Canllawiau

Rhoi gwybod am eich tâl ar fenthyciad tâl cuddiedig a rhoi cyfrif amdano

Sut i roi gwybod am fanylion eich cynllun benthyciad tâl cuddiedig a rhoi cyfrif am eich rhwymedigaeth o ran tâl ar fenthyciad.

Bydd y canllaw hwn yn cael ei ddiweddaru’n llawn ar ddechrau 2024.

Darllenwch friff gwybodaeth CThEF: setlo defnydd cynllun tâl cuddiedig a/neu dalu’r tâl ar fenthyciad (yn Saesneg) i gael yr arweiniad diweddaraf ynghylch setlo defnydd cynllun tâl cuddiedig a thalu’r tâl ar fenthyciad.

Adolygiad o’r tâl ar fenthyciad

Mae’r adolygiad o’r tâl ar fenthyciad (yn Saesneg) bellach wedi ei gwblhau. Cyhoeddodd y llywodraeth ei hymateb (yn Saesneg) ar 20 Rhagfyr 2019.

Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu’r newidiadau i’r tâl ar fenthyciad o ganlyniad i’r adolygiad. Mae hefyd arweiniad manylach (yn Saesneg) ar gael ar y newidiadau allweddol a’r hyn y maent yn ei olygu i chi.

Trosolwg

Defnyddir cynlluniau benthyciad tâl cuddiedig er mwyn osgoi talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Ystyrir bod gennych fenthyciad tâl cuddiedig pan gewch eich talu am waith neu wasanaethau ar ffurf benthyciad neu fath arall o gredyd, mewn modd sy’n golygu ei fod yn annhebygol o gael ei ad-dalu.

Os cawsoch gredyd neu fenthyciad tâl cuddiedig ar neu ar ôl 9 Rhagfyr 2010, mae’n bosibl ei fod yn agored i dâl treth, oni bai eich bod chi neu’ch cyflogwr wedi rhoi cyfrif yn flaenorol am yr holl dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar yr incwm a gafwyd fel benthyciad.

Yr enw ar y tâl treth hwn yw ‘tâl ar fenthyciad’.

Bydd y tâl ar fenthyciad yn berthnasol i fenthyciadau tâl cuddiedig a wnaed ar, neu ar ôl, 9 Rhagfyr 2010, ac a oedd yn dal i fod heb eu talu ar 5 Ebrill 2019. Ni fydd yn berthnasol i fenthyciadau a wnaed rhwng 9 Rhagfyr 2010 a 5 Ebrill 2016 os cafodd y trefniadau benthyca eu datgelu i CThEM yn rhesymol (yn Saesneg) ar gyfer y flwyddyn dreth honno, ac os na wnaeth CThEM gymryd camau (er enghraifft, drwy agor ymchwiliad).

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM am bob benthyciad sy’n destun y tâl ar fenthyciad ac, os yw’n briodol, i’ch cyflogwr hefyd.

Os ydych chi neu’ch cyflogwr wedi talu’n gywir y dreth incwm a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol a oedd yn ddyledus ar fenthyciadau heb eu talu ar neu cyn 5 Ebrill 2019, ac wedi rhoi gwybod am hynny, ni fydd yn rhaid i chi roi gwybod am y tâl ar fenthyciad.

Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy’n seiliedig ar gyflogaeth, mae’n bosibl y bydd y tâl ar fenthyciad yn berthnasol i fenthyciadau heb eu talu a wnaed rhwng 9 Rhagfyr 2010 a 5 Ebrill 2019.

Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy’n seiliedig ar fasnach neu hunangyflogaeth, mae’n bosibl y bydd y tâl ar fenthyciad yn berthnasol i fenthyciadau heb eu talu a wnaed rhwng 9 Rhagfyr 2010 a 5 Ebrill 2017. Mae unrhyw fenthyciadau tâl cuddiedig sy’n dod i law ar ôl y dyddiadau hyn yn dal yn agored i Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn berthnasol.

Y tâl ar fenthyciad

Mae’r tâl ar fenthyciad yn effeithio ar unigolion sydd wedi defnyddio cynlluniau arbed treth tâl cuddiedig ac sydd heb ad-dalu eu benthyciadau, neu sydd heb roi’r holl wybodaeth setlo angenrheidiol i CThEM cyn neu ar 5 Ebrill 2019.

Mae’r tâl ar fenthyciad hefyd yn effeithio ar gyflogwyr a roddodd gyllid benthyciad drwy gynlluniau arbed treth tâl cuddiedig os na wnaeth eu cyflogeion neu eu cyn-gyflogeion ad-dalu eu benthyciadau, na rhoi’r holl wybodaeth setlo angenrheidiol i CThEM, a hynny erbyn 5 Ebrill 2019.

Nid yw talu’r tâl ar fenthyciad yn datrys anghydfod treth sylfaenol gyda CThEM ar gyfer y blynyddoedd y gwnaed y benthyciadau ynddynt. Bydd yn dal i fod angen mynd i’r afael â’r blynyddoedd treth sy’n destun ymchwiliad agored neu asesiad.

Os hoffech ddatrys eich holl faterion treth sy’n ymwneud â chynlluniau tâl cuddiedig, ac nad ydych eisoes yn y broses o’u setlo, dylech gysylltu â CThEM.

Cyfrifo’ch tâl ar fenthyciad

Mae benthyciad yn cael ei ystyried yn un heb ei dalu os yw’r cyfansymiau a fenthycwyd yn fwy na chyfanswm yr ad-daliadau sydd wedi’u gwneud. Mae pob benthyciad tâl cuddiedig o fewn cwmpas y tâl ar fenthyciad (yn Saesneg), sydd heb ei dalu ar neu cyn 5 Ebrill 2019, yn cael ei drin fel incwm cyflogaeth a gafwyd ar y dyddiad hwnnw, neu elw masnachu yn ystod blwyddyn dreth 2018 i 2019, yn dibynnu ar y math o gynllun a ddefnyddiwyd.

Mae hyn yn golygu y bydd benthyciadau sydd heb eu talu ar 5 Ebrill 2019 yn agored i Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol fel pe baent yn enillion neu’n elw a gafwyd yn ystod blwyddyn dreth 2018 i 2019.

Fel rhan o’r adolygiad o’r tâl ar fenthyciad, llwyddodd unigolyn i ddewis rhannu (yn Saesneg) balans ei fenthyciad yn gyfartal dros 3 blynedd dreth (2018 i 2019, 2019 i 2020 a 2020 i 2021). Roedd yn rhaid iddo wneud hyn ar neu cyn 30 Medi 2020 er mwyn i ddewis cael ei wneud mewn pryd.

Os na wnaethoch ddewis ar neu cyn 30 Medi 2020, mae’n bosibl y gallwch wneud dewis hwyr. Mae yna amgylchiadau cyfyngedig (yn Saesneg) lle gallwn dderbyn dewis hwyr. Mae’r Datganiad Ymarfer (yn Saesneg) yn nodi’r meini prawf y byddwn yn eu hystyried ar gyfer dewisiadau hwyr a’r broses ar gyfer gwneud dewis hwyr.

I wneud cais am ddewis hwyr i rannu’ch balans dros 3 blynedd dreth, bydd angen i chi ofyn am fersiwn bapur o’r ffurflen adrodd am y tâl ar fenthyciad naill ai drwy:

  • anfon e-bost at ca.loancharge@hmrc.gov.uk gan ddefnyddio ‘dewis hwyr o ran tâl ar fenthyciad’ – ‘late loan charge election’ – yn y llinell pwnc
  • ffônio 0300 322 9494

Pan fyddwch yn anfon y ffurflen yn ôl, dylech roi gwybod i ni pam yr ydych yn gwneud dewis hwyr.

Os byddwch yn ceisio gwneud dewis hwyr, dylech gynnwys eich benthyciad llawn sydd heb ei dalu yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2018 i 2019, nes bod un o swyddogion CThEM wedi rhoi cadarnhad bod y dewis hwyr wedi’i dderbyn. Byddwn yn ystyried dewisiadau hwyr fesul achos ac yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am ein penderfyniad.

I gyfrifo gwerth eich benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu, efallai y bydd yn rhaid i chi wirio:

  • slipiau cyflog neu anfonebau a gawsoch ar gyfer gwaith a wnaed wrth ddefnyddio’r trefniadau hyn
  • unrhyw gontractau cyflogaeth neu gontractau gwasanaeth y gwnaethoch ymrwymo iddynt
  • cytundebau benthyciad a lofnodwyd gennych, neu unrhyw ddogfennau eraill a oedd yn rhan o’r trefniant tâl cuddiedig, fel llythyrau oddi wrth eich cyflogwr
  • eich cyfriflenni banc neu gwiriwch gyda’ch banc a oedd eich benthyciad wedi’i dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc (efallai y bydd rhai banciau’n codi ffi am chwilio drwy hen gofnodion)
  • eich P60
  • gyda’r bobl y cawsoch y benthyciad oddi wrthynt (ymddiriedolwyr mewn ymddiriedolaeth fel rheol), am wybodaeth am y benthyciadau

Budd-daliadau

Ni fydd balans eich benthyciad tâl cuddiedig sydd heb ei dalu’n cael ei drin fel enillion wrth gyfrifo’ch hawl i rai budd-daliadau sy’n ymwneud ag incwm, megis:

  • Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Gofalwr
  • Credydau Treth

Ad-daliadau benthyciad i’w diystyru

Os ydych wedi ad-dalu rhai o’ch benthyciadau, neu bob un ohonynt, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried hyn at ddibenion cyfrifo swm y benthyciadau sydd heb eu talu. Dim ond ad-daliadau dilys a wnaed ar neu cyn 5 Ebrill 2019 y gellir eu derbyn fel ad-daliadau benthyciad dilys.

Mae ad-daliadau didwyll yn cynnwys y rheiny lle nad yw swm yr ad-daliad yn cael ei gyfeirio’n ôl mewn rhyw fodd at y person a gafodd y benthyciad gwreiddiol, a’r rheiny lle nad yw’r ad-daliad yn gysylltiedig â chynllun pellach i arbed treth.

Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy’n seiliedig ar gyflogaeth, mae ad-daliadau a ddiystyrir yn cynnwys unrhyw ad-daliadau:

  • nad oeddent ar ffurf arian ac a wnaed ar neu ar ôl 17 Mawrth 2016
  • a oedd yn gysylltiedig â chynllun arbed ac a wnaed ar neu ar ôl 17 Mawrth 2016
  • a wnaed ar neu ar ôl 17 Mawrth 2016 gyda’r arian neu’r ased a ddefnyddiwyd yn yr ad-daliad yn destun ‘cam perthnasol’ dilynol, sy’n golygu bod y swm sy’n cael ei ad-dalu’n cael ei gyfeirio’n ôl wedyn atoch ar ryw ffurf

Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun seiliedig ar fasnach (a ddefnyddir gan fasnachwyr hunangyflogedig a phartneriaid mewn partneriaethau masnachu), mae ad-daliadau a ddiystyrir yn cynnwys y rheiny a wnaed ar neu ar ôl 5 Rhagfyr 2016:

  • nad ydynt ar ffurf arian
  • sy’n gysylltiedig â chynllun arbed treth

Hefyd, efallai y bydd yn rhaid i chi roi gwybodaeth o hyd am eich benthyciad a thalu’r tâl ar fenthyciad os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r benthyciad wedi cael ei ddileu neu ei ryddhau gan y benthyciwr heb setlo’r dreth ddyledus
  • rydych wedi ymrwymo i drefniadau dilynol sy’n ceisio cael gwared ar y rhwymedigaeth treth ar y symiau a roddwyd drwy’r cynllun

Bydd ad-daliadau a wnaed i unrhyw fenthyciad tâl cuddiedig ar neu cyn 5 Ebrill 2019 mewn arian cyfred dibrisiedig ond yn cyfrif hyd at werth sterling yr ad-daliad hwnnw.

Hysbysiadau i wneud Taliadau Cyflymedig

Os ydych wedi talu Hysbysiad i wneud Taliad Cyflymedig (APN) (yn Saesneg) ar gyfer cynllun arbed treth sy’n dod o dan y tâl ar fenthyciad, efallai y byddwch yn gallu gosod eich taliadau APN yn erbyn y tâl cyfan neu ran ohono.

Dim ond os yw’r APN ar gyfer yr un cynllun arbed treth ag y mae’r tâl ar fenthyciad yn berthnasol iddo, ac ar yr amod ei fod yn ymwneud â’ch benthyciad tâl cuddiedig heb ei dalu, y gallwch wneud hyn.

Mae’r ffordd rydych yn gwneud cais i osod yn erbyn eich taliadau APN yn wahanol yn dibynnu ar p’un a wnaethoch ddefnyddio cynllun sy’n seiliedig ar gyflogaeth neu gynllun sy’n seiliedig ar fasnach.

Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy’n seiliedig ar gyflogaeth

Pan anfonwyd APN atoch mewn perthynas â benthyciad rydych yn agored i dalu’r tâl ar fenthyciad ar ei gyfer, gallwch osod y taliad APN yn ei erbyn yn ffurfiol neu’n anffurfiol.

Pan anfonwyd APN at berson arall (er enghraifft, eich cyflogwr) mewn perthynas â benthyciad rydych yn agored i dalu’r tâl ar fenthyciad ar ei gyfer, gallwch osod y taliad APN yn ei erbyn yn anffurfiol yn unig. Dim ond hyd nes y bydd unrhyw apêl yn cael ei datrys y bydd y weithred hon o osod yn erbyn y taliad hwn yn ddilys.

Gofyn am osod yn erbyn taliad yn ffurfiol

Gallwch wneud cais i CThEM am i’ch taliadau APN ddod yn daliadau na ellir eu had-dalu ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar naill ai:

  • y tâl ar fenthyciad
  • unrhyw dâl cynharach ar yr un incwm

I ddefnyddio’ch taliad APN fel hyn ni ddylech fod wedi defnyddio’r taliad APN i dalu am dâl treth arall a bydd rhaid i chi roi gwybod y canlynol i CThEM:

  • enw ac SRN ar gyfer y cynllun mae’r APN yn berthnasol iddo
  • dyddiadau a symiau’r benthyciad gwreiddiol o dan yr APN
  • balans y benthyciad o dan yr APN ar 5 Ebrill 2019

Os ydych yn defnyddio’ch taliad APN fel hyn, ni ellir byth ei ad-dalu i chi, hyd yn oed os caiff y cynllun y mae’r APN yn berthnasol iddo ei herio ac nid yw CThEM yn ennill.

Er mwyn gwneud cais, dylech anfon e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk gan nodi ei fod yn gais i osod yn erbyn taliad yn ffurfiol (o dan adran 554Z11E ITEPA 2003). Yn yr e-bost, dylech gadarnhau eich bod yn derbyn nad oes modd tynnu’r cais pe bai CThEM yn ei dderbyn.

Gofyn am osod yn erbyn taliad yn anffurfiol

Dylech ofyn am osod yn erbyn taliad yn anffurfiol drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018 i 2019. Dylech nodi swm yr APN rydych wedi’i dalu (neu draean os ydych wedi dewis lledaenu’r balans) ym mlwch 15 y crynodeb o’r cyfrifiad treth (SA110) atodol. Dylech gynnwys nodyn ym mlwch 17 yn rhoi manylion, gan gynnwys enw a chyfeirnod y cynllun y mae’r APN yn berthnasol iddo (mae’r rhifau hyn yn ymwneud â’r ffurflen bapur).

Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy’n seiliedig ar fasnachu

Os ydych wedi talu APN, ac nad yw balans y benthyciad sy’n ddyledus ar 5 Ebrill 2019 yn fwy na swm yr APN, gallwch wneud cais am addasiad i’r tâl yr anfonwyd yr APN ar ei gyfer. Gallwch ofyn i’r swm y gwnaethoch ei dalu ar gyfer yr APN gael ei osod yn erbyn symiau’r tâl ar fenthyciad sy’n ddyledus.

Er mwyn gwneud cais, anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod y canlynol i CThEM:

  • enw a Chyfeirnod y Cynllun (SRN) ar gyfer y cynllun mae’r APN yn berthnasol iddo
  • dyddiadau a symiau’r benthyciad gwreiddiol o dan yr APN
  • balans y benthyciad o dan yr APN ar 5 Ebrill 2019
  • cadarnhad eich bod am ddefnyddio swm yr APN a dalwyd yn erbyn symiau’r tâl ar fenthyciad sy’n ddyledus

Rhyddhad Trethiant Dwbl

Os yw’ch benthyciad tâl cuddiedig yn destun tâl treth cynharach, gallwch ofyn i CThEM gredydu unrhyw swm a dalwyd eisoes neu y rhoddwyd cyfrif amdano pan fyddwch yn talu’r tâl ar fenthyciad.

Sut i roi gwybod am fenthyciad tâl cuddiedig

Mae’n rhaid i chi roi gwybod yn gywir i CThEM am unrhyw fenthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu sy’n agored i’r tâl ar fenthyciad, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Gallwch wneud hyn ar y ffurflen adrodd am y tâl ar fenthyciad.

Nid ydych bellach yn gallu cyflwyno’r ffurflen ar-lein. Dylech ofyn am fersiwn papur o’r ffurflen adrodd am y tâl benthyciad drwy gysylltu â ni naill ai drwy:

  • anfon e-bost atom yn ca.loancharge@hmrc.gov.uk gan ddefnyddio ‘loan charge reporting form request’ yn y llinell pwnc
  • drwy ein ffonio ar 0300 322 9494

Os ydych yn llenwi’r ffurflen ar ran rhywun arall, rhaid i chi gael ei rif Yswiriant Gwladol. Os oes gan y person hwnnw Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad, bydd angen y rhif hwnnw arnoch hefyd.

Mae’n rhaid i chi roi gwybodaeth am fenthyciadau o dan bob cynllun ar wahân. Dylid adio benthyciadau misol a wneir fel rhan o’r un trefniant at ei gilydd a’u dychwelyd fel un ar gyfer pob blwyddyn dreth.

Bydd rhaid i chi ddarparu manylion y trefniadau benthyca y gwnaethoch eu defnyddio ym mhob blwyddyn dreth. Bydd y manylion hyn yn cynnwys:

  • enw’r cynllun
  • dyddiadau dechrau a gorffen y cynlluniau a ddefnyddiwyd gennych
  • unrhyw gyfeirnod achos gan CThEM sydd gennych
  • eich rhif Datgelu Cynllun Arbed Treth, os oes gennych un
  • cyfanswm y benthyciad ym mhob blwyddyn dreth, gan gynnwys unrhyw symiau a ad-dalwyd neu a ddilëwyd
  • unrhyw symiau o dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi’u setlo eisoes

Bydd CThEM yn gwirio’r manylion a anfonwch ac yn cysylltu â chi os bydd angen i chi roi rhagor o wybodaeth. Os oes angen i chi ychwanegu cynllun arall, neu newid y manylion rydych wedi’u hanfon, bydd angen i chi anfon eich manylion eto ynghyd â’r newidiadau neu’r wybodaeth newydd.

Bydd y math o gynllun roeddech yn ei ddefnyddio yn dylanwadu ar sut a phryd bydd yn rhaid i chi roi’r wybodaeth i CThEM.

Caiff nodweddion cyffredinol y prif fathau o gynlluniau eu hesbonio isod. Mae’r gofynion o ran rhoi gwybod yn dibynnu ar natur y cynllun a ddefnyddiwyd, ac nid ar eich statws cyflogaeth nawr neu yn y gorffennol.

Er enghraifft, mae hyn yn golygu os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy’n seiliedig ar gyflogaeth, bydd yn rhaid i chi fodloni’r gofynion o ran rhai gwybod ar gyfer y cynllun hwnnw, hyd yn oed os ydych yn eich ystyried eich hun yn hunangyflogedig ar hyn o bryd.

Cynlluniau sy’n seiliedig ar gyflogaeth

Mae’ch cyflogwr yn darparu cyllid i drydydd parti (ymddiriedolaeth fel rheol) sy’n benthyca’r cyllid hwnnw i chi. Fel arfer, bydd gennych gontract cyflogaeth gyda’ch cyflogwr, a ddylai roi slipiau cyflog i chi.

Contractwr cyflogedig

Rydych yn darparu’ch gwasanaethau drwy drydydd parti a elwir yn ‘gyfryngwr’, sydd wedi’i leoli’n alltraeth fel rheol ac sy’n darparu cyllid i drydydd parti arall (ymddiriedolaeth yn aml). Wedyn mae’r ymddiriedolaeth yn benthyca’r cyllid hwnnw i chi.

Fel arall, mae’n bosibl eich bod wedi cael benthyciadau oddi wrth eich cyflogwr, ond efallai bod eich cyflogwr wedi trosglwyddo’r hawliau i ad-daliadau’ch benthyciad i drydydd parti.

Fel arfer, bydd gennych gontract cyflogaeth gyda’r cyfryngwr, a ddylai roi slipiau cyflog i chi.

Cynlluniau sy’n seiliedig ar fasnach

Efallai bod gennych gontract ar gyfer gwasanaethau, sy’n golygu eich bod yn gweithio’n hunangyflogedig, ar eich pen eich hun neu mewn partneriaeth, ac efallai y bydd taliadau wedi’u cyfeirio drwy ymddiriedolaeth alltraeth sy’n rhoi benthyg y cyllid hwnnw i chi. Gan eich bod yn hunangyflogedig, ni fyddai gennych gontract cyflogaeth na slip cyflog.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gynllun rydych wedi’i ddefnyddio, gallwch ffonio: 0300 200 1900 neu anfon e-bost at: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk

Cosbau

Os na wnaethoch roi gwybod i CThEM am fanylion eich benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu erbyn 30 Medi 2020, neu os nad yw’r wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir, mae’n bosibl y byddwch yn agored i’r canlynol:

  • cosb gychwynnol o £300
  • cosb bellach o hyd at £60 y diwrnod cyhyd â bod yr wybodaeth heb ddod i law o hyd, hyd at uchafswm o 90 diwrnod
  • cosb nad yw’n fwy na £3,000 ar gyfer pob anghywirdeb sy’n cael ei gynnwys yn fwriadol neu’n ddiofal yn yr wybodaeth a roddir, neu sy’n cael ei ddarganfod ar ôl i’r wybodaeth gael ei chyflwyno ac nid ydych yn rhoi gwybod i CThEM

Cyflogeion a chontractwyr sy’n defnyddio cynlluniau cyflogaeth

Mae’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud yn dibynnu ar statws presennol y cyflogwr yr oedd gennych drefniant benthyciad tâl cuddiedig gydag ef.

O ran eich cyflogwr neu gyn-gyflogwr:

  • os yw’n bodoli ac wedi’i leoli yn y DU, rhaid iddo roi cyfrif am y tâl ar fenthyciad a’i dalu ar eich rhan gan ddefnyddio TWE
  • os nad yw ar y gofrestr o gwmnïau bellach, neu os nad yw wedi’i leoli yn y DU, bydd yn rhaid i chi dalu’r tâl ar fenthyciad drwy eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Cyflogwr yn bodoli ac wedi’i leoli yn y DU

Bydd CThEM yn gyntaf yn mynd at y cyflogwr a roddodd y benthyciad tâl cuddiedig i chi er mwyn casglu’r tâl ar fenthyciad. Os nad yw’ch cyflogwr yn gallu talu’r tâl ar fenthyciad, efallai y bydd CThEM yn trosglwyddo hwn i chi (yn Saesneg) yn y dyfodol.

Dylech fod wedi rhoi gwybod i unrhyw gyflogwyr yr oedd gennych drefniadau benthyciad tâl cuddiedig â nhw am eich benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu. Dylech fod wedi gwneud hyn erbyn 15 Ebrill 2019. Os na wnaethoch hynny, mae’n rhaid i chi ei wneud nawr, a rhoi gwybod i CThEM. Ffôn: 0300 200 1900.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gwmni (yn Saesneg) os nad oes gennych unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer y cyflogwr.

Os yw’r cwmni’n ansolfent, dylech fod wedi anfon yr wybodaeth at yr ymarferydd ansolfedd sydd wedi’i benodi. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ansolfedd (yn Saesneg) am y cwmni os nad oes gennych ei fanylion cyswllt.

Dylech hefyd fod wedi rhoi gwybod am y tâl ar fenthyciad i CThEM, a’i gynnwys ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019. Mae unrhyw Ffurflenni Treth 2018 i 2019 a gyflwynir nawr yn hwyr a byddant yn agored i gosbau cyflwyno a thalu’n hwyr a llog ar unrhyw swm sy’n ddyledus, a godir o 1 Chwefror 2020.

Os gwnaethoch ddewis lledaenu balans eich benthyciad sydd heb ei dalu yn gyfartal dros 3 blynedd, bydd yn rhaid i chi hefyd gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn neu ar 31 Ionawr 2021. Bydd angen cyflwyno’r Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 cyn neu ar 31 Ionawr 2022.

Bydd angen i chi gynnwys y tâl ar fenthyciad ar gyfer pob blwyddyn dreth berthnasol gan ddefnyddio tudalennau atodol SA102. Dylech gynnwys yr holl incwm trethadwy sy’n ymwneud â’r flwyddyn dreth ym mhob Ffurflen Dreth, nid dim ond eich benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu.

Os yw’r cyflogwr perthnasol wedi’i leoli yn y DU, dylai fod wedi rhoi gwybod am unrhyw dâl ar fenthyciad tâl cuddiedig a’i dalu ar eich rhan. Os rhoddwyd gwybod am y tâl ar fenthyciad ar eich rhan, mae’n bosibl y byddai’r dreth hon wedi’i didynnu o unrhyw daliadau a wnaeth eich cyflogwr i chi drwy TWE. Fel arall, mae’n bosibl y gwnaethoch ad-dalu’r dreth i’ch cyflogwr.

Os na all eich cyflogwr ddidynnu’r rhwymedigaeth o ran tâl ar fenthyciad o’ch cyflog ym mhob blwyddyn dreth y mae’ch benthyciad sydd heb ei dalu wedi’i rannu iddi, dylech gytuno sut rydych yn mynd i ad-dalu’ch cyflogwr. Dylech ad-dalu’ch cyflogwr, a elwir yn ‘gwneud iawn’, erbyn 5 Gorffennaf 2021 ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021. Os na wnewch hyn, mae’n bosibl y bydd tâl treth pellach yn cael ei godi arnoch, a hynny ar y buddiant pan fydd eich cyflogwr yn talu’ch treth. Os na wnaethoch yn iawn unrhyw dreth a dalwyd gan eich cyflogwr ar gyfer blwyddyn 2019 i 2020 erbyn 5 Gorffennaf 2020, mae’n bosibl y bydd tâl treth pellach hefyd yn cael ei godi arnoch.

Dylai eich incwm cyflogaeth yn ystod pob blwyddyn dreth berthnasol gynnwys swm priodol y benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu, yn ogystal ag unrhyw incwm cyflogaeth arall. Mae’ch incwm cyflogaeth i’w weld ar eich P60, neu wybodaeth arall a roddwyd gan eich cyflogwr os ydych wedi gadael ei gyflogaeth.

Bydd yn rhaid i chi roi manylion eich incwm cyflogaeth sy’n berthnasol i’r tâl ar fenthyciad ar eich Ffurflen Dreth, ynghyd ag unrhyw incwm cyflogaeth arall a gawsoch yn ystod pob blwyddyn dreth berthnasol. Dylid dangos y benthyciadau a gawsoch drwy gynlluniau sy’n seiliedig ar fasnach ar wahân i’r symiau ar gyfer cynlluniau sy’n seiliedig ar gyflogaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr arweiniad sydd ynghlwm wrth eich Ffurflen Dreth.

Cyflogwr ddim yn bodoli mwyach neu ddim wedi’i leoli yn y DU

Os nad yw’ch cyflogwr wedi’i leoli yn y DU, mae’r cyfrifoldeb am dalu’r dreth ar y tâl ar fenthyciad yn trosglwyddo i chi (yn Saesneg).

Bu’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM (yn Saesneg) am unrhyw fenthyciadau tâl cuddiedig heb eu talu erbyn 30 Medi 2020 ar y ffurflen adrodd am daliadau benthyciadau a Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018 i 2019. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, rhowch wybod i ni nawr. Mae unrhyw Ffurflenni Treth 2018 i 2019 a gyflwynir nawr yn hwyr a byddwch yn agored i gosbau cyflwyno a thalu’n hwyr yn ogystal â llog ar unrhyw swm sy’n ddyledus, a godir o 1 Chwefror 2020.

Os gwnaethoch ddewis lledaenu balans eich tâl ar fenthyciad yn gyfartal dros 3 blynedd dreth, bydd yr incwm yn cael ei ystyried yn incwm o gyflogaeth yn ystod blynyddoedd treth 2018 i 2019, 2019 i 2020 a 2020 i 2021. Dylech roi gwybod am hyn ar y dudalen ‘gwybodaeth ychwanegol’ ar eich Ffurflenni Treth, blychau 21 i 24.

Dylech gynnwys yr holl incwm trethadwy sy’n ymwneud â’r flwyddyn dreth ym mhob Ffurflen Dreth, nid dim ond eich benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu.

Os ydych yn dewis talu’ch tâl ar fenthyciad yn llawn, mae cyfanswm eich benthyciadau sydd heb eu talu’n cael eu hystyried fel incwm cyflogaeth ym mlwyddyn dreth 2018 i 2019.

Hefyd, bydd angen i chi gynnwys unrhyw incwm cyflogaeth arall a gafwyd yn ystod pob blwyddyn dreth berthnasol. Os cawsoch fenthyciadau drwy gynlluniau sy’n seiliedig ar fasnach, dylech gynnwys y symiau hyn yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ar wahân i’r symiau ar gyfer cynlluniau’n seiliedig ar gyflogaeth.

Os nad ydym wedi gofyn i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018 i 2019, dylech fod wedi rhoi gwybod i ni o’ch rhwymedigaeth i’r tâl ar fenthyciad. Os nad ydych wedi gwneud hynny dylech wneud hynny cyn gynted â phosibl. Wedyn, byddwn yn anfon hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth atoch. Dysgwch sut i gofrestru a chyflwyno Ffurflen Dreth. Gall hyn gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith.

Mae cymorth (yn Saesneg) ar gael i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cyflogeion a chontractwyr sy’n defnyddio cynlluniau sy’n seiliedig ar fasnach

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dylech gynnwys symiau’r benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu o gynlluniau sy’n seiliedig ar fasnach yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018 i 2019. Mae unrhyw Ffurflenni Treth 2018 i 2019 a gyflwynir nawr yn hwyr a byddwch yn agored i gosbau cyflwyno a thalu’n hwyr yn ogystal â llog ar unrhyw swm sy’n ddyledus, a godir o 1 Chwefror 2020.

Os gwnaethoch ddewis rhannu balans eich rhwymedigaeth o ran benthyciad sydd heb ei dalu (yn Saesneg) dros 3 blynedd dreth, bydd angen i swm y benthyciad sydd heb ei dalu gael ei rannu’n gyfartal rhwng eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad ym mlynyddoedd treth 2018 i 2019, 2019 i 2020 a 2020 i 2021. Wedyn, rhoddir gwybod am yr incwm o dâl ar fenthyciad yn y Ffurflen Dreth ar gyfer pob un o’r blynyddoedd hynny, yn lle rhoi gwybod yn llawn yn y Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019.

Masnachu’n bodoli pan roddir gwybod am incwm o dâl ar fenthyciad

Os gwnaeth y fasnach y cawsoch y benthyciadau tâl cuddiedig ar ei chyfer barhau yn y blynyddoedd treth pan roddir gwybod am yr incwm o dâl ar fenthyciad, dylech gynnwys y benthyciadau fel ‘ychwanegiadau tâl cuddiedig at elw’ ym mlwch priodol eich tudalennau atodol hunangyflogaeth SA103.

Bydd yn rhaid i’ch Ffurflen Dreth gynnwys unrhyw elw arall o weithgareddau masnachu, yn ogystal ag unrhyw incwm trethadwy arall, ar gyfer pob blwyddyn dreth y rhoddir gwybod am rwymedigaeth i’r tâl ar fenthyciad ar ei chyfer.

Masnachu wedi dod i ben

Os yw’r fasnach wedi dod i ben, bydd yr incwm hwn fel arfer yn dal i fod yn drethadwy yn y flwyddyn y rhoddir gwybod amdano, a dylech gynnwys swm y benthyciad ym mlwch 22 yn nhudalennau atodol eich ffurflen SA101 gwybodaeth ychwanegol fel ‘incwm o hunangyflogaeth neu bartneriaeth pan fo masnachu wedi dod i ben’ ar gyfer y blynyddoedd treth perthnasol. Gelwir incwm a gawsoch gan fasnach sydd wedi dod i ben yn ‘dderbyniadau ôl-derfynu’.

Yn dibynnu ar pryd y daeth y fasnach i ben, efallai y gallwch drin yr incwm o dâl ar fenthyciad fel incwm trethadwy yn ystod y flwyddyn dreth pan ddaeth y fasnach i ben.

Yn yr achos hwn, peidiwch â llenwi Blwch 22 yn nhudalennau atodol eich ffurflen SA101 gwybodaeth ychwanegol. Yn hytrach, llenwch flychau 23 a 24.

Yn ogystal, bydd angen i chi gyfrifo’r gwahaniaeth rhwng y rhwymedigaeth wirioneddol a dalwyd am y flwyddyn gynharach (y flwyddyn pan ddaeth y fasnach i ben), a’r rhwymedigaeth a fyddai wedi codi yn y flwyddyn gynharach honno pe bai’r incwm o’r tâl ar fenthyciad wedi’i gynnwys yn y Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn honno.

Dylai’r cyfrifiad hwn ystyried unrhyw dderbyniadau ôl-derfynu eraill (gan gynnwys incwm o dâl ar fenthyciad arall), yr ydych wedi dewis eu trin fel incwm trethadwy yn y flwyddyn dreth pan ddaeth y fasnach i ben.

Bydd angen i chi nodi swm y gwahaniaeth ym mlwch 14 y crynodeb o’r cyfrifiad treth (SA110) atodol. Mae’r addasiad yn ymwneud â’r flwyddyn y mae’r derbyniad ôl-fasnachu yn dod i law mewn gwirionedd, er ei fod yn cael ei gyfrifo yn ôl amgylchiadau’r flwyddyn gynharach.

Rhyddhad rhag trethiant dwbl

Os bydd mwy nag un tâl treth yn codi ar gyfer yr un benthyciad, gallwch ofyn i CThEM gredydu’r hyn rydych yn ei dalu o dan y tâl ar fenthyciad yn erbyn y rhwymedigaeth treth arall. Bydd hyn yn eich atal rhag gorfod talu treth ddwywaith ar yr un incwm.

Os oedd gennych fenthyciadau hefyd o gynlluniau sy’n seiliedig ar gyflogaeth, bydd angen i chi roi gwybod amdanynt ar wahân gan ddefnyddio’r tudalennau incwm cyflogaeth yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr arweiniad sydd ynghlwm wrth eich Ffurflenni Treth.

Os ydych yn cael trafferth i dalu

Os ydych yn meddwl y byddwch yn ei chael hi’n anodd talu’r rhwymedigaethau sy’n ddyledus, mae opsiynau ar gael i wneud talu’r tâl ar fenthyciad yn fwy hylaw. Os na allwch dalu’n llawn ac mae angen cynllun talu arnoch, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM. Ffôn: 0300 200 1900.

Yr hyn sy’n digwydd os ydych yn gyflogwr

Dylai unrhyw gyflogeion rydych wedi bod â threfniadau benthyciad tâl cuddiedig gyda nhw fod wedi anfon manylion am fenthyciadau heb eu talu atoch erbyn 15 Ebrill 2019, fel y gallech roi cyfrif am y tâl ar fenthyciad.

Hefyd, mae gan fenthycwyr trydydd parti (fel arfer ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Buddiannau Cyflogeion neu gorff tebyg) ddyletswydd i roi’r wybodaeth hon i chi.

Hyd yn oed os na wnaethant roi unrhyw wybodaeth i chi, dylech fod wedi anfon datganiad tâl ar fenthyciad i CThEM o hyd.

Mae’n bosibl y byddwch am gysylltu â’ch cyflogeion, neu gyn-gyflogeion, i gael gwybod beth yw swm eu benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu, a ph’un a ydynt wedi dewis rhannu balans eu benthyciad (yn Saesneg).

Cyflogwyr sydd wedi talu’r tâl ar fenthyciad

Os ydych yn gyflogwr sydd eisoes wedi rhoi gwybod am y tâl ar fenthyciad ac wedi rhoi cyfrif amdano (yn Saesneg) lle mae cyflogai wedi dewis rhannu balans ei fenthyciad yn gyfartal dros 3 blynedd, bydd angen i chi ddiwygio’r wybodaeth a gyflwynir.

Hefyd, bydd angen i chi ddiwygio’r wybodaeth a gyflwynwyd lle mae rhwymedigaeth y cyflogai o ran tâl ar fenthyciad wedi gostwng o ganlyniad i’r newidiadau i’r tâl ar fenthyciad. Yn yr achos hwn, mae’n bosibl y bydd ad-daliad yn ddyledus i chi hefyd.

Sut i roi gwybod am unrhyw newidiadau

Dylech ddiwygio swm balans y benthyciad tâl cuddiedig heb ei dalu y rhoesoch wybod amdano ar eich cyflwyniadau Gwybodaeth Amser Real ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019. Os gallwch, dylech ddefnyddio’r un feddalwedd gyflogres y gwnaethoch ei defnyddio’n wreiddiol i roi gwybod am symiau’r benthyciadau tâl cuddiedig heb eu talu.

Os ydych yn cywiro camgymeriad ym mlynyddoedd treth 2018 i 2019 neu 2019 i 2020, efallai y gallwch anfon FPS yn lle hynny - defnyddiwch eich meddalwedd gyflogres i wirio hynny.

Fel arall, bydd angen i chi ddefnyddio cyflwyniadau Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) drwy Offer TWE Sylfaenol (BPT) (yn Saesneg) CThEM.

Wrth i chi gyflwyno’r EYU ar gyfer pob cyflogai neu gyn-gyflogai, dylech gyfrifo’r gwahaniaeth rhwng y ffigur y rhoesoch wybod amdano’n wreiddiol a’r swm diwygiedig, a rhoi gwybod y gwahaniaeth i ni.

Os ydych yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol i lenwi cyflwyniad Diweddariad Blwyddyn Gynharach (yn Saesneg), bydd yn rhaid i chi nodi ffigurau’r flwyddyn hyd yn hyn a gyflwynwyd yn flaenorol. Hefyd bydd yn rhaid i chi gyfrifo’r dreth, y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r didyniadau benthyciad myfyriwr sy’n ddyledus.

Ni fydd Offer TWE Sylfaenol yn gwneud hyn ar eich rhan, felly dylech ddefnyddio’ch cynnyrch meddalwedd gyflogres gyfredol i wneud eich cyfrifiadau. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen i chi gyfrifo’r dreth, y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r didyniadau benthyciad myfyriwr (yn Saesneg) â llaw.

Os ydych yn rhoi gwybod am falans benthyciad tâl cuddiedig sydd heb ei dalu ar gyfer cyn-gyflogai, dylech ddefnyddio’r arweiniad ar gyfer talu cyflogai ar ôl rhoi P45 iddo (yn Saesneg).

Blwyddyn dreth 2018 i 2019

Ar gyfer y flwyddyn dreth hon, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo swm diwygiedig balans y benthyciad tâl cuddiedig sydd heb ei dalu, gan ystyried unrhyw ddewis (yn Saesneg) y mae’ch cyflogai wedi’i wneud i rannu balans ei fenthyciad yn gyfartal dros 3 blynedd
  • cyflwyno EYU gan nodi’r gwahaniaeth o ran balans benthyciad y cyflogai sydd heb ei dalu yn y maes, ‘Swm yr incwm tâl cuddiedig Rhan 7A’ (dyma fydd y gwahaniaeth rhwng y swm a gyflwynwyd gennych yn flaenorol i CThEM a’r swm diwygiedig, a ffigur minws fydd e)
  • nodi’r swm minws hwn yn y meysydd tâl trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
  • cyfrifo swm diwygiedig y dreth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y didyniadau benthyciad myfyriwr sydd nawr yn ddyledus
  • llenwi pob maes perthnasol gyda’r symiau minws (dyma fydd y gwahaniaeth rhwng y symiau a gyflwynwyd gennych yn flaenorol i CThEM a’r symiau diwygiedig)

Os yw’ch cyflogai wedi dewis rhannu’i falans, dilynwch yr arweiniad isod mewn perthynas â blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021.

Bydd angen i chi roi P60 diwygiedig i’ch cyflogeion perthnasol ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019 sy’n adlewyrchu balans diwygiedig y benthyciad tâl cuddiedig. Fel arall, dylech roi gwybod i unrhyw gyflogeion neu gyn-gyflogeion am y newidiadau hyn yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl.

Blwyddyn dreth 2019 i 2020

Pan fyddwch wedi cael copi o ddewis (yn Saesneg) cyflogai, dylech gyflwyno EYU neu Gyflwyniad Taliadau Llawn (yn Saesneg) (FPS) gyda gwybodaeth am ‘y flwyddyn hyd yn hyn’ (yn dibynnu ar ba fath o gyflwyniad y mae’ch meddalwedd gyflogres yn ei gefnogi) i wneud diwygiadau i’r flwyddyn dreth hon.

Dylid rhoi gwybod am swm priodol balans y benthyciad heb ei dalu cyn gynted â phosibl ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020.

Blwyddyn dreth 2020 i 2021

O 20 Ebrill 2021 ymlaen, ni fydd EYU bellach yn fath dilys o gyflwyniad i wneud diwygiadau i’r flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2021. Bydd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r blynyddoedd treth hyn a’r dyfodol drwy ddefnyddio cyflwyniad FPS.

Dylid rhoi gwybod am swm priodol balans y benthyciad heb ei dalu cyn gynted â phosibl ar ôl 5 Ebrill 2021 ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021.

Cyflwyniadau EYU ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 lle y bydd swm y benthyciad heb ei dalu yn cael ei rannu

Ar gyfer y flwyddyn dreth hon, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno EYU gan nodi traean o falans y benthyciad heb ei dalu hyd at 5 Ebrill 2019 yn y maes, ‘Swm yr incwm tâl cuddiedig Rhan 7A’
  • nodi’r un swm hwn yn y meysydd tâl trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
  • cyfrifo swm diwygiedig y dreth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y didyniadau benthyciad myfyriwr sydd nawr yn ddyledus

Dylech gynnwys balans benthyciad tâl cuddiedig ar bob P60 perthnasol ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020. Fel arall, dylech roi gwybod i unrhyw gyflogeion neu gyn-gyflogeion am y newidiadau hyn yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl.

Cyflwyniadau FPS ‘y flwyddyn hyd yn hyn’ ar gyfer blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021 lle y bydd swm y benthyciad heb ei dalu yn cael ei rannu

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno FPS gan nodi traean o falans y benthyciad heb ei dalu hyd at 5 Ebrill 2019 yn y maes, ‘Swm yr incwm tâl cuddiedig Rhan 7A’
  • nodi pob ffigur ‘y flwyddyn hyd yn hyn’, gan gynnwys swm balans y benthyciad sydd heb ei dalu yn y meysydd tâl trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr

Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno’r FPS ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 ar ôl 5 Ebrill 2021, ac nad yw cyflogwyr yn gweithredu TWE ar falans y benthyciad ar yr un pryd â thalu cyflog rheolaidd.

Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw meddalwedd gyflogres yn didynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar falans y benthyciad o unrhyw gyflog clir, a allai leihau cyflog clir yn sylweddol, neu i ddim.

Gordaliadau

Ar ôl i CThEM brosesu’r diwygiadau, bydd unrhyw rwymedigaeth a ordalwyd ar gael fel credyd ar eich cofnod cyflogwr. Mae’n bosibl y bydd ad-daliad yn ddyledus gennych i’ch cyflogai pan eich bod wedi talu’r dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus i CThEM ar falans benthyciad eich cyflogai sydd heb ei dalu pan fo un neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae wedi’i ddidynnu o daliadau gwirioneddol a wnaed i’ch cyflogai, neu
  • mae’r cyflogai wedi ad-dalu’r dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol i chi a oedd yn ddyledus ar falans y benthyciad sydd heb ei dalu

Cyn gwneud unrhyw ad-daliad, dylech wirio a yw’ch cyflogai wedi dewis rhannu balans ei fenthyciad sydd heb ei dalu. Os yw wedi dewis gwneud hynny, mae’n rhaid i chi roi gwybod am draean o falans y benthyciad tâl cuddiedig sydd heb ei dalu ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, fel y nodir uchod.

Dylech ddidynnu unrhyw rwymedigaeth sy’n ddyledus mewn perthynas â blwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn ad-dalu unrhyw falans. Mae’n rhaid i chi gyfrifo’r ad-daliad yn seiliedig ar y rhwymedigaeth ddiwygiedig ar gyfer 2018 i 2019, a gwneud trefniadau i ad-dalu’ch cyflogai.

Yn yr achos pan wnaethoch dalu’r dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol a oedd yn ddyledus i CThEM ar dâl ar fenthyciad eich cyflogai ar gyfer 2018 i 2019, ac nad yw’ch cyflogai wedi ad-dalu’r dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol i chi, does dim ad-daliad yn ddyledus i’ch cyflogai.

O dan yr amgylchiadau hyn, dylech fod wedi rhoi gwybod yn flaenorol am y dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych na chawsant eu had-dalu i chi, fel buddiant trethadwy (Blwch B) ar P11D ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019.

Os yw swm y tâl ar fenthyciad ar gyfer 2018 i 2019 bellach wedi newid, llenwch P11D diwygiedig ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019 gyda ffigur diwygiedig y didyniadau TWE (treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol) a dalwyd gennych na chawsant eu had-dalu i chi, a rhowch gopi i’ch cyflogai.

Pan fyddwch wedi cael dewis gan gyflogai i rannu balans y benthyciad sydd heb ei dalu, roedd gan eich cyflogai tan 5 Gorffennaf 2020 i ad-dalu’r rhwymedigaeth o ran tâl ar fenthyciad i chi ar gyfer 2019 i 2020, a than 5 Gorffennaf 2021 i ad-dalu’r rhwymedigaeth o ran tâl ar fenthyciad i chi ar gyfer 2020 i 2021.

Pan na chaiff y rhwymedigaeth ei had-dalu i chi erbyn y dyddiadau hyn, dylech fod wedi llenwi ffurflen P11D ar gyfer 2019 i 2020 erbyn 6 Gorffennaf 2020, ac erbyn 6 Gorffennaf 2021 ar gyfer 2020 i 2021. Dylech roi copi i’ch cyflogai. Dylai’r ffurflenni gynnwys ffigur y didyniadau TWE (treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol) a dalwyd gennych, ac nad ydynt wedi’u had-dalu i chi erbyn y dyddiadau hyn.

Ardoll Brentisiaethau

Os ydych yn agored i’r Ardoll Brentisiaethau gan fod eich bil cyflog dros £3 miliwn ym mlynyddoedd treth 2018 i 2019 neu 2019 i 2020, bydd angen hefyd i chi ailgyfrifo’r ardoll hon ac anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (yn Saesneg) diwygiedig ar gyfer y blynyddoedd hyn.

Cyflogwyr sydd ddim wedi talu’r tâl ar fenthyciad neu sydd ddim wedi cytuno ar setliad

Os ydych yn gyflogwr sydd ddim wedi rhoi gwybod a rhoi cyfrif am y tâl ar fenthyciad (yn Saesneg), dylech wneud hynny nawr. Bydd llog am dalu’n hwyr yn cronni hyd nes eich bod yn talu. Mae hyn oherwydd na wnaethoch dalu erbyn y dyddiad cau statudol, sef 22 Ebrill 2019. Mae’n bosibl y bydd gofynion adrodd ychwanegol pan fydd cyflogai wedi dewis rhannu balans ei dâl ar fenthyciad.

Sut i roi gwybod am y tâl ar fenthyciad

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am y tâl ar fenthyciad ar gyfer benthyciadau perthnasol a wnaed ar neu ar ôl 9 Rhagfyr 2010, a’i dalu.

Peidiwch â chynnwys unrhyw fenthyciadau a wnaed cyn 6 Ebrill 2016 lle y cafodd y defnydd o’r cynllun arbed treth ei ddatgelu’n rhesymol i CThEM ac na wnaeth yr adran gymryd camau (er enghraifft, drwy agor ymchwiliad).

Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd eich cyflogeion neu’ch cyn-gyflogeion wedi dewis lledaenu swm balans eu benthyciad sydd heb ei dalu (yn Saesneg) dros 3 blynedd dreth. Dylent fod wedi rhoi copi o’u dewis i chi cyn neu ar 30 Medi 2020 i ddangos eu bod wedi gwneud hyn.

Os rhoddir copi o ddewis i chi, dylai balans y benthyciad sydd heb ei dalu gael ei rannu’n gyfartal dros y 3 blynedd dreth 2018 i 2019, 2019 i 2020, a 2020 i 2021.

Blwyddyn dreth 2018 i 2019

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw fenthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu ar gyfer pob cyflogai a chyn-gyflogai ar EYU (yn Saesneg) ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019.

Dylech wirio gyda darparwr eich meddalwedd gyflogres a yw wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn i chi roi gwybod yn gywir am y benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu. Os nad yw wedi gwneud hynny, bydd angen i chi ddefnyddio cyflwyniad EYU drwy Offer TWE Sylfaenol CThEM i roi gwybod am y benthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu.

Os ydych yn rhoi gwybod am falans benthyciad tâl cuddiedig sydd heb ei dalu ar gyfer cyn-gyflogai, dylech ddefnyddio’r arweiniad ar gyfer talu cyflogai ar ôl rhoi P45 iddo (yn Saesneg).

Wrth gyflwyno’r EYU ar gyfer pob cyflogai neu gyn-gyflogai, dylech wneud y canlynol:

  • cyfrifo swm diwygiedig balans y benthyciad sydd heb ei dalu, gan ystyried unrhyw ddewis (yn Saesneg) a wnaed gan eich cyflogai i rannu’i falans yn gyfartal dros 3 blynedd
  • cyflwyno EYU gan nodi swm balans benthyciad tâl cuddiedig y cyflogai sydd heb ei dalu yn y maes, ‘Swm yr incwm tâl cuddiedig Rhan 7A’ – swm positif fydd hwn
  • nodi’r un swm hwn yn y meysydd tâl trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
  • cyfrifo swm diwygiedig y dreth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y didyniadau benthyciad myfyriwr sydd nawr yn ddyledus
  • llenwi pob maes perthnasol gan nodi’r gwahaniaeth rhwng y symiau a gyflwynwyd gennych yn flaenorol i CThEM a’r symiau diwygiedig

Os yw’ch cyflogai wedi dewis rhannu’i falans, dilynwch yr arweiniad isod mewn perthynas â blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021.

Dylech roi P60 diwygiedig i’ch cyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019 sy’n adlewyrchu balans diwygiedig y benthyciad tâl cuddiedig. Fel arall, dylech roi gwybod i unrhyw gyflogeion neu gyn-gyflogeion am y newidiadau hyn yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl.

Pan fyddwch yn talu’r dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus i CThEM ar rwymedigaeth eich cyflogai o ran tâl ar fenthyciad sydd heb ei dalu ar gyfer 2018 i 2019, llenwch P11D ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019 gyda ffigur y didyniadau TWE (treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai) na chawsant eu had-dalu i chi fel buddiant trethadwy (Blwch B) a rhowch gopi i’ch cyflogai.

Os ydych yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol i gwblhau cyflwyniad EYU, bydd angen i chi nodi ffigurau’r flwyddyn hyd yn hyn a gyflwynwyd yn flaenorol. Hefyd bydd yn rhaid i chi gyfrifo’r dreth, y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r didyniadau benthyciad myfyriwr sy’n ddyledus.

Ni fydd Offer TWE Sylfaenol yn gwneud hyn ar eich rhan, felly dylech ddefnyddio’ch cynnyrch meddalwedd gyflogres gyfredol i wneud eich cyfrifiadau. Os nad yw hynny’n bosibl, bydd angen i chi gyfrifo’r dreth, yr Yswiriant Gwladol a’r didyniadau benthyciad myfyriwr (yn Saesneg) â llaw.

Blwyddyn dreth 2019 i 2020

Pan fyddwch wedi cael copi o ddewis (yn Saesneg) cyflogai, dylech gyflwyno EYU neu Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) gyda gwybodaeth am ‘y flwyddyn hyd yn hyn’ (yn dibynnu ar ba fath o gyflwyniad y mae’ch meddalwedd gyflogres yn ei gefnogi) i wneud diwygiadau i’r blynyddoedd hyn.

Dylid rhoi gwybod am swm priodol balans y benthyciad heb ei dalu cyn gynted â phosibl ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020.

Blwyddyn dreth 2020 i 2021

O 20 Ebrill 2021 ymlaen, ni fydd EYU bellach yn fath dilys o gyflwyniad i wneud diwygiadau i’r flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2021. Bydd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r blynyddoedd treth hyn a’r dyfodol drwy ddefnyddio cyflwyniad FPS.

Dylid rhoi gwybod am swm priodol balans y benthyciad heb ei dalu cyn gynted â phosibl ar ôl 5 Ebrill 2021 ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021.

Cyflwyniadau EYU ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 lle y bydd swm y benthyciad heb ei dalu yn cael ei rannu

Ar gyfer y blynyddoedd treth hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno EYU gan nodi traean o falans y benthyciad heb ei dalu hyd at 5 Ebrill 2019 yn y maes, ‘Swm yr incwm tâl cuddiedig Rhan 7A’
  • nodi’r un swm hwn yn y meysydd tâl trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
  • cyfrifo swm diwygiedig y dreth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y didyniadau benthyciad myfyriwr sydd nawr yn ddyledus

Dylech gynnwys balans benthyciad tâl cuddiedig ar bob P60 perthnasol ar gyfer blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021. Fel arall, dylech roi gwybod i unrhyw gyflogeion neu gyn-gyflogeion am y newidiadau hyn yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl.

Cyflwyniadau FPS ‘y flwyddyn hyd yn hyn’ ar gyfer blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021 lle y bydd swm y benthyciad heb ei dalu yn cael ei rannu

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno FPS gan nodi traean o falans y benthyciad heb ei dalu hyd at 5 Ebrill 2019 yn y maes, ‘Swm yr incwm tâl cuddiedig Rhan 7A’
  • nodi pob ffigur ‘y flwyddyn hyd yn hyn’, gan gynnwys swm balans y benthyciad sydd heb ei dalu yn y meysydd tâl trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw’n berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr

Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno’r FPS ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 ar ôl 5 Ebrill 2021, ac nad yw cyflogwyr yn gweithredu TWE ar falans y benthyciad ar yr un pryd â thalu cyflog rheolaidd.

Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw meddalwedd gyflogres yn didynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar falans y benthyciad oddi wrth unrhyw gyflog clir gwirioneddol, a allai leihau cyflog clir yn sylweddol, neu i ddim.

Pan oedd dewis wedi dod i law, roedd gan eich cyflogai tan 5 Gorffennaf 2020 i ad-dalu’r rhwymedigaeth o ran tâl ar fenthyciad i chi ar gyfer 2019 i 2020, a than 5 Gorffennaf 2021 i ad-dalu’r rhwymedigaeth o ran tâl ar fenthyciad i chi ar gyfer 2020 i 2021.

Pan na chaiff y rhwymedigaeth ei had-dalu i chi erbyn y dyddiadau hyn, dylech fod wedi llenwi ffurflen P11D ar gyfer 2019 i 2020 erbyn 6 Gorffennaf 2020, ac erbyn 6 Gorffennaf 2021 ar gyfer 2020 i 2021. Dylech roi copi i’ch cyflogai. Dylai’r ffurflenni gynnwys ffigur y didyniadau TWE (treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol) a dalwyd gennych, ac nad ydynt wedi’u had-dalu i chi erbyn y dyddiadau hyn.

Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn talu’r taliadau Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol i CThEM erbyn y dyddiad dyledus. Y dyddiadau talu ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 yw 19 Ebrill 2020 os ydych yn talu drwy’r post, neu 22 Ebrill 2020 os ydych yn talu drwy ddull electronig. Mae llog am dalu’n hwyr yn ddyledus os ydych yn methu’r dyddiadau talu statudol, a bydd llog yn dal i gronni hyd nes i chi dalu.

Ardoll Brentisiaethau

Os ydych yn agored i’r Ardoll Brentisiaethau gan fod eich bil cyflog dros £3 miliwn ym mlynyddoedd treth 2018 i 2019 neu 2019 i 2020, bydd angen hefyd i chi ailgyfrifo’r ardoll hon ac anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr diwygiedig ar gyfer y blynyddoedd hyn.

Os nad oes gennych ddigon o arian i dalu’r TWE y rhoesoch wybod amdano, dylech ffonio: 0300 200 1900, neu e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk cyn gynted â phosibl i drafod eich opsiynau.

Cyhoeddwyd ar 26 February 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 December 2023 + show all updates
  1. Information on where to find the latest guidance on settling disguised remuneration scheme use and paying the loan charge has been added.

  2. Added email information about applying for a late election.

  3. The loan charge helpline telephone number has changed from 03000 599110 to 0300 322 9494.

  4. The information about how to apply for a late election and how to report a disguised remuneration loan has been updated as the forms can no longer be completed online.

  5. Added translation

  6. Added information on making a late election.

  7. We have updated the guidance with information on what customers affected by the loan charge should do now the 30 September 2020 deadline has passed.

  8. Added translation

  9. Information about 'How to report a disguised remuneration loan' has been updated.

  10. Information added if you’re going to claim a grant through the coronavirus (COVID-19) Self-employment Income Support Scheme.

  11. Welsh version of guide updated.

  12. This guidance has been updated to reflect the outcome of the disguised remuneration loan charge review.

  13. Added translation

  14. The loan charge review section has been updated.

  15. The section 'Employees and contractors using trade based schemes' has been updated to make it easier to understand.

  16. 'Employees and contractors using employment schemes' section has been updated with information about repaying your employer tax they have paid on your behalf, or paying HMRC directly yourself.

  17. Additional guidance has been added to the 'How to report a disguised remuneration loan' section about how to send your loan charge details using the online service and a link has been added to the service.

  18. First published.