Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 40: trosolwg o gyfarwyddiadau cynlluniau Cofrestrfa Tir EF

Diweddarwyd 25 June 2015

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Atodiad 1: sail cynlluniau Cofrestrfa Tir EF

Mae Atodiad 1 yn disgrifio tarddleoedd a graddfeydd mapiadau’r Arolwg Ordnans a sut y mae hyn yn cysylltu â chynlluniau sy’n cael eu paratoi gan Gofrestrfa Tir EF.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cyflwyniad
  2. Mapiadau’r Arolwg Ordnans
  3. Graddfeydd a chywirdeb mapiadau’r Arolwg Ordnans
  4. Cynrychiolaeth nodwedd ar fapiadau’r Arolwg Ordnans
  5. Mapiadau’r Arolwg Ordnans sydd ar gael
  6. Hawlfraint
  7. Cysylltu â’r Arolwg Ordnans

2. Atodiad 2: cyfarwyddyd ar baratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF

Lluniwyd Atodiad 2 i gynorthwyo wrth baratoi cynlluniau gweithredoedd.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cyflwyniad
  2. Pam y mae cynlluniau o ansawdd dda yn bwysig
  3. Cynlluniau ar gyfer mathau penodol o geisiadau neu sefyllfaoedd
  4. Cynlluniau ar gyfer cofrestriadau cyntaf
  5. Cynlluniau ar gyfer trosglwyddiadau/prydlesi o ran ystad gofrestredig
  6. Cynlluniau ar gyfer meintiau tir anarferol
  7. Defnyddio disgrifiadau geiriol
  8. Cwblhau’r cynllun teitl yn lle codi ymholiadau
  9. Canllawiau ar baratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF
  10. E-gyflwyno cynlluniau

3. Atodiad 3: terfynau

Mae Atodiad 3 yn rhoi braslun ar derfynau gan gynnwys terfynau cyffredinol, perchnogaeth a chynnal a chadw terfynau.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cyflwyniad
  2. Diffiniad terfyn
  3. Anawsterau wrth ddangos union leoliad terfynau diriaethol ar gynlluniau
  4. Dynodi lleoliad y terfyn cyfreithiol
  5. Terfynau cyffredinol
  6. Terfynau sefydlog
  7. Cytundebau terfyn a therfynau penodedig
  8. Perchnogaeth a/neu gynnal a chadw terfynau
  9. Deddf Mur Cyd ayb 1996
  10. Ychwanegiadau a cholledion trwy ddŵr: afonydd a nentydd uwchlaw’r llanw
  11. Rhagdybiaethau cyfreithiol

4. Atodiad 4: cytundebau terfyn a therfynau penodedig

Mae Atodiad 4 yn disgrifio cytundebau terfyn, terfynau penodedig a’r broses o wneud cais.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cytundebau terfyn
  2. Sut i gofnodi cytundeb terfyn yn y gofrestr
  3. Terfynau penodedig
  4. Sut i wneud cais i ddangos terfyn yn y gofrestr fel un penodedig
  5. Y cynllun terfyn penodedig (cyffredinol)
  6. Gofynion cynllun terfyn penodedig
  7. Defnyddio arwyddion daear parhaol
  8. Sut y caiff terfyn penodedig ei ddangos yn y gofrestr
  9. Atodiad 1: rhestr wirio gofynion cynllun terfyn penodedig
  10. Atodiad 2: enghraifft o derfyn cynllun penodedig yn seiliedig ar fesuriadau

5. Atodiad 5: cynllun teitl

Mae Atodiad 5 yn disgrifio diben cynlluniau teitl, a’r ffordd y cânt eu creu a’u cynnal.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cyflwyniad
  2. Diben cynllun teitl
  3. Mathau o gynllun teitl
  4. Creu cynllun teitl
  5. Graddfeydd cynllun teitl
  6. Maint cynllun teitl
  7. Yr hyn y mae’n rhaid i gynllun teitl ei ddangos ar bob adeg
  8. Mesuriadau
  9. Cyfeiriadau lliw
  10. Gwybodaeth arall ar gynllun teitl
  11. Diweddaru cynllun teitl
  12. Arolygon tir
  13. Atodiad 1: arferion cynllun teitl

6. Atodiad 6: gwasanaethau a chyfarwyddiadau eraill Cofrestrfa Tir EF yn ymwneud â chynlluniau

Mae Atodiad 6 yn disgrifio gwasanaethau eraill yn ymwneud â chynlluniau a ffynonellau eraill o gyfarwyddyd mapio.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Chwiliadau o’r map mynegai
  2. Cynlluniau eglurhaol
  3. Electronic extent data
  4. Cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF

7. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.