Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2024
Published 15 January 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2024
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £290,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 3.3%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.4%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 151.9
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2024 am 9.30am ddydd Mercher 15 Chwefror 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, cafodd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU eu diwygio o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod diwygio 12 mis arferol Mynegai Prisiau Tai y DU. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod diwygio arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer a nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Cyfrifir lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU trwy gymryd pris cyfartalog Ionawr 2015 cyfeirgyfres o eiddo a chymhwyso cyfraddau chwyddiant cyfnod unigol i gynhyrchu’r gyfres amser llawn. Gall y mathau o eiddo sy’n cael eu gwerthu newid dros amser, felly yn natganiad 19 Hydref 2025, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ail-gyfeirio i Ionawr 2023 fel y cyfnod sylfaen newydd. Bydd diweddaru’r gyfeirgyfres hon o eiddo yn sicrhau bod lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu’n well y math o eiddo sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd. Bydd mynegeion Mynegai Prisiau Tai DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100. Bydd y gyfres lefel prisiau yn newid i fyny neu i lawr oherwydd ail-gyfeirio, ond ni fydd y cyfraddau chwyddiant yn newid, fel yr esbonnir yn Adran 3: Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yng nghyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Cofrestrfa Tir EF.
2. Datganiad economaidd
3.3% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.0% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024.
£290,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Nhachwedd 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £10,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024 yn Lloegr i £306,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i £219,000 (3.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £195,000 (4.7%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 i £191,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.2%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.4% rhwng Hydref 2024 a Thachwedd 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Hydref 2024 a Thachwedd 2024.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 5.9% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 0.1% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024. Llundain oedd yr unig ardal yn Lloegr gyda chwyddiant blynyddol negyddol yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Tachwedd 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod metrigau ar y galw gan brynwyr newydd, cyfarwyddiadau newydd a phrisiau tai i gyd yn parhau i ddangos darlleniadau mewn tiriogaeth ehangu.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr -2024 Chwarter 3 fod y toriad diweddar yn y gyfradd Banc wedi arwain at y teimladau gwell yn y farchnad dai eilaidd. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi cael ei adlewyrchu eto yn y gwerthiannau neu’r prisiau a gytunwyd.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Tachwedd 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 93,000. Mae hyn 12.9% yn uwch na 12 mis yn ôl (Tachwedd 2023). Rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2024, lleihaodd trafodion y DU gan 7.9% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Tachwedd 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau i 65,700 yn Nhachwedd 2024.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
3.3% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.0% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024.
£290,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Nhachwedd 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £10,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024 yn Lloegr i £306,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i £219,000 (3.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £195,000 (4.7%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 i £191,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.2%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £219,446 | -0.7% | 3.0% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2024) | £190,553 | 2.8% | 6.2% |
Lloegr | £306,494 | -0.4% | 3.0% |
Yr Alban | £195,036 | -0.8% | 4.7% |
De Ddwyrain Lloegr | £377,822 | -0.7% | 1.4% |
De Orllewin Lloegr | £317,608 | -1.8% | 2.2% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £248,561 | -0.4% | 2.7% |
Dwyrain Lloegr | £339,560 | -1.0% | 2.0% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £254,912 | 0.0% | 3.7% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £168,791 | 1.1% | 5.9% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £226,627 | 0.6% | 5.7% |
Llundain | £511,279 | -1.0% | -0.1% |
Swydd Gaerefrog a Humber | £217,939 | 0.8% | 5.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.4% rhwng Hydref 2024 a Thachwedd 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Hydref 2024 a Thachwedd 2024.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Tachwedd 2024 | Tachwedd 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £436,949 | £430,570 | 1.5% |
Tŷ pâr | £283,546 | £271,943 | 4.3% |
Tŷ teras | £242,598 | £231,796 | 4.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £233,230 | £228,351 | 2.1% |
Holl | £289,707 | £280,476 | 3.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae cyfanswm nifer y trafodion a nifer yr adeiladau newydd sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cynyddu’n ddiweddar. Mae Cofrestrfa Tir EF wedi prosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU yn y misoedd diwethaf, er bod nifer y trafodion ar gyfer cyfnodau hŷn a nifer yr adeiladau newydd yn parhau’n is na chyfartaleddau hanesyddol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghrynodeb Mynegai Prisiau Tai Cofrestrfa Tir EF.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Yn 2020, cyflwynwyd system gronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am rai misoedd yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, cyflwynwyd gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddodd Cofrestrfa Tir EF brosesu Mynegai Prisiau Tai y DU, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu yn y misoedd nesaf.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2024 yn seiliedig ar tua 36,400 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,200 ar gyfer yr Alban, a 2,000 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 44% o amcangyfrif gwerthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Tachwedd 2024, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae cyfanswm nifer y trafodion a nifer yr adeiladau newydd sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cynyddu’n ddiweddar. Mae Cofrestrfa Tir EF wedi prosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU yn y misoedd diwethaf, er bod nifer y trafodion ar gyfer cyfnodau hŷn a nifer yr adeiladau newydd yn parhau’n is na chyfartaleddau hanesyddol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghrynodeb Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad Ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygio, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Medi 2024 | Medi 2023 |
---|---|---|
Lloegr | 37,258 | 57,425 |
Gogledd Iwerddon | 1,991 | 1,998 |
Yr Alban | 8,360 | 8,495 |
Cymru | 2,104 | 3,201 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 5.7% yn Lloegr, lleihaodd gan 0.3% yn yr Alban, a lleihaodd gan 10.2% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 8.1% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2024.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Fedi 2024, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 2.4% yn Lloegr, wedi lleihau gan 0.3% yn yr Alban, wedi lleihau gan 3.6% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 1.3% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Medi
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2024, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 4.5%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF yn y DU wedi cynyddu gan 1.8% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Medi 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £424,049 | -0.2% | 24.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £285,458 | -0.4% | 1.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Tachwedd 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £244,519 | -0.1% | 4.2% |
Cyn berchen-feddiannydd | £332,626 | -0.8% | 2.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Tachwedd 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £273,498 | -0.7% | 2.5% |
Morgais | £301,749 | -0.3% | 3.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk
Ffôn 0131 378 4991