich elusen yn eu defnyddio ac yn eu darparu yn ddiogel ac yn unol â chod ymddygiad eich elusen

  • diogelwch data personol pobl a dilynwch deddfwriaeth GDPR

  • sicrhewch bod gennych ganiatâd i arddangos unrhyw ddelweddau ar eich gwefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Efallai bydd angen caniatâd unigolyn neu riant arnoch

  • esbonio’n glir sut y gall defnyddwyr adrodd ar bryderon ar-lein

Mae adnoddau pellach y gall elusennau eu defnyddio ar gyfer cymorth wrth weithio ar-lein, megis Internet Matters, Get Safe Online ac NSPCC.

Gweithio dramor

Rhaid i chi:

  • fod yn ymwybodol o wahanol risgiau i staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr sydd dramor

  • gael prosesau adrodd a monitro addas ar waith ar gyfer unrhyw waith dramor

  • fonitro ble rydych yn gweithio am unrhyw newidiadau neu systemau diogelwch newydd sydd eu hangen

Mae heriau gweithio dramor yn cynnwys:

  • diwylliannau, arferion neu systemau cyfreithiol gwahanol

  • amgylchedd ansefydlog, fel ardal gwrthdaro

  • gweithio gyda llawer o bartneriaid

Dylech ddefnyddio’r un arferion ag yn Lloegr ac yng Nghymru a sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion ychwanegol y wlad arall.

Dilynwch y Safon Ddyngarol Graidd ar Ansawdd ac Atebolrwydd ar gyfer gwaith dyngarol tramor a Safonau Gweithredu Isafswm y Pwyllgor Sefydlog Rhyngasiantaethol ar gyfer Amddiffyn rhag Camfanteisio a Cham-drin Rhywiol os yw’n berthnasol.

Mae’n rhaid eich bod yn gwybod pryd i adrodd:

  • materion i’r rhai sy’n gorfodi’r gyfraith yn y wlad rydych yn gweithio ynddi

  • i’r heddlu yn y DU

Gallwch ddod o hyd i adnoddau ar-lein i helpu gyda gweithio dramor. Mae’r rhain yn cynnwys:

Defnyddiwch dempledi sy’n briodol i’ch elusen yn unig.

Delio ac adrodd ar ddigwyddiadau a phryderon

Os oes gennych ddigwyddiad neu honiad o gamdriniaeth dylech:

  • ei drin a’i gofnodi mewn ffordd ddiogel a chyfrifol

  • ddilyn eich polisïau a gweithdrefnau amddiffyn pobl a diogelu

  • gweithredu’n gyflym, gan sicrhau eich bod yn atal neu’n lleihau unrhyw niwed neu ddifrod ychwanegol

  • adrodd amdano i’r holl asiantaethau a rheolyddion perthnasol pan fod angen

  • gynllunio beth i’w ddweud wrth y rhai sy’n ymwneud â’ch elusen a’r cyfryngau os yw’n briodol

  • bod mor agored a thryloyw â phosibl, fel eich bod yn datblygu enw da’r elusen ar gyfer gweithredu gyda gonestrwydd tra’n diogelu cyfrinachedd yn briodol

  • adolygu beth ddigwyddodd i ddeall sut i’w atal rhag ddigwydd eto

Defnyddiwch canllaw ar ymdrin â honiadau diogelu mewn elusen i gael cymorth ar ymdrin â digwyddiadau a phryderon.

Dylech ystyried os yw’r digwyddiad neu bryder yn cynnwys ymddygiad troseddol ac os oes angen i chi felly adrodd amdano i’r heddlu. Dilynwch ein canllaw ar adrodd i’r heddlu (ODT, 33.7 KB) i gael manylion pellach.

Mae yna reoleiddwyr arall y gallai fod angen i chi adrodd arnynt neu gyfeirio atynt, yn ogystal ag adrannau’r Llywodraeth lle mae’r rhain yn darparu cyllid, yn dibynnu ar yr hyn y mae eich elusen yn gwneud.

Mewn rhai achosion, dylech anfon adroddiad digwyddiad difrifol i’r Comisiwn Elusennau.

Os ydych yn gweithio neu’n gwirfoddoli i elusen gallwch hefyd roi gwybod i ni amdano gan ddefnyddio ein gweithdrefn chwythu’r chwiban.

Os ydych yn gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg

Cyfeiriwch unrhyw bryderon diogelu sy’n ymwneud â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg at eich tîm diogelu plant lleol (LADO) neu eich tîm oedolion.

Gallwch hefyd gyfeirio pryderon at y DBS a rhaid i chi gyfeirio at y DBS os ydych:

Gweithio gyda sefydliadau eraill neu roi grantiau iddynt

Cyflawni diwydrwydd dyladwy priodol pan fyddwch yn gweithio gydag unrhyw gyrff eraill, neu’n rhoi grantiau iddynt, gan gynnwys:

  • partneriaid cyflawni

  • is-gwmnïau masnachu’r elusen, gan gynnwys siopau elusen

  • sefydliadau rydych yn ariannu

  • elusennau cysylltiedig

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw dderbynnydd grant neu gorff partner yn addas. Rhaid iddynt gael gweithdrefnau diogelu priodol ar waith. Sicrhewch fod llinellau cyfrifoldeb ac adrodd clir rhwng yr holl gyrff dan sylw.

Sut i gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy

Defnyddiwch Diwydrwydd dyladwy estynedig yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol: diogelu ar gyfer partneriaid allanol i gael rhagor o gymorth ar hyn.

Darllenwch ein canllawiau ynghylch cyllido sefydliad nad yw’n elusen os ydych yn ystyried rhoi grantiau i fathau eraill o sefydliadau.

Dylai fod gennych gytundeb neu gontract ysgrifenedig sy’n nodi:

  • eich perthynas

  • rôl pob sefydliad

  • trefniadau monitro ac adrodd

Terfysgaeth a’r Ddyletswydd Prevent

Rhaid i bob elusen atal camddefnydd at ddibenion eithafiaeth.

Mae rhai elusennau, fel elusennau addysgol, yn ‘awdurdodau penodedig’. Rhaid iddynt ddilyn y canllawiau ar y ddyletswydd Prevent.

Lle ei fod yn briodol dylech hefyd ddilyn:

Rhaid i hyn fod yn rhan o asesiadau risg, polisïau a gweithdrefnau eich elusen.

Lawrlwytho ffeithlun

Mae’r ddogfen hon yn grynodeb un dudalen o gamau diogelu i ymddiriedolwyr.

10 safeguarding actions for charity trustees (infographic) (PDF, 122 KB, 1 page)

Fersiwn testun o’r ffeithlun

10 cam y mae angen i fyrddau ymddiriedolwyr eu cymryd er mwyn sicrhau llywodraethu diogelu da

Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth lywodraethu allweddol i bob elusen.

Sicrhewch fod gan eich elusen bolisi diogelu digonol, cod ymddygiad ac unrhyw weithdrefnau diogelu arall. Adolygwch a diweddarwch y polisi a’r gweithdrefnau yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r dibenion.

Nodwch risgiau posibl, gan gynnwys risgiau i’ch buddiolwyr neu i unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’ch elusen ac unrhyw risgiau sy’n dod i’r amlwg ar y gorwel.

Ystyriwch sut i wella’r diwylliant diogelu yn eich elusen.

Sicrhewch bod pawb sy’n ymwneud â’r elusen yn gwybod sut i adnabod, ymateb i, adrodd a chofnodi pryder diogelu.

Sicrhewch bod pobl yn gwybod sut i godi pryder diogelu.

Gwerthuswch unrhyw hyfforddiant diogelu a ddarperir yn gyson, gan sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol.

Adolygwch pa swyddi o fewn yr elusen sy’n gallu ac sy’n rhaid cael gwiriad DBS gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cewch proses asesu risg ar waith ar gyfer swyddi nad ydynt yn gymwys ar gyfer gwiriad DBS, ond sy’n dal i fod mewn cysylltiad â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg.

Adolygwch eich polisi a’ch gweithdrefnau diogelu o bryd i’w gilydd, gan ddysgu o unrhyw ddigwyddiad difrifol neu ‘fethiant agos’.

Os ydych yn gweithio dramor, darganfyddwch pa wahanol wiriadau a diwydrwydd dyladwy y mae angen i chi eu cynnal mewn ardaloedd gweithredu daearyddol gwahanol.

Yn y canllaw hwn:

  • mae ‘rhaid’ yn golygu bod rhywbeth yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol neu ddyletswydd y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio ag ef

  • mae ‘dylai’ yn golygu rhywbeth sy’n arfer da y mae’r Comisiwn yn disgwyl i ymddiriedolwyr ei ddilyn a’i gymhwyso i’w helusen

Cyhoeddwyd ar 6 December 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 June 2022 + show all updates
  1. Updated links to external resources.

  2. This update includes a new section on managing the safeguarding risks when operating online. It also updates some terminology and links to other sources of support.

  3. Updated guidance including, when to consider DBS checks, how to put in to practice policies and procedures along with new sector resource signposting.

  4. We have added information on protecting staff and volunteers in a charity, working with children and adults at risk and working overseas.

  5. We have added information on 'Disqualification of trustees' and a link to more detail and waiver forms following changes to disqualification rules on 1 August 2018.

  6. First published.