Canllawiau

Rhifyn mis Hydref 2023 o Fwletin y Cyflogwr

Diweddarwyd 16 October 2023

Rhagarweiniad  

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:   

TWE  

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad  

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid   

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt   

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.   

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.   

TWE  

Gwefru ceir a faniau cwmni trydan ar eiddo preswyl  

Mae CThEF wedi cyhoeddi arweiniad diwygiedig ar EIM23900 am newid yn nehongliad o ran gwefru ceir cwmni trydan gartref (yn Saesneg). Mae Adran 239 ITEPA 2003 yn darparu eithriad ar daliadau a buddiannau a ddarperir mewn cysylltiad â cheir a faniau cwmni. Felly, mae’r ddarpariaeth ddeddfwriaethol hon yn eithrio agweddau fel atgyweirio cerbydau, yswiriant a threth ffordd. 

Honnodd CThEF yn flaenorol nad oedd yr ad-daliad o gostau mewn perthynas â gwefru car neu fan cwmni ar eiddo preswyl wedi’i gwmpasu gan yr eithriad hwn.    

Yn dilyn adolygiad o’n safbwynt, mae CThEF bellach yn derbyn y bydd ad-dalu rhan o fil ynni domestig, a ddefnyddir i wefru car neu fan cwmni, yn dod o fewn yr eithriad a ddarperir gan adran 239 ITEPA 2003.    

Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw dâl yn codi ar wahân i dreth o dan y cod buddiannau pan fydd cyflogwr yn ad-dalu’r cyflogai am gost y trydan i wefru ei gar neu’i fan cwmni gartref. Fodd bynnag, dim ond ar yr amod y gellir dangos bod y trydan wedi’i ddefnyddio i wefru car neu fan cwmni y bydd yr eithriad yn berthnasol.  Bydd angen i gyflogwyr sicrhau bod unrhyw ad-daliad a wneir tuag at gost y trydan dim ond yn ymwneud â gwefru eu car neu’u fan cwmni.   

Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos  

Ym mis Hydref 2023, mae’r dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar ddydd Sul, 22 Hydref. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Hydref 2023, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.    

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os bydd y taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.  

Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.   

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ‘Talu TWE y cyflogwr’.  

Talu’ch Cytundeb Setliad TWE   

Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn caniatáu i chi wneud un taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth ac Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.   

Mae’n rhaid i unrhyw daliadau electronig ar gyfer Cytundeb Setliad TWE am y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023 glirio i gyfrif banc CThEF erbyn 22 Hydref 2023. Os daw eich taliad i law’n hwyr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb neu log am dalu’n hwyr. 

I dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’r cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE, er enghraifft — XA123456789012, o’r slip cyflog a anfonasom atoch. Os nad oes gennych chi hyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am gyngor.  

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE, er enghraifft — 123PA12345678, i wneud eich taliad Cytundeb Setliad TWE. Bydd taliadau a ddaw gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE yn cael eu dyrannu i’ch cyfrif TWE arferol, a byddwch yn parhau i gael nodynnau atgoffa ar gyfer y Cytundeb Setliad TWE er eich bod wedi talu.    

Cywiro camgymeriadau cyflogres ar gyfer blwyddyn dreth gynharach 

O fis Ebrill 2019 ymlaen, newidiodd CThEF y ffordd y gall cyflogwyr gywiro camgymeriadau cyflogres ar gyfer blwyddyn dreth gynharach.   

Os ydych wedi rhoi gwybod am y cyflog neu ddidyniadau anghywir   

I gywiro camgymeriad a wnaed yn y flwyddyn dreth bresennol, diweddarwch y ffigurau am y flwyddyn hyd yma yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) rheolaidd nesaf.  

Cyflwynwch FPS arall gyda’r ffigurau cywir ar gyfer y flwyddyn hyd yma os gwnaethoch nodi’r cyflog neu’r didyniadau anghywir yn ystod y blynyddoedd treth canlynol:  

  • 2020 i 2021  

  • 2021 i 2022  

  • 2022 i 2023  

Os ydych wedi rhoi gwybod am y cyflog neu ddidyniadau anghywir yn ystod blwyddyn dreth 2018 i 2019 a 2019 i 2020, gallwch gywiro hyn drwy gyflwyno Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) neu FPS pellach gyda’r ffigurau blwyddyn hyd yma cywir.  

Os gwnaethoch roi gwybod am y cyflog neu ddidyniadau anghywir yn ystod blynyddoedd treth 2017 i 2018, anfonwch EYU sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng yr hyn a nodoch yn wreiddiol a’r ffigur cywir. Gallwch ond defnyddio EYU ar gyfer blynyddoedd treth pan oeddech yn rhoi gwybod ar-lein mewn amser real.  

Os na all eich meddalwedd gyflogres anfon EYU, gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol CThEF.  

Mae’r rheolau’n wahanol os byddwch yn dod o hyd i gamgymeriad yn eich FPS olaf ar gyfer y flwyddyn (yn Saesneg).  

Cywiro ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr cyflogai  

Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar bryd gwnaethoch y camgymeriad.  

Mae gwybodaeth am gamgymeriadau wrth ddidynnu ad-daliadau benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig (yn Saesneg) ar gael. 

Cywiro didyniadau Yswiriant Gwladol cyflogai 

Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar bryd gwnaethoch y camgymeriad.  

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024  

Ad-dalwch neu didynnwch y balans oddi wrth eich cyflogai. Diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma i’r swm cywir yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) rheolaidd nesaf neu anfonwch FPS ychwanegol.  

Os na wnaethoch ddidynnu digon, ni allwch adennill mwy na chyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogai a oedd yn ddyledus y mis hwnnw.  

Enghraifft  

Gwnaethoch ddidynnu £100 yn rhy ychydig ym mis Ionawr. Ym mis Chwefror, mae’ch meddalwedd yn cyfrifo didyniad Yswiriant Gwladol sy’n £80. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu adennill hyd at £80 tuag at dandaliad y mis hwnnw (didyniad sy’n dod i gyfanswm o £160). Adenillwch yr £20 sy’n weddill mewn mis arall.  

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Ebrill 2023  

Anfonwch FPS gyda’r swm y dylech fod wedi ei ddidynnu os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth canlynol:  

  • 2020 i 2021  

  • 2021 i 2022  

  • 2022 i 2023  

Bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF os yw’r ddau beth canlynol yn wir:  

  • mae’r gwahaniaeth yn negyddol oherwydd eich bod wedi didynnu gormod o Yswiriant Gwladol, neu wedi rhoi gwybod am ormod ohono  

  • mae arnoch ad-daliad i’ch cyflogai o hyd — er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gadael eich cyflogaeth  

Yn eich llythyr, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:  

  • y cyfeirnod ‘Cyfraniadau YG a ordalwyd’  

  • enw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol eich cyflogai  

  • pam y gwnaethoch ordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol  

  • ym mha flynyddoedd treth y gwnaethoch ordalu  

  • faint o Yswiriant Gwladol y gwnaethoch ei ordalu  

  • pam na allwch wneud y taliad i’r cyflogai  

I hawlio ar gyfer un cyflogai, anfonwch y llythyr i:  

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr   
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF HMRC  
BX9 1ST  

I hawlio ar gyfer mwy nag un cyflogai, anfonwch y llythyr i:  

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr   
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF HMRC   
BX9 1ST  

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod blynyddoedd treth 2018 i 2019 a 2019 i 2020  

Anfonwch FPS gyda’r Yswiriant Gwladol blwyddyn hyd yma cywir os yw’r canlynol yn berthnasol:  

  • mae’ch meddalwedd gyflogres yn eich galluogi i gyflwyno FPS  

  • gallwch dalu unrhyw ad-daliadau Yswiriant Gwladol sydd arnoch  

Os na allwch ddefnyddio FPS, anfonwch Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) gyda’r gwahaniaeth rhwng y canlynol:  

  • swm yr Yswiriant Gwladol y gwnaethoch ei ddidynnu’n wreiddiol  

  • y swm cywir y dylech fod wedi ei ddidynnu  

Os yw’r gwahaniaeth yn negyddol (oherwydd eich bod wedi didynnu gormod o Yswiriant Gwladol, neu wedi rhoi gwybod am ormod ohono), mae hefyd angen i chi osod y dangosydd ad-daliad CYG ar:  

  • ‘Iawn’ os ydych wedi ad-dalu’ch cyflogai neu os nad oedd ad-daliad yn ddyledus  

  • ‘Na’ os oes arnoch ad-daliad i’ch cyflogai o hyd — er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gadael eich cyflogaeth  

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod blwyddyn dreth 2017 i 2018  

Anfonwch EYU gyda’r gwahaniaeth rhwng y canlynol:  

  • swm yr Yswiriant Gwladol y gwnaethoch ei ddidynnu’n wreiddiol  

  • y swm cywir y dylech fod wedi ei ddidynnu  

Os yw’r gwahaniaeth yn negyddol (oherwydd eich bod wedi didynnu gormod o Yswiriant Gwladol, neu wedi rhoi gwybod am ormod ohono), mae hefyd angen i chi osod y dangosydd ad-daliad CYG ar:  

  • ‘Iawn’ os ydych wedi ad-dalu’ch cyflogai neu os nad oedd ad-daliad yn ddyledus  

  • ‘Na’ os oes arnoch ad-daliad i’ch cyflogai o hyd — er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gadael eich cyflogaeth  

Os oes tandaliad  

Os na wnaethoch ddidynnu digon o Yswiriant Gwladol, talwch y tandaliad i CThEF ar unwaith. Gallwch adennill y swm oddi wrth eich cyflogai drwy wneud didyniadau o’i gyflog.  

Ni allwch adennill mwy na swm yr Yswiriant Gwladol sydd ar y cyflogai mewn mis (fel nad yw’r cyflogai’n talu mwy na dwbl ei gyfraniad arferol). Trosglwyddwch y gwahaniaeth i fisoedd hwyrach — gallwch ond gwneud didyniadau yn y flwyddyn dreth pan wnaethoch y camgymeriad a’r flwyddyn ar ôl hynny.    

Mae arweiniad ar beth i’w wneud os ydych wedi gwneud camgymeriad yn eich FPS neu Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a chywiro camgymeriadau ar y gyflogres wedi’u diweddaru’n ddiweddar.  

Cyflwyno gwybodaeth TWE mewn amser real pan fydd taliadau’n cael eu gwneud yn gynnar adeg y Nadolig  

Yn 2019, gwnaethom gyflwyno hawddfraint barhaol ar gyflwyno gwybodaeth TWE mewn amser real. Rydym yn ymwybodol bod rhai cyflogwyr yn talu eu cyflogeion yn gynt na’r arfer dros gyfnod y Nadolig. Gall hyn fod am nifer o resymau, er enghraifft, yn ystod cyfnod y Nadolig pan allai’r busnes gau, sy’n golygu bod angen i weithwyr gael eu talu’n gynt na’r arfer.   

Os byddwch yn talu’n gynnar dros gyfnod y Nadolig, rhowch eich diwrnod cyflog arferol neu gontractiol fel y dyddiad talu ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS), a sicrhewch fod yr FPS yn cael ei gyflwyno ar neu cyn y dyddiad hwn.   

Er enghraifft, os ydych yn talu ar ddydd Gwener, 15 Rhagfyr 2023, ond y dyddiad talu arferol neu gontractiol yw dydd Gwener, 29 Rhagfyr 2023, bydd rhaid nodi’r dyddiad talu ar yr FPS fel 29 Rhagfyr 2023 a sicrhau bod y cyflwyniad yn cael ei anfon ar neu cyn 29 Rhagfyr 2023.   

Bydd hyn yn helpu gydag amddiffyn cymhwystra’ch cyflogeion ar gyfer Credyd Cynhwysol, gan y gall nodi’r diwrnod cyflog fel y dyddiad talu effeithio ar hawliau cyfredol ac yn y dyfodol.   

Nid yw’r eithriad hwn yn effeithio ar y rhwymedigaeth bennaf i gyflogwyr o ran adrodd TWE, ac mae’n dal yn rhaid i chi adrodd taliadau ar neu cyn y dyddiad y mae’r cyflogai’n cael ei dalu.   

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad  

Cyfrifiannell tâl ar-lein ar gyfer gwaredu rhai asedion lwfansau cyfalaf   

 Mae CThEF wedi cyhoeddi offeryn ar-lein i helpu gyda chyfrifo taliadau am waredu offer neu beiriannau penodol (yn Saesneg).    

Ni ellir defnyddio’r offeryn ond ar gyfer asedion y mae cwmni wedi hawlio’r uwch-ddidyniad arnynt neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar y gyfradd arbennig o 50%. Mae’r offeryn yn gwirio pa ryddhad y mae’r cwmni’n ei hawlio ac mae’n casglu ffeithiau angenrheidiol i gyfrifo’r tâl mantoli.   

Dim ond ar gyfer gwariant a wnaed yn y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2023 yr oedd yr uwch-ddidyniad a’r lwfans cyfradd arbennig ar gael i gwmnïau.   

Cymhwyso’r cyfraddau Toll Alcohol newydd a gwirio’r rhyddhadau newydd wrth gyflwyno’ch ffurflen y mis hwn  

Yn rhifyn mis Awst o Fwletin y Cyflogwr, tynnon ni eich sylw at gyfraddau a rhyddhadau newydd y Doll Alcohol, a gyflwynwyd gennym ar 1 Awst 2023.   

Os ydych chi’n gynhyrchydd, yn fewnforiwr neu’n ailwerthwr cynhyrchion alcoholaidd, mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r strwythur Toll Alcohol newydd er mwyn i chi allu rhoi cyfrif cywir am y Doll Alcohol ar eich datganiad.   

Cyn cyflwyno’ch datganiad Toll Alcohol y mis hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r cyfraddau newydd a gwirio a allwch chi fanteisio ar y rhyddhadau newydd.   

Newidiadau i’r Doll Alcohol a gyflwynwyd ar 1 Awst 2023:   

System Toll Alcohol symlach newydd   

Mae’r system newydd yn safoni’r haenau toll ar gyfer pob math o gynhyrchion alcoholaidd, gyda chyfraddau toll newydd yn seiliedig ar alcohol yn ôl cyfaint (ABV) ar gyfer pob cynnyrch.   

Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach   

Rhyddhad toll wedi’i ymestyn i gynhyrchwyr bach pob cynnyrch alcoholaidd o dan 8.5% ABV.   

Cyfraddau is ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen   

Enw arall ar hyn yw Rhyddhad Cynhyrchion o’r Gasgen. Cyfradd is o doll ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd o’r gasgen o dan 8.5% ABV, sydd wedi’u pecynnu mewn cynwysyddion sy’n dal o leiaf 20 litr, ac wedi’u cynllunio i gysylltu â system gymwys ar gyfer gweini diodydd unigol.   

Trefniadau dros dro i gynhyrchwyr neu fewnforwyr gwin   

Mae dull dros dro i gyfrifo toll ar rai cynhyrchion gwin, a fydd yn para am 18 mis, o 1 Awst 2023 tan 1 Chwefror 2025. Mae’r rhain yn caniatáu i fusnesau ddefnyddio ‘cryfder tybiedig’ o 12.5% ABV wrth gyfrifo’r doll sy’n ddyledus ar win rhwng 11.5% a 14.5% ABV.   

Adnoddau pellach   

Cadwch i’r funud gyda’r hyn sydd wedi newid o ran y Doll Alcohol. Mae hwn hefyd ar gael yn Saesneg.   

Gwyliwch recordiad o’r weminar am strwythur a chyfraddau newydd y Doll Alcohol (yn Saesneg).   

Os ydych yn gynhyrchydd bach o gynhyrchion alcoholaidd, dysgwch faint o Ryddhad i Gynhyrchwyr Bach y gallwch ei gael

Rhyddhad Gorgyffwrdd — paratoi ar gyfer y sail blwyddyn dreth newydd  

Ar 11 Medi 2023, roedd y ffurflen gais ar-lein ar gyfer cyflwyno ceisiadau am fanylion ynghylch Rhyddhad Gorgyffwrdd wedi’i lansio.   

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a bod eich dyddiad cyfrifyddu’n wahanol i 31 Mawrth neu 5 Ebrill, ac felly mae symud at y sail blwyddyn dreth newydd yn effeithio arnoch, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i fanylion eich Rhyddhad Gorgyffwrdd. Bydd rhaid i chi wneud hyn cyn cyflwyno Ffurflenni Treth ar gyfer blwyddyn drosiannol 2023 i 2024. Gall busnesau hefyd ddefnyddio’r Rhyddhad Gorgyffwrdd y dylent fod wedi’i ddefnyddio yn y gorffennol ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024.    

Gellir ond darparu gwybodaeth am Ryddhad Gorgyffwrdd os yw’r ffigurau hyn wedi’u cofnodi ar systemau CThEF. Mae cofnodion CThEF yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan drethdalwyr fel rhan o Ffurflenni Treth blaenorol. Os nad yw’r wybodaeth hon wedi’i chyflwyno ar Ffurflenni Treth, ni fydd CThEF yn gallu’i darparu. Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd yn bosibl darparu ffigurau elw hanesyddol, er mwyn caniatáu i Ryddhad Gorgyffwrdd gael ei ailgyfrifo.    

Wrth baratoi i lenwi’r ffurflen ar-lein i gael manylion am Ryddhad Gorgyffwrdd, gwnewch yn siŵr bod gennych yr wybodaeth ganlynol:   

  • enw’r cwsmer   

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu Rif Yswiriant Gwladol   

  • naill ai enw neu ddisgrifiad o’r busnes, neu’r ddau   

  • a yw’r busnes yn unig fasnachwr neu’n rhan o bartneriaeth   

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) y bartneriaeth os yw’r busnes yn rhan o bartneriaeth   

  • dyddiad dechrau’r busnes hunangyflogedig, neu’r dyddiad dechrau fel partner yn y bartneriaeth (os nad yw’n hysbys, yna bydd angen rhoi’r flwyddyn dreth pan ddechreuwyd hyn)   

  • y dyddiad diwedd cyfnod diweddaraf a ddefnyddiodd y busnes i adrodd ei elw neu ei golled   

  • blynyddoedd y newidiodd y cyfnod cyfrifyddu, os yw’n berthnasol   

Gallwch ddod o hyd i ragor o arweiniad ar Ryddhad Gorgyffwrdd a diwygio’r cyfnod sail, yn ogystal â chael mynediad at y ffurflen gais ar-lein (yn Saesneg).   

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid  

Mae’r DU wedi arwyddo Confensiwn ar Gyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy  

Arwyddwyd Confensiwn ar Gyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol, ar 30 Mehefin 2023, gan y DU a gwladwriaethau Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy, sy’n rhan o Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA) yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Mae’r cytundeb o fudd i ddinasyddion y DU a gwledydd EFTA yr AEE.    

Mae’n ategu gweithgarwch busnes a masnach drwy wneud y canlynol:   

  • diogelu sefyllfa gweithwyr traws-ffiniol o ran nawdd cymdeithasol   

  • gwneud yn siŵr bod cyflogeion a’u cyflogwyr, yn ogystal â’r sawl sy’n hunangyflogedig, dim ond yn agored i dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol mewn un wladwriaeth ar y tro   

  • sicrhau mynediad at bensiwn y wladwriaeth y DU ar gyfradd uwch ac at drefniadau gofal iechyd dwyochrog   

Mae manylion ynghylch Confensiwn ar Gyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol rhwng Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a’r DU (yn Saesneg) ar gael.   

Bydd gofyn am weithdrefnau seneddol gwahanol er mwyn rhoi grym cyfreithiol i’r Confensiwn hwn ym mhob Gwladwriaeth, ac mae’n rhaid i bob Gwladwriaeth fod yn barod i’w roi mewn grym. Er mwyn caniatáu amser i hynny ddigwydd, rydym yn disgwyl y bydd y Confensiwn yn dod i rym yn nes ymlaen yn y flwyddyn hon ac yn berthnasol rhwng y DU, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn gyntaf, gan ymestyn i gwmpasu Norwy yn 2024. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y dyddiadau dechrau wedi’u cadarnhau. Yn y cyfamser, gallwch ddarllen arweiniad i unigolion sy’n mynd i weithio yng Ngwlad yr Iâ, Liechtenstein neu Norwy (yn Saesneg).   

Canllaw dysgu ar-lein i gyfranogwyr yn y farchnad gelf  

Diffinnir cyfranogwr yn y farchnad gelf (AMP) yn y Rheoliadau Gwyngalchu Arian fel cwmni neu unig ymarferydd sydd, drwy ei fusnes, yn masnachu gweithiau celf, neu sy’n gweithredu fel cyfranogwr. Mae hyn wrth werthu neu brynu gweithiau celf, a bod gwerth y trafodyn, neu’r gyfres o drafodon cysylltiedig, yn cyfateb i 10,000 ewro neu fwy. Gall hefyd fod yn weithredwr porthladd rhydd pan fydd ef, neu unrhyw gwmni neu unig ymarferydd unigol arall, drwy ei fusnes yn storio gweithiau celf yn y porthladd rhydd a bod gwerth y gweithiau celf sydd wedi’u storio ar gyfer person, neu gyfres o bersonau cysylltiedig, yn cyfateb i 10,000 neu fwy.   

Mae CThEF wedi lansio canllaw dysgu ar-lein i gyfranogwyr yn y farchnad gelf (yn Saesneg) er mwyn helpu busnesau i ddysgu am y canlynol:  

  • rheoliadau gwyngalchu arian
  • rhoi gwybod i CThEF eich bod chi eisiau cofrestru ac rydych yn talu’ch ffioedd
  • risgiau a sut i ddelio â nhw
  • eich cyfrifoldebau
  • diwydrwydd dyladwy cwsmeriaid
  • dod o hyd i weithgaredd amheus a rhoi gwybod amdano
  • hyfforddi staff
  • cadw cofnodion    

Gwelliannau i dalu drwy gyfrif banc  

Yn dilyn gwelliannau diweddar i’r gwasanaeth, gall rhai cwsmeriaid sydd wedi mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein CThEF trwy Borth y Llywodraeth, a’u bod yn talu CThEF trwy ‘talu drwy gyfrif banc’, bellach trefnu bod taliad yn cael ei wneud yn y dyfodol.       

Mae TWE y Cyflogwr a chyfundrefnau cysylltiedig bellach yn fyw. Gall cwsmeriaid sy’n dymuno trefnu taliad ar gyfer dyddiad yn y dyfodol wneud hynny ar gyfer y canlynol:   

  • TWE y Cyflogwr   

  • Cytundeb Setliad TWE   

  • Cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr   

  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A   

Ni all taliad gael ei drefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol sydd y tu hwnt i ddyddiad cau’r dreth ddyledus.  

Gallwch gael mynediad at y gwasanaeth trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein CThEF neu drwy fynd i dalu CThEF (yn Saesneg) a dewis yr opsiwn, ‘talu drwy gyfrif banc’.  

Adroddiad Dweud wrth ABAB 2023 y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol  

Cyhoeddodd y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) ei adroddiad arolwg Dweud Wrth ABAB 2022 i 2023 (yn Saesneg) ar 19 Medi 2023.   

Mae’r adroddiad yn manylu ar yr ymatebion i Arolwg Dweud wrth ABAB ym mis Ebrill — lle cafwyd cymaint â 7,500 o ymatebion — y fwyaf erioed. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r ymatebion wedi cyrraedd tua 3,000.   

Mae gan ABAB frwdfrydedd i wrando ar anghenion y gymuned o fusnesau bach, a’u deall. Daw aelodau’r bwrdd o sawl busnes a phroffesiwn, a’u nod yw rhoi cymorth i CThEF er mwyn creu system dreth sy’n gyflymach ac yn haws i fusnesau bach.   

Rydym yn eich annog i rannu’r adroddiad gyda chydweithwyr. Os hoffech wneud sylwadau ar yr adroddiad, neu helpu ABAB gyda’i waith, cysylltwch â: advisoryboard.adminburden@hmrc.gov.uk

Mae cael rhif Yswiriant Gwladol eich cyflogeion sy’n cychwyn yn gyflymach o lawer erbyn hyn  

Os yw’ch cyflogeion sy’n cychwyn yn ansicr o le i ddod o hyd i’w rhif Yswiriant Gwladol, y ffordd gyflymaf o wneud hyn yw drwy ap CThEF neu drwy’r gwasanaeth talu ar-lein.   

Ymhen ychydig funudau, gallant gael mynediad at eu rhif, yn ogystal â chael eu llythyr cadarnhau rhif Yswiriant Gwladol os oes angen hwn arnynt.   

Er mwyn cael mynediad at eu rhif Yswiriant Gwladol yn y dyfodol, gallant hefyd ei ychwanegu at eu Apple Wallet neu’u Google Wallet.   

Helpu cwsmeriaid i ganfod achosion o arbed treth, ac i roi’r gorau iddynt  

Bwrw golwg dros ein hymgyrch ‘Arbed treth — peidiwch â chael eich dal wrthi’ (yn Saesneg).   

Rydym yn ei gynnal i helpu contractwyr i wneud y canlynol:  

  • sylwi ar yr arwyddion o arbed treth   

  • cael cymorth i adael cynlluniau   

  • adrodd am gwmnïau amheus   

Gallwch ein helpu i ddiogelu eich gweithwyr drwy wneud y canlynol:   

  • rhannu negeseuon ein hymgyrch   

  • rhoi gwybod iddynt am ein hofferyn rhyngweithiol i wirio risg   

  • eu cyfeirio at ein canllawiau ategol; mae hyn yn cynnwys straeon personol gan gontractwyr sydd eisiau helpu eraill i ddysgu o’u camgymeriadau   

Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion cyhoeddedig am gynlluniau arbed treth a’u hyrwyddwyr er mwyn cadw’n glir ohonynt (yn Saesneg). Nid yw hon yn rhestr gyflawn o’r holl gynlluniau arbed treth sy’n cael eu marchnata ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y bydd cynlluniau, hyrwyddwyr, galluogwyr a chyflenwyr eraill nad yw CThEF yn gallu cyhoeddi gwybodaeth amdanynt ar hyn o bryd.    

Peidiwch ag anghofio lledaenu’r gair drwy rannu neu hoffi negeseuon CThEF ar Facebook, LinkedIn ac X (Twitter).  

Os yw contractwr yn meddwl eu bod yn cymryd rhan mewn cynllun arbed treth, anogwch nhw i gysylltu â ni (yn Saesneg) cyn gynted â phosibl. Gallwn roi cymorth iddynt adael y cynllun a’u rhoi ar ben ffordd.    

Nodyn ffitrwydd — arweiniad newydd i gyflogwyr  

Mae’n bleser gennym i rannu’r ail-lansiad o arweiniad ar nodynnau ffitrwydd (yn Saesneg). Dyluniwyd yr arweiniad hwn i hwyluso ac i wella’r sgyrsiau a gewch â’ch cyflogeion ynghylch eu hiechyd a’u gwaith, yn ogystal â sut i drafod addasiadau i’r gweithle er mwyn ei wneud yn amgylchedd hygyrch, neu er mwyn rhoi cymorth iddynt wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith.   

Rydym hefyd wedi creu rhestr wirio ar gyfer cyflogwyr (yn Saesneg) i dynnu sylw at brif bwyntiau er mwyn helpu gyda’r drafodaeth rhyngoch chi a’ch cyflogai ar ôl iddo gael nodyn ffitrwydd gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys sydd wedi’i gofrestru; megis: 

  • Meddyg  
  • Nyrs  
  • Therapydd Galwedigaethol  
  • Ffisiotherapydd 
  • Fferyllydd 

Polisïau Diogelu Incwm Grŵp  

Ym mis Awst 2022, gwnaeth CThEF gywiro ei gyngor ynghylch sut i drin polisïau Diogelu Incwm Grŵp (GIP), a’r ffordd y maent yn rhyngweithio â chynlluniau aberthu cyflog. Gwnaeth hyn ddilyn y cymorth anghywir a roddwyd ym mis Hydref 2019.   

Mae EIM06474 yn dangos y sefyllfa gywir o ran treth, a’r trefniadau trosiannol a gytunwyd arnynt os cafodd y cymorth anghywir hwn ei ddibynnu arno (yn Saesneg).   

Mewn rhai achosion, os gwnaeth unigolyn, neu ei gyflogwr, ddibynnu ar y cymorth anghywir hwn o fis Hydref 2019, mae’n bosibl bod hawl yr unigolyn hwnnw i fudd-daliadau cyfraniadol, megis pensiwn y wladwriaeth, wedi cael ei heffeithio. Mae hyn oherwydd ei fod yn bosibl bod unigolion wedi cael, neu, o dan y trefniadau trosiannol, ar fun cael incwm gan bolisi GIP sydd heb gael ei wneud yn hollol agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG). O dan y sefyllfa gywir o ran treth, bydd yr incwm hwn wedi bod yn agored i CYG.   

Bydd unrhyw achos o effaith yn dibynnu ar yr incwm arall neu’r credydau Yswiriant Gwladol a gafodd yr unigolyn yn ystod y flwyddyn. Mae CThEF wedi ystyried y broblem, ac wedi penderfynu bod yn rhaid i unrhyw achos o effaith gael ei adolygu fesul achos.   

Felly, mae CThEF yn annog unigolion i wirio’u cyfrifon treth personol, neu eu cofnodion Yswiriant Gwladol, i weld a oes diffyg yn eu cofnodion Yswiriant Gwladol lle y gwnaethant gael budd o bolisïau GIP. Os oes diffyg, dylent gysylltu â CThEF os ydynt wedi:   

  • gwneud cyfraniadau i bolisi GIP drwy aberthu cyflog   

  • cael tâl salwch gan eu cyflogwr o dan y polisi GIP sydd dan sylw, ac nad oedd y tâl salwch hwnnw’n hollol agored i Cyfraniadau Ysiwriant gwladol  

Bydd CThEF wedyn yn edrych ar bob achos ar wahân a chywiro’r diffyg, os oes angen, i liniaru effaith ar unrhyw hawl i fudd-daliadau cyfraniadol.    

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr  

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:  

  • nam ar eu golwg  

  • anawsterau echddygol  

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu  

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw  

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.  

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):  

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur — dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol  

  • i gadw’r ddogfen fel PDF:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn Saesneg).  

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter @HMRCgovuk.  

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at mary.croghan@hmrc.gov.uk.