Ffurflen

Rhestr wirio: ceisiadau am gofrestriad cyntaf

Diweddarwyd 25 January 2024

Applies to England and Wales

Dylech gwblhau neu ystyried pob un o’r pwyntiau canlynol ac amgáu neu atodi’r holl wybodaeth berthnasol cyn anfon eich cais atom.

Gwnewch yn siwr eich bod wedi:

[ ] cyflwyno Ffurflen FR1 wedi ei llenwi

[ ] cyflwyno dogfennau gwreiddiol, lle bo hynny’n ofynnol o dan reol 24 o Reolau Cofrestru Tir 2003, a’u rhestru ar ffurflen DL – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1

[ ] wrth gyflwyno ceisiadau copïau o weithredoedd:

  • amgáu tystysgrif trawsgludwr
  • amgáu copïau o weithredoedd a dogfennau ac nid y gwreiddiol
  • ardystio copïau o’r holl weithredoedd a dogfennau o fewn 3 mis o’u cyflwyno ac yn unol â gofynion y Gyfarwyddeb

[ ] cyfrif am “wreiddyn da” o leiaf 15 oed a thystiolaeth o gadwyn deitl ddilynol (gan gynnwys atwrneiaeth, profiant) – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1

[ ] cwblhau’r paneli cadarnhau hunaniaeth ar gyfer pob parti gofynnol – gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr

[ ] cyflwyno’r ffi briodol neu ddarparu rhif allwedd Debyd Uniongyrchol Amrywiol gweithredol ym mhanel 7 – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru

[ ] amgáu’r ffi wrth wneud cais am gyfuniad – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru

[ ] cwblhau panel 5 gyda’r pris a dalwyd, neu werth marchnadol llawn y tir os nad yw’r pris a dalwyd yn gymwys – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru

[ ] amgáu chwiliadau priodol yr Adran Pridiannau Tir a chyfrif am yr holl gofnodion a ddatgelwyd – gweler practice guide 63: land charges: applications for registration, official search, office copy and cancellation

[ ] sicrhau bod maint y tir sydd i’w gofrestru wedi ei nodi’n glir trwy gwblhau panel 3 – gweler cyfarwyddyd ymarfer 40 atodiad 2: arweiniad ar baratoi cynlluniau

[ ] cyflwyno ffurflen AP1 wedi ei llenwi ar gyfer unrhyw dir cofrestredig sydd wedi ei gynnwys yn eich cais

[ ] darparu’r dystysgrif gywir ym mhanel 12 – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf

Bydd cyflwyno ceisiadau’n gywir yn osgoi ymholiadau a’r posibilrwydd o’ch cais yn cael ei wrthod. Darllenwch cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru.