Accredited official statistics

Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025

Published 18 June 2025

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2025

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £265,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 3.5%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -2.7%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 101.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2025 am 9.30am ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.

2. Datganiad economaidd

3.5% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 7.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.

£265,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Ebrill 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £9,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 yn Lloegr i £286,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i £210,000 (5.3%) a chynyddodd yn yr Alban i £191,000 (5.8%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.7% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.8% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 6.4% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025. De Orllewin Lloegr oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.9% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Ebrill 2025 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod gwanhau pellach ar draws y farchnad werthu, gyda gweithgarwch yn symud yn ddyfnach i dir negyddol.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Ebrill 2025, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 65,000. Mae hyn 28.0% yn is na 12 mis yn ôl (Ebrill 2024). Rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, lleihaodd trafodion y DU gan 63.5% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 70.7% yn Lloegr, wedi lleihau gan 60.3% yng Ngogledd Iwerddon, wedi lleihau gan 9.1% yn yr Alban ac wedi lleihau gan 19.1% yng Nghymru. Mae’n debygol bod y lleihad sydyn yn nifer trafodion y DU yn Ebrill 2025 (yn enwedig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn dilyn y cynnydd sydyn ym Mawrth 2025 yn adlewyrchu prynwyr yn rhuthro i gwblhau prynu eiddo cyn y newidiadau i Dreth Dir y Dreth Stamp ar 1 Ebrill 2025.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Ebrill 2025 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau am y pedwerydd mis yn olynol, gyda lleihad o 3,100 i 60,500 yn Ebrill 2025.

Adroddodd Crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2025 – Chwarter 1 farchnad werthu dawel lle mae darpar brynwyr yn ansicr ynghylch yr amgylchedd economaidd. Nid yw’r cynnydd yn Nhreth Dir y Dreth Stamp o Ebrill wedi cael effaith sylweddol ar amseriad y trafodiad yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

3.5% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 7.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.

£265,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Ebrill 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £9,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 yn Lloegr i £286,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i £210,000 (5.3%) a chynyddodd yn yr Alban i £191,000 (5.8%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £210,077 0.3% 5.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2025) £185,037 1.0% 9.5%
Lloegr £286,327 -3.7% 3.0%
Yr Alban £191,061 2.1% 5.8%
De Ddwyrain Lloegr £380,428 -2.0% 3.0%
De Orllewin Lloegr £300,633 -3.8% 0.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £236,710 -3.6% 3.8%
Dwyrain Lloegr £332,160 -3.8% 2.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £239,533 -4.6% 2.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £156,010 -8.1% 6.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £204,760 -6.4% 3.1%
Llundain £566,614 2.6% 3.3%
Swydd Gaerefrog a Humber £199,642 -6.1% 4.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.7% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.8% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2025 Ebrill 2024 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £436,480 £415,853 5.0%
Tŷ pâr £269,417 £256,304 5.1%
Tŷ teras £219,831 £213,888 2.8%
Fflat neu fflat deulawr £195,017 £193,853 0.6%
Holl £265,497 £256,478 3.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn gwella o hyd. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a dylent nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn adolygu methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU, gyda’r nod o leihau diwygiadau yn amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU.  Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi gwelliant methodoleg ar gyfer cyfrifiadau misol Prydain Fawr, sydd wedi ei gytuno ar y cyd.  Bwriadwn weithredu’r gwelliant hwn ym Mynegai Prisiau Tai y DU dros y misoedd nesaf.  Darllenwch ragor ym mhapur dulliau cyfrifo misol Mynegai Prisiau Tai y DU.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025 yn seiliedig ar oddeutu 16,200 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,100 ar gyfer yr Alban, a 1,700 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 44% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Ebrill 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad  Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.

Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond wedi cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Chwefror 2025 Chwefror 2024
Lloegr 40,745 47,183
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2025) 1,822 1,616
Yr Alban 6,100 5,541
Cymru 2,045 2,541

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 103.7% yn Lloegr, gan 11.3% yn yr Alban a chan 78.3% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 20.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2025.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 27.2% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 10.6% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 21.3% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 28.9% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Ionawr

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 80.2%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 25.7% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2025 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £406,407 11.1% 25.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £261,953 0.1% 4.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2025 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £223,452 -3.6% 3.1%
Cyn berchen-feddiannydd £328,300 -1.7% 3.9%

6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Ebrill 2025 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £252,296 -3.0% 2.7%
Morgais £274,913 -2.7% 3.8%

7. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

9. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991