Canllawiau

Tâl cuddiedig: setlo’ch materion treth

Os oes gennych fenthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu, gallwch eu setlo o dan delerau 2020.

Mae’r arweiniad hwn wedi’i ddiweddaru, yn dilyn newidiadau a wnaed i’r tâl ar fenthyciad yn Neddf Cyllid 2020.

Os oes gennych fenthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu, gallwch eu setlo o dan delerau setlo tâl cuddiedig 2020. Dylid defnyddio’r telerau hyn ar gyfer setliadau mewn perthynas â phob rhwymedigaeth tâl cuddiedig.

Drwy gysylltu â CThEF i setlo’ch materion treth, gallwch gytuno ar yr hyn sydd arnoch ac, os bydd angen, gallwch drefnu cynllun talu dichonadwy. Bydd setlo’ch defnydd o gynllun tâl cuddiedig yn rhoi sicrwydd i chi ynghylch eich materion treth ac yn eich helpu i osgoi arbed treth am byth. Gallai hefyd olygu na fyddwch yn wynebu rhwymedigaeth dreth fwy os bydd y cynllun yr ydych wedi’i ddefnyddio yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys.

Os cawsoch fenthyciad tâl cuddiedig drwy gyflogwr, a bod y cyflogwr hwnnw ar ganol proses ansolfedd ar hyn o bryd, efallai y byddwn yn ymgysylltu â Deiliad y Swyddfa Ansolfedd sy’n delio â’r ansolfedd cyn y gallwn gytuno i setlo gyda chi. Oherwydd y ffordd y mae’r ansolfedd yn rhyngweithio â setliad yn y sefyllfa hon, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor proffesiynol cyn i chi gysylltu â ni i drafod setliad.

Dylid defnyddio’r telerau hyn ar gyfer setliadau mewn perthynas â phob rhwymedigaeth tâl cuddiedig. Mae proses wahanol os ydych am setlo’ch materion treth ar gyfer mathau eraill o gynllun arbed treth (yn Saesneg).

Talu’r hyn sydd arnoch

Drwy gytuno ar setliad gyda CThEF, bydd modd i’r rheini sydd â rhwymedigaethau tâl cuddiedig ddod â’u defnydd o arbed treth i ben.

Mae telerau’r setliad yn wahanol gan ddibynnu a yw CThEF yn eich ystyried yn un o’r canlynol:

  • contractwr
  • cyflogwr
  • cyflogai

Bydd angen i flynyddoedd treth sy’n destun asesiad neu ymchwiliad agored gael eu datrys, naill ai drwy setliad gyda CThEF neu drwy hysbysiad cau. Bydd y ffordd y caiff ymchwiliad agored ei ddatrys yn dibynnu ar ffactorau fel:

Os yw treth weddilliol yn ddyledus, bydd angen ei thalu i ddatrys yr ymchwiliadau agored, ar wahân i ble y bodlonir meini prawf penodol. Darllenwch adran 6 o Delerau setlo tâl cuddiedig 2020 i gael rhagor o wybodaeth.

Os na chaiff achos ei ddatrys drwy setliad, gellir cyfeirio apêl at y tribiwnlys. Mae hyn yn golygu y bydd tribiwnlys neu lys annibynnol yn penderfynu faint o dreth sy’n ddyledus.

Pan fo mwy nag un rhwymedigaeth o ran Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi digwydd ar yr un incwm sylfaenol, bydd rhyddhad trethiant dwbl ar gael. Darllenwch adran 5 o Delerau setlo tâl cuddiedig 2020 i gael rhagor o wybodaeth.

Contractwyr

Fe’ch ystyrir yn gontractwr os ydych yn darparu eich gwasanaethau i gleientiaid nad ydynt yn eich cyflogi’n uniongyrchol. Gallech fod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn darparu’ch gwasanaethau trwy’r canlynol:

  • cwmni ambarél
  • partneriaeth
  • asiantaeth
  • eich cwmni eich hun

Os nad ydych yn siŵr a yw hyn yn effeithio arnoch, gwiriwch a ydych wedi defnyddio cynllun benthyciadau contractwyr (yn Saesneg).

Bydd angen i chi dalu:

  • Treth Incwm ar swm yr holl fenthyciadau neu daliadau tâl cuddiedig a wnaed, heb gynnwys unrhyw ffioedd cynllun a dalwyd — cyfrifir hyn gan ddefnyddio’r haenau a’r cyfraddau yn y blynyddoedd y gwnaethpwyd y benthyciadau neu’r taliadau
  • llog am dalu’n hwyr ar gyfer unrhyw flynyddoedd lle mae gennym ymchwiliad agored i’ch materion treth, neu lle mae CThEF o fewn terfynau amser i agor ymchwiliad, neu lle mae asesiad ar waith
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol, os ydych yn gontractwr hunangyflogedig — gan gynnwys os ydych yn gweithio drwy bartneriaethau
  • unrhyw gosbau a Threth Etifeddiant, yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Gall y cyfanswm gael ei ostwng gan unrhyw Dreth Incwm yr ydych wedi’i thalu oherwydd i chi neu’ch cyflogwr ddatgan buddiant (yn Saesneg) ar sail cael benthyciad buddiannol. Mae hyn ond yn opsiwn os yw’r flwyddyn dreth berthnasol mewn pryd i gael ei diwygio, neu os yw mewn pryd i hawliad am ryddhad gordaliad gael ei wneud.

Cyflogwyr

Fe’ch ystyrir yn gyflogwr os gwnaethoch ddefnyddio cynllun tâl cuddiedig i wobrwyo’ch cyflogeion.

Bydd angen i chi dalu:

  • Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y swm a gyfrannwyd at y cynllun neu a ddyrannwyd iddo — cyfrifir hyn gan ddefnyddio’r haenau a’r cyfraddau yn y blynyddoedd y gwnaethoch gyfrannu at y cynllun neu y gwnaethpwyd dyraniadau
  • llog am dalu’n hwyr ar gyfer unrhyw flynyddoedd lle mae gennym ymchwiliad agored i’ch materion treth — neu lle’r ydym o fewn terfynau amser i agor ymchwiliad, neu lle mae asesiad ar waith
  • unrhyw gosbau a Threth Etifeddiant, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r math o gynllun y gwnaethoch ymrwymo iddo

Gellir gostwng y cyfanswm gan unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a delir gennych chi neu Dreth Incwm a delir gan eich cyflogai, ar sail cael benthyciad fel buddiant (yn Saesneg). Mae hyn ond yn berthnasol i flynyddoedd treth sydd mewn pryd i gael eu diwygio neu sydd mewn pryd i hawliad am ryddhad gordaliad gael ei wneud.

Byddwch yn cael rhyddhad Treth Gorfforaeth ar y ffi a delir i’r hyrwyddwr am ymuno â’r cynllun.

Cyflogeion

Fe’ch ystyrir yn gyflogai os nad ydych yn gontractwr a’ch bod wedi cael eich talu trwy gynllun tâl cuddiedig a ddefnyddiwyd gan eich cyflogwr.

Os nad yw’ch cyflogwr eisoes wedi setlo ei faterion treth, er mwyn setlo’ch rhai chi bydd angen i chi dalu:

  • y Dreth Incwm a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol y byddai’ch cyflogwr wedi’u talu pe bai’n setlo’i faterion treth ar y symiau a dalwyd i chi drwy’r cynllun
  • llog am dalu’n hwyr ar gyfer unrhyw flynyddoedd lle mae gennym ymchwiliad agored i’ch cyflogwr — neu lle’r ydym o fewn terfynau amser i agor ymchwiliad, neu lle mae asesiad ar waith
  • unrhyw gosbau a Threth Etifeddiant, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r math o gynllun

Gellir gostwng y swm hwn gan unrhyw Dreth Incwm a dalwyd gennych, lle gwnaethoch chi neu’ch cyflogwr ddatgan buddiant (yn Saesneg) ar sail cael benthyciad buddiannol. Mae hyn ond yn opsiwn os yw’r flwyddyn dreth berthnasol mewn pryd i gael ei diwygio, neu os yw mewn pryd i hawliad am ryddhad gordaliad gael ei wneud.

Rhoi gwybodaeth setlo i CThEF

Er mwyn i chi allu setlo’ch materion treth, bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:

  • enwau’r cynlluniau tâl cuddiedig a ddefnyddiwyd (os yw’n hysbys)
  • cyfeirnod y cynllun neu rif Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (DOTAS) ar gyfer pob cynllun a ddefnyddiwyd (os yw’n hysbys)
  • y blynyddoedd treth pan wnaethoch ddefnyddio cynllun tâl cuddiedig
  • symiau’r benthyciad tâl cuddiedig ym mhob blwyddyn dreth
  • a yw’r benthyciwr yn dileu unrhyw symiau benthyciad

Bydd angen i unigolion sydd am setlo eu defnydd o gynllun tâl cuddiedig hefyd roi rhagor o wybodaeth i CThEF:

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad, os oes un gennych
  • p’un a oeddech yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth pan wnaethoch ddefnyddio’r cynllun

Bydd angen i gyflogwyr sydd am setlo eu defnydd o gynllun tâl cuddiedig hefyd roi’r canlynol i CThEF:

  • enwau a rhifau Yswiriant Gwladol yr unigolion a gafodd fenthyciadau
  • symiau a dyddiadau’r cyfraniadau at yr ymddiriedolaeth (os yw’n berthnasol)

Pan fyddwch yn rhoi’ch gwybodaeth setlo i CThEF, byddwn yn ei hystyried ac yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am gamau nesaf y broses setlo. Efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am ragor o fanylion hefyd.

Sut i roi gwybodaeth setlo ar gyfer unigolion

Dylai unigolion (contractwyr a chyflogeion) a ddefnyddiodd gynlluniau tâl cuddiedig roi eu gwybodaeth setlo i CThEF yn electronig gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

I ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Dysgwch ragor am gofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth os nad oes gennych fanylion mewngofnodi.

Dechrau nawr

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, cysylltwch â ni a byddwn yn trafod y camau nesaf â chi.

Sut i roi gwybodaeth setlo ar gyfer cyflogwyr

Dylai cyflogwyr a ddefnyddiodd gynlluniau tâl cuddiedig roi eu gwybodaeth setlo i CThEF mewn e-bost i ca2020corporatesettlements@hmrc.gov.uk.

Problemau wrth dalu’r hyn sydd arnoch

Os ydych yn meddwl y byddwch yn ei chael hi’n anodd talu’r hyn sy’n ddyledus gennych o dan delerau’r setliad, gallwn eich helpu i setlo’ch materion treth a gadael cynlluniau arbed treth tâl cuddiedig drwy ledaenu taliadau dros nifer o flynyddoedd.

Nid oes uchafswm o ran amser ar gyfer trefniadau talu o dan y telerau hyn ac ni fyddwch yn talu mwy na 50% o’ch incwm gwario, oni bai bod gennych lefel uchel iawn o incwm gwario. Os ydych yn meddwl y bydd angen cyfnod estynedig arnoch i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, dylech gysylltu â CThEF.

Gallwch dalu’r swm sy’n ddyledus dros gyfnod o hyd at 5 neu 7 mlynedd, heb orfod rhoi unrhyw wybodaeth ariannol fanwl.

Os nad oes gennych asedion y gellir eu gwaredu a bod eich incwm:

  • yn llai na £50,000 yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiweddaraf y mae gwybodaeth ar gael ar ei chyfer, bydd CThEF yn cytuno ar drefniadau amser i dalu am o leiaf 5 mlynedd

  • yn llai na £30,000 yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiweddaraf y mae gwybodaeth ar gael ar ei chyfer, bydd CThEF yn cytuno ar drefniadau amser i dalu am o leiaf 7 mlynedd

Os yw’ch incwm yn uwch, neu os oes angen mwy o amser arnoch i dalu, gallwn eich helpu o hyd. Nid oes isafswm nac uchafswm o ran amser ar gyfer trefniadau talu, ond bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Os ydych yn rhoi gwybodaeth setlo i ni drwy’r ffurflen ar-lein, a bod angen i chi dalu’ch setliad fesul rhandaliadau, sicrhewch fod gennych yr wybodaeth ganlynol wrth law:

  • incwm a gwariant misol
  • manylion unrhyw fenthyciadau sydd heb eu talu (nid benthyciadau tâl cuddiedig) neu drefniadau talu rheolaidd
  • y taliad ymlaen llaw a’r swm misol y gallwch fforddio’u talu
  • manylion unrhyw Dystysgrifau Blaendal Treth yr hoffech eu defnyddio tuag at setliad

Byddwn:

  • yn ystyried unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau ac yn trafod opsiynau i reoli eich achos yn y ffordd orau
  • bob amser yn edrych yn realistig ar eich incwm, eich asedion a’ch treuliau hanfodol, ochr yn ochr â’r hyn sy’n ddyledus gennych ac unrhyw ddyledion eraill
  • bob amser yn ystyried faint y gallwch ei dalu, a thros ba gyfnod
  • yn disgwyl i chi dalu’r swm sy’n ddyledus yn yr amser byrraf posibl

Os ydych yn meddwl nad oes gennych ffordd realistig o dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, dylech drafod hyn â ni pan fyddwn yn cysylltu â chi am eich setliad.

Cysylltu â CThEF

Os oes gennych gyswllt yn CThEF eisoes, gallwch siarad ag ef ynghylch setlo’ch defnydd o gynllun tâl cuddiedig. Os nad oes gennych gyswllt yn CThEF, gallwch ddefnyddio’r dulliau cyswllt canlynol.

Ar gyfer cynlluniau benthyciadau contractwyr, anfonwch e-bost at gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu ffoniwch 0300 200 1900.

Ar gyfer defnyddwyr pob cynllun tâl cuddiedig arall, anfonwch e-bost at gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

Byddwn yn siarad â chi am eich opsiynau ac yn gweithio gyda chi i ddatrys eich materion treth yn y ffordd orau.

Cyhoeddwyd ar 7 November 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 June 2023 + show all updates
  1. The tax year used for automatic eligibility to pay by instalments in the 'Problems paying what you owe' section has been updated.

  2. Updated the email address to contact HMRC about contractor loan schemes from cl.resolution@hmrc.gov.uk to CAGetHelpOutOfTaxAvoidance@hmrc.gov.uk.

  3. The contact email address for disguised remuneration scheme users (except contractor loans) to contact HMRC has been updated.

  4. From 1 April 2022, you can no longer use GOV.UK Verify to access the online settlement form.

  5. Section 'Providing HMRC with settlement information' has been updated with information for employers who want to settle their disguised remuneration scheme.

  6. Added translation

  7. Updated information about paying what you owe to HMRC and added new information about providing us with settlement information.

  8. We have updated the guidance with information on what customers affected by the loan charge should do now the 30 September 2020 deadline has passed.

  9. Added translation

  10. We have updated the guidance and included information about the new August 2020 settlement terms.

  11. The loan charge review section has been updated.

  12. Welsh translation added.

  13. This page has been updated to reflect the loan charge which is effective on 5 April 2019 and the settlement terms that change from that date.

  14. This page has been updated to reflect the loan charge which is effective on 5 April 2019 and the settlement terms that change from that date.

  15. Guidance has been updated about if you have problems paying what you owe.

  16. Guidance has been updated about how to settle your tax affairs, information you must send to HMRC and if you have problems paying what you owe.

  17. The disguised remuneration settlement terms in section 'If you have problems paying what you owe' have been updated.

  18. Amendments made to the disguised remuneration settlement terms.

  19. First published.