Ffurflen

Rhestr wirio: ceisiadau am gofrestriad cyntaf

Diweddarwyd 5 August 2024

Yn berthnasol i England and Gymru

Dylech gwblhau neu ystyried pob un o’r pwyntiau canlynol ac amgáu neu atodi’r holl wybodaeth berthnasol cyn anfon eich cais atom.

Gwnewch yn siwr eich bod wedi:

Ffurflen FR1:

[   ] cyflwyno Ffurflen FR1 wedi ei llenwi

[  ] sicrhau bod stent y tir sydd i’w gofrestru wedi ei nodi’n glir trwy gwblhau panel 3 ffurflen FR1 – gweler cyfarwyddyd ymarfer 40 atodiad 2: arweiniad ar baratoi cynlluniau

[  ] cwblhau panel 5 ffurflen FR1 gyda’r pris a dalwyd, neu werth marchnadol llawn y tir os nad yw’r pris a dalwyd yn gymwys, ee lle mae’r tir yn drosglwyddiad nad yw’n cael ei werthu neu lle mae cofrestriad yn seiliedig ar delerau gwirfoddol – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru

[  ] cyflwyno’r ffi briodol trwy siec neu archeb bost yn daladwy i Gofrestrfa Tir EF neu, os oes gennych un, wedi cynnwys y rhif allwedd debyd uniongyrchol newidiol ym mhanel 7 ffurflen FR1 (cwsmeriaid proffesiynol yn unig) – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru

[ ] llenwi panel 7 yn llawn. Os ydych yn cynnwys cyfeiriad ebost, byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi ynghylch eich cais. Dim ond trwy ebost rhoddir cydnabyddiad bod cais trwy’r post wedi dod i law

[   ] cwblhau paneli cadarnhau hunaniaeth ffurflen FR1 ar gyfer pob parti gofynnol, gan gynnwys unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol – gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr

[  ] darparu’r dystysgrif gywir ym mhanel 12 ffurflen FR1 – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf

Dogfennau a thystiolaeth gefnogol:

[ ] cyflwyno ffurflen DL gyda phob cais

[   ] cyfrif am “wreiddyn da” o leiaf 15 oed a thystiolaeth o gadwyn deitl ddilynol (gan gynnwys atwrneiaeth, tystysgrif marwolaeth, profiant) – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf

[ ] sicrhau bod unrhyw gynlluniau y cyfeirir atynt yn y gweithredoedd wedi eu hatodi a bod unrhyw gyfeiriadau ar y cynlluniau y cyfeirir atynt yn y gweithredoedd i’w gweld mewn lliw ar y cynlluniau

[   ] cyflwyno dogfennau gwreiddiol, lle bo hynny’n ofynnol o dan reol 24 o Reolau Cofrestru Tir 2003, a’u rhestru ar ffurflen DL – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf

[   ] wrth gyflwyno ceisiadau copïau o weithredoedd:

  • amgáu tystysgrif trawsgludwr
  • amgáu copïau o weithredoedd a dogfennau yn unig ac nid y gwreiddiol
  • ardystio copïau o’r holl weithredoedd a dogfennau o fewn 3 mis o’u cyflwyno ac yn unol â gofynion y Gyfarwyddeb

[ ] cyflwyno tystiolaeth Treth Dir y Dreth Stamp/Treth Trafodiadau Tir briodol

[   ] amgáu chwiliadau priodol yr Adran Pridiannau Tir a chyfrif am yr holl gofnodion a ddatgelwyd – gweler cyfarwyddyd ymarfer 63: pridiannau tir: ceisiadau ar gyfer cofrestru, chwiliad swyddogol, copi swyddfa a dileu

[  ]  cyflwyno ffurflen AP1 wedi ei llenwi ar gyfer unrhyw dir cofrestredig sydd wedi ei gynnwys yn eich cais 

[ ]  amgáu’r ffi wrth wneud cais am uniad – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru

[ ] darparu tystiolaeth treth etifeddiant briodol os oes angen

[ ] cyflwyno tystysgrif cofrestru arwystl briodol yn Nhŷ’r Cwmnïau

[ ] sicrhau bod dogfennau wedi eu dyddio, bod cyflawni’r tyst yn ddarllenadwy a bod enwau wedi eu croeswirio rhwng gweithredoedd a ffurflenni cais, gan roi cyfrif am unrhyw anghysondebau

Bydd cyflwyno ceisiadau’n gywir yn osgoi ymholiadau a’r posibilrwydd o’ch cais yn cael ei wrthod. Darllenwch cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru.