Rhifyn mis Chwefror 2026 o Fwletin y Cyflogwr
Cyhoeddwyd 11 Chwefror 2026
Rhagarweiniad
Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:
TWE
-
Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd ar ddod — effaith ar weithrediad y gyflogres
-
Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 05 Ebrill 2026
-
Nodyn atgoffa benthyciadau myfyrwyr o’r Cynllun Math 5 newydd ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027
-
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
-
Ceir a ddarperir ar gyfer defnydd preifat yn y sector cerbydau
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
-
Rhyddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogi cyn-filwyr
-
Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — Help gyda Pharthau Buddosddi — GfC15
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
-
Newidiadau i Dâl Salwch Statudol – yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
-
Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol ar gyfer 2025— yn fyw nawr
Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.
Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.
TWE
Offer TWE Sylfaenol — ar eu newydd wedd
Mae Offer TWE (BPT) Sylfaenol yn feddalwedd gyflogres sy’n rhad ac am ddim gan CThEF ar gyfer busnesau sydd â llai na 10 cyflogai.
Bydd diweddariad i’r BPT yn cael ei ryddhau ddiwedd mis Mawrth ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru i fersiwn 26.0, a’i ddefnyddio o 06 Ebrill 2026 ymlaen.
Er mwyn diweddaru neu chwilio am ddiweddariadau, dylech ddewis ‘gwirio nawr’ yn adran ddiweddaru’r gosodiadau yn yr offeryn. Argymhellwn y dylech ddewis ‘Iawn’ i’r diweddariad awtomatig hefyd.
Fel cwsmer newydd, cyn i chi allu defnyddio BPT i redeg eich cyflogres, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein yn unol â’r cyfarwyddyd yn eich llythyr i gyflogwr newydd.
Mae rhagor o wybodaeth a help ar sut i lawrlwytho BPT ar gael.
Cynllun Gwobrwyo Trethadwy
Efallai y caiff cwmnïau trydydd parti eu defnyddio er mwyn rhoi gwobrau cymhelliant nad ydynt ar ffurf arian parod — megis buddiannau neu dalebau nad ydynt ar ffurf arian parod — i gyflogeion ar ran eu cyflogwr.
Mae treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar unrhyw wobrau o’r fath. Os ydych yn darparu gwobrau o’r fath, dylech ddefnyddio Cynllun Gwobrwyo Trethadwy er mwyn gwneud taliad i CThEF sy’n cwmpasu’r rhwymedigaeth treth sy’n ddyledus ar wobrau a wnewch.
Mae’n rhaid i gyflogeion roi gwybod am y wobr ar eu Ffurflen Dreth. Mae’n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o’r gwerth sydd wedi’i grosio i fyny, a’r dreth a dalwyd ar werth y wobr, er mwyn iddynt allu gwneud hyn. Mae’n annhebygol y bydd yn rhaid iddynt dalu treth bellach os yw cynllun gwobrwyo trethadwy’n cwmpasu eu gwobr, oni bai eu bod yn agored i dalu treth ar gyfradd uwch a bod y cynllun gwobrwyo trethadwy’n cwmpasu’r gyfradd sylfaenol yn unig.
Mae’r Uned Gwobrau Cymhelliant yn delio â phob agwedd ar gynllun gwobrwyo trethadwy, gan gynnwys prisio gwobrau a’r math o drefniant contractiol. Mae rhagor o fanylion ar sut i gysylltu â’r Uned Gwobrau Cymhelliant (yn agor tudalen Saesneg) ar gael ar-lein.
Ar gyfer gwobrau a roddir yn ystod blwyddyn dreth 2025 i 2026, mae’n rhaid cytuno ar gynllun gwobrwyo trethadwy erbyn 06 Gorffennaf 2026.
Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd ar ddod — effaith ar weithrediad y gyflogres
O 6 Ebrill ymlaen, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a menywod yn codi o 66 i 67 oed.
Bydd y cynnydd yn cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd, sy’n golygu y bydd pobl a aned rhwng 6 Ebrill 1960 a 5 Mawrth 1961 yn cyrraedd eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddant yn cyrraedd 66 mlwydd oed a nifer penodol o fisoedd.
Defnyddiwch y gyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) i ddod o hyd i’r dyddiad pan fydd eich cyflogeion yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os oes gennych gyflogeion a aned rhwng 6 Ebrill 1960 a 5 Mawrth 1961, dylech wirio’r dyddiad y maent yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth fel y gallwch ddiweddaru eu llythyren categori Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) i C ar yr amser cywir — y dyddiad talu cyntaf ar ôl iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’n rhaid i chi barhau i roi gwybod am yr wybodaeth wreiddiol am y llythyren categori hyd yma o’r flwyddyn ar wahân i’r wybodaeth ddiweddaraf am y llythyren categori tan ddiwedd y flwyddyn dreth, fel y byddech yn ei wneud ar gyfer unrhyw newid arall i’r llythyren gategori yng nghanol y flwyddyn.
Mae rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fydd cyflogai’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gael ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) ar gael ar-lein.
Talu buddiannau drwy’r gyflogres — dyddiadau pwysig
Mae CThEF yn atgoffa cyflogwyr o ddyddiad cau pwysig fel rhan o baratoadau ar gyfer rhoi gwybod am fuddiannau (BiKs) mewn amser real, fel yr amlinellir yn yr arweiniad dros dro Talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r arweiniad hwn, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Chyllideb yr Hydref 2025, yn helpu rhanddeiliaid i ddeall y newidiadau sydd ar ddod a pharatoi ar gyfer talu’r rhan fwyaf o fuddiannau drwy’r gyflogres y mae’n rhaid i chi ei wneud o fis Ebrill 2027 ymlaen. Bydd arweiniad yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd i gynnwys rhagor o fanylion.
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy’r gyflogres yn wirfoddol 5 Ebrill 2026
Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer talu buddiannau drwy’r gyflogres yn y flwyddyn dreth 2026 i 2027 yw 5 Ebrill 2026. Dylai cyflogwyr sy’n dymuno talu buddiannau drwy’r gyflogres am y tro cyntaf sicrhau eu bod yn cwblhau’r broses gofrestru cyn dechrau’r flwyddyn dreth nesaf. Nid yw cofrestru gwirfoddol yn bosibl ar ôl i’r flwyddyn dreth ddechrau.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yr offeryn cofrestru gwirfoddol presennol yn cau. Mae’r newid hwn yn adlewyrchu’r symudiad i dalu’r rhan fwyaf o fuddiannau drwy’r gyflogres o’r flwyddyn dreth 2027 i 2028 ymlaen. O dan y broses newydd, ni fydd angen i’r rhan fwyaf o gyflogwyr gofrestru ar gyfer talu drwy’r gyflogres yn wirfoddol oherwydd bydd talu drwy’r gyflogres yn orfodol ar gyfer y rhan fwyaf o fuddiannau.
Talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol
Mae CThEF yn parhau i weithio’n agos ac yn trafod y newidiadau gyda rhanddeiliaid i sicrhau eu bod mor glir, ymarferol, a hawdd eu gweithredu â phosibl. Cyhoeddir diweddariadau pellach i arweiniad yn seiliedig ar adborth, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus.
Er mwyn helpu busnesau i baratoi, mae arweiniad dros dro a manylebau technegol wedi’u cyhoeddi’n llawer cynharach nag arfer. Byddwn yn darparu mwy o fanylion wrth i ni barhau i ddatblygu polisi a chael adborth.
Anogir cyflogwyr i adolygu’r arweiniad dros dro Talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol (yn agor tudalen Saesneg) sy’n darparu amserlen ar gyfer diweddariadau a chyflenwi yn y dyfodol.
Benthyciadau a llety byw
Mae’r arweiniad hefyd yn nodi cynlluniau ychwanegol i wneud talu benthyciadau buddiol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a llety byw drwy’r gyflogres yn broses wirfoddol yn y flwyddyn dreth 2027 i 2028.
Bydd gwasanaeth cofrestru newydd yn cael ei gyflwyno i’r cyflogwyr hynny sy’n dymuno talu benthyciadau buddiol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a llety byw yn wirfoddol drwy’r gyflogres. Darperir manylion yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon.
Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 05 Ebrill 2026
Dyddiadau cau P11D a P11D(b)
I’r cyflogwyr hynny nad ydynt eto’n talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres, y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A P11D(b), costau P11D a buddiannau a ddarperir ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026 yw 06 Gorffennaf 2026.
Mae’n rhaid cyflwyno pob ffurflen P11D a ffurflen P11D(b) ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 ar-lein ac ar yr un pryd.
Gall cyflwyniad hwyr arwain at gosb. Mae CThEF yn codi cosbau’n fisol ac yn cyhoeddi hysbysiadau o gosb bob chwarter nes bod Ffurflen Dreth yn dod i law.
Gwallau cyffredin ar gyflwyniadau P11D
Wrth gyflwyno data car ar eich cyflwyniadau P11D, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi’r canlynol yn gywir:
-
y dyddiad y cofrestrwyd y car gyntaf
-
y math o danwydd
-
y ffigur allyriadau CO2 — ar gyfer ceir trydan llawn mae angen i chi roi sero
-
y ffigur milltiroedd allyriadau sero pan fydd y CO2 rhwng 1 a 50g y km
-
maint yr injan (cc)
-
ffigur yn y blwch cyfwerth ag arian parod
-
ffigur yn y blwch cyfwerth ag arian parod pan fydd gennych ffigur yn y cyfanswm cyfwerth ag arian parod neu’r swm a ildiwyd ar bob car
Wrth gyflwyno gwybodaeth am fenthyciadau buddiannol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi’r canlynol yn gywir:
-
ffigur yn y cyfwerth ag arian parod neu swm perthnasol y benthyciadau ar ôl didynnu unrhyw log a dalwyd
-
dyddiadau y gwnaed y benthyciad ar gael yn y blychau “o” ac “i”
Os ydych yn darparu benthyciadau buddiannol ar y cyd i’ch cyflogeion, cofiwch rannu’r cyfanswm arian parod cyfatebol â nifer y cyflogeion ar y benthyciad buddiannol ar y cyd a defnyddiwch y ffigur terfynol hwn i gwblhau’r swm sy’n gyfwerth ag arian parod ar gyfer pob cyflogai ar eu P11D cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflenni Treth.
Os yw’r arian parod cyfatebol terfynol yn ddim, cofnodwch hyn fel £0.00 ar y P11D cyn ei gyflwyno.
Os byddwch yn gwneud camgymeriad
Os ydych yn gwneud camgymeriad ac angen cyflwyno diwygiad, byddwch yn ymwybodol nad yw CThEF bellach yn derbyn ddiwygiadau papur. Cyfeiriwch at Treuliau a buddiannau i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) sy’n darparu arweiniad a ffurflenni ar gyfer cywiro gwallau P11D a P11D(b).
Nodyn atgoffa benthyciadau myfyrwyr o’r Cynllun Math 5 newydd ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027
Atgoffir cyflogwyr y bydd benthyciad myfyrwyr newydd, Cynllun 5, yn cael ei gyflwyno i’w ad-dalu am y tro cyntaf o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Bydd Cynllun 5 yn cael ei weithredu a’i gasglu yn yr un modd â mathau presennol o gynlluniau 1, 2 a 4.
Bydd cyflogwyr yn dechrau cael hysbysiadau dechrau benthyciadau myfyrwyr ym mis Mawrth 2026 gan CThEF ar gyfer pob benthyciwr sydd i fod i ddechrau ad-dalu o fis Ebrill 2026 ymlaen, sy’n cynnwys pob benthyciwr newydd o dan Gynllun 5. Bydd yr hysbysiad dechrau yn nodi’r benthyciad a’r math o gynllun y dylid ei gasglu.
Fel y cyfathrebwyd ym Mwletin y Cyflogwr mis Rhagfyr 2025 bydd y Rhestr Wirio ar gyfer Cyflogeion sy’n Cychwyn, ar-lein ac ar ffurf PDF, yn cael ei diweddaru ym mis Mawrth 2026 i gynnwys Cynllun 5.
Mae rhagor o wybodaeth am y Rhestr wirio ar gyfer cyflogai newydd at ddibenion TWE ar gael.
Anogir cyflogwyr i gynghori unrhyw gyflogeion nad ydynt yn gwybod pa gynllun y maent yn ei ad-dalu, y gallant ddarganfod hynny drwy fewngofnodi i’w cyfrif benthyciad myfyrwyr ar-lein.
Gallwch hefyd eu cyfeirio at Reoli balans eich benthyciad myfyrwyr i gael rhagor o arweiniad.
Hyd at 5 Ebrill 2026, lle mae cyflogwyr yn dal yn ansicr pa gynllun i’w ddefnyddio, dylent ddefnyddio Cynllun 1 nes bod hysbysiad dechrau yn dod i law. Fodd bynnag, o 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd y cynllun diofyn hwn yn newid i Gynllun 5.
Lle mae cyflogeion wedi dewis mwy nag un cynllun, dylai cyflogwyr ddechrau didyniadau gan ddefnyddio’r cynllun sydd â’r trothwy ad-dalu isaf.
Cyn i’r arweiniad ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau ôl-raddedig ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) gael eu diweddaru ar 6 Ebrill 2026 pan fydd y newidiadau’n dod i rym, atgoffir cyflogwyr hefyd y bydd y trothwyon blynyddol newydd fel a ganlyn:
-
Cynllun 1 — £26,900
-
Cynllun 2 — £29,385
-
Cynllun 4 — £33,795
-
Cynllun 5 — £25,000
-
Benthyciad Ôl-raddedig — £21,000
Mae cyfraddau didyniadau o 6 Ebrill 2026 ymlaen ar gyfer Cynlluniau 1, 2, 4 a 5 yn parhau ar 9% ac mae benthyciad ôl-raddedig yn parhau ar 6% ar gyfer unrhyw enillion uwchlaw’r trothwyon priodol.
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
Mae’r dyddiadau cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn disgyn ar ddydd Sul ar 22 Chwefror 2026 a 22 Mawrth 2026. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y misoedd hyn yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Chwefror 2026 a 20 Mawrth 2026, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud ar amser. Os yw’ch taliadau’n hwyr, efallai y codir cosb arnoch.
Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Mae rhagor o wybodaeth am dalu TWE cyflogwyr ar gael.
Hysbysu ar ddiwedd y flwyddyn
Mae’n amser paratoi i wneud eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) olaf neu’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) olaf ar gyfer y flwyddyn. Mae angen i’ch FPS neu’ch EPS olaf y flwyddyn, hyd at a chan gynnwys 05 Ebrill 2026, gynnwys dangosydd i nodi eich bod yn gwneud y cyflwyniad terfynol. Mae hyn yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi anfon popeth yr oeddech yn disgwyl ei anfon, ac y gallwn derfynu’n cofnodion ar eich cyfer chi a’ch cyflogeion.
Ni fydd ambell feddalwedd fasnachol y gyflogres yn caniatáu i chi osod y dangosydd ar FPS. Os yw hynny’n wir, anfonwch eich FPS olaf ac yna anfonwch EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio. Gallwch hefyd anfon EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio os gwnaethoch anghofio gosod y dangosydd ar eich cyflwyniad FPS olaf ar gyfer y flwyddyn dreth.
Hefyd, mae’n rhaid i chi baratoi ar gyfer rhoi P60 i’ch cyflogeion os ydynt yn eich cyflogaeth ar 05 Ebrill 2026. Mae’n rhaid i’r wybodaeth hon gael ei darparu i’r cyflogwr erbyn 31 Mai 2026.
Os nad ydych yn mynd i dalu unrhyw un eto yn ystod y flwyddyn dreth hon, cofiwch anfon EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio i ddangos na wnaethoch dalu unrhyw un yn ystod y cyfnod cyflog olaf ac i ddangos mai dyma’r cyflwyniad terfynol. Mae gennych hyd at 19 Ebrill 2026 i wneud hyn.
Os nad ydych wedi cyflwyno cais erbyn 11 Ebrill 2026, byddwch yn cael nodyn atgoffa gan y Gwasanaeth Hysbysu Generig.
Cyflwyno hawl i daliad yn sgil camesgoriad newydd a hawliau diwrnod cyntaf ar gyfer Absenoldeb a Thâl i Rieni mewn Profedigaeth yng Ngogledd Iwerddon
Mae Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon yn bwriadu cyflwyno newidiadau sylweddol i Absenoldeb a Thâl i Rieni mewn Profedigaeth. Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i rieni sy’n dioddef colli plentyn o dan 18 oed, gan gynnwys marw-enedigaeth o 24 wythnos o feichiogrwydd, ac maent bellach yn ymestyn i hawl i gamesgoriad, sy’n cynnwys colled ddigymell ac ymyriadau meddygol penodedig.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, dim ond i gyflogeion Gogledd Iwerddon y bydd newidiadau hyn yn berthnasol:
Cymhwystra newydd ar gyfer gamesgoriad
Bydd gan gyflogeion sy’n profi gamesgoriad, neu sydd â chysylltiad pendant â menyw sydd wedi profi gamesgoriad, hawl bellach i Absenoldeb a Thâl Rhieni mewn Profedigaeth, gan sicrhau cymorth yn ystod yr amser anodd hwn.
Fel y trefniadau presennol ar gyfer Absenoldeb a Thâl Rhieni mewn Profedigaeth, ni fydd unrhyw ofynion tystiolaeth feddygol yn cael eu gosod ar y cyflogai. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Tâl Rhieni Statudol mewn Profedigaeth, bydd angen i gyflogai sydd wedi colli rhywun ddarparu ychydig o dystiolaeth ar ffurf hunan-ddatganiad ysgrifenedig ei fod yn bodloni unrhyw amodau cymhwystra ar gyfer tâl, ynghyd â chadarnhad o enw’r person sy’n hawlio, a’r dyddiad y digwyddodd y gamesgoriad, neu y darganfuwyd ei fod wedi digwydd gan y fenyw a’i profodd.
Daw Tâl Rhieni Statudol mewn Profedigaeth yn hawl ar y diwrnod cyntaf
Bydd pob achos o hawl yn gymwys ar gyfer Tâl Rhieni Statudol mewn Profedigaeth o ddiwrnod cyntaf cyflogaeth, gan ddileu’r gofynion gwasanaeth blaenorol a dibyniaeth ar enillion gwirioneddol.
Gall cyflogeion ddibynnu ar eu henillion gwirioneddol neu eu henillion disgwyliedig yn seiliedig ar dybiaethau rhesymol, gan sicrhau nad oes unrhyw gyflogai’n cael ei adael heb gymorth ar adeg pan fo tosturi a dealltwriaeth yn hanfodol i’w lles.
Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:
-
achosion lle cafwyd hawl cyn 6 Ebrill 2026 yn parhau o dan y rheolau presennol
-
nid yw’r hawl i daliad yn sgil camesgoriad yn ôl-weithredol ac ni fydd yn berthnasol i gamesgoriadau a ddigwyddodd neu a ddarganfuwyd cyn 6 Ebrill 2026
-
bydd yr holl hawliau a theilyngdodau sydd ar gael ar hyn o bryd o dan Absenoldeb a Thâl Rhieni mewn Profedigaeth yn cael eu hymestyn heb esemptiad i achosion lle mae cymhwystra yn codi oherwydd gamesgoriad a ddarganfuwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026
Ceir a ddarperir ar gyfer defnydd preifat yn y sector cerbydau
Pwy sy’n debygol o gael ei effeithio
Cyflogwyr yn y sector cerbydau sy’n caniatáu i gyflogeion ddefnyddio ceir prawf at ddefnydd personol.
Ceir wedi’u profi gan beirianwyr
Yn aml, mae angen i weithgynhyrchwyr ceir a chydrannau ceir brofi ceir o dan amrywiaeth o amodau gwahanol.
Mae ‘profi’ yn golygu bod y car yn cael ei ddefnyddio gan beiriannydd profi mewn prosiect ymchwil wedi’i ddogfennu gan wneuthurwr y car neu’r gydran. Mae’n rhaid monitro a nodi’r canlyniadau er mwyn i hyn gael ei ddosbarthu fel rhaglen ymchwil.
Os bydd y profion yn digwydd yn ystod oriau gwaith ac nad oes unrhyw ddefnydd preifat yn gysylltiedig, ni fydd yn fuddiant trethadwy.
Fodd bynnag, os yw peirianwyr profi yn penderfynu mai’r ffordd orau o brofi’r car yw yn ystod teithiau preifat, yna mae’n rhaid i’r prif reswm dros yrru’r car fod i gynnal profion ac mae’n rhaid i unrhyw ddefnydd preifat fod yn amlwg yn eilradd.
Os bodlonir yr amodau hyn, ni fydd y defnydd yn cael ei drin fel buddiant trethadwy.
Os defnyddir y ceir hefyd at ddibenion personol, yna bydd taliadau buddiant car a thanwydd yn berthnasol. Gallai hyn gynnwys mynd â’r car adref am y penwythnos neu ei ddefnyddio ar wyliau. Mae hyn yn berthnasol p’un a yw’r gyrrwr yn beiriannydd profi neu’n unrhyw fath arall o gyflogai.
Mae rhagor o wybodaeth am achosion arbennig buddiant car ar gael (yn agor tudalen Saesneg).
Ceir a ddefnyddir gan werthwyr
I werthwyr a staff gwasanaeth, gall car fod yn eitem sy’n hanfodol i’r fasnach. Nid yw CThEF wedi cyflwyno trefniadau arbennig ar gyfer defnydd preifat, gydag un eithriad bach sy’n berthnasol pan fydd gwerthwr yn mynd â’r car adref, at ddiben y canlynol:
-
casglu car gan gwsmer
-
gadael car gyda chwsmer
-
trefnu gwasanaethu ar gyfer y car
O dan yr amgylchiadau hyn, nid oes treth ar fuddiannau car na thanwydd yn daladwy; mae rhagor o fanylion ar gael yn EIM23810 (yn agor tudalen Saesneg).
Os yw’r car ar gael at ddefnydd preifat, yna bydd buddiant car ac o bosibl tanwydd yn berthnasol. Gallai hyn gynnwys ei ddefnyddio i yrru adref neu ei gymryd am y penwythnos neu ar wyliau.
Rhagor o wybodaeth
Mae’n bosibl nad yw rhai cyflogwyr yn y sector cerbydau’n rhoi gwybod am fuddiannau car a thanwydd. Rydym am eich cynorthwyo i gael pethau’n iawn.
Mae gan EIM23800 — Buddiant car: achosion arbennig: cyflogeion yn y diwydiant cerbydau (yn agor tudalen Saesneg) ragor o wybodaeth am y canlynol:
-
buddiant car — achosion arbennig
-
ceir profi ac arbrofi
-
ceir arddangos a cheir dros-dro
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Trosglwyddo busnes o gyhoeddiad arweiniad cwmni
Mae CThEF wedi cyhoeddi arweiniad newydd ar drosglwyddo busnes allan o gwmni (yn agor tudalen Saesneg) datgorffori.
Mae’r arweiniad yn nodi’r goblygiadau treth y dylech eu hystyried pan fydd busnes ac asedion cwmni’n cael eu symud i’w gyfranddalwyr, sydd wedyn yn gweithredu fel unig fasnachwyr neu bartneriaeth.
Mae’r arweiniad yn cynnwys:
-
ystyriaethau treth ar gyfer y cwmni, gan gynnwys Treth Gorfforaeth, TWE a TAW
-
ystyriaethau treth ar gyfer cyfranddalwyr, gan gynnwys Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Thollau Stamp
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol dramor
Yng Nghyllideb 2025, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol dramor.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, ar gyfer blynyddoedd treth 2026 i 2027 ymlaen, bydd yr opsiwn i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor yn cael ei thynnu. Bydd ceisiadau newydd am gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 ar gyfer cyfnodau dramor yn gofyn am breswylio parhaus yn y DU am 10 mlynedd. Os oes gennych weithwyr dramor, rhowch wybod iddynt am y newidiadau sy’n dod i rym o fis Ebrill 2026 ymlaen a rhowch yr wybodaeth sydd ei hangen ar eich gweithwyr i wneud penderfyniadau gwybodus.
Nid yw’r newidiadau’n effeithio ar allu unrhyw un i brynu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer blynyddoedd treth cyn 2026 i 2027.
Mae CThEF yn annog cyflogwyr i adolygu’r arweiniad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor o Ebrill 2026 ymlaen (yn agor tudalen Saesneg).
Cyhoeddir rhagor o fanylion ac arweiniad yn ddiweddarach.
Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod gan unigolion sy’n cronni Pensiwn y Wladwriaeth o’r tu allan i’r DU gysylltiad digonol â’r DU a’u bod yn talu pris teg i wneud hynny. Mae adolygiad ehangach o bolisi cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol wedi’i gynllunio i sicrhau bod y system yn deg ac yn addas at y diben.
Rhyddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogi cyn-filwyr
Yng Nghyllideb 2025, cyhoeddodd y llywodraeth estyniad terfynol rhyddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer cyflogi cyn-filwyr cymwys. Bydd y rhyddhad yn parhau am 2 flynedd arall o fis Ebrill 2026 hyd at fis Ebrill 2028. Ni fydd cyflogwyr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar enillion hyd at drothwy eilaidd uchaf i gyn-filwr o £50,270 ar gyfer blwyddyn gyntaf cyflogaeth sifil cyn-filwr.
Darllenwch wybodaeth ar sut i hawlio rhyddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyn-filwyr fel cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg).
Gweithgarwch gweithredol yn dilyn cyhoeddi ymateb y llywodraeth i adolygiad annibynnol 2025 o’r Tal ar Fenthyciad
Mae adroddiad terfynol yr Adolygiad Annibynnol o’r Tâl ar Fenthyciad 2025 gan gynnwys ymateb y Llywodraeth (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i gyhoeddi.
Mae’r llywodraeth wedi derbyn pob un o’u hargymhellion ond un, ac mewn rhai meysydd mae wedi mynd ymhellach. Mae’r llywodraeth yn credu bod angen i’r hyn a gyhoeddwyd fod yn dorriad pendant â’r hyn a aeth o’r blaen. Mae deddfwriaeth wedi’i chynnwys yn y Mesur Cyllid i ddarparu ar gyfer cynnig setliad newydd y mae’r Llywodraeth yn bwriadu iddo wneud y mwyaf o’r cyfle i unigolion ddod ymlaen a setlo.
I bobl sydd heb setlo gyda CThEF eto, bydd cyfle setlo newydd yn cael ei gyflwyno a fydd yn lleihau’r swm y mae’n rhaid i unigolion ei dalu’n sylweddol, yn enwedig y rhai sydd â’r rhwymedigaethau isaf, fel arfer y rhai sydd ar yr incwm isaf. Os byddant yn penderfynu setlo, gallai’r rhan fwyaf o unigolion weld gostyngiadau o leiaf 50% yn yr hyn y mae’n rhaid i unigolion ei dalu i setlo eu rhwymedigaethau ffioedd benthyciad. Mae’n bosibl y bydd tua 30% o unigolion yr effeithir arnynt, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol, yn gallu setlo heb orfod talu dim.
Mae’r cyfle setliad newydd ar agor i unrhyw un sydd â rhwymedigaethau tâl ar fenthyciad heb eu talu, gan gynnwys cyflogwyr.
Mae CThEF yn gweithio i gyflwyno’r cyfle setliad newydd yn gyflym, fel y gall pobl sydd â rhwymedigaethau tâl ar fenthyciad eu cwblhau a symud ymlaen. Mae deddfwriaeth wedi’i chynnwys yn y Mesur Cyllid sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd, a bydd rheoliadau’r Trysorlys yn nodi’r manylion yn fuan yn dilyn hynny. Dechreuodd CThEF gysylltu â chwsmeriaid i’w hysbysu am gymhwystra ym mis Ionawr 2026.
Mae tudalen gweithgarwch gweithredol y Tâl ar Fenthyciad (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi rhagor o fanylion am y cyfle i setlo a’r hyn y gallwch ei wneud tra byddwch yn aros i ni adolygu’ch trefniadau.
Confensiwn Cyfraniadau Dwbl y DU — India
Mae’r DU ac India wedi dod i gytundeb ar gyfraniadau nawdd cymdeithasol, sy’n cwmpasu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU ar gyfer cyflogeion sy’n symud rhwng y DU ac India. Bydd y cytundeb, sy’n Gonfensiwn Cyfraniadau Dwbl (DCC), yn dod i rym erbyn haf 2026.
Mae gan y DU gytundebau tebyg eisoes ar waith gyda gwledydd gan gynnwys Canada, Siapan, De Korea, Norwy, y Swistir a’r UDA, yn ogystal â 27 Aelod-wladwriaeth yr UE.
Mae’r DCC yn sicrhau mai dim ond mewn un wlad ar y tro y bydd yn rhaid i gyflogeion sy’n symud rhwng y DU ac India dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol. Bydd cyflogeion o un wlad sy’n cael eu hanfon i weithio dros dro yn y wlad arall am hyd at dair blynedd yn parhau i dalu cyfraniadau yn eu gwlad wreiddiol. Mae’r DCC hefyd yn cynnwys rheolau penodol ar gyfer morwyr a chriwiau awyr.
Dylai cyflogwyr sydd â chyflogeion sy’n mynd i India, neu’n dod o India, wirio telerau’r DCC i benderfynu ble byddant yn agored i dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol. Cyhoeddir y DCC ar GOV.UK (https://www.gov.uk/) yn fuan.
Dylai cyflogeion a fydd yn parhau i fod yn agored i Yswiriant Gwladol y DU tra byddant yn gweithio yn India, neu eu cyflogwyr, wneud cais am dystysgrif i gadarnha eu bod yn talu Yswiriant Gwladol y DU wrth weithio mewn gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU (CA9107) (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r tystysgrifau hyn yn cadarnhau y bydd cyflogai’n parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU ac na fydd yn rhaid iddo dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn India.
Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — Help gyda Pharthau Buddosddi — GfC15
Yn ddiweddar, mae CThEF wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio newydd — Help gyda Phorthladdoedd Rhydd — GfC15 (yn agor tudalen Saesneg).
Mae Parthau Buddsoddi yn ardaloedd ar draws y DU lle bydd llywodraeth ganolog a lleol yn gweithio gyda phartneriaid busnes a lleol i greu’r amodau ar gyfer buddsoddi ac arloesi.
Gall busnesau sy’n gweithredu mewn Parthau Buddsoddi gael mynediad at amrywiaeth o gymhellion, gan gynnwys manteision treth. Mae’r rhain yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi’u gostwng, rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp, a lwfansau cyfalaf uwch ar gyfer buddsoddiadau cymwys.
Mae’r arweiniad hwn yn bennaf ar gyfer cwsmeriaid sydd â safle busnes mewn Parth Buddsoddi, neu sy’n ystyried gwneud busnes o fewn un. Fodd bynnag, byddant hefyd yn ddefnyddiol i gyrff llywodraethu Parthau Buddsoddi a chyrff proffesiynol sy’n cynghori cleientiaid ar Barthau Buddsoddi.
Maent yn rhoi cymorth ymarferol drwy wneud y canlynol:
-
egluro’r rhyddhadau treth sydd ar gael o fewn Parthau Buddsoddi
-
tynnu sylw at feysydd lle mae CThEF yn nodi gwallau
-
annog cydymffurfiaeth drwy egluro meysydd o ansicrwydd
-
helpu cwsmeriaid i leihau’r risg o hawlio rhyddhadau treth yn anghywir
-
cynghori ar ba gofnodion a thystiolaeth y dylid eu cadw
-
egluro beth i’w wneud os gwneir camgymeriad
Mae Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio yn rhan o ymrwymiad parhaus CThEF i gyhoeddi cymorth ymarferol i gwsmeriaid. Mae arweiniad wedi’u cynllunio i ategu arweiniad presennol CThEF drwy egluro ein safbwynt mewn meysydd cymhleth, sydd wedi’u camddeall yn eang, neu sy’n newydd o’r rheolau treth.
Mae rhagor o wybodaeth am Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys ein cyhoeddiadau eraill ar gael.
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Gweithredu’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025
Daeth y Bil Hawliau Cyflogaeth yn gyfraith ym mis Rhagfyr 2025 ac mae bellach yn Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025.
Dylai cyflogwyr ddechrau paratoi nawr ar gyfer newidiadau sy’n digwydd o fis Chwefror 2026 ymlaen.
Mae’r llywodraeth wedi lansio hawliau cyflogaeth newydd: arweiniad i fusnesau a gweithwyr ar wefan business.gov.uk sy’n darparu amserlenni a gwybodaeth glir am y newidiadau.
Bydd y ddeddf yn cael ei chyflwyno fesul cam i sicrhau bod gan gyflogeion a chyflogwyr amser i gynllunio a pharatoi.
Mae’r mesurau cyntaf, sy’n diddymu Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Isafswm) 2023, eisoes wedi dod i rym, ac ym mis Chwefror 2026 bydd rhannau o Ddeddf Undebau Llafur 2016 yn cael eu diddymu.
Newidiadau pwysig o fis Ebrill 2026
-
Tâl Salwch Statudol — mae rhagor o fanylion ar gael yn yr erthygl Tâl Salwch Statudol yn rhifyn Bwletin y Cyflogwr hwn
-
Absenoldeb Tadolaeth ac Absenoldeb Di-dâl i Rieni — bydd hawliau presennol ar gael o ‘Ddiwrnod 1’ o gyflogaeth.
-
Lansio’r Asiantaeth Gwaith Teg — bydd asiantaeth newydd yn cael ei sefydlu i ddod â gorfodi hawliau cyflogaeth i un lle
Ymgynghoriadau
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod y ddeddf hon yn cyflawni ar gyfer gweithwyr a busnesau fel, rydym yn ymgynghori ar rai o fanylion y ddeddf.
Mae Helpu Gwaith i Dalu yn darparu rhestr lawn o’r ymgynghoriadau byw
Newidiadau i Dâl Salwch Statudol — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn cyflwyno dau newid mawr i Dâl Salwch Statudol (SSP).
Tynnu’r Terfyn Enillion Isaf
Bydd gan bob cyflogai cymwys hawl i SSP waeth beth fo’u hincwm. Telir SSP ar 80% o enillion wythnosol arferol neu’r gyfradd safonol wythnosol wedi’i huwchraddio o £123.25, pa un bynnag sydd isaf.
Tynnu’r Cyfnod Aros
Telir SSP o’r diwrnod llawn cyntaf o absenoldeb salwch, nid o’r pedwerydd diwrnod.
Mae’r newidiadau hyn yn gwneud SSP yn fwy hygyrch ac yn dileu rhwystrau i gyflogeion â chyflog is, a byddant yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Gogledd Iwerddon. Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn gymwys o ran pryd y digwyddodd yr absenoldeb salwch. Bydd absenoldebau sy’n dechrau cyn 6 Ebrill 2026 yn dilyn y system bresennol i bennu cymhwystra a thaliad. Bydd absenoldebau sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026 yn defnyddio’r rheolau newydd, oni bai bod deddfwriaeth wedi’i hamlinellu fel arall.
Byddwch yn barod ar gyfer newidiadau SSP
Mae CThEF wedi rhannu arweiniad technegol, gan gynnwys ar ddiogelwch trosglwyddo gyda datblygwyr meddalwedd a darparwyr cyflogres i’w helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn. Mae’n bosibl yr hoffech drafod y newidiadau hyn gyda’ch darparwr cyflogres.
Gwnewch yn siŵr bod eich systemau cyflogres yn barod a bod staff yn deall y rheolau newydd.
Bydd arweiniad ar SSP ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion yn cael eu diweddaru maes o law. Mae arweiniad ehangach ar y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth ar gael ar Business.gov.uk.
Camau nesaf
-
cadarnhau bod eich darparwr cyflogres wedi paratoi
-
cadwch lygad mas am ddiweddariadau GOV.UK cyn mis Ebrill 2026
-
rhannwch y bwletin hwn gydag Adnoddau Dynol a rheolwyr llinell
Am ymholiadau am newidiadau SSP, anfonwch e-bost at SSP.Team@DWP.gov.uk.
Amddiffyn eich contractwyr rhag arbed treth
Os oes gennych gontractwyr yn gweithio i chi drwy gwmnïau ambarél, gallwch rannu ymgyrch newydd, drawiadol CThEF ‘peidiwch â chael eich dal wrthi’ i’w helpu i’w hamddiffyn rhag arbed treth.
Edrychwch yn ofalus a byddwch yn gweld nad yw creaduriaid ein hymgyrch fel y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Yn union fel cynlluniau arbed treth sy’n honni’n dwyllodrus eu bod yn lleihau treth ond wrth edrych yn agosach, maent yn peryglu biliau annisgwyl.
Gall contractwyr wneud dewisiadau gwybodus a chydymffurfiol drwy ddefnyddio’r canlynol:
-
ein canllawiau ar-lein i ddysgu sut i adnabod cynlluniau arbed treth
-
ein hofferynnau rhyngweithiol i wirio slipiau cyflog a chontractau i gadarnhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu
-
ein straeon bywyd go iawn am bobl a gafodd eu dal gan arbed treth
-
ein fideo YouTube (yn agor tudalen Saesneg) esboniadol ar sut mae cwmnïau ambarél yn gweithio a’r risgiau i gontractwyr
-
ein cyfarwyddiadau ar gyfer sut i gael help a chymorth i roi gwybod am neu adael cynllun
Gall contractwyr hefyd adolygu ein rhestr o cynlluniau arbed treth cyhoeddedig a’u hyrwyddwyr (yn agor tudalen Saesneg). Yn bwysig, nid yw’n rhestr gynhwysfawr ac nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau o’r fath, ni waeth beth mae rhai hyrwyddwyr yn ei honni.
Defnyddiwch adnoddau ymgyrch CThEF ar Frontify (yn agor tudalen Saesneg) yn eich cylchlythyrau, gwefannau, a sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mwyhewch y neges ymhellach drwy ymgysylltu â negeseuon CThEF ar Facebook, LinkedIn, a X.
Mae pob neges yn helpu i amddiffyn mwy o bobl rhag cyngor treth gwael.
Hawliwch eich ad-daliad treth mewn munudau
Mae’n bosibl ein bod wedi cysylltu â chi neu’ch cyflogeion yn ddiweddar ynglŷn ag ad-daliad treth.
I’r rhan fwyaf o gwsmeriaid TWE, nid yw CThEF bellach yn rhoi ad-daliadau treth yn awtomatig trwy siec, ond rydym bellach yn cynnig mwy o ffyrdd i chi hawlio.
Y llynedd, aeth dros 730,000 o ad-daliadau heb eu hawlio, gyda’r ad-daliad cyfartalog yn werth £855.
Anogwch eich cyflogeion i wirio Ap CThEF heddiw a sicrhau eu bod yn cael yr hyn sy’n ddyledus iddynt.
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o hawlio’ch ad-daliad, neu i wirio a oes un yn ddyledus i chi, yw drwy ap CThEF. Dyma sut allwch chi ei wneud:
-
Agorwch ap CThEF ac ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
-
Os ydych yn disgwyl ad-daliad, fe welwch fotwm gwyrdd ‘Hawliwch’ yn dangos y swm sy’n ddyledus.
-
Tapiwch i ddechrau’ch hawliad, a bydd eich ad-daliad yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc cyn pen wythnos.
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF, gallwch dal hawlio’ch ad-daliad treth (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen eich cyfeirnod P800 o’ch llythyr cyfrifiad treth a’ch rhif Yswiriant Gwladol wrth law.
Newidiadau i’r cod treth ar gyfer adennill taliadau gaeaf
Y llynedd ehangwyd y meini prawf cymhwystra ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl Oedran Pensiwn yn yr Alban, fel y byddai mwy o bensiynwyr yn gymwys.
Os oes gan unigolyn gyfanswm incwm o dros £35,000, bydd CThEF yn adennill eu taliadau gaeaf drwy’r system dreth. Bydd tâl Treth Incwm yn berthnasol sy’n hafal i werth llawn y taliad sy’n dod i law. Bydd y tâl treth yn berthnasol ym mhob rhan o’r DU.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd CThEF yn addasu cod treth yn awtomatig ar gyfer unrhyw gwsmeriaid sydd angen ad-dalu eu taliad gaeaf drwy TWE. Nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach, a byddant yn cael hysbysiad ddechrau mis Ebrill 2026 i roi gwybod iddynt fod CThEF wedi newid eu cod treth TWE.
Ym mis Chwefror 2026, gall cwsmeriaid gael hysbysiad o’u cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth 2026 i 2027 nad yw eto’n cynnwys addasiadau ar gyfer eu taliad gaeaf. Nid oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau a dylent gael cod treth wedi’i ddiweddaru, sy’n cynnwys adennill eu taliad gaeaf, ddechrau mis Ebrill 2026.
Bydd angen i’ch cyflogeion sy’n cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad gynnwys taliad gaeaf 2025 ar eu Ffurflen Dreth 2025 i 2026, sy’n ddyledus erbyn 31 Hydref 2026 os yw’n ffurflen bapur, neu 31 Ionawr 2027 os yw’n cael ei chyflwyno ar-lein.
Nid oes angen i gyflogwyr a’r rhai sy’n gweithredu cynlluniau pensiwn gymryd unrhyw gamau cyflogres penodol neu wahanol — byddwch yn cael yr wybodaeth fel rhan o’r hysbysiadau codio ddechrau mis Ebrill 2026.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael i gwsmeriaid sydd angen ad-dalu eu taliad gaeaf, gan gynnwys cyfrifiannell i’w helpu i wirio a fydd eu hincwm dros £35,000.
Gall cwsmeriaid sy’n disgwyl i gyfanswm eu hincwm unigol fod dros £35,000 ddewis peidio â chael taliad gaeaf yn y dyfodol o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth am daliad Tanwydd Gaeaf ar gael i gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Mae rhagor o wybodaeth am [sut mae Taliad Gwresogi Gaeaf Oedran Pensiwn yn gweithio yn yr Alban] (https://www.mygov.scot/pension-age-winter-heating-payment) ar gael ar wefan llywodraeth yr Alban.
Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol ar gyfer 2025 — yn fyw nawr
Mae’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) yn gorff annibynnol sy’n cynrychioli busnesau bach. Mae ABAB yn herio CThEF ar ei berfformiad, o safbwynt busnesau bach, gan graffu’n drylwyr ar fentrau pwysig, megis Troi Treth yn Ddigidol a gwella profiad y cwsmer.
Mae gan ABAB frwdfrydedd i wrando ar anghenion y gymuned o fusnesau bach, a’u deall. Daw aelodau’r bwrdd o sawl busnes a phroffesiwn, a’u nod yw rhoi cymorth i CThEF er mwyn creu system dreth sy’n gyflymach ac yn haws i fusnesau bach.
Mae Adroddiad Blynyddol ABAB 2025 (yn agor tudalen Saesneg) yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ymrwymiad parhaus y bwrdd i roi cymorth i fusnesau bach a gwella’r system dreth. Mae’r cyhoeddiad hwn yn arddangos blwyddyn o ymgysylltu ymroddedig rhwng ABAB a CThEF i gasglu mewnwelediad a herio CThEF, gan arwain at adroddiad cynhwysfawr o effaith a chyflawniadau ABAB.
Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:
-
nam ar eu golwg
-
anawsterau echddygol
-
anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
-
trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
-
argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
-
i gadw’r ddogfen fel PDF:
-
dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
-
ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF
-
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu darllen, drwy e-bostio GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.