Talu’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl
Dysgwch a fydd angen i chi ad-dalu’r Taliad Tanwydd Gaeaf neu’r Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn, a sut y bydd CThEF yn ei gasglu.
Os byddwch yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf (Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn yw’r enw ar hyn yn yr Alban), efallai y bydd CThEF yn cymryd y taliad yn ôl yn dibynnu ar eich incwm personol.
Gwirio a fydd CThEF yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl
Dyma beth fydd yn digwydd yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm personol:
-
£35,000 neu lai — byddwch yn cadw eich taliad
-
mwy na £35,000 — bydd CThEF yn cymryd eich taliad yn ôl
Os ydych yn byw mewn tŷ gyda rhywun arall sydd hefyd wedi cael taliad, byddwn yn edrych ar incwm personol pob unigolyn ar wahân. Er enghraifft, os ydych chi’n ennill £36,000 a’ch partner yn ennill £22,000, byddwn yn cymryd eich taliad yn ôl, ond bydd eich partner yn cadw ei daliad.
Defnyddiwch yr offeryn hwn ar-lein i gyfrifo cyfanswm eich incwm personol a gwirio a fyddwn yn cymryd y taliad yn ôl ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026).
I ddefnyddio’r offeryn hwn, bydd angen i chi fod â chyfanswm yr incwm rydych yn disgwyl ei gael yn y flwyddyn dreth wrth law, cyn unrhyw ddidyniadau. Enw arall ar hyn yw’r ‘swm gros’.
Dylech gynnwys unrhyw incwm personol rydych chi’n ei gael o un o’r ffynonellau canlynol:
-
Pensiwn y Wladwriaeth
-
pensiynau cwmni a phensiynau personol
-
arian rydych yn ei ennill o gyflogaeth
-
llog o gynilion
-
difidendau o gyfranddaliadau cwmni
-
incwm o ymddiriedolaeth
Hefyd, bydd yn rhaid i chi gynnwys unrhyw elw net o’r canlynol:
-
hunangyflogaeth
-
elw net o incwm rhent (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn rhoi eiddo ar osod
Os oes gennych incwm o ffynhonnell rydych chi’n ei rhannu, er enghraifft llog o gyfrif cynilo ar y cyd, dim ond eich cyfran chi o’r incwm dylech ei gynnwys.
Sut bydd CThEF yn cymryd eich taliad yn ôl os nad ydych yn rhan o’r broses Hunanasesiad
Bydd angen i chi aros i ni gymryd y taliad yn ôl, ni allwch ei dalu yn ôl yn gynt.
Byddwn yn cymryd eich taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 drwy newid eich cod treth TWE ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Byddwch felly yn talu mwy o dreth bob mis i ad-dalu’r taliad llawn a gawsoch ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026.
Er enghraifft, pe bai taliad yn £200, byddwch yn talu tua £17 o dreth yn ychwanegol bob mis.
Byddwch yn cael llythyr neu hysbysiad yn ap CThEF i roi gwybod i chi ein bod ni wedi newid eich cod treth TWE.
Byddwn yn adolygu’r holl dreth a daloch yn erbyn y dreth yr oedd arnoch. Os nad ydym wedi gallu casglu’r swm llawn sy’n ddyledus yn ystod y flwyddyn dreth drwy’ch cod treth, byddwn yn anfon cyfrifiad treth atoch.
Os byddwch yn cael taliadau yn ystod blynyddoedd treth 2026 i 2027 a 2027 i 2028
Oni bai eich bod yn optio allan o gael y taliad, byddwn yn casglu’ch taliadau ar gyfer y 2 flwyddyn dreth drwy newid eich cod treth TWE ar gyfer blwyddyn dreth 2027 i 2028.
Er enghraifft, os cewch chi daliad o £200 ym mhob un o’r blynyddoedd treth, byddwn yn didynnu tua £33 o dreth yn ychwanegol bob mis yn ystod blwyddyn dreth 2027 i 2028.
Os byddwch yn cael taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2028 i 2029 neu du hwnt i’r flwyddyn honno
Byddwn yn casglu’ch taliad drwy addasu’ch cod treth TWE ar gyfer y flwyddyn dreth pan fyddwch yn cael y taliadz.
Sut bydd CThEF yn cymryd eich taliad yn ôl os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Byddwch yn talu’r taliad yn ôl drwy eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad arferol, ni allwch ei dalu yn ôl yn gynt.
Nid oes angen i chi gynnwys y taliad yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025. Mae hyn oherwydd na fyddwn yn cymryd unrhyw daliad rydych wedi’i gael yn ôl yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Bydd angen i chi gynnwys eich taliad yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer pob blwyddyn dreth o flwyddyn dreth 2025 i 2026 ymlaen.
Os ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein, byddwn yn cynnwys swm eich taliad yn awtomatig lle bo hynny’n bosibl. Bydd y taliad yn dangos ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026, naill ai fel Taliad Tanwydd Gaeaf neu Daliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn.
Dylech wirio bod eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn dangos ar eich Ffurflen Dreth ar-lein yn awtomatig, a’i gynnwys os nad yw’n dangos felly.
Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar bapur, bydd angen i chi ychwanegu’r taliad at eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026.
Byddwch wedyn yn talu’r taliad yn ôl drwy’ch bil treth Hunanasesiad yn ystod y flwyddyn dreth pan fyddwch yn cael y taliad, oni bai eich bod yn optio allan o gael y taliad.