Ffurflen

IHT206 Nodiadau i’ch helpu i lenwi’r ffurflen IHT205 (2011)

Diweddarwyd 27 Ebrill 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Pryd i ddefnyddio’r nodiadau hyn

Mae’r nodiadau hyn ond yn berthnasol pan fyddwch yn llenwi ffurflen IHT205 (2011) ‘Datganiad gwybodaeth am yr ystâd’. Mae’n rhaid i’r farwolaeth fod wedi digwydd:

  • ar neu ar ôl 6 Ebrill 2011
  • ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021

Mae’n bwysig defnyddio’r nodiadau er mwyn i chi allu llenwi’r ffurflen yn gywir.

Efallai y byddwch yn gwneud eich hun yn agored i gosbau ariannol os yw’r wybodaeth a rowch ar y ffurflen yn anghywir, yn anghyflawn neu’n anwir.

Ar gyfer marwolaethau ar ôl 31 Rhagfyr 2021

Gweler arweiniad CThEF Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth i gael gwybodaeth am y newidiadau i’r canlynol:

  • adrodd gwybodaeth am yr ystâd
  • amodau ystadau wedi’u heithrio o 1 Ionawr 2022 ymlaen

Ar gyfer marwolaethau ar neu cyn 5 Ebrill 2011

Mae’n rhaid i chi lenwi’r fersiwn gywir o ffurflen IHT205, yn dibynnu ar pryd y bu farw’r ymadawedig. Darllenwch sut i adrodd am ystâd wedi’i heithrio ar gyfer Treth Etifeddiant ar gyfer marwolaethau ar neu cyn 5 Ebrill 2011 (yn agor tudalen Saesneg). Bydd y nodiadau cwblhau yn eich helpu i lenwi’r ffurflen.

Diffiniadau

Mae’r nodiadau hyn yn defnyddio’r termau canlynol:

  • mae ‘ni’ yn golygu CThEF
  • ystyr ‘yr ymadawedig’ yw’r person sydd wedi marw
  • mae ‘priod’ yn golygu gŵr neu wraig yr ymadawedig, hynny yw, rhywun sydd wedi priodi’n gyfreithlon â rhywun arall
  • ystyr ‘partner sifil’ yw rhywun sydd wedi cofrestru partneriaeth sifil yn gyfreithiol gyda pherson arall

Rhagarweiniad

Fel arfer, bydd angen grant cynrychiolaeth arnoch er mwyn cael gafael ar y rhan fwyaf o’r asedion yn ystâd yr ymadawedig. Y grantiau mwyaf cyffredin yw:

  • grant profiant, pan fydd yr ymadawedig wedi gadael ewyllys
  • grant llythyron gweinyddu, pan na fydd yr ymadawedig wedi gadael ewyllys

Mae’n bosibl y clywch y ddau fath o grant yn cael eu galw’n ‘profiant’. Os nad oes angen i chi gael grant cynrychiolaeth, nid oes angen i chi lenwi ffurflen IHT205.

Cyn y gallwch gael grant bydd angen i chi dalu unrhyw Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus, neu allu dangos nad oes Treth Etifeddiant yn daladwy. Nid oes treth i’w thalu ar y rhan fwyaf o ystadau, a dim ond er mwyn rhoi ychydig o fanylion am yr ystâd y bydd angen i chi lenwi’r ffurflen IHT205(2011).

Os oes treth i’w thalu, neu os nad yw materion yr ymadawedig yn bodloni rhai amodau, bydd rhaid i chi gyflwyno cyfrif ffurfiol ar gyfer yr ystâd drwy lenwi’r ffurflen IHT400 Cyfrif Treth Etifeddiant a’i hanfon atom. Bydd arweiniad CThEF, Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth yn eich helpu i benderfynu pa ffurflen i’w llenwi.

Sylwer — efallai y bydd hefyd gofyn i chi lenwi ffurflenni ar gyfer y gwasanaeth profiant, yn ogystal â’r ffurflenni Treth Etifeddiant, i wneud cais am grant cynrychiolaeth.

Y man cychwyn

Gyda’r rhan fwyaf o ystadau, mae materion yn syml iawn. Bydd Ffurflen IHT205(2011), ynghyd â’r nodiadau hyn, yn eich helpu i gael pethau’n gywir. Byddai o gymorth i chi os bydd y ffurflen o’ch blaen pan fyddwch yn mynd drwy’r nodiadau er mwyn i chi weld pa ran o’r ffurflen rydym yn cyfeirio ati. Mae’r pwyntiau canlynol i’w cofio, yn cyfeirio at yr wybodaeth ar frig y ffurflen (cyn cwestiwn 1).

Pwyntiau i’w cofio

Defnyddio’r ffurflen gywir

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen IHT205(2011), ar yr amod y bu domisil yr ymadawedig yn y Deyrnas Unedig (DU) ac nad oes unrhyw dreth i’w thalu oherwydd bod gwerth gros yr ystâd yn llai na neu’n gyfwerth â’r canlynol:

Wrth i chi fynd drwy’r ffurflen, efallai y gwelwch fod amodau eraill yn codi sy’n golygu bod rhaid i chi stopio a llenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle. Ond cyn belled ag y bodlonir yr amodau cychwynnol hyn, dylech ddechrau gyda’r ffurflen IHT205(2011).

Os ydych yn llenwi ffurflen IHT205(2011), nid oes angen i chi lenwi ffurflen IHT421: Crynodeb profiant.

Gwerth gros

At ddibenion Treth Etifeddiant, gwerth gros yr ystâd yw cyfanswm yr holl asedion a gynhwysir yn ystâd yr ymadawedig cyn didynnu unrhyw ddyledion, yn ogystal ag unrhyw roddion a roddir gan yr ymadawedig.

Ystâd

At ddibenion Treth Etifeddiant, mae ystâd person yn cynnwys:

  • asedion yn enw’r ymadawedig yn unig
  • ei gyfran o unrhyw asedion roedd yn berchen arnynt ar y cyd
  • asedion a enwebwyd
  • asedion a roddwyd ganddo am ddim, ond lle cadwyd buddiant ynddynt
  • asedion y mae’n elwa arnynt, ond lle wnaeth ddewis peidio â thalu’r tâl Treth Incwm sy’n codi
  • asedion mewn rhai mathau o ymddiriedolaethau lle’r oedd gan yr ymadawedig hawl i elwa arnynt

Ychwanegir cyfanswm yr asedion hyn at werth trethadwy unrhyw roddion oes a wnaed yn y 7 mlynedd cyn y farwolaeth, i gyfrifo’r swm y codir treth arno. Gwerth trethadwy’r rhoddion yw gwerth y rhoddion ar ôl didynnu unrhyw esemptiad.

Y terfyn ystadau wedi’u heithrio

Fel arfer, mae’r terfyn ystadau eithriedig yr un fath â’r swm sy’n peri i Dreth Etifeddiant fod yn daladwy (y trothwy Treth Etifeddiant neu’r neu haen cyfradd sero).

Yr haenau cyfradd sero ar gyfer Treth Etifeddiant yw:

  • £285,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2006 i 2007
  • £300,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2007 i 2008
  • £312,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2008 i 2009
  • £325,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2009 i 2022

Gwiriwch arweiniad CThEF Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio: trothwyon, rheolau a lwfansau i weld y terfyn diweddaraf ar gyfer ystâd wedi’i heithrio.

Domisil

Eich domisil yw’r wlad lle’r ydych yn bwriadu byw am weddill eich oes. Dyma’r wlad y mae ei chyfreithiau’n penderfynu, er enghraifft, a yw ewyllys yn ddilys, neu sut yr ymdrinnir ag ystâd person nad yw wedi gwneud ewyllys pan fydd yn marw.

Pe bai rhywun yn cael ei eni yn y DU, yn byw yma am y rhan fwyaf o’i fywyd, neu wedi symud yma’n barhaol nifer o flynyddoedd yn ôl, mae’n arwydd da y gallai ei ddomisil fod yn y DU. Fodd bynnag, gall hyn fod yn fater cyfreithiol cymhleth ac os nad ydych yn siŵr am statws domisil yr ymadawedig, gallwch ofyn am gyngor proffesiynol. I gael rhagor o wybodaeth am ddomisil, darllenwch arweiniad CThEF Treth Etifeddiant: Llawlyfr Rhyddhad Trethiant Dwbl (yn agor tudalen Saesneg).

Trosglwyddiadau o’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio o ystâd priod neu bartner sifil a fu farw ynghynt

Er Hydref 2007, mae wedi bod yn bosibl i briod a phartneriaid sifil drosglwyddo eu haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio. Golyga hyn y gellir trosglwyddo unrhyw ran o’r haen cyfradd sero na chafodd ei defnyddio pan fu farw’r priod neu’r partner sifil cyntaf i’r priod neu’r partner sifil sy’n goroesi, er mwyn ei defnyddio gan ei ystâd/hystâd pan fydd yn marw.

Mae’n rhaid i chi lenwi cais i drosglwyddo’r haen cyfradd sero gan ddefnyddio

ffurflen IHT217: Cais i drosglwyddo’r haen gyfradd sero sydd heb ei defnyddio ar gyfer ystadau a eithriwyd

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:

  • bu farw’r person sydd bellach wedi marw ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010
  • bu farw’r priod neu’r partner sifil a fu farw o’i flaen/blaen ar neu ar ôl 13 Tachwedd 1974
  • pan fu farw’r priod neu’r partner sifil, ni ddefnyddiodd ei ystâd/hystâd unrhyw ran o’r haen gyfradd sero a oedd ar gael, felly mae’r holl haen cyfradd sero ar gael i’w throsglwyddo
  • mae ystâd y person sydd bellach wedi marw wedi’i phrisio am lai na dwywaith y terfyn ar gyfer ystadau wedi’u heithrio, ac mae’r ffurflen IHT205 yn cael ei llenwi

Os yw’r holl haen cyfradd sero ar gael i’w throsglwyddo, mae’n golygu bod ystâd y priod neu’r partner sifil sy’n marw’n ail yn cael dwbl yr haen cyfradd sero cyn bod unrhyw Dreth Etifeddiant yn daladwy.

Enghraifft o pan fo’r haen cyfradd sero gyfan ar gael i’w throsglwyddo

Bu farw Rhys gan adael gweddw, Rhiannon. Trosglwyddwyd holl ystâd Rhys, a oedd yn werth £300,000, i Rhiannon o dan delerau ewyllys Rhys. Gan fod popeth sy’n cael ei drosglwyddo i briod neu bartner sifil sy’n goroesi yn cael ei esemptio rhag Treth Etifeddiant, mae’r holl haen cyfradd sero ar gael i’w throsglwyddo i ystâd Rhiannon pan fydd hi’n marw.

Enghraifft o pan nad yw’r haen cyfradd sero gyfan ar gael i’w throsglwyddo

Bu farw Mared ar 1 Mai 2008 (pan oedd yr haen gyfradd sero yn £312,000) gan adael partner sifil sy’n goroesi, Alys. Roedd gwerth ystâd Mared yn £400,000. Yn ei hewyllys, gwnaeth Mared y canlynol:

  • gadael £100,000 i’w merch Gwenno
  • gadael gweddill ei hystâd i Alys

Mae Alys bellach wedi marw, gan adael ei hystâd sy’n werth £500,000 i Gwenno. Gan nad oedd y £100,000 a drosglwyddwyd i Gwenno ar farwolaeth Mared wedi ei esemptio rhag Treth Etifeddiant, defnyddiwyd £100,000 o haen cyfradd sero Treth Etifeddiant (£325,000 yn 2011 i 2012).

Os ydych am drosglwyddo’r haen cyfradd sero sydd heb ei ddefnyddio ac nad yw’r haen cyfradd sero gyfan ar gael, ni allwch ddefnyddio ffurflen IHT205. Yn hytrach, llenwch ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant a ffurflen IHT402: Hawlio trosglwyddiad o haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio yn lle.

Asedion a drosglwyddir i briod, partner sifil neu elusen gymwys

Pam mae hi’n bwysig p’un a yw’r ystâd yn cael ei throsglwyddo i’r priod neu’r partner sifil neu i elusen gymwys

Yn fras, caiff asedion a drosglwyddir i briod neu bartner sifil yr ymadawedig neu i elusen gymwys eu heithrio rhag Treth Etifeddiant. Felly, os trosglwyddir y rhan fwyaf o asedion i briod neu bartner sifil yr ymadawedig neu i elusen gymwys, mae’n debygol na fydd treth i’w thalu. Os nad oes treth i’w thalu oherwydd yr esemptiadau hyn, ac bod yr ystâd yn bodloni’r amodau eraill sy’n gymwys, sef, yn bennaf, bod y gwerth gros yn £1 miliwn neu lai, ni fydd yn rhaid i chi lenwi IHT400. Ond ceir rhai cyfyngiadau i’r esemptiadau hyn.

Yr hyn a olygir gan elusen gymwys

Yr hyn a olygwn gan ‘elusen gymwys’ yw elusen a sefydlwyd yn yr Undeb Ewropeaidd (neu wlad benodedig arall):

  • a fyddai’n gymhwysol fel elusen o dan gyfraith Cymru a Lloegr
  • sy’n cael ei rheoleiddio fel elusen yn y wlad y mae wedi’i sefydlu ynddi (os yw’n briodol)
  • â rheolwyr sy’n addas a phriodol i fod yn rheolwyr yr elusen

Cyrff cymwys eraill

Mae cyrff cymwys eraill yn cynnwys sefydliadau cenedlaethol yn y DU, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Oriel Genedlaethol. Os nad ydych yn sicr a yw sefydliad yn elusen neu’n gorff cenedlaethol yn y DU sy’n gymwys, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar: 0300 200 1900.

Asedion a drosglwyddir i elusen gymwys

Mae asedion a drosglwyddir i elusen gymwys wedi eu heithrio rhag Treth Etifeddiant. Rhaid trosglwyddo’r gymynrodd yn uniongyrchol ac yn ddiamod i’r sefydliad. Ni ddylid ei throsglwyddo i ymddiriedolaeth er budd y sefydliad dan sylw.

Asedion a drosglwyddir i briod neu bartner sifil

Pan drosglwyddir asedion i briod neu bartner sifil yr ymadawedig, mae’n rhaid bod domisil (cartref parhaol) yr ymadawedig, yn ogystal â’r priod neu’r partner sifil, fod wedi bod yn y DU drwy gydol eu hoes.

Os nad oedd domisil y naill neu’r llall yn y DU ac mae’r ystâd gros (y ffigur ym mlwch H) yn debygol o fod yn fwy na’r terfyn ystadau wedi’u heithrio, peidiwch â llenwi’r ffurflen IHT205(2011). Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny. I gael rhagor o wybodaeth am ddomisil, darllenwch arweiniad CThEF Treth Etifeddiant: Llawlyfr Rhyddhad Trethiant Dwbl (yn agor tudalen Saesneg). Nid oes gwahaniaeth p’un a drosglwyddir yr asedion yn uniongyrchol i’r priod neu’r partner sifil, neu p’un a’u trosglwyddir i ymddiriedolaeth y mae hawl gan y priod neu’r partner sifil elwa arni

Asedion mewn perchnogaeth ar y cyd

Cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu, stociau a chyfranddaliadau a thai a thir yw’r asedion sydd fel arfer mewn perchnogaeth ar y cyd. Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar unrhyw asedion ar y cyd â pherson arall neu bobl eraill, bydd yn rhaid i chi gynnwys gwerth cyfran yr ymadawedig o’r ased yn yr ystâd ar y ffurflen. Pan fydd asedion yn cael eu perchen ar y cyd gan 2 neu ragor o bobl, mae’r ffordd y caiff yr asedion hynny eu perchen yn gwneud gwahaniaeth at ddibenion profiant, a pha flwch y defnyddiwch i nodi’r gwerth ar y ffurflen.

Y 2 fath o berchnogaeth yw:

  • cyd-denantiaid
  • tenantiaid cydradd

Cyd-denantiaid

Os oedd yr ymadawedig yn dal ased gyda rhywun arall, ac mae ei gyfran/chyfran yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i’r cydberchennog arall, rydym yn galw’r ased yn ‘ased ar y cyd’. Gelwir y cydberchnogion yn gyd-denantiaid. Fel arfer caiff cyfrifon banc eu perchen yn y ffordd hon. Dylech gyfrifo gwerth cyfran yr ymadawedig mewn ased a ddelir ar y cyd drwy rannu gwerth yr ased cyfan gan nifer y cyd berchenogion. Dylech gynnwys y gwerth hwn ym mlwch 9.2. Dylech hefyd gyfeirio at yr adran ‘Prisio cyfrifon banc ar y cyd’ yn y nodiadau hyn.

Tenantiaid cydradd

Bydd y cydberchenogion yn dal yr ased fel ‘tenantiaid cydradd’:

  • yn dal ased gyda rhywun arall
  • mae ei gyfran/chyfran yn cael ei drosglwyddo o dan ei (h)ewyllys (neu os na wnaeth ewyllys, o dan reolau diewyllysedd) i’r cydberchennog arall neu i rywun arall

Fel arfer bydd cyfran yr ymadawedig yn cyfateb â’r arian a gyfrannodd er mwyn prynu’r ased neu’r swm a roddodd mewn cyfrif ar y cyd. Dylech wneud y canlynol:

  • rhestru bob ased a ddelir fel tenantiaid cydradd ym mlwch 13
  • rhoi gwerth yr ased cyfan
  • datgan cyfran yr ymadawedig, er enghraifft, hanner, traean, ac yn y blaen

Dylech wedyn gynnwys gwerth cyfran yr ymadawedig o ased roedd yn berchen arno fel ‘tenantiaid cydradd’ yn y blwch perthnasol yn adran 11. Felly, os mai tŷ’r ymadawedig yw’r ased a ddelir fel ‘tenantiaid cydradd’, dylech ei gynnwys ym mlwch 11.8 ac yn y blaen. Os nad oedd yr ased yn y DU, dylech ei gynnwys ym mlwch 9.5.

Sut i ganfod a feddir ar ased mewn perchnogaeth ar y cyd fel cyd-denantiaid neu denantiaid cydradd

Os yw’r ased yn dŷ neu dir, efallai y gall dogfennau’r Gofrestrfa Tir eich helpu. Gallwch gael copi o gofrestr teitl ar gyfer yr eiddo o wefan y Gofrestrfa Tir. Bydd enwau’r holl gydberchnogion yn cael eu rhoi ar y gofrestr teitlau. Os yw’n cael ei ddal fel tenantiaid cydradd dylid dangos hwnnw drwy ychwanegu cyfyngiad ar ddogfen y Gofrestrfa Tir a elwir yn ‘Form A restriction’.

Bydd y ‘Form A restriction’ wedi ei eirio fel a ganlyn (neu eiriau tebyg):

Oni bai ei fod wedi’i awdurdodi gan orchymyn llys, ni ddylid cofrestru unrhyw drafodyn cyfreithiol a wnaed gan berchennog unigol mewn perthynas â’r ystâd gofrestredig (oni bai am ymddiriedolaeth corfforaethol) sy’n awain at arian cyfalaf. Yn yr achos hwn ystyr ‘trafodyn cyfreithiol a wnaed gan berchennog unigol’ yw unrhyw drafodyn sy’n ymwneud â pherchnogaeth/hawliau, neu unrhyw newid i’r berchnogaeth/hawliau hynny (‘disposition’).

Ni fydd dogfen y Gofrestrfa Tir yn nodi pa gyfran o’r eiddo yr oedd pob perchennog yn berchen arni. I gael gwybod beth yw’r gyfran sy’n eiddo i bob perchennog, bydd angen i chi edrych ar naill ai:

  • y ddogfen datganiad ymddiriedolaeth
  • yr ewyllys y cafodd yr eiddo ei etifeddu drwyddi (os etifeddwyd yr eiddo ar y cyd)

Cyfrifon banc mewn perchnogaeth ar y cyd

Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon banc ar y cyd yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cadw fel cyd-denantiaid. Os ydych am wirio hyn, cysylltwch â’r banciau a dylent allu rhoi gwybod i chi.

Asedion eraill mewn perchnogaeth ar y cyd

Os caiff ased ei brynu gan 2 neu fwy o bobl gyda’i gilydd, bydd perchnogaeth yr ased ar ffurf tenantiaid ar y cyd yn awtomatig oni bai fod y perchnogion yn nodi’n wahanol. Dylai fod dogfennau sy’n dangos bod ased penodol mewn perchnogaeth fel tenantiaid cydradd.

Pam mae’n gwneud gwahaniaeth sut y caiff asedion mewn perchnogaeth ar y cyd eu dal

Mae cyfran yr ymadawedig o asedion mewn perchnogaeth ar y cyd, p’un a ydynt ar ffurf cyd-denantiaid neu denantiaid cydradd, wedi’i chynnwys yng ngwerth yr ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant. Ond os oedd y cyd berchnogaeth ar ffurf cyd-denantiaid (mae’r rhan fwyaf o gyfrifon banc a llawer o dai yn cael eu perchen ar ffurf cyd-denantiaid), mae’r asedion yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r cydberchnogion eraill. Mae hyn yn golygu nad yw gwerth yr asedion hyn yn cael ei gynnwys yng ngwerth yr ystâd ar gyfer y grant profiant na’r llythyrau gweinyddu. Mae hyn yn golygu nad oes angen cyfran yr ymadawedig o’r asedion hyn.

Os oedd y cyd berchnogaeth ar ffurf tenantiaid cydradd, rhaid dangos gwerth cyfran yr ymadawedig ar y grant profiant neu’r llythyron gweinyddu. Mae hyn yn golygu bod angen cyfran yr ymadawedig o’r asedion hyn.

Yr hyn y dylech ei wneud yn gyntaf

Chwiliwch yn drylwyr drwy holl bapurau’r ymadawedig. Gwnewch restr fras o’i asedion/hasedion, ei fuddsoddiadau/buddsoddiadau, ei fuddiannau/buddiannau ariannol eraill a’r dyledion oedd ganddo/ganddi pan fu farw. Os bu’n rhaid i’r ymadawedig lenwi Ffurflenni Treth Hunanasesiad, mae’n bosibl ei fod/bod wedi cadw cofnodion, a gallai’r rhain eich helpu. Gallai cyfriflenni banc a llyfrau cyfrifon cymdeithasau adeiladu eich helpu i ganfod p’un a roddwyd unrhyw roddion. Cofiwch, er nad yw’r incwm o rai asedion penodol megis cyfrifon ISA yn agored i Dreth Incwm, mae’r cyfalaf yn ogystal â’r incwm yn agored i Dreth Etifeddiant a rhaid eu cynnwys.

Efallai y gallai fod yn ddefnyddiol gofyn i eraill beth y gwyddon nhw am faterion ariannol yr ymadawedig. Gallai’r bobl ganlynol fod o gymorth i chi:

  • unrhyw gyfreithiwr neu gyfrifydd a oedd yn ymwneud â materion yr ymadawedig
  • teulu agos yr ymadawedig (yn arbennig wrth ddod o hyd i roddion)
  • unrhyw un a enwyd yn yr ewyllys a allai wybod am faterion yr ymadawedig
  • unrhyw bartneriaid busnes agos yr ymadawedig
  • banc, brocer stoc neu gynghorwyr ariannol eraill yr ymadawedig (gallai’r banc fod yn cadw papurau neu eiddo gwerthfawr arall er mwyn eu cadw’n ddiogel)

Dylech wneud ymholiadau manwl i ddod o hyd i bopeth sy’n rhan o ystâd yr ymadawedig. Ar ôl gorffen eich rhestr fras o asedion, dylech ganfod gwerth pob ased. Mae’n bwysig iawn eich bod yn darparu gwybodaeth lawn a chywir ac yn ceisio prisio’r asedion yn gywir. Mae’n bosibl y cewch gosb ariannol os yw’r gwerthoedd neu’r wybodaeth a roddwch yn anghywir, yn anghyflawn neu’n anwir.

Yr hyn i’w wneud pan fyddwch wedi gosod trefn ar yr asedion a’u gwerthoedd

Pan fydd gennych syniad da ynghylch yr asedion sy’n ffurfio’r ystâd, a’u gwerthoedd, adiwch y ffigurau at ei gilydd. Os yw gwerth gros yr holl asedion, pan fydd hynny wedi’i ychwanegu at werth trethadwy unrhyw roddion a roddwyd gan yr ymadawedig, yn llai neu’n gyfwerth â £1 miliwn, gallwch barhau i lenwi’r ffurflen IHT205(2011). Peidiwch â pharhau â ffurflen IHT205(2011) os yw’r gwerth gros:

  • yn fwy na £1 miliwn
  • yn fwy na’r terfyn ystadau wedi’u heithrio (neu ddwywaith y terfyn ystadau wedi’u heithrio pan fyddwch yn gwneud cais i drosglwyddo’r haen cyfradd sero) ac nid oes unrhyw asedion i’w trosglwyddo i briod neu bartner sifil yr ymadawedig neu i elusen gymwys

Dylech lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Prisio asedion

Sut i brisio’r holl asedion

At ddibenion Treth Etifeddiant, mae’n rhaid prisio’r holl asedion fel pe bai pob eitem wedi cael ei gwerthu ar y farchnad agored ar y dyddiad y bu’r person farw. Enw ar hyn yw ‘gwerth marchnad agored’. Mae’n cynrychioli pris realistig gwerthu ased, nid ei werth at ddibenion yswiriant neu werth disodli ased.

Dylech fod yn gallu prisio rhai asedion yr ystâd yn gymharol hawdd, er enghraifft arian mewn cyfrifon banc, stociau a chyfranddaliadau. Mewn achosion eraill, er enghraifft tai a thir, bydd angen cymorth prisiwr proffesiynol arnoch. Pan fyddwch yn cyflogi prisiwr, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gofyn iddo am ‘werth marchnad agored’ yr ased. Ceir cymorth manylach ynglŷn â phrisio gwahanol fathau o asedion yn nes ymlaen yn yr arweiniad hwn.

Prisio asedion a ddelir ar y cyd

Nid oes gwahaniaeth p’un a yw’r asedion yn cael eu perchen fel cyd-denantiaid neu fel tenantiaid cydradd. Y man cychwyn ar gyfer prisio cyfran yr ymadawedig yw ei gyfran ef o’r gwerth llawn. Er enghraifft, os cyfrannodd 3 pherson yr un faint i gyfrif banc gyda £900 ynddo, a chafodd ei ddal fel cyd-denantiaid, cyfran yr ymadawedig fydd £300, a dylid nodi’r swm hwn ym mlwch 9.2. Ond ceir rhai rheolau arbennig ynglŷn â phrisio mathau eraill o asedion.

Prisio cyfran mewn tai, adeiladau a thir

Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar dir neu adeiladau gyda phobl eraill, dylech ddechrau drwy gyfrifo gwerth cyfran yr ymadawedig. Os nad priod neu bartner sifil yr ymadawedig ydy’r cydberchennog arall, gallwch ostwng gwerth cyfran yr ymadawedig o 10%. Ond os yw gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil yn berchen yn gyfan gwbl ar y tŷ, y tir neu’r adeiladau, bydd rheolau arbennig yn gymwys, ac ni ddylech ostwng gwerth cyfran yr ymadawedig o 10%.

Prisio polisïau yswiriant ar y cyd

Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar bolisi yswiriant ar y cyd gyda rhywun arall, dylech gynnwys cyfran yr ymadawedig o’r polisi fel ased ar y cyd ym mlwch 9.2. Os gelwir y polisi yn bolisi ‘bywyd a goroeswr ar y cyd’, dylech ddal i gynnwys cyfran yr ymadawedig o’r polisi. Dylai’r cwmni yswiriant fod yn gallu rhoi amcangyfrif o werth llawn y polisi ar ddyddiad y farwolaeth, i’ch galluogi i gyfrifo gwerth cyfran yr ymadawedig.

Prisio cyfrifon banc ar y cyd

Mae prisio cyfran yr ymadawedig o gyfrif banc yn eithaf hawdd, ond weithiau delir cyfrifon ar y cyd er cyfleustra yn unig. Er enghraifft, os na fydd person oedrannus yn gallu gadael y tŷ mwyach, gall ychwanegu enw mab neu ferch at ei gyfrif banc er mwyn ei alluogi/galluogi i weithredu’r cyfrif ar ei ran. Os bydd cyfrif ar y cyd yn bodoli er cyfleustra, a’r ymadawedig a ddarparodd yr holl arian yn y cyfrif, dylech drin y cyfrif fel petai yn enw’r ymadawedig yn unig. Dylech gynnwys y swm llawn sydd yn y cyfrif ym mlwch 9.2 (ar gyfer tenantiaid ar y cyd) neu 11.1 (os delir y cyfrif fel tenantiaid cydradd).

Mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd. Os na ddarparodd yr ymadawedig unrhyw faint o’r arian yn y cyfrif a bod ei enw/henw arno er cyfleustra’n unig, cyhyd â nad oedd yn fwriad gan y darparwr roi rhodd, nid oes angen cynnwys unrhyw beth am y cyfrif ar y cyd ar y ffurflen IHT205(2011).

Amcangyfrif gwerthoedd ac ystadau bychain

Yr hyn i’w wneud os na allaf gael prisiad manwl gywir

Os na wyddoch union swm neu werth unrhyw eitem fach, megis ad-daliad Treth Incwm neu fil y cartref, peidiwch â gohirio gwneud cais am y grant. Gallwch ddefnyddio amcangyfrif. Ni ddylech fwrw amcan ynghylch gwerth ased, ond dylech ystyried amcangyfrif ar sail yr wybodaeth sydd ar gael. Os byddwch yn cynnwys amcangyfrif, defnyddiwch flwch 13 i roi gwybod i ni pa werthoedd sydd wedi eu hamcangyfrif.

Nid oes angen prisiadau manwl gywir pan fydd yr ystâd yn fach iawn

Os yw gwerth gros yr ystâd yn debygol o fod yn is na £250,000, neu mae’r ystâd wedi ei hesemptio oherwydd ei bod yn cael ei throsglwyddo i briod neu bartner sifil neu i elusen gymwys, gallwch amcangyfrif gwerth yr asedion. Ni ddylech fwrw amcan ynghylch gwerth ased, ond dylech ystyried amcangyfrif ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i chi. Nid oes angen defnyddio blwch 13 i ddangos bod y ffigurau wedi’u hamcangyfrif mewn ystadau o’r fath.

Cwblhau ffurflen IHT205(2011)

Adran 1: Ynglŷn â’r person a fu farw

Cwblhewch flychau 1.1 i 1.7 o’r ffurflen IHT205(2011), gan roi enw, dyddiad y farwolaeth a gwybodaeth arall y gofynnwn amdani ynglŷn â’r ymadawedig.

Blwch 1.5

Dewiswch y statws priodasol ar gyfer statws priodasol neu bartneriaeth sifil.

Blwch 1.6

Nodwch beth oedd galwedigaeth yr ymadawedig a ph’un a oedd wedi ymddeol ai peidio. Er enghraifft, ‘adeiladwr’, ’athro sydd wedi ymddeol’.

Blwch 1.7

Gallwch ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig ar lythyron gan CThEF, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu ar ffurflen P60 ‘Tystysgrif Diwedd Blwyddyn’. Os oedd yr ymadawedig yn cael budd-daliadau a dalwyd yn uniongyrchol i’w gyfrif/chyfrif banc, bydd ei rif/rhif Yswiriant Gwladol yn ymddangos ar gyfriflen y banc.

Ynglŷn â’r ystâd

Adran 2: Rhoddion a throsglwyddiadau

Os oedd yr ymadawedig wedi rhoi unrhyw roddion (neu wedi gwneud trosglwyddiadau eraill o asedion) yn ystod ei (h)oes, bydd yn rhaid i chi ystyried y rhain i ganfod a yw’r ystâd yn gymwys fel ystâd wedi’i heithrio. Mae’n rhaid dechrau gyda phob rhodd a throsglwyddiad a wnaed gan yr ymadawedig; hyd yn oed y rheiny a wnaed i’w briod/phriod neu bartner sifil neu i elusen gymwys.

Yr hyn sy’n cyfrif fel rhodd

Mae rhoddion yn drosglwyddiadau o arian (neu asedion eraill) a wnaed gan yr ymadawedig yn ystod ei (h)oes. Nid yw rhoddion yn cynnwys cymynroddion a wnaed yn ewyllys yr ymadawedig. Er enghraifft, pe bai’r ymadawedig, (tra’r oedd yn dal yn fyw) yn rhoi £8,000 i’w fab/mab i brynu car, byddai hynny’n rhodd. Os yw ewyllys yr ymadawedig yn nodi: “Rhoddaf £8,000 i’m mab”, mae hynny’n gymynrodd o dan yr ewyllys, nid rhodd.

Mae rhodd neu drosglwyddiad yn berthnasol at ddibenion Treth Etifeddiant os bydd gwerth ystâd yr ymadawedig wedi gostwng ar ôl rhoi rhodd neu drosglwyddo ased. Mae hyn yn cynnwys rhoddion syml ar ffurf arian parod neu rodd o ased penodol. Bydd trafodion eraill, fel gwerthu tŷ am bris sy’n llai na’i werth marchnad llawn, neu rodd o gyfranddaliadau sy’n arwain at yr ymadawedig yn colli rheolaeth dros gwmni, yn berthnasol hefyd. Os nad ydych chi’n siŵr sut mae trafodyn yn effeithio ar Dreth Etifeddiant, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael cyngor.

Cwestiwn 2: rhan gyntaf

Atebwch ‘Na’ os nad oedd gwerth y rhoddion a roddwyd gan yr ymadawedig yn fwy na £3,000 bob blwyddyn. Gallwch anwybyddu rhoddion wrth ystyried priodas neu bartneriaeth sifil os ydynt yn dod o fewn y terfynau a restrir yn yr adran ‘Rhoddion ar adeg priodas neu bartneriaeth sifil’ yn y nodiadau hyn.

Esemptiadau caniataol

Os rhoddodd yr ymadawedig roddion (neu drosglwyddiadau eraill) oedd yn fwy na £3,000 mewn unrhyw un flwyddyn, gallwch ddidynnu esemptiadau caniataol penodol o’r rhoddion. Yr unig esemptiadau y gallwch ddidynnu i ganfod p’un a yw’r ystâd yn gymwys fel ystâd wedi’i heithrio yw:

  • esemptiad rhoddion bychain
  • esemptiad blynyddol
  • esemptiad ar roddion a wnaed i gydnabod priodas neu bartneriaeth sifil
  • esemptiad ar gyfer rhoddion a wnaed ar ffurf gwariant arferol allan o incwm - ar yr amod bod cyfanswm y rhoddion allan o incwm yn llai na £3,000 am bob blwyddyn dreth

Mae’n dal yn bosibl i chi ateb ‘Na’ i’r cwestiwn hwn os cafodd yr unig roddion a roddodd yr ymadawedig:

  • eu rhoi i unigolion mwy na 7 mlynedd cyn y farwolaeth
  • eu cwmpasu’n llawn gan yr esemptiadau

Cwestiwn 2: ail ran

Os atebwch ‘Iawn’, yna caiff yr ymadawedig ei drin/thrin fel pe bai wedi gwneud trosglwyddiad neu rodd o asedion yr ymddiriedolaeth, a bod ei hawl i elwa wedi dod i ben yn sgil hynny. Mae hyn yn golygu bod rhaid i asedion yr ymddiriedolaeth gydymffurfio â’r rheolau sy’n berthnasol i roddion. Dylid eu hychwanegu at unrhyw roddion neu drosglwyddiadau eraill a wnaed gan yr ymadawedig. Gweler adran 4 yr arweiniad hwn i gael rhagor o wybodaeth am beth yw ymddiriedolaeth at ddibenion Treth Etifeddiant.

Trosglwyddiadau penodol

Os atebwch ‘Iawn’ i’r naill ran neu’r llall o gwestiwn 2, mae’n rhaid i’r rhoddion a’r trosglwyddiadau gymhwyso fel ‘trosglwyddiadau penodol’. O ran yr asedion a roddwyd, dim ond yr asedion a nodir isod y gellir eu hystyried yn ‘drosglwyddiadau penodol’:

  • arian parod
  • stociau a chyfranddaliadau a restrwyd
  • nwyddau’r tŷ a nwyddau personol
  • tai, tir ac adeiladau

Mae’n rhaid i gyfanswm gwerth y rhoddion ar adeg rhoi’r rhoddion, ar ôl didynnu unrhyw esemptiadau sy’n ganiataol, fod yn llai na, neu’n hafal i, £150,000.

Dylech gynnwys gwerth yr holl roddion a’r trosglwyddiadau ym mlwch 9.1. Pe cododd y trosglwyddiad oherwydd bod yr ymadawedig wedi ildio ei hawl i elwa ar ymddiriedolaeth, nodwch enw’r person a sefydlodd yr ymddiriedolaeth a’r dyddiad y’i sefydlwyd ym mlwch 13.

Rhoddion o dai, tir ac adeiladau

Mae rhoddion o dai, tir ac adeiladau ond yn gymwys fel ‘trosglwyddiadau penodol’ os oeddent yn rhoddion llwyr gan un unigolyn i’r llall.

Stopiwch lenwi ffurflen IHT205(2011) a llenwch ffurflen IHT400: cyfrif Treth Etifeddiant yn ei lle, os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rhoddion o dai, tir neu adeiladau i ymddiriedolaeth, neu os cadwodd yr ymadawedig fudd o unrhyw fath yn ôl o’r eiddo neu os oedd hawl ganddo/ganddi i ddefnyddio’r eiddo
  • nid oedd yr asedion a roddwyd o’r math a restrir uchod
  • mae gwerth yr holl roddion a throsglwyddiadau ym mlwch 9.1, ar ôl didynnu’r esemptiadau caniataol, yn fwy na £150,000

Os yw’r gwerth yn fwy na £150,000 oherwydd bod yr ymadawedig wedi rhoi rhoddion sydd wedi’u hesemptio i chi, gallwch barhau i lenwi ffurflen IHT205(2011) a nodi gwerth mwy na £150,000 ym mlwch 9.1. Ceir rhestr o roddion sydd wedi’u heithrio yn adran ‘Esemptiadau eraill’ y nodiadau hyn. Gweler yr adran ‘Rhoddion a wnaed allan o incwm’ am enghreifftiau sy’n esbonio’r rheol hon.

Esemptiadau caniataol y gellir eu didynnu

Gallwch ddidynnu esemptiadau penodol o unrhyw roddion neu drosglwyddiadau oes a wnaed gan yr ymadawedig. Os yw’r holl roddion neu drosglwyddiadau oes yn bodloni’r amodau ar gyfer yr esemptiadau ac mae cyfanswm y rhoddion yn llai na’r terfynau arian parod a osodwyd, mae’n dal yn bosibl i chi ateb ‘Na’ i adran 2.

Esemtptiad ar gyfer rhoddion bychain

Mae rhoddion i un person sy’n llai na £250 mewn unrhyw flwyddyn dreth hyd at 5 Ebrill yn rhydd o dreth. Mae’r esemptiad hwn yn cynnwys rhoddion adeg pen-blwydd ac achlysuron dathlu eraill. Ni allwch ddefnyddio’r esemptiad rhodd bychan mewn perthynas ag unrhyw ryddhad arall. Gallwch ddefnyddio’r esemptiad hwn dim ond os nad yw’r holl roddion a roddwyd i’r un person mewn un flwyddyn dreth yn fwy na chyfanswm o £250.

Esemptiad blynyddol

Mae rhoddion hyd at £3,000 mewn unrhyw un flwyddyn dreth hyd at 5 Ebrill wedi’u hesemptio. Gall hyn fod yn gymwys i un rhodd neu gyfanswm nifer o roddion pan na fydd esemptiad rhoddion bychain yn gymwys. Os bydd y rhoddion a wnaed mewn 1 flwyddyn yn llai na £3,000, gellir cario’r gweddill ymlaen i’r flwyddyn nesaf (ond nid ymhellach) a gellir ei ddefnyddio unwaith y bydd y esemptiad am y flwyddyn honno wedi ei ddefnyddio’n llwyr. Ni ellir cario’r esemptiad yn ôl i flynyddoedd cynharach.

Rhoddion a wnaed allan o incwm

Bydd rhoddion a roddir fel rhan o wariant arferol yr ymadawedig wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant, cyn belled ag y gallwch ddangos:

  • eu bod wedi ffurfio rhan o wariant arferol yr ymadawedig
  • eu bod wedi ei rhoi allan o incwm
  • bod gan yr ymadawedig ddigon o incwm ar ôl i gynnal ei safon byw arferol

Gwariant arferol

Mae hyn yn golygu bod y taliadau yn rhan o wariant rheolaidd yr ymadawedig. Er enghraifft, pan oedd yr ymadawedig yn gwneud taliadau misol neu daliadau rheolaidd eraill i rywun arall. Ni fydd taliad unigol, hyd yn oed os oedd allan o incwm, yn cael ei eithrio.

Atebwch ‘Na’ i ddwy ran cwestiwn 2 os gwnaeth yr ymadawedig unrhyw roddion o incwm a bod y canlynol yn berthnasol:

  • maent yn bodloni’r amodau hyn
  • nid ydynt yn fwy na chyfanswm o £3,000 bob blwyddyn

Atebwch ‘Iawn’ i ran gyntaf cwestiwn 2 a rhowch fanylion y rhoddion ym mlwch 9.1 os yw’r rhoddion a wnaed allan o incwm yn fwy na £3,000 y flwyddyn.

Pan fo’r ymadawedig wedi rhoi rhoddion o’i (h)incwm a oedd yn fwy na £3,000 y flwyddyn, mae’n rhaid i chi beidio â didynnu’r esemptiad ar gyfer y blynyddoedd dan sylw. Rhaid ychwanegu gwerth llawn y rhoddion at yr holl roddion eraill ym mlwch 9.1 i roi gwerth llawn y rhoddion. Peidiwch â pharhau i lenwi rhagor o ffurflen IHT205(2011) os yw’r cyfrifiad hwn yn golygu:

  • bod cyfanswm y rhoddion yn fwy na £150,000
  • bod yr ystâd gros yn fwy na’r terfyn ystadau wedi’u heithrio (neu ddwywaith y terfyn ystadau wedi’u heithrio pan rydych yn gwneud cais i drosglwyddo’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio) ac nid oes asedion yn cael eu trosglwyddo i briod neu bartner sifil yr ymadawedig neu i elusen gymwys

Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Enghraifft 1

Bu farw Jamie ar 3 Mai 2011. Gwnaeth y canlynol:

  • rhoddodd roddion o’i incwm i’w wyrion ym mhob un o’r 3 blwyddyn dreth cyn ei farwolaeth.
  • rhoddodd hefyd gyfanswm o £3,000 o roddion blynyddol i’w blant ym mhob un o’r blynyddoedd hynny.
  • gadael ystâd o £320,000 i’w bartner dibriod.

Cyfanswm y rhoddion yw £24,000. Mae cyfanswm yr esemptiadau blynyddol yn £9,000 (£3,000 ar gyfer pob blwyddyn dreth). Mae hyn yn golygu bod gwerth trethadwy o £15,000.

Gan fod y rhoddion allan o incwm yn fwy na £3,000 bob blwyddyn, mae’n rhaid nodi gwerth llawn y rhoddion ym mlwch 9.1. At ddibenion pennu a yw’r ystâd yn ystâd wedi’i heithrio, ni ellir didynnu esemptiadau ar gyfer rhoddion allan o incwm o werth y rhoddion.

Mae hyn yn golygu:

  • y gwerth gros ar gyfer Treth Etifeddiant yw £335,000, (£15,000 o roddion ynghyd â £320,000 o’r ystâd)
  • nid yw’r ystâd hon yn gymwys i fod yn ystâd wedi’i heithrio gan ei bod yn fwy na’r terfyn o £325,000 ar gyfer ystadau wedi’u heithrio
  • ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn hytrach na ffurflen IHT205(2011)

Enghraifft 2

Bu farw Anwen, a oedd yn weddw, ar 9 Ebrill 2011. Gwnaeth Anwen y canlynol:

  • rhoddodd roddion o’i incwm/hincwm i’w wyrion ym mhob un o’r 6 blwyddyn dreth cyn ei marwolaeth
  • gadawodd ystâd o £500,000 i’w chwaer

Bu farw gŵr Anwen o’i blaen a gadawodd:

  • ei holl ystâd i Anwen
  • haen cyfradd sero Treth Etifeddiant heb ei ddefnyddio

Mae hyn yn golygu y gall ystâd Anwen hawlio trosglwyddiad o’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio. Mae hyn yn dyblu swm yr haen cyfradd sero sydd ar gael.

Mae gwerth trethadwy’r rhoddion allan o incwm yn £60,000. Mae hyn o dan y terfyn o £150,000 ar gyfer rhoddion. Pan ychwanegir y rhoddion at yr ystâd o £500,000, mae’r gwerth gros at ddibenion Treth Etifeddiant yn £560,000.

Yn yr achos hwn, nid yw’n fwy na therfyn yr ystâd wedi’i heithrio. Mae hyn oherwydd bod ystâd Anwen yn hawlio trosglwyddiad o’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio o ystâd ei gŵr a gall ddyblu’r terfyn o £325,000. Mae hyn yn golygu mai terfyn yr ystâd wedi’i heithrio yw £650,000

I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran Trosglwyddiadau o’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio o ystâd priod neu bartner sifil, sydd nes ymlaen yn yr arweiniad hwn.

Rhoddion ar adeg priodas neu bartneriaeth sifil

Bydd y rhodd yn cael ei hesemptio hyd at y terfynau isod os cafodd ei rhoi:

  • ar neu ychydig cyn seremoni’r briodas neu’r bartneriaeth sifil
  • i un neu ddwy ochr y briodas neu’r bartneriaeth sifil
  • i ddod i rym yn llawn pan fydd y briodas neu’r bartneriaeth sifil yn digwydd

Mae’r terfynau fel a ganlyn:

  • £5,000 os oedd yr ymadawedig yn rhiant neu’n lysriant i un ochr i’r briodas neu bartneriaeth sifil
  • £2,500 os oedd yr ymadawedig yn dad-cu/mam-gu/taid/nain neu berthynas bellach un ochr y briodas neu’r bartneriaeth sifil
  • £1,000 mewn unrhyw achos arall

Esemptiadau eraill na ellir eu didynnu wrth gyfrifo’r ystâd gros

Mae esemptiadau eraill ar gael. Esemptiadau yw’r rhain ar gyfer trosglwyddiadau i’r canlynol:

  • priod neu bartner sifil yr ymadawedig
  • elusennau cymwys
  • pleidiau gwleidyddol, cymdeithasau tai, cronfeydd cynnal adeiladau hanesyddol, ac ymddiriedolaethau cyflogeion.

Ni ddylech ddidynnu’r rhain, ar yr adeg hon, er mwyn pennu a yw’r terfyn cyflawn ar gyfer yr ystâd gros yn fwy na £1 miliwn.

Enghraifft 1

Rhoddodd yr ymadawedig roddion o £100,000 i’w blant a £100,000 i’w wraig yn y flwyddyn cyn ei farwolaeth. Bu farw gan adael ystâd o £500,000.

Mae cyfanswm y rhoddion yn £200,000 llai esemptiad blynyddol o £6,000 (yr hyn sydd heb ei ddefnyddio o’r flwyddyn flaenorol). Yr esemptiad i briod neu bartner sifil yw £100,000. Golyga hyn mai gwerth trethadwy’r rhoddion yw £94,000.

Oherwydd bod y gwerth trethadwy o dan y terfyn £150,000 ar gyfer rhoddion, gall yr ystâd gymhwyso fel ystâd wedi’i heithrio.

Fodd bynnag, wrth lenwi ffurflen IHT205(2011), dylai’r teulu anwybyddu esemptiad y priod neu’r partner sifil ac ysgrifennu £194,000 ym mlwch 9.1. Pan ychwanegir hyn at yr ystâd ar farwolaeth sef £500,000, nid yw gwerth gros yr ystâd yn fwy na £1 miliwn. Mae hyn yn golygu gall yr ystâd gymhwyso fel ystâd wedi’i heithrio

Enghraifft 2

Rhoddodd yr ymadawedig roddion o £50,000 i’w blant/phlant a £50,000 i elusen gymwys. Bu farw gan adael ystâd o £950,000.

Gwerth trethadwy’r rhoddion yw £44,000. Mae’n rhaid i’r teulu beidio â didynnu’r esemptiad ar gyfer elusennau a nodi £94,000 ym mlwch 9.1. Pan ychwanegir hyn at yr ystâd ar farwolaeth sef £950,000, mae gwerth gros yr ystâd yn fwy na £1 miliwn. Mae hyn yn golygu nid yw’r ystâd yn cymhwyso fel ystâd wedi’i heithrio er bod gwerth trethadwy’r rhoddion yn llai na £150,000.

Enghraifft 3

Rhoddodd yr ymadawedig roddion oes o £170,000 i’w blant/phlant a £50,000 i elusen gymwys. Bu farw gan adael ystâd o £600,000.

Gwerth trethadwy’r rhoddion yw £164,000. Gan fod hyn yn fwy na’r terfyn £150,000 ar gyfer rhoddion, ni all yr ystâd gymhwyso fel ystâd wedi’i heithrio er, pan ychwanegir yr esemptiad elusen yn ôl i wneud cyfanswm o £214,000 ac yna ychwanegu’r ffigur hwn at yr ystâd ar adeg y farwolaeth o £600,000, nid yw’r gwerth gros yn fwy na £1 miliwn.

Rhoddion a wnaed mwy na 7 mlynedd cyn y farwolaeth

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch anwybyddu rhoddion a throsglwyddiadau a wnaed mwy na 7 mlynedd cyn y farwolaeth. Ond ni ddylech anwybyddu rhoddion a throsglwyddiadau:

  • pan gadwodd yr ymadawedig ychydig o fudd neu fuddiant yn ôl yn yr asedion a roddwyd am ddim, neu roedd hawl ganddo/ganddi i ddefnyddio’r asedion a roddwyd (yn yr achos hwn, atebwch ‘Iawn’ i 2 ran gyntaf y cwestiwn)
  • rhoddodd yr ymadawedig rodd neu gwnaeth drosglwyddiad o fewn 7 mlynedd i’r farwolaeth, ac o fewn 7 mlynedd i’r rhodd honno roedd yr ymadawedig wedi trosglwyddo asedion i ymddiriedolaeth ddewisiadol neu i gwmni

Yn yr ail sefyllfa, nid oes yn rhaid i chi roi gwybod i ni am y rhodd neu’r trosglwyddiad a wnaed gan yr ymadawedig fwy na 7 mlynedd yn ôl. Ond efallai y bydd gan y person a gafodd y rhodd neu’r trosglwyddiad rwymedigaeth ar wahân i Dreth Etifeddiant. Os ydych yn ymwybodol bod yr amgylchiadau hyn yn berthnasol, argymhellwn fod y person a dderbyniodd y rhodd neu’r trosglwyddiad yn ffonio ein llinell gymorth i drafod ei amgylchiadau.

Adran 3: Rhoddion â budd amodol

Adran 3: y rhan gyntaf a’r ail ran

Gelwir rhodd yn ‘rhodd â budd amodol’ os gwnaeth yr ymadawedig rodd lle’r oedd:

  • wedi cadw budd o unrhyw fath yn ôl yn yr asedion a roddwyd
  • â hawl i barhau i ddefnyddio’r asedion a roddwyd, neu nid yw’r person sy’n cael yr asedion wedi cael perchenogaeth lwyr a chyfyngedig ohonynt

Ceir enghraifft cyffredin iawn o hyn pan fydd rhywun yn rhoi ei dŷ i rywun arall, yn aml iawn plentyn, ond yn parhau i fyw yn y tŷ. Os mai tŷ oedd yr ased a roddwyd, ac roedd naill ai’r ymadawedig neu ei briod/phriod neu ei bartner/phartner sifil yn parhau i elwa ar yr eiddo, neu’n parhau i ddefnyddio’r eiddo, trwy brydles neu ymddiriedolaeth neu hawl neu drefniant tebyg, gellir trin y rhodd fel rhodd amodol.

Os bydd rhywbeth yn debyg i hyn yn gymwys i’r ymadawedig, ac os nad ydych yn sicr a ddylid trin y trefniant fel rhodd amodol, dylech ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Gan ddibynnu ar gymhlethdod y trefniadau, efallai na fyddwn yn gallu rhoi ateb terfynol dros y ffôn. Yn yr amgylchiadau hyn, argymhellwn eich bod yn ateb ’Iawn’ i ran gyntaf cwestiwn 3.

Adran 3: y drydedd ran

Ym mlwyddyn dreth 2005 i 2006, cafodd tâl Treth Incwm ei gyflwyno ar asedion yr oedd pobl yn berchen arnynt yn barod. Mae’r tâl hwn yn gymwys yn gyffredinol i asedion a waredwyd gan berson ond y gwnaeth barhau i gael budd neu fwynhad ohonynt. Gall fod yn berthnasol hefyd pan fydd person wedi cyfrannu at brynu ased ar gyfer person arall y bu iddo dderbyn budd neu fwynhad ohono ar ôl hynny.

O dan reolau budd amodol, mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i unigolyn ddewis bod yr asedion dan sylw yn cael eu trin fel rhan o’i ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant. Cyhyd â bod y dewis yn dal mewn bodolaeth, ni fyddai’n rhaid i’r person hwnnw dalu’r Dreth Incwm. I wneud y dewis hwn dylai’r ymadawedig fod wedi cyflwyno ffurflen IHT500: Dewis bod Treth Etifeddiant yn berthnasol i ased roeddech yn berchen arni’n flaenorol (yn agor tudalen Saesneg). Nid yw’n bosibl gwneud dewis ar ran yr ymadawedig, ar ôl y farwolaeth.

Atebwch ’Iawn’ os cafodd yr ymadawedig fudd o ased a oedd yn ei feddiant/meddiant yn flaenorol ac wedi dewis talu’r Dreth Etifeddiant a godir o dan reolau neilltuo buddiannau, yn hytrach na thalu’r Dreth Incwm a godir ar asedion yn ei feddiant/meddiant yn flaenorol.

Atebwch ‘Na’ os derbyniodd yr ymadawedig fudd o ased a oedd yn ei feddiant/meddiant yn flaenorol ac wedi talu’r tâl treth incwm ar asedion yn ei feddiant/meddiant yn flaenorol neu os na wnaeth yr ymadawedig waredu neu gyfrannu at brynu unrhyw asedion yn y ffordd hon.

Os atebwch ‘Iawn’ i unrhyw ran o gwestiwn 3, peidiwch â llenwi’r ffurflen IHT205(2011) ymhellach — bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen IHT400: cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Adran 4: Asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth

Mae ymddiriedolaeth yn ymrwymiad sy’n gorfodi person sy’n berchen yn gyfreithiol ar asedion (yr ’ymddiriedolwr’) i ddelio â’r asedion er budd rhywun arall. Gall ymddiriedolaeth fod ar ffurf gweithred ymddiried neu gellir ei sefydlu gan ewyllys.

Buddiant mewn meddiant

Gelwir asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth yn eiddo setledig. Byddwn yn nodi bod gan yr ymadawedig ‘fuddiant mewn meddiant’ mewn eiddo setledig pan oedd ganddo/ganddi’r hawl:

  • i’r incwm o asedion (er enghraifft difidendau o gyfranddaliadau, llog o gyfrif banc neu rent o eiddo wedi ei osod)
  • i daliadau sy’n symiau penodedig bob blwyddyn, yn aml mewn rhandaliadau rheolaidd
  • i fyw mewn tŷ neu ddefnyddio’i gynnwys heb dalu unrhyw rent

Pan fo gan rywun yr hawl i fyw mewn tŷ, gall hyn gael yr un effaith ag ymddiriedolaeth at ddibenion Treth Etifeddiant, hyd yn oed os nad yw’r hawl i fyw yn y tŷ wedi’i mynegi’n ffurfiol fel ymddiriedolaeth er budd y person hwnnw. Yn aml bydd y math hwn o hawl yn codi o dan ewyllys person arall a gall fod yn gymwys p’un a yw’r tŷ mewn perchenogaeth ar y cyd ai peidio. Os nad oedd yr ymadawedig yn berchen ar ei gartref/chartref, ac nid oedd yn denant ychwaith, gallai fod wedi byw yno o dan y fath drefniant. Os felly, efallai y bydd angen i chi gynnwys gwerth cartref yr ymadawedig ar y ffurflen IHT205(2011). I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch arweiniad CThEF Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio: trothwyon, rheolau a lwfansau neu ffoniwch y llinell gymorth ar: 0300 200 1900.

Mewn rhai amgylchiadau, pan fo buddiant mewn meddiant gan berson, neu os caiff ei drin fel petai ganddo fuddiant mewn meddiant mewn eiddo setledig, caiff y person hwnnw ei drin at ddibenion Treth Etifeddiant fel pe bai’n berchen ar yr asedion hynny’n bersonol. Dylech ateb ‘Iawn’ i gwestiwn 4 os dechreuodd buddiant mewn meddiant yr ymadawedig:

  • cyn 22 Mawrth 2006
  • ar neu ar ôl 22 Mawrth 2006 ac roedd
    • buddiant ar gael yn syth ar ôl y farwolaeth
    • buddiant person anabl
    • buddiant cyfresol trosiannol

Buddiant yn syth ar ôl y farwolaeth

Mae buddiant yn syth ar ôl y farwolaeth yn codi pan oedd gan yr ymadawedig hawl i elwa ar asedion mewn ymddiriedolaeth sy’n bodloni’r amodau canlynol:

  • sefydlwyd yr ymddiriedolaeth o dan ewyllys neu ddiewyllysedd
  • cafodd yr ymadawedig yr hawl i’r buddiant mewn meddiant ar farwolaeth y person y trosglwyddwyd ei asedion i’r ymddiriedolaeth
  • nid oedd yr ymddiriedolaeth ar unrhyw adeg ar gyfer plentyn dan oed a brofodd brofedigaeth, na pherson anabl

Buddiant person anabl

Mae buddiant person anabl yn cael ei greu pan:

  • sefydlwyd ymddiriedolaeth ar ôl 29 Mawrth 1981 ac, yn ystod eu hoes, elwodd person anabl o ddim llai na hanner yr asedion a ddefnyddiwyd ac nid oedd gan neb hawl i elwa o’r ymddiriedolaeth
  • sefydlir ymddiriedolaeth er budd person anabl (y mae ganddo hawl i elwa arni) ar neu ar ôl 22 Mawrth 2006
  • bydd unigolyn sydd â chyflwr sy’n debyg o achosi’r person fynd yn anabl, yn sefydlu ymddiriedolaeth, er ei fudd/bydd ei hunan, ar neu ar ôl 22 Mawrth 2006

At y dibenion hyn, diffiniad person anabl yw person sydd:

Mae’r rheolau newydd canlynol yn gymwys ar gyfer ymddiriedolaethau sy’n codi ar neu ar ôl 8 Ebrill 2013. Bellach, mae’n rhaid i’r holl asedion (mwy na hanner, yn flaenorol), gan gynnwys incwm, gael eu cymhwyso er budd yr unigolyn anabl, ac eithrio terfyn blynyddol o hyd at £3,000 (neu 3% o’r asedion, os yn is) y gellir ei gymhwyso er budd eraill.

Mae person anabl bellach yn cynnwys person sy’n cael:

  • Lwfans Annibyniaeth Personol, neu y byddai’n gwneud oni bai am y gwaharddiadau ar gyfer preswylwyr cartref nyrsio, y rheiny sy’n derbyn gofal cleifion mewnol ac ar gyfer carcharorion
  • Pensiwn Anabledd wedi’i gynyddu, neu a fyddai’n ei gael oni bai am y gwaharddiadau a nodir uchod mewn perthynas â Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini cyson, neu a fyddai’n ei gael oni bai ei fod yn cael cynhaliaeth mewn ysbyty
  • taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog, neu y byddai’n gwneud oni bai ei fod wedi’i dderbyn i’r Ysbyty Brenhinol, Chelsea

Ar gyfer rhoddion a wnaed i ymddiriedolaethau a oedd yn bodoli cyn 8 Ebrill 2013 (neu sy’n codi ar ôl hynny o dan ewyllys a oedd yn bodoli cyn y dyddiad hwnnw), nid yw’r ymddiriedolaethau wedi’u hatal rhag bod yn gymwys fel budd unigolyn anabl gan y rheolau newydd, cyn belled â nad yw’r ymddiriedolaethau neu’r ewyllysiau hynny’n cael eu newid ar 8 Ebrill 2013, neu ar ôl hynny. Gweler Llawlyfr Treth Etifeddiant CThEF IHTM 42805: ymddiriedolaethau ar gyfer pobl anabl (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Buddiant trosiannol cyfresol

Ceir 2 brif fath o fuddiant trosiannol cyfresol. Y cyntaf yw:

  • pan fydd gan yr ymadawedig fuddiant mewn meddiant mewn eiddo setledig (ymddiriedolaeth)
  • roedd yr asedion a gynhwysir yn yr ymddiriedolaeth bresennol yn destun ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant arall a sefydlwyd cyn 22 Mawrth 2006
  • cododd fuddiant yr ymadawedig rhwng 22 Mawrth 2006 a 5 Ebrill 2008, yn gynwysedig

Mae’r ail fath y codi pan fo’r canlynol yn berthnasol:

  • pan fo ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant yn codi ar farwolaeth, ar neu ar ôl 22 Mawrth 2006, deiliad buddiant mewn meddiant blaenorol a naill ai:
  • bod y deiliad newydd yn briod neu’n bartner sifil i’r deiliad blaenorol

Os oedd gan yr ymadawedig hawl i elwa ar fwy nag un ymddiriedolaeth, neu os oedd gwerth yr asedion mewn ymddiriedolaeth unigol yn fwy na £150,000, peidiwch â llenwi’r ffurflen IHT205(2011) ymhellach. Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Ymddiriedolaethau tramor

Wrth benderfynu sut i ateb cwestiwn 4, nid oes gwahaniaeth p’un a yw’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU neu dramor. Mae’n rhaid i chi ddwyn i ystyriaeth yr holl ymddiriedolaethau sy’n cael eu trin fel rhan o ystâd yr ymadawedig, roedd gan yr ymadawedig yr hawl i elwa arnynt.

Asedion ymddiriedolaeth i’w trosglwyddo i briod neu bartner sifil yr ymadawedig neu i elusen gymwys

Dylid eithrio asedion mewn ymddiriedolaeth sy’n gymwys ar gyfer esemptiad priod neu bartner sifil neu elusen wrth gymhwyso’r terfyn o £150,000. Dylech ddangos yr esemptiad rydych yn ei ddidynnu ar gyfer asedion yr ymddiriedolaeth ym mlwch 14.

Adran 5: A oedd yr ymadawedig yn berchen ar, neu’n elwa o unrhyw asedion y tu allan i’r DU?

Codir Treth Etifeddiant ar asedion byd-eang rhywun sydd â’i ddomisil (cartref parhaol) yn y DU. Mae’n cynnwys unrhyw asedion tramor roedd yn berchen arnynt. Nid yw Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Dylech gynnwys gwerth unrhyw asedion tramor mewn punnoedd sterling ym mlwch 9.5.

Os mai ‘Iawn’ yw’r ateb a bod gwerth gros yr asedion tramor yn fwy na £100,000, rhowch y gorau i lenwi ffurflen IHT205(2011). Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Mae’r terfyn o £100,000 yn berthnasol i’r ystâd gyfan. Er mwyn sicrhau nad ydych yn mynd dros y terfyn o £100,000, bydd angen i chi ychwanegu’r canlynol at ei gilydd:

  • unrhyw asedion tramor yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt yn ei enw ei hun
  • ei gyfran o unrhyw asedion tramor mae’n berchen arnynt ar y cyd
  • unrhyw asedion tramor a ddelir mewn ymddiriedolaeth

Lle’r oedd yr ymadawedig yn berchen ar asedion tramor, efallai y bydd yn rhaid i chi gael grant ar wahân yn y wlad lle y lleolir yr asedion, er mwyn i chi allu delio â nhw.

Adran 6: Premiymau yswiriant

Os oedd yr ymadawedig yn talu premiymau yswiriant ar bolisi a fydd yn talu i rywun arall, efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried y premiymau a dalwyd fel rhoddion. Atebwch ‘Na’ i’r cwestiwn hwn os oedd y polisi er budd priod neu bartner sifil yr ymadawedig.

Os oedd yr ymadawedig yn talu premiymau ar bolisi yswiriant er budd rhywun arall, gallwch ateb ‘Na’ os:

  • nad yw’r polisi yswiriant yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth
  • yw’r premiymau a dalwyd bob blwyddyn wedi eu cwmpasu gan yr esemptiad ar gyfer rhoddion rheolaidd allan o incwm (wedi ei gyfyngu i £3,000 ar gyfer pob blwyddyn dreth)
  • na wnaeth brynu blwydd-dal ar unrhyw adeg

Os nad yw’r polisi yswiriant yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ac os nad yw’r premiymau wedi eu cwmpasu gan yr esemptiad, yna mae pob premiwm yn rhodd ar ffurf arian parod. Gallwch ateb ‘Na’ ond rhaid i chi gymryd y premiymau i ystyriaeth wrth ateb cwestiwn 2. Gallwch ateb ‘Na’ hefyd os:

  • caiff y polisi yswiriant ei ddal mewn ymddiriedolaeth (dyma fydd yr achos mwyaf cyffredin)
  • cafodd ei roi mewn ymddiriedolaeth mwy na 7 mlynedd yn ôl
  • yw’r premiymau a dalwyd bob blwyddyn wedi eu cwmpasu gan yr esemptiad ar gyfer rhoddion rheolaidd allan o incwm
  • na wnaeth brynu blwydd-dal ar unrhyw adeg

Os yw’r polisi yswiriant yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth, ac fe’i rhoddwyd mewn ymddiriedolaeth dros 7 mlynedd yn ôl, ond nid yw’r premiymau wedi eu cwmpasu gan yr esemptiad, yna mae pob premiwm yn rhodd ar ffurf arian parod. Gallwch ateb ’Na’ ond rhaid i chi gymryd y premiymau i ystyriaeth wrth ateb cwestiwn 2. Mewn unrhyw achos arall, er enghraifft pan roddwyd y polisi mewn ymddiriedolaeth o fewn 7 mlynedd o’r farwolaeth, neu os talodd y ddau ymadawedig bremiymau ar bolisi yswiriant bywyd nad oedd er eu budd eu hunain, neu’n talu allan i’r ystâd ac os prynwyd blwydd-dal ar unrhyw adeg,  rhaid i chi ateb ’Iawn’ i gwestiwn 6 a pheidio â llenwi’r ffurflen IHT205(2011) ymhellach. Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Adran 7: A oedd gan yr ymadawedig unrhyw fath o drefniant pensiwn ar wahân i Bensiwn y Wladwriaeth?

Atebwch ‘Na’ os oedd yr ymadawedig yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth yn unig, ac anwybyddwch gwestiwn 8.

Pensiynau

Pan fydd rhywun yn cael pensiwn ar ben Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y pensiwn ychwanegol hwn fel arfer yn darparu 2 fath o fudd, sef:

  • buddiannau ymddeol
  • buddiannau marwolaeth

Nid yw’n bosibl cymryd y ddau fudd. Os bydd y person yn cyrraedd oedran ymddeol ac yn cymryd ei fuddiannau ymddeol (cyfandaliad yn ogystal â phensiwn), ni fydd y buddiant marwolaeth yn gymwys mwyach. Fodd bynnag, os bydd ef/hi’n marw cyn cymryd ei fuddiannau/buddiannau ymddeol, bydd y budd ymddeol yn daladwy yn unol â rheolau’r cynllun pensiwn neu ddarpariaethau’r polisi. Ni delir unrhyw bensiwn ymddeol.

Cynlluniau a gymeradwywyd, heb eu cymeradwyo ac a gofrestrwyd

At ddibenion Treth Incwm, ystyrir bod cynlluniau pensiwn a pholisïau pensiwn yn rhai a gymeradwywyd, heb eu cymeradwyo neu a gofrestrwyd. Mae’n rhaid i chi ganfod pa un oedd yn gymwys i gynllun neu bolisi’r ymadawedig. Mae’n bosibl y bydd papurau’r cynllun yn rhoi’r wybodaeth hon. Os na fyddant, dylai darparwr y pensiwn fod yn gallu dweud wrthych. Ni all CThEF ddweud wrthych pa fath o gynllun ydyw.

Adran 8: A newidiodd neu a waredodd yr ymadawedig ei bensiwn yn y 2 flynedd cyn iddo farw?

Mae’r adran hon ynghylch trefniadau pensiwn yr ymadawedig gan fod rhai amgylchiadau lle y gellir codi tâl Treth Etifeddiant ar bensiynau. Gallwch ateb ‘Na’ a symud ymlaen i gwestiwn 9 os oedd yr ymadawedig yn cael ei bensiwn/phensiwn ymddeol yn llawn ac heb wneud trefniadau i newid eu pensiwn yn y 2 flynedd cyn iddo/iddi farw, heblaw am bensiynau a dalwyd i briod neu bartner sifil.

Newid buddiannau pensiwn

Os oedd hawl gan yr ymadawedig i gael pensiwn (naill ai o gynllun pensiwn neu o bolisi pensiwn personol) ac nid oedd wedi cymryd ei fuddiannau/buddiannau pensiwn llawn erbyn iddo/iddi farw, efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried unrhyw newidiadau a wnaeth i’w fuddiannau/buddiannau pensiwn. Gallwch anwybyddu Pensiwn y Wladwriaeth wrth ateb y cwestiwn hwn.

Os oedd hawl gan yr ymadawedig i elwa ar gynllun pensiwn neu bolisi pensiwn, ac nid oedd wedi cymryd ei fuddiannau/buddiannau pensiwn llawn cyn iddo/iddi farw, bydd angen i chi ddarllen yr arweiniad sy’n dilyn er mwyn penderfynu sut i ateb adran 8.

Trosglwyddo hawl i gael pensiwn

Os nad oedd yr ymadawedig wedi cymryd ei fuddiant/buddiant ymddeol llawn o gynllun pensiwn neu bolisi pensiwn personol, gallai unrhyw newidiadau i’r buddiannau yr oedd hawl ganddo/ganddi eu cael olygu bod asedion yn cael eu trosglwyddo. Nid yw trosglwyddiad o’r fath yn ’drosglwyddiad penodedig’, felly ni all yr ystâd gymhwyso fel ystâd wedi’i heithrio. Mae’r arweiniad hwn ond yn gymwys pan fo trafodion ynghylch buddiannau pensiwn wedi digwydd ar adeg pan oedd yr ymadawedig wedi cael diagnosis ei fod/bod yn dioddef o afiechyd terfynol, neu fod ei iechyd/hiechyd mor wael fel nad oedd modd ei yswirio/hyswirio. Pan fu trafodion ar adeg pan oedd yr ymadawedig mewn iechyd arferol am ei oed/hoed, yna hyd yn oed pe bai wedi marw ychydig ar ôl hynny, gallwch ateb ‘Na’.

Gwaredu buddiannau pensiwn

Mae person yn gwaredu’r buddiannau sy’n daladwy o dan gynllun pensiwn neu bolisi pensiwn pan fydd, er enghraifft, yn rhoi’r buddiannau marwolaeth mewn ymddiriedolaeth, neu’n dyrannu rhan o’i bensiwn/phensiwn i rywun arall. Os digwyddodd y gwarediad hwn pan oedd yr ymadawedig wedi cael diagnosis ei fod/bod yn dioddef o afiechyd terfynol, neu fod ei iechyd/hiechyd mor wael fel na ellid ei yswirio/hyswirio, dylech ateb ‘Iawn’.

Gall person newid y buddiannau yr oedd hawl ganddo eu cael o dan gynllun pensiwn neu bolisi pensiwn drwy wneud y canlynol:

  • talu cyfraniadau ychwanegol i’r cynllun neu’r polisi pensiwn
  • trosglwyddo’i fuddiannau o un cynllun pensiwn i un arall
  • methu â chymryd ei bensiwn ar adeg cyrraedd oedran pensiwn
  • methu â gwneud cais i ymddeol ar sail afiechyd pan oedd yr ymadawedig wedi bodloni’r anghenion ar gyfer y math hynny o ymddeoliad
  • dewis codi incwm neu wneud unrhyw newidiadau i godi incwm a drefnwyd eisoes
  • dewis ymddeoliad dros gyfnod neu wneud newidiadau i nifer y darnau a gymerir pan fydd ymddeoliad dros gyfnod wedi ei ddewis

Mae ‘codi incwm’ (‘income drawdown’) yn sefyllfa neilltuol pan fydd yr ymadawedig wedi cyrraedd oedran pensiwn ond wedi penderfynu peidio â defnyddio’i buddiannau/fuddiannau ymddeol i brynu blwydd-dal. Yn lle hynny, mae’n penderfynu ’codi’ lefel benodol o incwm o’r cronfeydd pensiwn, gyda golwg ar brynu blwydd-dal yn nes ymlaen.

‘Ymddeoliad dros gyfnod’ yw pan fo’r ymadawedig wedi rhannu ei hawl i bensiwn yn gyfres o ddarnau ac wedi cytuno ar gynllun gyda’i ddarparwr/darparwr pensiwn i gymryd hyn a hyn o ddarnau bob blwyddyn ar ôl ymddeol.

Os digwyddodd newidiadau o’r fath pan oedd yr ymadawedig wedi cael diagnosis ei fod/bod yn dioddef o afiechyd terfynol, neu fod ei iechyd/hiechyd mor wael fel nad oedd modd ei yswirio/hyswirio, dylech ateb ‘Iawn’ a pheidio â llenwi ffurflen IHT205(2011) ymhellach. Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Taliadau pensiwn gwarantedig

Os oedd yr ymadawedig yn cael pensiwn o gynllun pensiwn neu bolisi pensiwn, gallai’r taliadau fod wedi eu gwarantu am gyfnod penodol. Os yw’r cyfnod gwarantedig yn dod i ben ar ôl y farwolaeth, bydd y taliadau’n parhau i gael eu talu i’r ystâd, ac mae’r hawl i gael y taliadau hynny yn ased yr ystâd. Os yw hyn yn gymwys i ystâd yr ymadawedig, dylech gynnwys gwerth yr hawl i gael y taliadau pensiwn ym mlwch 11.11.

Gallwch ddefnyddio Cyfrifiannell Blwydd-dal Treth Etifeddiant CThEF (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo gwerth yr hawl hon. Mae angen o leiaf fersiwn 9.0 o Adobe Reader arnoch er mwyn defnyddio’r cyfrifiannell. Gallwch lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf am ddim.

Fel arall, os nad ydych yn defnyddio’r gyfrifiannell, adiwch yr holl daliadau sy’n dal heb eu gwneud a didynnwch 25% i roi ffigur amcangyfrifedig. Dylech anwybyddu’r pensiwn (sydd fel arfer yn un gostyngol/is) sy’n parhau i gael ei dalu’n uniongyrchol i briod neu bartner sifil yr ymadawedig sy’n goroesi.

Cyfandaliadau

Os bu farw’r ymadawedig cyn ymddeol, neu cyn dechrau codi ei fuddiannau/buddiannau pensiwn, gallai cyfandaliad fod yn daladwy o dan y cynllun pensiwn neu’r polisi pensiwn. Bydd cyfandaliad yn rhan o ystâd yr ymadawedig os:

  • yw’n daladwy i’r cynrychiolwyr personol fel hawl neu oherwydd nad oes neb arall yn gymwys i gael y taliad
  • gallai’r ymadawedig roi cyfarwyddyd ynghylch i bwy y dylai’r cyfandaliad gael ei dalu drwy enwebiad neu gyfarwyddyd sy’n rhwymo
  • gallai’r ymadawedig greu sefyllfa (er enghraifft, drwy ddiddymu enwebiad) fel y gallai’r cyfandaliad gael ei dalu i’r ystâd
  • mae’n ad-daliad o gyfraniadau

Dylid cynnwys swm y cyfandaliad ym mlwch 11.11 ym mhob un o’r achosion hyn. Ni fydd cyfandaliad yn rhan o ystâd yr ymadawedig os yw ymddiriedolwyr y pensiwn yn rhydd i benderfynu i bwy y dylid ei dalu (hyd yn oed os ydynt yn penderfynu talu’r cyfandaliad i’r cynrychiolwyr personol). Yn yr un modd, ni fydd taliadau ‘ex gratia’ (pan nad oes ymrwymiad cyfreithiol ar y talwr i dalu) a delir i’r ystâd yn rhan o’r ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant, gan nad oedd gan yr ymadawedig ‘hawl’ iddynt.

Mae’n rhaid i chi fod yn ofalus wrth bennu sut yn union y telir y cyfandaliad. Os yw’r ymadawedig wedi cwblhau ‘llythyr dymuniadau’, gallai’r ymddiriedolwyr dalu’r cyfandaliad yn unol â’r llythyr. Ond hyd yn oed os yw hynny’n golygu y telir y cyfandaliad i’r ystâd, nid yw’n rhan o ystâd yr ymadawedig at ddibenion Treth Etifeddiant. Mae hyn oherwydd nad oedd y llythyr dymuniadau yn rhwymo’r ymddiriedolwyr. Dim ond os oedd y cyfandaliad yn daladwy o dan enwebiad rhwymol y dylid cynnwys y cyfandaliad fel rhan o’r ystâd, heb ystyried i bwy y’i talwyd. Os penderfynwch nad yw cyfandaliad yn rhan o’r ystâd, rhowch enw’r cynllun pensiwn, a rhowch wybod pam y credwch nad yw’n rhan o’r ystâd, ym mlwch 13. Os penderfynwch fod y cyfandaliad yn rhan o’r ystâd, nodwch ei werth ym mlwch 11.11.

Asedion yr ymadawedig ar ddyddiad y farwolaeth

Pan fyddwch yn ysgrifennu gwerth yr asedion neu’r dyledion ar y ffurflen, peidiwch â chynnwys ceiniogau. Dylech dalgrynnu asedion i lawr a dyledion i fyny i’r bunt agosaf. Os ydych yn gadael blwch yn wag, byddwn yn tybio eich bod yn golygu nad oedd yr ymadawedig yn berchen ar unrhyw asedion o’r math a ddisgrifir. Rhaid i chi gynnwys yr holl asedion a oedd yn rhan o ystâd yr ymadawedig ar ddyddiad y farwolaeth.

Gweithredoedd amrywio

Os bydd dau berson, er enghraifft gŵr a gwraig, yn marw o fewn ychydig amser i’w gilydd, mae’n bosibl i fuddiolwyr yr ail a fu farw, i newid sut mae ystâd yr ymadawedig cyntaf yn cael ei rhannu drwy lunio gweithred amrywio cyn pen 2 flynedd o’r farwolaeth honno. Effaith hyn yw eu bod yn gallu ailgyfeirio asedion o’r ystâd gyntaf oddi wrth yr ail ystâd. Ond bydd ailgyfeirio asedion yn yr amgylchiadau hyn yn cael effaith at ddibenion Treth Etifeddiant yn unig. Nid yw’n newid gwerth yr ail ystâd at ddibenion profiant. Gwerth yr ail ystâd ar ddyddiad y farwolaeth sy’n pennu a allwch lenwi’r ffurflen IHT205(2011), neu a oes yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen IHT400. Llenwch ffurflen IHT400: cyfrif Treth Etifeddiant os yw gwerth gros yr ail ystâd ar ddyddiad y farwolaeth yn fwy na’r terfyn ar gyfer ystâd wedi’i heithrio.

Asedion yr ymadawedig ar ddyddiad y farwolaeth

Adran 9: Asedion a ychwanegir at yr ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant, pan nad oes angen grant cynrychiolaeth ar eu cyfer

Dyma’r asedion yr oedd yr ymadawedig yn berchen neu’n elwa arnynt pan fu farw ond nad ydynt wedi eu cynnwys yng ngwerth yr ystâd ar gyfer y grant profiant neu lythyron gweinyddu. Dylid dangos yr asedion yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt yn llwyr, a chyfran yr ymadawedig o unrhyw asedion yr oedd berchen arnynt ar y cyd ar ffurf tenantiaid cydradd, y cânt eu cynnwys yng ngwerth yr ystâd ar gyfer y grant profiant neu lythyron gweinyddu yn adran 11 y ffurflen IHT205(2011).

Mae’n rhaid i asedion nad ydynt wedi eu cynnwys yng ngwerth yr ystâd ar gyfer cael grant profiant neu lythyron gweinyddu (a phan nad oes angen grant profiant ar eu cyfer), gael eu hychwanegu at yr ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant. Nodwch yr asedion hyn ym mlychau 9.1 i 9.5. Nodwch unrhyw ddyledion i’w didynnu yn erbyn yr asedion hyn ym mlychau 10.1 i 10.4. Os yw’r dyledion yn fwy na gwerth yr asedion cyfatebol, nodwch gyfanswm yr asedion a’r dyledion ym mlwch 13 ac ysgrifennwch ‘dim’ yn y blychau â’r rhifau perthnasol.

Blwch 9.1: Rhoddion

Os ateboch ‘Iawn’ i gwestiwn 2, nodwch gyfanswm gwerth y rhoddion neu drosglwyddiadau oes a wnaed gan yr ymadawedig, ar ôl didynnu unrhyw:

  • esemptiad rhoddion bychain
  • esemptiad blynyddol
  • esemptiad ar gyfer rhoddion a wnaed ar achlysur priodas neu bartneriaeth sifil a ddidynnwyd yn y blwch hwn
  • esemptiad ar gyfer rhoddion a wnaed allan o incwm — ar gyfer marwolaethau ar neu ar ôl 1 Mawrth 2011, gallwch ddidynnu’r esemptiad hwn dim ond os yw cyfanswm y rhoddion yn llai na £3,000 ar gyfer pob blwyddyn dreth

Nodwch unrhyw esemptiadau eraill rydych yn eu didynnu o’r rhoddion (er enghraifft, esemptiad priod neu bartner sifil neu esemptiad elusen) ym mlwch 14, nid blwch 9.1. Gweler arweiniad CThEF Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio: trothwyon, rheolau a lwfansau i gael rhagor o wybodaeth am esemptiadau.

Rhowch wybod i ni am y canlynol, yn y blwch a ddarperir:

  • dyddiad y rhodd
  • enw’r person a dderbyniodd y rhodd
  • pa beth a roddwyd
  • ei werth
  • sut rydych chi wedi didynnu’r esemptiadau

Defnyddiwch flwch 13 os oes angen mwy o le arnoch i roi manylion am y rhoddion.

Blwch 9.2: Cyfran asedion ar y cyd a drosglwyddir drwy oroesedd

Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar unrhyw asedion mewn perchnogaeth ar y cyd sy’n cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r cydberchennog sy’n goroesi, drwy oroesedd (cyd-denantiaeth):

  • disgrifiwch bob ased ar y cyd
  • nodwch gyfanswm gwerth cyfran yr ymadawedig o’r asedion ar y cyd hyn

Os mai tŷ yw’r ased ar y cyd, rhowch y cyfeiriad. Defnyddiwch flwch 13 os bydd angen rhagor o le arnoch i roi manylion asedion ar y cyd. Os oedd yr ymadawedig a’i briod/phriod neu bartner sifil yn berchen ar yr asedion ar y cyd, rhaid i chi eu cynnwys o hyd yn y blwch priodol. Didynnwch unrhyw esemptiad priod neu bartner sifil ym mlwch 14.

Blwch 9.3: Asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth

Os ateboch ’Iawn’ i gwestiwn 4, nodwch werth gros asedion yr ymddiriedolaeth yn y blwch hwn. Os mai dim ond un ffigur y mae’r ymddiriedolwyr yn ei roi i chi, hynny yw, ar ôl didynnu unrhyw ddyledion, dylech gynnwys y ffigur hwnnw yma yn lle hynny. Nodwch enw’r person a sefydlodd yr ymddiriedolaeth a’r dyddiad y’i sefydlwyd.

Blwch 9.4: Asedion enwebedig

Os gwnaeth yr ymadawedig ‘enwebu’ ased yn ystod ei fywyd/bywyd er mwyn iddo gael ei drosglwyddo i berson penodol ar ôl ei farwolaeth/marwolaeth, nodwch werth yr ased hwnnw. Yr unig asedion y gellir eu henwebu yn y modd hwn yw’r canlynol:

  • adneuon mewn cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus
  • tystysgrifau a chyfrifon Cynilion Cenedlaethol ar, neu cyn 1 Mawrth 1981.

Nid yw cymynroddion yn yr ewyllys yn asedion enwebedig. Peidiwch â chynnwys buddiannau pensiwn enwebedig yma. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran ‘Cyfandaliad’ yn yr arweiniad hwn.

Blwch 9.5: Asedion y tu allan i’r DU

Nodwch yn y blwch hwn werth asedion y tu allan i’r DU, yn ogystal â chyfran yr ymadawedig o unrhyw asedion tramor a oedd mewn cydberchnogaeth â rhywun arall. Mae Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw y tu allan i’r Deyrnas Unedig at ddibenion Treth Etifeddiant. Mae’n rhaid i chi:

  • drosi’r gwerth mewn arian tramor i £ sterling
  • sicrhau eich bod yn defnyddio’r gyfradd drosi ar gyfer dyddiad y farwolaeth

Rydych chi’n defnyddio papur newydd neu’r rhyngrwyd i ddod o hyd i gyfraddau trosi ar gyfer y rhan fwyaf o arian cyfred cyffredin.

Blwch A: Gwerth gros yr asedion lle nad oes angen grant

Nodwch gyfanswm blychau 9.1 i 9.5.

Adran 10: Dyledion sy’n daladwy o’r cyfanswm asedion ym mlwch A

Marwolaethau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014

Gallwch gynnwys dyledion yr ydych yn disgwyl eu had-dalu o’r ystâd dim ond os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • gwerth gros yr ystâd yn llai na £1 miliwn
  • nid oes treth i’w thalu oherwydd bod rhan o’r ystâd yn cael ei throsglwyddo i briod neu bartner sifil yr ymadawedig

Peidiwch â chynnwys y canlynol:

  • dyledion rydych yn gwybod na fyddant yn cael eu had-dalu o’r ystâd
  • unrhyw ddyledion pan fo’r arian a fenthycwyd wedi cael ei ddefnyddio i gaffael eiddo wedi’i eithrio (fel arfer budd mewn ymddiriedolaeth pan fo’r ymddiriedolwyr dramor), neu eiddo sydd wedi dod yn eiddo wedi’i eithrio

Mae’r cyfyngiadau hyn ond yn berthnasol pan fu farw’r ymadawedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014.

Blwch 10.1: Cyfran o forgais ar eiddo sy’n cael ei berchen fel ased ar y cyd

Nodwch yn y blwch hwn cyfran yr ymadawedig o unrhyw forgais sy’n dal heb ei dalu, a sicrhawyd ar eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd a ddangosir ym mlwch 9.2. Os oedd polisi diogelu morgais ar y cyd, dylech gynnwys cyfran y morgais yn y blwch hwn a chyfran yr arian a dalwyd allan gan y polisi ym mlwch 9.2.

Blwch 10.2: Cyfran o ddyledion eraill sy’n daladwy allan o asedion ar y cyd

Nodwch yn y blwch hwn gyfran yr ymadawedig o unrhyw ddyledion eraill a oedd mewn gwirionedd yn ddyledus pan fu farw, sy’n daladwy allan o asedion mewn perchnogaeth ar y cyd a ddangosir ym mlwch 9.2.

Blwch 10.3: Dyledion sy’n daladwy allan o asedion ymddiriedolaeth

Nodwch unrhyw ddyledion sy’n daladwy allan o asedion ymddiriedolaeth. Os mai dim ond un ffigur y mae’r ymddiriedolwyr yn ei roi i chi ar gyfer asedion yr ymddiriedolaeth, hynny yw, ar ôl didynnu unrhyw ddyledion, nodwch y swm hwn ym mlwch 9.3. gan adael y blwch hwn yn wag. Os nad oes unrhyw asedion ym mlwch 9.3, ni fydd unrhyw ddyledion ym mlwch 10.3.

Blwch 10.4: Dyledion sy’n ddyledus i bobl y tu allan i’r DU

Nodwch unrhyw ddyledion a oedd mewn gwirionedd yn ddyledus gan yr ymadawedig pan fu farw ac a oedd yn ddyledus i rywun arall a oedd yn byw dramor.

Blwch B: Cyfanswm y dyledion sy’n daladwy o’r asedion ym mlychau 9.1 i 9.5

Nodwch gyfanswm blychau 10.1 i 10.4.

Blwch C: Gwerth net yr asedion lle nad oes angen grant

Didynnwch y ffigur ym mlwch B o’r ffigur ym mlwch A (A llai B). Rhowch yr ateb yma.

Adran 11: Asedion yr ymadawedig ei hun y mae angen grant cynrychiolaeth ar eu cyfer

Dyma’r asedion sydd wedi’u cynnwys yng ngwerth yr ystâd ar gyfer y grant profiant neu lythyron gweinyddu, hyd yn oed os nad oes angen i chi gyflwyno copi o’r grant er mwyn cael mynediad at yr asedion hyn. Nodwch gynnwys y gwerth gros ar gyfer asedion yr ymadawedig ei hun yn ogystal â chyfran unrhyw asedion a ddelir ar ffurf tenantiaid cydradd (na chânt eu trosglwyddo’n awtomatig i’r perchennog ar y cyd sy’n goroesi) yn yr adran hon.

Os ydych yn cynnwys cyfran o ased, megis tŷ, nodwch bob eitem a ddelir fel tenantiaid cydradd ym mlwch 13 a chynnwys gwerth yr ased cyfan a chyfran yr ymadawedig (e.e. hanner). Wedyn dylech nodi gwerth cyfran yr ymadawedig o ased a ddelir fel tenantiaid cydradd yn y blwch perthnasol yn adran 11.

Gwerth gros

Mae ‘gwerth gros’ yn golygu gwerth yr asedion cyn didynnu unrhyw ddyledion, rhyddhad neu esemptiad. Os oes angen i chi gynnwys gwerth amcangyfrifedig, darllenwch y paragraff ‘Amcangyfrif gwerthoedd ac ystadau bychain’ yn yr arweiniad hwn. Ni ddylech gynnwys yma asedion ar y cyd sy’n cael eu trosglwyddo i’r cydberchennog sy’n goroesi. Yn lle hynny, dylech eu nodi ym mlwch 9.2. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran ‘Asedion mewn perchnogaeth ar y cyd’ yn yr arweiniad hwn.

Peidiwch â chynnwys ceiniogau pan fyddwch yn nodi gwerth asedion neu ddyledion. Yn lle hynny, dylech dalgrynnu asedion i lawr a dyledion i fyny i’r bunt agosaf. Os ydych yn gadael blwch yn wag, byddwn yn tybio nad oedd yr ymadawedig yn berchen ar unrhyw asedion o’r math a ddisgrifir.

Blwch 11.1: Arian parod, arian mewn banciau, cymdeithasau adeiladu a Chynilion Cenedlaethol

Nodwch yn y blwch hwn gyfanswm yr holl arian mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu, buddsoddiadau Cynilion Cenedlaethol ac arian parod pan fu farw’r person. Bydd hyn yn cynnwys:

  • arian parod ym meddiant yr ymadawedig, wedi ei gadw yn y cartref neu rywle arall, fel blwch storio diogel (safety deposit box)
  • arian mewn cyfrifon cyfredol, adnau, llog uchel, llog penodedig, tymor, bond a marchnad arian
  • cyfrifon gydag archfarchnadoedd neu gwmnïau yswiriant
  • cyfrifon Banc Cynilion Cenedlaethol
  • Bondiau Premiwm
  • arian mewn ISA
  • sieciau teithio

Dylai’r ffigur gynnwys llog a oedd yn ddyledus hyd at ddyddiad y farwolaeth ond nad oedd wedi ei dalu i’r cyfrif mewn gwirionedd. Gallwch gael gafael ar y ffigurau hyn gan y banc neu unrhyw gorff arall sy’n cadw’r cyfrif. Mae buddsoddiadau Cynilion Cenedlaethol yn cynnwys:

  • Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol
  • Bondiau Cyfalaf neu Adnau Cynilion Cenedlaethol
  • Bondiau Incwm Cynilion Cenedlaethol
  • Bondiau Incwm Gwarantedig i Bensiynwyr
  • Bondiau Bonws Plant
  • Bondiau First Option
  • Cytundebau Cynilo Wrth Ennill
  • Cynlluniau Blwyddyn
  • Bondiau Premiwm, gan gynnwys gwobrau sydd heb eu hawlio

Gweler arweiniad Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol Yr hyn i’w wneud os yw cwsmer NS&I wedi marw i gael gwybodaeth am olrhain buddsoddiadau’r ymadawedig.

Blwch 11.2: Nwyddau’r tŷ a nwyddau personol

Mae hyn yn golygu eitemau fel dodrefn, darluniau, paentiadau, tsieni, teledu, offer sain a fideo, camerâu, gemwaith, ceir, carafannau, cychod, hynafolion, casgliadau stampiau ac yn y blaen. Does dim rhaid i chi gael prisiad proffesiynol ar gyfer nwyddau’r tŷ a nwyddau personol cyffredinol pan allwch ddefnyddio data sydd ar gael i’r cyhoedd i amcangyfrif y gwerth, er enghraifft er mwyn prisio ceir ail law.

Os byddwch yn amcangyfrif y gwerth, bydd angen i chi ddefnyddio gwerth y farchnad agored ar ddyddiad y farwolaeth, nid gwerth ar gyfer yswirio neu amnewid. Gwerth y farchnad agored yw’r pris realistig y disgwylir gwerthu’r eitemau amdano. Dyma’r pris y byddai’r eitem yn debygol o gael ei werthu amdani mewn arwerthiant neu drwy gael ei hysbysebu’n gyhoeddus. Rydym yn eich cynghori i gael prisiad proffesiynol os credwch fod eitem yn werth mwy na £1,500, neu os nad ydych yn siŵr. Gallai’r gwerth fod yn isel, neu’n ddim hyd yn oed, cyn belled â’i fod yn onest.

Blwch 11.3: Stociau a chyfranddaliadau a restrir ar y Gyfnewidfa Stoc

Dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • gwarantau llywodraeth y DU fel stoc y trysorlys, stoc y Trysorlys, stoc drosadwy, a stoc gyfunol
  • yr holl stociau, cyfranddaliadau, dyledebau a gwarantau eraill a restrwyd ar farchnad y mae CThEF yn ei diffinio fel ‘rhestredig’ (gweler yr arweiniad ynghylch ‘Designated recognised stock exchanges’ (yn agor tudalen Saesneg))
  • ymddiriedolaethau unedol
  • ymddiriedolaethau buddsoddi
  • cwmnïau buddsoddi pen agored
  • cyfranddaliadau mewn ISA
  • unrhyw ddifidendau sy’n ddyledus, ond nad oeddent wedi’u talu  cyn y farwolaeth

Os oedd yr ymadawedig yn Danysgrifennwr yn Lloyds, nodwch ei bortffolio/phortffolio busnes o gyfranddaliadau ym mlwch 11.7, ac nid ym mlwch 11.3.

Nid oes angen prisiad proffesiynol ar gyfer y stociau a chyfranddaliadau a restrwyd. Gallwch brisio cyfranddaliadau a restrwyd ar Gyfnewidfa Stoc Llundain (neu unrhyw gyfnewidfa arall), drwy ganfod pris y cyfranddaliadau yn nhudalennau ariannol papurau newydd neu ar-lein.

Pethau i’w cofio wrth brisio cyfranddaliadau

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio gwerth terfynol y cyfranddaliadau ar y diwrnod y bu farw’r ymadawedig. Cofiwch y bydd papurau newydd a argraffwyd ar y diwrnod y bu farw’r ymadawedig yn dangos prisiau cyfranddaliadau ar gyfer y diwrnod cynt. Os bu farw’r ymadawedig ar ddiwrnod pan oedd y Gyfnewidfa Stoc ar gau, nodwch y pris ar gyfer naill ai’r diwrnod nesaf neu’r diwrnod diwethaf pan oedd y Gyfnewidfa Stoc ar agor. P’un bynnag yw’r isaf. Er enghraifft, os bu farw’r person ar ddydd Sul, gallwch nodi’r pris ar gyfer naill ai’r dydd Llun sy’n dilyn, neu’r dydd Gwener cynt.

  1. Gwnewch restr o’r holl gyfranddaliadau, gan gynnwys yr enw, gwerth nominal a math o gyfranddaliad — er enghraifft, ‘Cwm Ni Ccc cyfranddaliadau cyffredin 10c’.
  2. Dewch o hyd i’r cyfranddaliadau ac ysgrifennwch y pris a roddir am bob cyfranddaliad gwahanol (os dangosir 2 bris ar gyfer ymddiriedolaethau unedol, defnyddiwch yr un isaf).
  3. Lluoswch nifer y cyfranddaliadau â’r pris a roddir — bydd hyn yn rhoi gwerth y cyfranddaliadau i chi.
  4. Cadwch eich rhestr cyfranddaliadau yn ddiogel gyda phapurau a chofnodion eraill yr ymadawedig.

Cyfrifiad enghreifftiol

Os oedd gan yr ymadawedig 1,250 o gyfranddaliadau ac roedd y pris yn 1093.5c, gwerth y daliad yw: 1,250 × 1,093.5c = £13,668.75

Blwch 11.4: Stociau a chyfranddaliadau heb eu rhestru ar y Gyfnewidfa Stoc

Dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • cyfranddaliadau mewn cwmni teuluol preifat nad ydynt wedi’u rhestru ar gyfnewidfa stoc
  • cyfranddaliadau a fasnachir ar OFEX (cyfleuster masnachu heb ei reoleiddio ar gyfer delio mewn cyfranddaliadau heb eu rhestru)
  • cyfranddaliadau a restrwyd ar farchnad nad yw CThEF yn ei diffinio fel ‘rhestredig’, gan gynnwys y rhai a all fod yn rhan o ISA (gweler yr arweiniad ar ‘Designated recognised stock exchanges’ (yn agor tudalen Saesneg))

Dylech allu dod o hyd i werthoedd ar gyfer cyfranddaliadau ar farchnadoedd heb eu rhestru ar-lein.

Cyfranddaliadau cwmni preifat

Defnyddiwch amcangyfrif o werth marchnadol y cyfranddaliadau. Efallai y bydd angen i chi gysylltu ag ysgrifennydd neu gyfrifydd y cwmni i gael y gwerth hwn. Ni ddylech gynnwys gwerth nominal cyfranddaliadau o’r fath yn unig (er enghraifft gwerth nominal 1,000 o gyfranddaliadau £1 cyffredin yw £1,000) oni bai bod hwnnw’n adlewyrchu gwerth gwirioneddol y cyfranddaliadau ar y farchnad agored.

Prisio cyfranddaliadau AIM neu OFEX

Gallwch brisio’r cyfranddaliadau hyn yn yr un modd â stociau a chyfranddaliadau a restrwyd.

Blwch 11.5: Polisïau yswiriant, gan gynnwys bonysau a pholisïau diogelu morgais

Nodwch y cyfanswm gwerth ar gyfer:

  • polisïau yswiriant bywyd sy’n talu swm i’r ystâd, gan gynnwys unrhyw fonysau a delir
  • arian a dalwyd o dan bolisi diogelu morgais (os oedd y polisi yn un ar y cyd, dylech gynnwys y swm sy’n daladwy ym mlwch 9.2 yn lle hynny)
  • polisïau yswiriant a ddelir mewn ISAs
  • taliadau a gafwyd dan gynlluniau buddsoddi sy’n talu 101% o werth yr uned ar farwolaeth
  • taliadau a gafwyd dan gynlluniau buddsoddi neu ail-fuddsoddi, bondiau neu gontractau gyda darparwr gwasanaethau ariannol sy’n talu swm ar farwolaeth
  • polisïau yswiriant ar fywyd person arall ond lle’r oedd yr ymadawedig yn mynd i elwa arnynt

Blwch 11.6: Arian sy’n ddyledus i’r person a fu farw

Dylech nodi’r canlynol:

  • arian roedd yr ymadawedig wedi rhoi benthyg i rywun arall ac nad oedd wedi cael ei ad-dalu ar ddyddiad y farwolaeth
  • arian roedd yr ymadawedig wedi rhoi benthyg i ymddiriedolwyr a oedd wedi’i gysylltu â pholisi yswiriant bywyd a ddelir mewn ymddiriedolaeth
  • arian roedd yr ymadawedig yn dal nodyn addewidiol neu ‘IOU’ ar ei gyfer
  • arian roedd yr ymadawedig wedi rhoi benthyg i rywun arall ac sydd wedi ei warantu gan forgais ar eiddo
  • arian sy’n ddyledus i’r ymadawedig o gyfrif benthyciad cyfarwyddwr neu gyfrif cyfredol cwmni

Nodwch gynnwys gwerth enwol y benthyciad, ar ôl didynnu unrhyw ad-daliadau a wnaed. Dylech hefyd gynnwys unrhyw log sy’n ddyledus hyd at ddyddiad y farwolaeth.

Blwch 11.7: Partneriaeth a buddiannau busnes

Nodwch werth net holl fuddiannau busnes yr ymadawedig. Yn ddelfrydol, dylid paratoi cyfrifon ar gyfer y busnes ar adeg y farwolaeth a chyfanswm cyfrifon cyfalaf a chyfredol yr ymadawedig fydd y man cychwyn. Cofiwch mai gwerth asedion cyfalaf mewn cyfrifon fel arfer yw ‘eu ‘gwerth ar bapur’, ac yn aml iawn bydd hwn yn wahanol i’r gwerth ar y farchnad agored sydd ei angen ar gyfer Treth Etifeddiant.

Os oedd yr ymadawedig yn Danysgrifennwr Lloyds, nodwch gynnwys ei bortffolio/phortffolio busnes o gyfranddaliadau yma, ac nid ym mlwch 11.3. Pan fo angen, dylech gynyddu (neu ostwng) gwerth y buddiannau busnes a ddangosir yn y cyfrifon i adlewyrchu unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol, drwy ddisodli’r ‘gwerth ar bapur’ gyda gwerth y farchnad agored.

Blwch 11.8: Preswylfa rydd-ddaliadol  neu brydlesol

Nodwch gynnwys gwerth cartref ar y farchnad agored yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno neu’n ei berchen yn rhannol, oni bai bod y cartref yn cael ei ddal ar y cyd ac yn cael ei drosglwyddo i’r cydberchennog trwy oroesedd. Os oedd yr ymadawedig wedi symud i gartref nyrsio neu gartref gofal arall ychydig cyn iddo/iddi farw ac roedd yr eiddo wedi’i adael yn wag, dylech ei gynnwys yn y blwch hwn o hyd.

Os oedd yr eiddo wedi’i osod ar ôl i’r ymadawedig symud oddi yno, dylech gynnwys ei werth ym mlwch 11.9, ac nid yn 11.8. Nodwch gyfeiriad yr eiddo, gan gynnwys y cod post, yn y man a ddarparwyd. Os yw’r eiddo yn ffermdy, darllenwch yr arweiniad ynglŷn â blwch 11.10. Os yw cartref yr ymadawedig yn cael ei drosglwyddo trwy oroesedd i’r cydberchennog arall, peidiwch â’i gynnwys yma. Dylech gynnwys y gwerth ym mlwch 9.2 yn lle hynny.

Prisio tai, tir ac adeiladau

Gall prisio tai, tir ac adeiladu fod yn gymhleth ac fe’ch cynghorir yn gryf i ddefnyddio prisiwr proffesiynol. Gofynnwch i’r prisiwr:

  • am y gwerth ar y farchnad agored, nid y gwerth profiant (gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r gwerth ar y farchnad agored ar y ffurflen)
  • i gymryd i ystyriaeth cyflwr yr eiddo (a allai ostwng ei werth) ac unrhyw nodweddion a allai ei wneud yn ddeniadol i adeiladwr neu ddatblygwr, fel gerddi mawrion neu fynediad i diroedd eraill sy’n addas ar gyfer eu datblygu (a allai gynyddu ei werth)

Os cewch nifer o brisiadau sy’n rhoi ystod o brisiadau ar gyfer yr eiddo, dylech nodi gwerth sydd rhwng y pris uchaf a’r pris isaf. Os dewch o hyd i wybodaeth sy’n bwrw amheuaeth ar eich amcangyfrif ar ôl cyfrifo eich ffigur a chyn gwneud eich cais am grant, rhaid i chi ei ailystyried.

Er enghraifft, gallai eich amcangyfrif o werth yr eiddo fod yn £250,000. Pan geisiwch ei werthu, rydych yn ei osod ar y farchnad am £270,000 ac yn cael cynigion am y pris hwnnw neu’n uwch. Mae hyn yn awgrymu y gallai gwerth yr eiddo ar y farchnad agored fod yn agosach at £270,000. O dan yr amgylchiadau hyn, argymhellwn eich bod yn gofyn i’r prisiwr i ystyried newid y prisiad gan gymryd i ystyriaeth ffactorau fel yr amser ers y farwolaeth a symudiadau yn y farchnad eiddo.

Blwch 11.9: Eiddo preswyl rhydd-ddaliadol neu brydlesol arall

Nodwch werth unrhyw eiddo preswyl arall ar y farchnad agored yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno, a oedd naill ai’n cael ei osod neu a allai gael ei osod ond roedd yn wag pan fu farw. Gweler yr arweiniad ar gyfer blwch 11.8 i weld sut y dylech brisio’r eiddo. Nodwch y cyfeiriad, gan gynnwys y cod post yn y man a ddarparwyd. Dylech gynnwys unrhyw rent sy’n ddyledus hyd at ddyddiad y farwolaeth ym mlwch 11.11.

Blwch 11.10: Tir ac adeiladau eraill

Nodwch fanylion unrhyw dir ac adeiladau eraill yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffermydd (os oedd y person a fu farw yn byw ar fferm, dylech gynnwys gwerth y fferm gyfan yma, peidiwch â chynnwys gwerth ar wahân ar gyfer y ffermdy ym mlwch 11.8)
  • eiddo busnes, er enghraifft, gwesty, siop, ffatri
  • coed a choetiroedd
  • tir ac adeiladau eraill, er enghraifft garejys cloi, tir diangen neu ddiffaith, chwareli, meysydd awyr
  • hawliau eraill sydd ynghlwm wrth dir megis hawliau pysgota neu saethu

Gweler yr arweiniad ar gyfer blwch 11.8 i weld sut y dylech brisio’r eiddo. Argymhellwn eich bod yn gofyn am gyngor proffesiynol os yw’r ystâd yn cynnwys y math hwn o dir oherwydd gall fod yn anodd iawn ei brisio. Nodwch gyfeiriad neu leoliad yr eiddo yn y man a ddarparwyd.

Blwch 11.11: Unrhyw asedion eraill

Nodwch unrhyw asedion eraill yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt nad ydych wedi eu cynnwys ym mlychau 11.1 i 11.10. Er enghraifft:

  • arian ar ffurf cyflog a oedd yn ddyledus
  • ôl-daliadau pensiwn neu fudd-daliadau heb eu hawlio
  • rhenti sy’n ddyledus am y cyfnod hyd at farwolaeth
  • incwm o ymddiriedolaeth sy’n ddyledus am y cyfnod hyd at farwolaeth
  • ad-daliadau o gynlluniau iechyd preifat
  • ad-daliadau Treth Incwm neu ad-daliadau Treth Enillion Cyfalaf
  • arian neu asedion sy’n ddyledus i’r ymadawedig o ystâd rhywun arall a fu farw cyn iddo/iddi farw
  • ad-daliadau nwy neu drydan, yswiriant neu drwyddedau

Blwch D: Gwerth gros yr asedion lle mae angen grant   

Nodwch gyfanswm blychau 11.1 i 11.11. Os mai ‘dim’ yw’r gwerth ym mlwch D, peidiwch â llenwi ffurflen IHT205(2011) ymhellach. Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Adran 12: Dyledion sy’n daladwy o’r asedion a ddangosir ym mlychau 11.1 i 11.11

Marwolaethau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014

Gallwch gynnwys dyledion yr ydych yn disgwyl eu had-dalu o’r ystâd dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gwerth gros yr ystâd yn llai na £1 miliwn
  • nid oes treth i’w thalu oherwydd bod rhan o’r ystâd yn cael ei throsglwyddo i briod neu bartner sifil yr ymadawedig

Peidiwch â chynnwys y canlynol:

  • dyledion rydych yn gwybod na fyddant yn cael eu had-dalu o’r ystâd
  • unrhyw ddyledion pan fo’r arian a fenthycwyd wedi cael ei ddefnyddio i gaffael eiddo wedi’i eithrio (fel arfer budd mewn ymddiriedolaeth pan fo’r ymddiriedolwyr dramor), neu eiddo sydd wedi dod yn eiddo wedi’i eithrio

Mae’r cyfyngiadau hyn ond yn gymwys pan fu farw’r ymadawedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014.

Blwch 12.1: Treuliau angladd

Gallwch ddidynnu costau’r angladd a threuliau galaru rhesymol. Gallwch hefyd ddidynnu cost carreg bedd neu blac sy’n dynodi safle bedd yr ymadawedig. Gall y treuliau hyn hefyd gynnwys swm rhesymol i dalu am gost y canlynol:

  • blodau
  • lluniaeth ar gyfer galarwyr ar ôl y gwasanaeth
  • treuliau angenrheidiol a dalwyd gan yr ysgutor neu’r gweinyddwr wrth drefnu’r angladd

Nodwch gyfanswm y costau hyn yn y blwch hwn. Nid yw costau rhesymol yr angladd yn cynnwys costau teithio neu lety ar gyfer y galarwyr. Gadewch y blwch hwn yn wag os oedd yr ymadawedig wedi talu am gynllun angladd a oedd yn talu holl gostau’r angladd.

Blwch 12.2: Morgais neu gyfran o forgais ar eiddo neu dir ym mlychau 11.8 i 11.10

Nodwch unrhyw forgais sydd wedi’i sicrhau ar eiddo rydych wedi’i gynnwys yn adran 11. Os mai dim ond cyfran o’r eiddo dan sylw roedd yr ymadawedig yn berchen arno, dylech ond gynnwys yr un gyfran briodol o’r morgais.

Er enghraifft, roedd yr ymadawedig yn berchen ar hanner tŷ gyda gwerth o £200,000. Gwarantwyd morgais o £50,000 ar yr eiddo. Gwerth cyfran yr ymadawedig o’r eiddo ym mlwch 11.8 yw £100,000 a gwerth cyfran yr ymadawedig o’r morgais ym mlwch 12.2 yw £25,000. Os oedd gan yr ymadawedig bolisi diogelu morgais, nodwch y morgais yn y blwch hwn a’r arian a dalwyd allan gan y polisi ym mlwch 11.5.

Blwch 12.3: Dyledion eraill sy’n ddyledus yn y DU

Nodwch dim ond dyledion yr oedd mewn gwirionedd yn ddyledus gan yr ymadawedig pan fu farw. Er enghraifft, biliau’r cartref, sieciau heb eu talu gan y banc am nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd cyn y farwolaeth a dyledion cardiau credyd. Peidiwch â chynnwys ffioedd am wasanaethau proffesiynol a gyflawnwyd ar ôl y farwolaeth, er enghraifft ffioedd cyfreithwyr neu asiant gwerthu tai a ffioedd prisio.

Os oedd y person a fu farw wedi ysgrifennu siec fel rhodd cyn iddo farw, ac os nad oedd y siec wedi ei thalu gan y banc erbyn y farwolaeth, ni ddylech drin y siec fel didyniad. Mae’n rhaid i chi gynnwys gwerth cyfrif banc yr ymadawedig heb ddidynnu’r siec. Ni ddylech nodi’r rhodd a fwriadwyd fel rhodd wrth ateb cwestiwn 2.

Blwch E: Cyfanswm y dyledion sy’n daladwy o’r asedion ym mlychau 11.1 i 11.11

Nodwch gyfanswm blychau 12.1 i 12.3.

Blwch F: Ystâd net yn y DU os ydych yn gwneud cais am grant cynrychiolaeth

Didynnwch y ffigur ym mlwch E o’r ffigur ym mlwch D (D llai E) a’i nodwch yma.

Blwch G: Ystâd net at ddibenion Treth Etifeddiant

Nodwch gyfanswm blychau C ac F.

Blwch H: Gwerth gros at ddibenion Treth Etifeddiant    

Nodwch gyfanswm blychau A a D ac ysgrifennwch yr ateb ym mlwch H.

Stopiwch lenwi ffurflen IHT205(2011) a defnyddiwch ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn ei lle, os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r gwerth ym mlwch H yn fwy na’r terfyn ystadau wedi’u heithrio (£325,000 ar gyfer blynyddoedd treth 2011 i 2025 neu £650,000 pan fyddwch yn gwneud cais i drosglwyddo’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio o ystâd priod neu bartner sifil a fu farw ynghynt)
  • does dim un o’r asedion yn cael eu trosglwyddo i briod neu bartner sifil yr ymadawedig neu i elusen gymwys

Darllenwch y wybodaeth perthnasol ynghynt yn yr arweiniad hwn i gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddo’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio ac asedion i briod neu bartner sifil neu i elusen gymhwysol.

Adran 13: Gwybodaeth ychwanegol

Defnyddiwch y lle gwag hwn i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol y cyfeirir ati yn yr arweiniad hwn neu os oes angen mwy o le arnoch am unrhyw reswm. Os oes rhywbeth yr hoffech i ni ei ystyried, rhowch y manylion yma. Gallwch barhau ar ddarn o bapur ar wahân os nad oes digon o le gyda chi, ond sicrhewch eich bod yn ysgrifennu enw a dyddiad marwolaeth yr ymadawedig ar unrhyw daflenni ychwanegol.

Adran 14: Esemptiadau a blwch J

Os yw’r gwerth ym mlwch H yn llai na neu’n hafal â’r terfyn eithrio ystâd (£325,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2011 i 2015):

  • nodwch 0 ym mlwch J
  • copïwch y gwerth ym mlwch G i flwch K

Nid oes angen i chi ddarllen gweddill yr adran hon. Ewch i adran Blwch K yn yr arweiniad hwn.

Os trosglwyddir unrhyw asedion i briod neu bartner sifil yr ymadawedig, neu i elusen gymwys neu unrhyw gorff cymhwysol arall, mae’n debygol y bydd yr asedion hyn wedi’u hesemptio rhag Treth Etifeddiant. Defnyddiwch y gofod a ddarperir yn adran 14 i ddisgrifio maint yr esemptiad, neu rhestrwch yr asedion penodol sydd â hawl i gael esemptiad.

Blwch J

Nodwch gyfanswm gwerth yr holl esemptiadau ym mlwch J.

Enghraifft 1

Os yw ewyllys yr ymadawedig neu reolau diewyllysedd yn datgan bod yr ystâd gyfan i’w throsglwyddo i’r priod neu’r partner sifil, nodwch:

  • yr wybodaeth hon
  • y gwerth o flwch G ym mlwch J (oni bai bod asedion yn adran 9 nad ydynt yn trosglwyddo, neu nad ydynt wedi trosglwyddo, i’r priod neu bartner sifil, e.e. rhoddion oes)

Byddai rhoddion oes yn enghraifft o hyn

Enghraifft 2

Os gwnaeth yr ymadawedig roddion oes i’w briod neu bartner sifil neu i elusen gymwys:

  • rhestrwch y rhoddion ac unrhyw esemptiad sydd i’w ddidynnu ohonynt, dangoswch hefyd unrhyw esemptiadau sydd i’w tynnu o’r ystâd sy’n cael eu trosglwyddo ar adeg y farwolaeth
  • adiwch yr holl esemptiadau at ei gilydd a nodwch y cyfanswm ym mlwch J

Enghraifft 3

Os oes cymynroddion o £30,000 i’r plant, gyda thri chwarter gweddill yr ystâd yn cael ei throsglwyddo i’r cymar neu’r partner sifil a chwarter i’r plant:

  • esboniwch fod yr ystâd i’w datganoli fel hyn
  • cyfrifwch faint fydd y partner priod neu bartner sifil yn ei gael
  • nodwch y gwerth ym mlwch J

Enghraifft 4

Os yw’r priod neu’r partner sifil i gael nwyddau’r cartref, nwyddau personol a chartref yr ymadawedig, rhestrwch y 2 eitem hyn yn y blwch hwn a nodwch gyfanswm eu gwerth ym mlwch J.

Enghraifft 5

Os oes unrhyw gymynroddion i elusennau cymwys, nodwch:

  • enwau’r sefydliadau sy’n elwa
  • cyfanswm yr holl gymynroddion i’w trosglwyddo i’r elusen gymwys ym mlwch J

Os oes gormod o gymynroddion i wahanol elusennau cymwys i’w rhestru, nodwch y sefydliadau sy’n cael mwy na £25,000. Ar gyfer y gweddill, rhowch wybod i ni sawl elusen gymwys arall sy’n elwa, a nodwch un ffigur ar gyfer cyfanswm y cymynroddion llai.

Enghraifft 6

Os oes cymysgedd o asedion yn cael eu trosglwyddo i briod neu bartner sifil yr ymadawedig ac i elusennau cymhwysol:

  • rhowch wybod i ni gymaint ag y gallwch
  • rhowch gyfanswm yr esemptiad ym mlwch J.

Defnyddiwch flwch 13 os oes angen mwy o le arnoch.

Blwch K

Didynnwch y ffigur ym mlwch J o’r ffigur ym mlwch G (G llai J) a nodwch yr ateb yma. Dyma gwerth cymhwysol net yr ystâd.

Gwerth cymhwysol net ar gyfer ystadau wedi’u heithrio

Gallwch wneud cais am grant cynrychiolaeth heb lenwi ffurflen IHT400 os yw’r canlynol yn wir am y gwerth ym mlwch K:

  • nid yw’n fwy na therfyn yr ystâd wedi’i heithrio (£325,000 ar gyfer blynyddoedd treth 2011 i 2025)
  • yn fwy na’r terfyn ystâd wedi’u heithrio ond yn llai na ddwywaith terfyn ystâd a eithrir (£650,000 ar gyfer blynyddoedd treth 2011—2025) ac rydych yn gwneud cais i drosglwyddo’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio o ystâd y priod neu’r partner sifil a fu farw ynghynt

Mae’n rhaid i chi nawr gwneud y canlynol:

Os yw’r gwerth ym mlwch K yn fwy na’r terfyn ystadau wedi’u heithrio, ac nid ydych yn gwneud cais i drosglwyddo haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio, peidiwch â llenwi’r ffurflen IHT205(2011) ymhellach. Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant yn lle hynny.

Datganiad

Darllenwch y datganiad. Os yw’r gwerth ym mlwch H yn:

  • yn llai na, neu’n hafal i, terfyn yr ystâd wedi’i heithrio — ticiwch y blwch cyntaf
  • yn fwy na’r terfyn ystâd wedi’i heithrio, ond yn llai na, neu’n hafal â, dwywaith y terfyn ystâd wedi’i heithrio ac rydych yn atodi ffurflen IHT217, dylech dicio’r ail flwch
  • yn llai na, neu’n hafal i, £1 miliwn, ac rydych wedi didynnu esemptiad priod neu bartner sifil neu esemptiad elusen sy’n golygu bod y ffigur ym mlwch K yn is na’r terfyn ystadau wedi’u heithrio, dylech dicio’r trydydd blwch

Llofnodi’r ffurflen

Dylai pob person a fydd yn gwneud cais am grant ddarllen y datganiadau uwchben y blychau llofnodi. Drwy lofnodi’r ffurflen, mae pob person yn nodi ei fod wedi darllen y datganiadau ac y bydd yn cydymffurfio â’u telerau. Dylai pob person sy’n gwneud cais am grant nodi ei enw a chyfeiriad yn un o’r blychau, a llofnodi a dyddio’r ffurflen. Bydd CThEF yn derbyn ffurflenni IHT205 nad ydynt wedi’u llofnodi’n â llaw gan asiantau proffesiynol a threthdalwyr sydd heb rywun i’w cynrychioli. Byddwn yn derbyn y ffurflenni oddi wrth asiantau proffesiynol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae enwau a manylion personol y cynrychiolwyr personol cyfreithiol yn ymddangos ar dudalen y datganiad
  • mae’r cyfrif wedi’i weld gan bob cynrychiolydd personol cyfreithiol a’u bod i gyd yn cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad

Datganiad asiant

Mae’n rhaid i’r asiant gynnwys y datganiad canlynol:

‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y cyfrif Treth Etifeddiant hwn, wedi gweld y cyfrif Treth Etifeddiant ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 14 yr IHT400’.

Os oes mwy nag un person yn gweithredu ar ran yr ystâd

Byddwn yn derbyn y ffurflenni oddi wrth ysgutorion neu weinyddwyr sy’n gweithredu heb help asiant proffesiynol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae enwau a manylion personol unrhyw ysgutorion neu weinyddwyr eraill yn ymddangos ar dudalen y datganiad
  • mae’r cyfrif wedi’i weld gan bob ysgutor neu weinyddwr a’u bod i gyd yn cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad

Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol:

‘Fel y cynrychiolydd personol cyfreithiol sy’n gweithredu ar ran yr ystâd, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y cyfrif Treth Etifeddiant hwn, wedi gweld y cyfrif Treth Etifeddiant ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 8 yr IHT205’.

Yr hyn i’w wneud pan fyddwch wedi gorffen y ffurflen

Cadw copi o’r ffurflen

Mae’n rhaid i chi gadw copi o’r ffurflen wedi’i llofnodi (ac unrhyw dudalennau parhad ar gyfer Blwch 13) ar gyfer eich cofnodion eich hun. Bydd eu hangen arnoch os bydd gwerth yr ystâd yn newid ar ôl i’r grant a’r dreth ddod yn daladwy. Efallai y gofynnir i chi hefyd ddarparu copi o’r ffurflen neu fanylion yr ystâd ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ni all CThEF ddarparu copi o’r ffurflen hon.

Cadwch y papurau a’r cofnodion rydych chi wedi’u defnyddio

Nid oes angen i chi anfon copïau o unrhyw bapurau a ddefnyddiwyd i lenwi’r ffurflen, ond dylech gadw popeth yn ddiogel rhag ofn y byddwn yn gofyn amdanynt.

I ble y dylech anfon y ffurflenni

Mae prosesau ychydig yn wahanol i’w dilyn, yn dibynnu a ydych yn gwneud cais am grant yng Nghymru a Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon.

Cymru a Lloegr

Os ydych yn gwneud cais am grant cynrychiolaeth eich hun:

HMCTS Probate
PO Box 12625
Harlow
CM20 9QE

Peidiwch ag anfon y ffurflenni i Ymddiriedolaethau ac Ystadau CThEF (oni bai eich bod yn hawlio trosglwyddiad o’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio ar ôl anfon y grant cynrychiolaeth).

Cyn belled â bod popeth yn foddhaol, bydd Profiant GLlTEF (HMCTS Probate) yn anfon y grant atoch ac yn anfon y ffurflen IHT205(2011) a ffurflen IHT217 (os llanwyd un) atom ni.

Gogledd Iwerddon

Os ydych yn gwneud cais am grant cynrychiolaeth eich hun:

NICTS Probate
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast BT1 3JF

Peidiwch ag anfon y ffurflen i CThEF (oni bai eich bod yn hawlio trosglwyddiad o’r haen gyfradd sero sydd heb ei defnyddio ar ôl anfon y grant cynrychiolaeth).

Cyn belled â bod popeth yn foddhaol, bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon (NICTS) yn anfon y grant atoch ac yn anfon y ffurflen IHT205(2011) a ffurflen IHT217 (os llanwyd un) atom ni.

Pryd byddwch yn clywed gennym os byddwn am weld y papurau a’r cofnodion

Cyhyd â’ch bod wedi defnyddio ffurflen IHT205(2011) yn gywir, mae’n annhebygol y byddwch yn clywed gennym. Mae gennym 35 diwrnod calendr ar ôl caniatáu’r grant i ysgrifennu atoch ynglŷn â’r wybodaeth a roesoch yn y ffurflen. Os na fyddwn yn ysgrifennu atoch yn y cyfnod hwnnw, ni fydd yn rhaid i ni weld y papurau a’r cofnodion, ac ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Etifeddiant. Nid yw hyn yn berthnasol os byddwch heb roi gwybod i ni am unrhyw beth ynglŷn â’r ystâd yn y ffurflen hon.

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi gael y grant

Gallwch ddechrau delio â’r ystâd drwy gasglu’r asedion ynghyd â thalu dyledion a chymynroddion.

Yr hyn i’w wneud os bydd gwerth yr ystâd yn newid

Os byddwch yn dod o hyd i fwy o asedion ar ôl cael y grant cynrychiolaeth, neu’n darganfod bod gwerth ased wedi newid, dylech ddiwygio eich copi gweithredol o’r ffurflen. Er enghraifft, cafodd y tŷ neu rai nwyddau personol eu gwerthu am ffigur gwahanol, neu ni fydd dyled rydych chi wedi’i didynnu yn cael ei had-dalu.

Os, ar ôl gwneud y newidiadau hyn mae’r gwerth ym mlwch K yn fwy na’r haen cyfradd sero Treth Etifeddiant, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni am y newidiadau a thalu’r dreth (gweler isod) neu hawlio trosglwyddiad o’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio.

Sut i roi gwybod i ni am y newidiadau

Llenwch ffurflen IHT400: ‘cyfrif Treth Etifeddiant’ i roi gwybod i ni am yr ystâd os bydd unrhyw newidiadau yn golygu bod yr ystâd yn uwch na’r haen cyfradd sero Treth Etifeddiant. Mae’n rhaid i chi anfon ffurflen IHT400 atom cyn pen 6 mis o ddarganfod y newid i’r ystâd. Os dychwelwch y ffurflen atom yn hwyr, gallech fod yn agored i gosbau ariannol.

Sut i gyfrifo Treth Etifeddiant

Gallwch gyfrifo’r dreth sy’n daladwy drwy ddidynnu’r haen cyfradd sero Treth Etifeddiant o werth diwygiedig yr ystâd, a didynnu 40% o’r swm hwnnw.

Efallai y bydd yn rhaid i chi ychwanegu llog at y dreth sy’n ddyledus. Mae llog yn rhedeg 6 mis ar ôl diwedd y mis y digwyddodd y farwolaeth ynddo. Gall ein llinell gymorth roi gwybod i chi beth yw’r gyfradd llog.

Os ydych yn cyfrifo nad oes Treth Etifeddiant i’w thalu o hyd, does dim angen i chi roi gwybod i ni am y newidiadau. Os yw’r newidiadau’n golygu nad yw’r ystâd bellach yn gymwys i fod yn ystâd wedi’i heithrio, cadwch restr o’r pethau hynny. Mae hyn er mwyn i chi eu cynnwys os daw newidiadau pellach i’r golwg yn ddiweddarach sy’n golygu bod Treth Etifeddiant i’w thalu.

Cyfeirnod Treth Etifeddiant

Os cyfrifwch fod treth i’w thalu, bydd angen i chi wneud cais am gyfeirnod Treth Etifeddiant a slip talu er mwyn i chi allu gwneud y taliad. Gallwch wneud cais am gyfeirnod ar-lein yn Cyfeirnod Treth Etifeddiant (IHT) CThEF. Fel arall, gallwch ddefnyddio ffurflen IHT422: Gwneud cais am gyfeirnod Treth Etifeddiant. Mae’r ffurflen hefyd ar gael drwy ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar: 0300 200 1900.

Gofynnwch i CThEF gyfrifo’r dreth

Os nad ydych am gyfrifo’r dreth eich hun, anfonwch ffurflen IHT400 at CThEF a byddwn yn anfon cyfrifiad o’r dreth ac unrhyw log sy’n ddyledus gennych. Anfonwch eich ffurflen i:

Treth Etifeddiant
Cyllid a Thollau EF
BX19 1HT

Yr hyn i’w wneud os yw’r esemptiadau’n newid

Gall yr esemptiadau newid os bydd y rheiny sy’n etifeddu’r ystâd yn newid ar ôl dyddiad y farwolaeth. Gall buddiolwyr ystâd newid y rheiny sy’n etifeddu ystâd drwy gyflawni gweithred amrywio. Os bydd y bobl sy’n etifeddu’r ystâd yn newid, ac o ganlyniad mae gwerth cymwys net yr ystâd yn fwy na’r haen cyfradd sero Treth Etifeddiant, (sy’n golygu bod treth i’w thalu), dylech lenwi’r ffurflen IHT400: cyfrif Treth Etifeddiant](https://www.gov.uk/government/publications/inheritance-tax-inheritance-tax-account-iht400.cy). Bydd arweiniad CThEF Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth yn eich helpu i gyfrifo gwerth yr ystâd.

Enghraifft

Os trosglwyddwyd yr holl asedion i’r priod sy’n goroesi, dylai’r cofnod ym mlwch K ar y ffurflen fod yn 0. Os yw’r priod yn ailgyfeirio £100,000 i’w blant, mae’n rhaid iddo leihau’r esemptiad a ddangosir ym mlwch J gan y swm hwnnw ac ailgyfrifo’r ateb ym mlwch K. Ond gan fod blwch K yn parhau i beidio â bod yn uwch na’r haen cyfradd sero Treth Etifeddiant, nid oes yn rhaid i chi roi gwybod i ni am y newid.

Os yw’r priod yn ailgyfeirio £400,000 i’r plant, mae’r ffigur newydd ym mlwch K yn fwy na’r haen gyfradd sero ac mae treth yn ddyledus. Mae’n rhaid iddo lenwi ffurflen IHT400.

Yr hyn i’w wneud os cwmpesir y newidiadau gan ryddhad neu esemptiadau eraill

Enghraifft

Mae’r holl asedion yn cael eu gadael i’r priod, ond maent yn cynnwys fferm y mae’r priod yn ei hailgyfeirio (drwy weithred amrywio) i’r plant. Mae’n rhaid gostwng gwerth yr esemptiad ar gyfer priod neu bartner sifil yn ôl gwerth y fferm a dylid diwygio’r cofnod ym mlwch K.

Os nad yw blwch K yn parhau i fod yn fwy na’r haen cyfradd sero, nid oes rhaid i chi roi gwybod i ni am y newid. Os yw’n fwy na’r haen cyfradd sero, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant. Os yw’r fferm yn gymwys i gael rhyddhad amaethyddol, gall olygu nad oes treth i’w thalu o hyd, ond dylid cynnwys y rhyddhad yn Atodlen IHT414: Rhyddhad amaethyddol. Dylech anfon copi o ewyllys yr ymadawedig a’r weithred amrywio gyda’r ffurflenni.

Yr hyn i’w wneud os bydd gwerth yr ystâd yn newid ac mae angen i chi wneud cais i drosglwyddo’r haen cyfradd sero heb ei defnyddio ar ôl y grant

Os bydd gwerth yr ystâd yn newid i fod yn fwy na haen cyfradd sero’r Dreth Etifeddiant a bod angen i chi hawlio trosglwyddiad o haen gyfradd sero sydd heb ei defnyddio, bydd angen i chi gael y canlynol:

Anfonwch y rhain at:

Treth Etifeddiant
Cyllid a Thollau EF
BX19 1HT

Trosglwyddo’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio: dogfennau y dylech eu cadw

Os gwnaeth yr ymadawedig yr ydych yn delio a’i (h)ystâd yn awr adael priod neu bartner sifil, dylech gadw manylion llawn o’r ystâd hon mewn man diogel. Mae hyn er mwyn gallu gwneud cais i drosglwyddo unrhyw haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio ar farwolaeth y priod neu’r partner sifil sy’n goroesi.

Dyma’r wybodaeth a’r dogfennau y dylech eu cadw:

  • copi o’r IHT205(2011) neu fanylion ysgrifenedig llawn o’r asedion yn yr ystâd a’u gwerth
  • copi o’r grant cynrychiolaeth (profiant neu lythyron gweinyddu)
  • copi o’r ewyllys, os oes un
  • nodyn ynghylch sut y trosglwyddwyd yr ystâd os nad oedd ewyllys
  • copi o unrhyw weithred amrywio neu ddogfen debyg os lluniwyd un er mwyn newid y bobl a etifeddodd yr ystâd

Efallai bydd y weddw, y gŵr gweddw neu’r partner sifil sy’n goroesi am gadw’r dogfennau hyn gyda’i (h)ewyllys ei hun, neu gyda dogfennau pwysig eraill, i sicrhau y gellir gwneud cais er mwyn trosglwyddo’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio ar ôl ei farwolaeth/marwolaeth.

Cosbau

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cymryd gofal i lenwi eu ffurflenni’n gywir. Rydym am annog hynny a helpu pobl i gael pethau’n iawn. Rydym yn defnyddio cosbau i atal pobl nad ydynt yn ofalus rhag manteisio’n annheg. Os cymerwch ofal rhesymol wrth lenwi’r ffurflen IHT205(2011), ni fyddwn yn codi cosb arnoch, hyd yn oed os gwnewch gamgymeriad.

Pa bryd y codir cosbau

Dylech ddefnyddio’r ffurflen IHT205(2011) dim ond os yw’r ystâd yn ‘ystâd wedi’i heithrio’ ac nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu. Gallwn godi cosbau ariannol os byddwch yn cynnwys anghywirdebau yn y ffurflen IHT205(2011) sydd, pan gaiff ei chywiro’n ddiweddarach, yn golygu bod treth etifeddiant i’w thalu wedi’r cyfan.

Sut i osgoi cosb

Os cymerwch ofal rhesymol i gael pethau’n iawn, ni fyddwn yn codi cosb os gwnewch gamgymeriad. Byddwn fel arfer yn derbyn eich bod wedi cymryd gofal rhesymol os ydych wedi dilyn yr arweiniad yn y llyfryn hwn ac rydych:

  • wedi chwilio drwy bapurau a dogfennau’r ymadawedig yn drylwyr i olrhain asedion, buddsoddiadau a buddiannau ariannol eraill yr oedd gan yr ymadawedig pan fu farw
  • wedi cysylltu ag eraill, er enghraifft teulu, ffrindiau, cyfrifwyr ac yn y blaen y gallai fod ganddynt wybodaeth am faterion yr ymadawedig
  • wedi cynnwys manylion holl asedion, rhwymedigaethau, trafodion a buddiannau ariannol eraill yr ymadawedig sy’n agored i Dreth Etifeddiant ar ffurflen IHT205(2011)
  • wedi cymryd camau rhesymol i gyfrifo gwerth ‘marchnad agored’ yr asedion hynny

Os na fyddwch yn cymryd gofal rhesymol, gallwn gosbi unrhyw anghywirdebau. Bydd y cosbau’n uwch os yw’r anghywirdebau’n rhai bwriadol.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn canfod anghywirdeb

Os, ar ôl gwneud cais am grant profiant, byddwch yn canfod anghywirdeb sy’n golygu bod Treth Etifeddiant yn daladwy gan yr ystâd, dylech roi gwybod i ni cyn gynted â phosib. Mae hyn yn cael ei esbonio’n gynharach yn yr arweiniad hwn, yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud os bydd gwerth yr ystâd yn newid.’

Nid oes angen rhoi gwybod i ni am anghywirdebau nad ydynt yn peri bod treth i’w thalu. Yn lle hynny, nodwch nhw ar eich cofnodion rhag ofn y daw rhywbeth arall i’r golwg sy’n golygu bod treth yn daladwy pan gaiff yr holl anghywirdebau eu cywiro.

Sut i ostwng cosb

Ni fydd rhoi gwybod i ni am anghywirdebau’n golygu y byddwch yn agored i gosb yn awtomatig. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, rydym yn aml yn ystyried bod y ffaith eich bod wedi ein hysbysu yn rhan o gymryd gofal rhesymol i gael eich treth yn iawn. Gallwn ostwng eich cosb yn sylweddol os byddwch:

  • yn rhoi gwybod i ni am unrhyw anghywirdebau cyn i ni eich holi yn eu cylch
  • yn ein helpu i gyfrifo’r swm treth cywir
  • yn ateb unrhyw gwestiynau y gofynnwn i chi yn gyflawn, yn brydlon ac yn onest

Yr hyn i’w wneud os bydd yr anghywirdeb yn codi o ganlyniad i wybodaeth a ddarparwyd gan rywun arall

Os bydd person arall wedi rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â materion yr ymadawedig; er enghraifft, mae aelod o’r teulu wedi rhoi gwybod i ni am rodd a gafodd, a rhoddodd y person hwnnw wybodaeth anwir neu ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol, gallwn godi cosb arno. Disgwyliwn y byddwch wedi gwirio’r wybodaeth honno yn erbyn yr wybodaeth arall y daethoch ar ei thraws ynglŷn â’r ymadawedig, ac y byddwch wedi ymholi ynglŷn ag unrhyw anghysondebau. Os gallwch ddangos eich bod wedi gwneud hynny, byddwn fel arfer yn derbyn eich bod wedi cymryd gofal rhesymol ac ni fyddwn yn codi cosb arnoch o ganlyniad i’r anghywirdeb.

Beth yw’r cosbau

Mae’r gosb yn ganran o swm y dreth nad yw wedi’i thalu eto. Mae cyfradd y gosb yn dibynnu ar pam y gwnaethoch yr anghywirdeb. Po leiaf difrifol yw’r rheswm, po leiaf fydd y gosb. Mae’r cosbau fel a ganlyn:

  • bwriadol a chudd — uchafswm cosb yn 100%, isafswm cosb yn 30%
  • bwriadol — isafswm cosb yn 20%, uchafswm cosb yn 70%
  • esgeulus — isafswm cosb yn 0%, uchafswm cosb yn 30%

Ni fydd cosb yn cael ei chodi os ydych chi wedi cymryd gofal rhesymol.

Sut byddwch yn gwybod os bydd yn rhaid i chi dalu cosb

Byddwn yn trafod yr ystâd â chi er mwyn cyfrifo’r swm cywir o dreth sy’n daladwy ac unrhyw gosb a allai fod yn ddyledus, cyn i ni anfon rhybudd o gosb. Drwy hynny gallwch ddeall beth sydd wedi digwydd a pham rydym yn gwneud hyn. Os nad ydych yn cytuno, gallwch apelio yn erbyn y gosb i dribiwnlys annibynnol, fel arfer Tribiwnlys haen gyntaf y Siambr Dreth.

Gallwch hefyd ddewis adolygiad mewnol gan swyddog annibynnol CThEF, sy’n ffordd gyflym a rhad o ddatrys anghydfodau. I gael rhagor o wybodaeth, gweler arweiniad CThEF:

Pryd i lenwi ffurflen IHT217

Llenwch ffurflen IHT217: Hawlio trosglwyddiad o’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio ar gyfer ystadau wedi’u heithrio os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r ffigur ym mlwch K ar ffurflen IHT205(2011) yn fwy na’r terfyn haen cyfradd sero ar gyfer Treth Etifeddiant (£325,000 ar gyfer blynyddoedd treth 2011 i 2025), ond yn is na neu’n hafal i ddwywaith yr haen cyfradd sero (£650,000)
  • rydych yn hawlio trosglwyddiad o’r haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio o ystâd priod neu bartner sifil a fu farw ynghynt

Gallwch gael gafael ar ffurflen IHT217 ar GOV.UK, neu drwy ffonio’r llinell gymorth ar: 0300 200 1900.

Mae’r nodiadau i’ch helpu i lenwi ffurflen IHT217 wedi’u cynnwys yn y ffurflen ei hun. Gall yr wybodaeth ganlynol hefyd fod o gymorth i chi.

Ni all pob ystâd ddefnyddio’r ffurflen gais hon

Peidiwch â llenwi ffurflenni IHT205(2011) a IHT217 pan fo unrhyw un o’r canlynol yn gymwys i’r priod neu’r partner sifil a fu farw gyntaf, neu i’w (h)ystâd:

  • defnyddiodd yr ystâd ran o’r haen cyfradd sero fel nad yw 100% o’r haen cyfradd sero ar gael i’w throsglwyddo
  • bu ef/hi farw cyn 13 Tachwedd 1974
  • roedd ei ddomisil/domisil y tu allan i’r DU ar ddyddiad y farwolaeth
  • nid oedd yr ystâd wedi’i heithrio’n llwyr rhag Treth Etifeddiant
  • roedd ganddo/ganddi asedion mewn perchnogaeth ar y cyd a oedd yn cael eu trosglwyddo i rywun heblaw’r priod neu’r partner sifil sydd bellach wedi marw
  • roedd wedi gwneud rhoddion i fuddiolwyr trethadwy (heb eu heithrio) yn y 7 mlynedd cyn iddo/iddi farw
  • roedd rhyddhad amaethyddol neu fusnes yn gymwys i asedion yn yr ystâd
  • gwnaeth ef roddion â budd amodol
  • gwnaeth ef elwa ar ymddiriedolaeth yn ystod ei oes

Dylech lenwi ffurflen IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant ac IHT402: Hawlio trosglwyddiad o haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio yn lle hynny.

Gweithredoedd amrywio

Os yw gweithred amrywio, neu ddogfen debyg, wedi’i rhoi ar waith er mwyn newid pwy sy’n etifeddu ystâd y priod neu’r partner sifil cyntaf i farw, dylech lenwi’r ffurflen IHT217 i ddangos effaith yr ewyllys neu reolau diewyllysedd a’r weithred gyda’i gilydd.

Golyga hyn, os trosglwyddwyd yr ystâd gyntaf yn gyfan gwbl i’r priod neu’r partner sifil a oroesodd drwy ewyllys, a rhoddwyd gweithred amrywio ar waith er mwyn trosglwyddo rhan o’r ystâd i’r plant, yna ni fyddai’r rhan o’r ystâd a drosglwyddwyd i’r plant wedi’i heithrio rhag Treth Etifeddiant.

Os felly, dylech stopio a llenwi ffurflenni IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant ac IHT402: Hawlio trosglwyddiad o haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio yn lle hynny.

Blwch 10: Rhoddion

Byddai rhoddion a wnaed yn y 7 mlynedd cyn i’r ymadawedig farw yn cael eu hesemptio petaent yn cael eu rhoi i briod neu bartner sifil neu elusen neu gorff cymwys arall. Ceir esemptiadau eraill hefyd y gellir eu didynnu, megis rhoddion blynyddol, rhoddion bychain a rhoddion i gydnabod priodas neu bartneriaeth sifil. Mae’r adran ‘Rhoddion’ yn yr arweiniad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Byddai unrhyw roddion nad ydynt wedi eu hesepmtio, megis rhoddion oes i blant yr ymadawedig, yn gostwng swm yr haen cyfradd sero sydd ar gael i’w throsglwyddo ac ni fyddai 100% o’r haen cyfradd sero ar gael. Os felly, dylech stopio a llenwi ffurflenni IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant ac IHT402: Hawlio trosglwyddiad o haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio yn lle hynny.

Rhoddion a wnaed allan o incwm

Pan fu farw’r priod neu’r partner sifil a fu farw gyntaf ar neu ar ôl 1 Mawrth 2011, ni ellir didynnu’r esemptiad ar gyfer rhoddion allan o incwm o roddion os oedd cyfanswm gwerth y rhoddion yn fwy na £3,000 ar gyfer pob blwyddyn. Os felly, dylech stopio a llenwi ffurflenni IHT400: Cyfrif Treth Etifeddiant ac IHT402: Hawlio trosglwyddiad o haen cyfradd sero sydd heb ei defnyddio yn lle hynny.

Os yw cyfanswm gwerth y rhoddion a wnaed allan o incwm yn llai na £3,000 ar gyfer pob blwyddyn dreth, gellir didynnu’r esemptiad yn llawn. Marwolaethau cyn 1 Mawrth 2011 Pan fu farw’r priod neu’r partner sifil a fu farw gyntaf cyn 1 Mawrth 2011, gellir didynnu’n llawn gwerth yr esemptiad ar gyfer rhoddion allan o incwm.

Cadwch gopi o ffurflen IHT217ar gyfer eich cofnodion

Ni all CThEF na’r gwasanaeth profiant roi copi o’r ffurflen i chi ar ôl i chi ei hanfon i mewn. Mae’n bwysig cadw copi ynghyd â chopi o’ch ffurflen IHT205(2011).

Cysylltu â ni

Cysylltwch â’r llinell gymorth Treth Etifeddiant os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon:

  • deall eich cyfrifoldebau o ran Treth Etifeddiant
  • cadarnhau pa ffurflenni sydd eu hangen arnoch
  • cael gafael ar gopïau papur o ffurflenni
  • llenwi Ffurflenni Treth Etifeddiant

Cyfrinachedd

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gadw’ch materion yn hollol gyfrinachol ac ni allwn roi gwybodaeth i eraill ynglŷn ag ystâd, ymddiriedolaeth neu drosglwyddiad hyd yn oed os oes ganddynt fuddiant ynddo, oni bai bod y gyfraith yn ein caniatáu i wneud hynny. Golyga hyn y gallwn drafod materion cwsmer â’r person hwnnw yn unig, neu â rhywun arall y mae’r cwsmer wedi’i benodi i weithredu ar ei ran.

Yn achos rhywun sydd wedi marw, golyga hyn y gallwn dim ond trafod ystâd â’r bobl (neu’r person) sydd wedi llofnodi a chyflwyno’r ffurflen IHT205(2011). Mae hyn yn golygu ysgutorion neu weinyddwyr, neu berson arall sydd wedi ei benodi i weithredu ar eu rhan; fel arfer cyfreithiwr neu gyfrifydd.

Deddf Diogelu Data

Mae CThEF yn Rheolydd Data o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Rydym yn cadw gwybodaeth at y dibenion a bennir yn ein hysbysiad i’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • asesu a chasglu treth a thollau
  • talu budd-daliadau
  • atal a chanfod troseddau

Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon ar gyfer unrhyw un o’r dibenion hyn.

Mae’n bosibl y cawn wybodaeth amdanoch gan eraill, neu efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth iddynt. Os gwnawn hynny, bydd yn unol â’r hyn y mae’r gyfraith yn caniatáu yn unig, a hynny er mwyn gwneud y canlynol:

  • gwirio cywirdeb gwybodaeth
  • atal neu ganfod troseddau
  • diogelu arian cyhoeddus

Mae’n bosibl y byddwn yn cymharu gwybodaeth a gawn amdanoch â’r hyn sydd eisoes yn ein cofnodion. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a roddwyd gennych chi, yn ogystal â chan eraill, megis asiantaethau neu adrannau eraill o’r llywodraeth ac awdurdodau treth a thollau tramor. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth i unrhyw un y tu allan i CThEF oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny.