Carchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc Eastwood
Mae Eastwood Park yn garchar ac yn sefydliad troseddwyr ifanc (YOI) yn Wotton-under-Edge, Swydd Gaerloyw, ar gyfer menywod 18 oed a hŷn.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Caerdydd
I ymweld â rhywun yn Eastwood Park, rhaid i chi:
- fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- trefnu eich ymweliad o leiaf 24 awr ymlaen llaw
- cael yr yr ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Caniateir uchafswm o 3 ymwelydd sy’n oedolion i bob carcharor i bob ymweliad, yn ogystal â phlant.
Cysylltwch ag Eastwood Park os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Eastwood Park
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
I drefnu ymweliad, gallwch wneud y canlynol
- trefnu eich ymweliad ar-lein
- ffonio 0300 303 0631
Bydd y llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 3pm.
Dysgu mwy am gostau galwadau
Amseroedd ymweld:
- Dydd Mawrth, dydd Mercher, a dydd Gwener, rhwng 2pm a 3pm a rhwng 3:30pm a 4:30pm
- Dydd Sadwrn a dydd Sul, rhwng 2pm a 3pm a rhwng 3:30pm a 4:30pm
Gall plant ymweld â’u mamau y tu allan i oriau ymweld rheolaidd. Gellir cynnal yr ymweliadau hyn o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9:30am a 11:45am, naill ai yn y neuadd ymweliadau neu yn yr uned mamau a babanod. Gall carcharorion wneud cais am yr ymweliadau hyn yn fewnol.
Sut i drefnu ymweliadau swyddogol
I drefnu ymweliad fideo swyddogol, e-bostiwch OMU.EastwoodPark@justice.gov.uk
I drefnu ymweliad wyneb yn wyneb swyddogol, gallwch:
- e-bostio HMPPSvisitbooking@justice.gov.uk
- ffonio’r llinell ffôn, 0300 303 0631
Bydd y llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 3pm.
Gwybodaeth am gostau galwadau
Amseroedd ymweld swyddogol dros fideo:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 12:30pm a rhwng 2pm a 4:30pm - gallwch gadw lle fesul slotiau 30 munud
Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:
- Dydd Llun, rhwng 2pm a 3pm a rhwng 3:30pm a 4:30pm
- Dydd Iau, rhwng 2pm a 3pm a rhwng 3:30pm a 4:30pm
Lle bo’n bosibl, rhowch amrywiaeth o ddyddiadau ac amseroedd a nodwch am ba hyd yr hoffech ymweld.
Sut i gyrraedd Eastwood Park
Dewch o hyd i Eastwood Park ar fap
Yr orsaf drenau agosaf yw Bryste Temple Meads, lle gallwch ddal bws i Falfield ac eithrio ar ddydd Sul.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
-
defnyddiwch National Rail enquiries
-
defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Mae maes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr sydd â bathodyn glas.
Mynediad i Eastwood Park
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
Bydd angen i bob ymwelydd, gan gynnwys plant, gael archwiliad ‘patio i lawr’. Mae’n bosibl y bydd cŵn diogelwch yn eich arogli hefyd.
Rhaid i ymwelwyr gadw at god gwisg y carchar sy’n berthnasol, a gellir gofyn am ragor o fanylion ar eich ymweliad cyntaf.
Caniateir i bob ymwelydd sy’n oedolyn gymryd uchafswm o £10 mewn darnau arian (ni chaniateir arian papur).
Mae rheolau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Eastwood Park. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych mewn locer yn y ganolfan ymwelwyr neu yn eich car - mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi car.
Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Ffoniwch y llinell ffôn os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Cyfleusterau ymweld
Bydd lluniaeth ar gael i’w brynu yn ystod eich ymweliad. Mae man chwarae i blant ar gael.
Mae canolfan ymwelwyr yn Eastwood Park, sy’n cynnwys cyfleusterau toiledau. Mae ymwelwyr yn cael cynnig croeso cynnes, gwybodaeth a chefnogaeth. Mae ar agor ar ddiwrnodau ymweld.
Mae’r ystafell ymweld ar y llawr gwaelod ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Ni chaniateir pramiau yn yr ystafell gyfweld. Mae diodydd a byrbrydau ar gael yn y caffi ac mae man chwarae bach i blant.
Diwrnodau teulu
Mae Eastwood Park yn cynnal 12 ymweliad teulu bob blwyddyn. Mae manylion am sut mae’r ymweliadau hyn yn cael eu cynnal ar gael drwy gysylltu â: socialvisits.eastwoodpark@hmps.gsi.gov.uk.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Eastwood Park
Efallai na fyddwch yn gallu siarad â rhywun yn Eastwood Park yn ystod eu dyddiau cyntaf. Y rheswm am hyn yw y gall gymryd amser i gymeradwyo pwy y gallan nhw fod mewn cysylltiad â nhw.
Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ond nid oes modd derbyn galwadau ar y rhain, felly bydd yn angen iddyn nhw eich ffonio chi bob amser.
Galwadau ffôn
Gall carcharorion yn Eastwood Park ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Mae’r rhestr hon yn cael ei gwirio gan y carchar.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth Negeseuon Llais y Carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Download the Prison Video app
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Fideo’r Carchar.
Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.
Darllenwch fwy am sut mae’r ap Prison Video yn gweithio
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Eastwood Park drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yn Eastwood Park.
Llythyrau
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod rhif y carcharor, cysylltwch ag Eastwood Park.
Bydd pob llythyr drwy’r post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Bellach, allwch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Mae carcharorion yn Eastwood Park yn cael rhestr o eitemau cymeradwy y gellir eu hanfon atynt fel anrhegion. Cysylltwch ag Eastwood Park i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.
Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.
Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.
Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallan nhw archebu llyfrau gan siopau cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.
I weld y rhestr lawn o siopau cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau llyfrgell ac addysg mewn carchardai, Atodiad A.
Bywyd yn Eastwood Park
Mae Eastwood Park wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau a lleihau’r siawns o aildroseddu.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd carcharorion yn cyrraedd Eastwood Park am y tro cyntaf, byddan nhw’n gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i siarad â rhywun i weld sut maen nhw’n teimlo ac i holi am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw ar y pryd.
Cynefino
Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Eastwood Park yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 400 o garcharorion yn byw yn Eastwood Park mewn cymysgedd o gelloedd ar gyfer 1, 2 neu 3 o garcharorion. Mae ffonau ym mhob cell.
Mae ganddo uned mamau a babanod ar gyfer carcharorion sydd â phlant dan 18 mis oed.
Addysg a gwaith
Gall carcharorion astudio amrywiaeth o bynciau yn yr adran addysg i’w helpu i gael gwaith ar ôl cael eu rhyddhau, gan gynnwys:
- Saesneg
- mathemateg
- glanhau
- TG
- harddwch
- lletygarwch
- garddwriaeth
- manwerthu
- gwasanaeth i gwsmeriaid
- arlwyo
Mae cyrsiau eraill yn cynnwys ymwybyddiaeth o ddioddefwyr, mentora cymheiriaid a chyllidebu.
Gallant hefyd gael profiad gwaith drwy leoliadau yn y gegin a’r ffreutur, y gerddi, golchi dillad, y llyfrgell, y gampfa, y caffi, a mannau eraill.
Rhyddhau dros dro
Mae carcharorion Eastwood Park yn cael cyfle i adael y carchar am gyfnodau byr. Gelwir hyn yn rhyddhau ar drwydded dros dro. Gellir ei ddefnyddio i gael profiad gwaith yn y gymuned leol, cynnal cysylltiadau teuluol, a pharatoi ar gyfer cael eu rhyddhau.
Mudiadau y mae Eastwood Park yn gweithio gyda nhw
Mae nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol lleol yn darparu cefnogaeth i’r carcharorion, gan gynnwys The Forgiveness Project, Ymddiriedolaeth Nelson ac One25.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd yn Eastwood Park: eastwoodpark.families@justice.gov.uk
Gwybodaeth am linellau cymorth a chyngor i deulu a ffrindiau.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 01454 382 188 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.
| Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
|---|---|---|
| Dim brys | 01454 382 323 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
| Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
| Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
| Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Parc Eastwood.
Adroddiadau arolygu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Bristol mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Eastwood Park
Llywodraethwr: Zoe Short
Ffôn (24 awr y dydd): 01454 382 100
Ffacs: 01454 382 101
Gwybodaeth am gost galwadau
Cyfeiriad
HMP/YOI Eastwood Park
Falfield
Wotton-under-Edge
Gloucestershire
GL12 8DB
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
-
Social and official visits booking lines now open from 9am, Monday to Friday.
-
Official visits section updated.
-
Updated family and friends visits booking line opening times to, Monday to Friday, 10am to 3pm.
-
Opening hours updated for visits booking telephone line.
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated physical contact guidance
-
Updated rules for sending in money and gifts.
-
New visiting times and booking information added.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visit info
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new national restrictions in England.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated information to include confirmation of secure video calls being available at this prison.
-
updated survey link
-
Prison visits update.
-
First published.