Canllawiau

Gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83)

Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol am gyfnodau dramor.

Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol er mwyn llenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Gallwch gael cyngor o ran p’un a allwch gael budd o dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn pen 6 mis, ni allwn brosesu eich cais. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n bosibl yr hoffech gael cyngor ariannol cyn i chi benderfynu gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Dysgwch ragor ynghylch pensiynau ac ymddeoliad ar wefan yr ‘Helpwr Arian’.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol neu Ddosbarth 3 gwirfoddol am gyfnodau tramor, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r amodau talu.

Dysgwch ragor am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol a pha ddosbarth i’w dalu yn yr arweiniad ynghylch nawdd cymdeithasol dramor.

Ni allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol na Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer unrhyw gyfnod yr ydych yn agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Dysgwch pa fudd-daliadau a phensiynau y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag atynt.

Cymhwystra

Cyn i chi wneud cais, dylech wirio eich bod yn gymwys i dalu.

Os ydych yn byw dramor, yn gweithio dramor, neu’n byw ac yn gweithio dramor

Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol neu Ddosbarth 3 gwirfoddol os ydych naill ai:

  • yn y gorffennol, wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol
  • wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am o leiaf 3 blynedd

Os ydych wedi byw neu dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol mewn gwlad yn yr UE, Gibraltar, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy, y Swistir neu Dwrci

Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol neu Ddosbarth 3 gwirfoddol os ydych naill ai:

  • yn y gorffennol, wedi byw mewn gwlad yn yr UE, Gibraltar, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy, y Swistir neu Dwrci am 3 blynedd yn olynol
  • wedi talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol am 3 blynedd mewn gwlad yn yr UE, Gibraltar, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy, y Swistir neu Dwrci

Hefyd, mae’n rhaid i chi fod wedi bod yn destun deddfwriaeth y DU yn y gorffennol, oherwydd yr oeddech yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Er enghraifft, yn y gorffennol:

  • rydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, neu mae’r cyfraniadau hynny wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu
  • rydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, neu mae’r cyfraniadau hynny wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu

I dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio neu wedi gweithio dramor yn ystod y cyfnod yr ydych yn gwneud cais i dalu ar ei gyfer, ac wedi gweithio yn y DU yn union cyn gadael.

Gallwch wirio cyfraddau a chategorïau presennol ar gyfer Yswiriant Gwladol.

Gweithwyr datblygu gwirfoddol

Os ydych yn weithiwr datblygu gwirfoddol, bydd angen i chi roi gwybod i ni am eich enillion at ddibenion Yswiriant Gwladol. Dylai hyn gynnwys yr holl lwfansau ar ffurf arian a delir gan eich cyflogwr. Ni ddylai hyn gynnwys buddiannau nac unrhyw lwfansau ar ffurf arian nad ydynt yn cael eu talu gan eich cyflogwr.

Darllenwch yr arweiniad ar Nawdd Cymdeithasol dramor: Ni38 i gael arweiniad pellach.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch i wneud cais

Bydd angen y canlynol arnoch i wneud cais:

  • eich enw llawn
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol — gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli
  • eich cyfeiriad yn y DU, os yw’n berthnasol
  • eich cyfeiriad dramor, os yw’n berthnasol
  • y dyddiad y gwnaethoch adael y DU
  • manylion eich cyflogaeth cyn i chi adael y DU
  • pa mor hir y gwnaethoch fyw dramor, neu pa mor hir yr ydych yn bwriadu byw tramor, os yw’n hysbys
  • manylion eich cyflogaeth neu’ch hunangyflogaeth dramor, os yw’n berthnasol
  • manylion unrhyw fudd-dal gan y llywodraeth roeddech chi’n ei gael neu’n ei hawlio, os yw’n berthnasol

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd angen arnoch ffôn gyda chamera sy’n gweithio. Bydd hefyd angen un o’r mathau canlynol o ID ffotograffig arnoch:

  • trwydded yrru cerdyn-llun yn y DU
  • pasbort y DU
  • pasbort nad yw o’r DU sydd â sglodyn biometrig
  • trwydded breswylio fiometrig (BRP) y DU
  • cerdyn preswylio biometrig (BRC) y DU
  • trwydded gweithiwr trawsffiniol y DU

Os ydych yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer sawl cyfnod, mae angen yr wybodaeth hon ar gyfer pob cyfnod.

Rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Os na wnaethoch gais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i’r arweiniad anghywir, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Os ydych o’r farn y gallai hyn fod wedi effeithio arnoch chi, gallwch roi manylion.

Gwneud cais i dalu

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os cymeradwyir eich cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol dramor, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a chadarnhau’r symiau a’r dyddiadau talu, neu efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth.

Cael gwybod pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a byw dramor, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Chwefror 2025 show all updates
  1. The criteria for apply to pay National Insurance contributions has been updated.

  2. You can now apply to pay voluntary National Insurance contributions online. Information has been added on paying voluntary National Insurance contributions if you've lived or paid social security contributions in an EU country, Iceland, Liechtenstein, Norway, Switzerland or Turkey. Information has been added on what to do if your employer is paying your voluntary National Insurance contributions.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon