Skip to main content
Ffurflen

Gwneud hawliad i feddiannu eiddo: Ffurflen N5

Defnyddiwch y ffurflen hon gyda ffurflen 'manylion yr hawliad' i hawlio meddiannaeth o eiddo rydych yn berchen arno. Gall Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 effeithio ar eich hawliad – gweler 'Manylion' ar y dudalen hon.

Dogfennau

Ffurflen hawlio am feddiannu eiddo a leolir yng Nghymru: Ffurflen N5

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Ffurflen hawlio am feddiannu eiddo a leolir yn Lloegr: Ffurflen N5

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Deddf Hawliau Rhentwyr

O’r 1 Mai 2026, os ydych yn landlord preifat i eiddo yn Lloegr, mae seiliau newydd ac wedi’u diwygio ar gyfer meddiannu o fewn y ffurflen y gallwch eu defnyddio.

Gweler Sail dros feddiannu: arweiniad ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod tai i gael mwy o wybodaeth.

Gallwch barhau i ychwanegu seiliau dros feddiannu o dan yr un rheolau â’r cyfnod cyn 1 Mai 2026, os ydych:

  • yn ddarparwr awdurdod lleol o dai cymdeithasol ar gyfer tenantiaeth sicr yn Lloegr
  • yn ddarparwr cofrestredig preifat o dai cymdeithasol ar gyfer tenantiaeth sicr yn Lloegr
  • yn landlord preifat neu landlord cymdeithasol i eiddo yng Nghymru - gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r ffurflen ar gyfer eiddo yng Nghymru

Gweler Rhoi eich eiddo ar rent: arweiniad ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod tai i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych yn gofyn am feddiannu eiddo oherwydd rhent neu forgais sydd heb ei dalu (ac nid rheswm arall), gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein yn lle.

Rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen N5 gyda’r ffurflen ‘manylion yr hawliad’. Mae gwahanol ffurflenni ar gyfer gwahanol fathau o hawliadau:

Anfonwch eich ffurflenni i’r llys sirol sydd agosaf at yr eiddo rydych yn hawlio meddiannaeth ohono.

Gwiriwch y ffioedd llys a thribiwnlys a chanfod a allwch gael help i dalu ffioedd.

Canllawiau perthnasol

Darllenwch fwy am sgwatio a’r gyfraith.

Dewch o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.

Dysgwch sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Mai 2026 show all updates
  1. Added the Welsh landing page.

  2. New forms and information for the Renters' Rights Act.

  3. Statement of truth amended.

  4. English and Welsh versions updated.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon